Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Archif newyddion Capel y Garn 2006


Gwasanaeth noswyl Nadolig

Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig fore Sul, 24 Rhagfyr. Cymerwyd rhan gan blant yr ysgol Sul, ieuenctid yr eglwys a'r côr unedig. Cafwyd gair i'r plant gan Mrs Llinos Dafis, a dosbarthwyd anrhegion i'r plant a'r ieuenctid a gymerodd ran.
Am adroddiad o'r gwasanaeth, cliciwch yma
Am luniau o'r gwasanaeth, cliciwch yma

Cydymdeimlwn

yn ddwys iawn â theulu'r ddiweddar Fonesig Alwen Morgan, a fu farw ar 19 Rhagfyr. Gedy'r wraig arbennig hon fwlch mawr iawn ar yr aelwyd, yn y capel ac yn y gymuned. Am deyrngedau er cof am Alwen, cliciwch yma

Cyfrol ddiddorol

Ychydig cyn y Nadolig, cyflwynwyd copïau o gyfrol Vanlalchhuanawma, a fu'n byw gyda'i deulu ym Maes Ceiro yn 1994-5, ar hanes Cristnogaeth yn Mizoram i rai o aelodau'r Garn. I ddarllen rhagor am y gyfrol, cliciwch yma.

Cydymdeimlwn

yn ddwys iawn â theulu'r ddiweddar Mrs Megan Evans, Taliesin, 2 Maes Afallen, a fu farw ar 6 Rhagfyr.

Cymorth i Malawi

Diolch i bawb a gyfrannodd esgidiau a sandalau ar gyfer yr apêl hon. Derbyniwyd bron i ddau gant o barau gan y Grŵp Help Llaw bnawn Mercher, 29 Tachwedd, ac fe'u trosglwyddwyd i apêl Shoe Biz

Ffair y Capel

Cynhaliwyd y ffair flynyddol, a drefnwyd gan y Chwiorydd, ddydd Sadwrn, 25 Tachwedd, yn Neuadd Rhydypennau. Fe'i hagorwyd gan y Parchedig a Mrs W J Edwards, a chafwyd cyfle am baned a sgwrs, ac i gefnogi'r amrywiol stondinau. Lluniau yn yr oriel

Clwb Ieuenctid Cristnogol

Cafwyd cyflwyniad defnyddiol a diddorol gan Siôn Evans o Goleg y Bala nos Fercher, 22 Tachwedd, ar waith ieuenctid. Gobaith y gweithgor cydenwadol yw mynd ati i sefydlu gweithgaredd o'r fath yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Y Gymdeithas Lenyddol

Cafwyd noson i'w chofio nos Wener, 17 Tachwedd, wrth i bedair o'n haelodau, sef Eirlys Owen, Nest Davies, Morfudd Clark a Marjorie Hughes, rannu 'Atgofion Amser Rhyfel'. Gobeithir cyhoeddi eu cyflwyniadau maes o law.

Galw gweinidog i Ofalaeth y Garn

Cafwyd pleidlais unfrydol yn holl eglwysi'r ofalaeth ddydd Sul, 12 Tachwedd 2006, i estyn galwad i'r Parchedig Wyn Rhys Morris i ddod i weinidogaethu yn yr ofalaeth. Pleser yw cyhoeddi ei fod yntau wedi derbyn yr alwad honno a bydd yn dechrau ar ei weinidogaeth yng ngofalaeth y Garn ddechrau Ebrill 2007. Edrychwn ymlaen at ei groesawu ef a'i briod Judith atom a hyderwn y bydd bendith ar eu gweinidogaeth yn y fro.

Operation Christmas Child

Dymuna'r Grŵp Help Llaw ddiolch i'r aelodau a phlant yr ysgol Sul am baratoi bocsys ac am y rhoddion ariannol. Derbyniwyd 51 o focsys a £164 o arian nawdd. Lluniau yn yr oriel.

Amazing Grace

Aeth tua thri dwsin o aelodau a chyfeillion y Garn i weld y sioe gerdd hon, sy'n seiliedig ar fywyd Evan Roberts y diwygiwr, yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, nos Iau, 2 Tachwedd. Cafwyd ymateb brwd i'r sioe fyrlymus hon, a gododd sawl cwestiwn diddorol ynghylch bywyd a gwaith Evan Roberts. Diolch i Alan am drefnu.

Rampiau ar gyfer cadeiriau olwyn

Bu Rees Thomas, gyda chymorth Bryn Lloyd, yn brysur yn paratoi rampiau er mwyn hwyluso mynediad i'r capel. Diolchwn iddo am ei waith graenus fel arfer. Lluniau yn yr oriel.

Llongyfarchiadau

i Carwen a Chris ar enedigaeth merch fach, Lois Medi, ar 6 Medi;

i Carys a Siôn ar eu priodas yn y Garn, ddydd Sadwrn, 2 Medi. Lluniau yn yr oriel

i Osian Penri ar ei lwyddiant yn ei arholiadau TGAU. Pob dymuniad da i ti yn y dyfodol, Osian.

Cydymdeimlo

Cydymdeimlwn yn ddwys iawn â'r Arglwydd Elystan a'r Fonesig Alwen Morgan a'r teulu yn eu profedigaethau trist o golli brawd Alwen, Elwyn Roberts o Gorwen, a chwaer-yng-nghyfraith Elystan yng Nghanada; hefyd â Mrs Nest Davies yn ei phrofedigaeth drist ac annisgwyl o golli Yolande, ei merch-yng-nghyfraith.

Côr Ger y Lli

Llongyfarchiadau calonnog i Gôr Ger y Lli ar eu llwyddiant yng nghystadleuaeth y Corau Ieuenctid yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch. Bu'r côr yn ymarfer yn rheolaidd yn festri'r Garn wrth baratoi ar gyfer y gystadleuaeth.

Gwellhad buan

Dymuniadau gorau i Mr Trefor Lewis, sydd wedi cael triniaeth yn ysbyty Bronglais.

Joio yn yr Haul!

Dydd Gwener, 21 Gorffennaf, cafwyd prynhawn difyr o chwaraeon a llond bol o fwyd blasus i gloi gweithgareddau'r Ysgol Sul am y tymor, ac i ddynodi dechrau gwyliau'r haf. Aeth plant yr Ysgol Sul gyda'u hathrawon i chwarae rownderi a phêl-droed ar draeth Ynyslas. Ar ôl mwynhau'r gêmau, aeth pawb i'r Victoria Inn lle cafwyd platied o sglodion a selsig, a hufen iâ i ddilyn. Darparwyd y cyfan yn rhad ac am ddim gan Mrs Margaret Griffiths ? diolch yn fawr iddi am ei charedigrwydd. Llun yn yr oriel

Graddio

Llongyfarchiadau i Sara, Stephen ac Iwan ar ennill graddau yn ddiweddar, a dymuniadau gorau iddyn nhw yn eu gwahanol yrfaoedd.

Mabolgiamocs

Cymerodd plant yr ysgol Sul ran yng ngŵyl ysgolion Sul Gogledd Aberteifi, a gynhaliwyd bnawn Sul, 25 Mehefin 2006 yn ysgol Rhydypennau.

Er gwaethaf ambell gawod o law, cafwyd prynhawn difyr yn gwrando ar neges Siôn Evans, Swyddog Ieuenctid EBC
a chymryd rhan yn y gemau amrywiol.
Gweler y lluniau yn yr oriel

Barbeciw'r Capel

Nos Iau, 22 Mehefin, cynhaliwyd barbeciw'r Garn ar dir ysgoldy Bethlehem, Llandre. Mwynhawyd noson hyfryd o gymdeithasu.
Gweler y lluniau yn yr oriel

Bwrlwm Bro

Bore Sul, 18 Mehefin, teithiodd rhai o blant yr ysgol Sul a'u hathrawon i ysgol Sul arbennig i holl ysgolion Sul ardal Aberystwyth,
yng Nghapel Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth.
Trefnwyd y sesiwn arbennig hwn gan Nigel Davies, o'r Cyngor Ysgolion Sul.

Te Bethlehem

Cynhaliwyd y te blynyddol nos Wener, 16 Mehefin, gyda'r blaenoriaid yn darparu'r adloniant.
Seren y noson yn ddi-os oedd Dewi 'Tomi Bach' Hughes.
Trefnwyd y noson gan ddosbarth ysgol Sul yr oedolion er mwyn codi arian i gynnal ysgoldy Bethlehem

Taith i Lithuania

Bu Mrs Gwenda Edwards, aelod o'r Grŵp Help Llaw ar ymweliad â chwfaint y Carmeliaid yn Pastuva, Lithuania, ddechrau mis Mehefin.

Priodas hapus

Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Siân a Matthew ar eu priodas, 3 Mehefin 2006. Lluniau yn yr oriel

Sul Cymorth Cristnogol

Bore Sul, 21 Mai, unodd aelodau Madog a'r Noddfa yn y Garn ar gyfer gwasanaeth Cymorth Cristnogol.
Cymerwyd rhan gan aelodau'r tair eglwys a chafwyd anerchiad gan y Parchg Tom Defis, Caerfyrddin.
Yn dilyn, cafwyd cinio bara a chaws er budd Cymorth Cristnogol.

Am adroddiad o'r gwasanaeth, cliciwch yma.

Am gopi o'r gwasanaeth, cliciwch yma.

Am luniau o'r achlysur, ewch i'r oriel.

Cydymdeimlo

Cydymdeimlwn â theulu'r ddiweddar Mrs Megan Davies, Garn Cottage, a fu farw'n dawel ddydd Sul, 14 Mai. Ni bu ei ffyddlonach yn y Garn, a bydd colled ar ôl y wraig annwyl hon ym mywyd y capel a'r fro. Am deyrnged y Parchg R W Jones iddi ar ddiwrnod ei hangladd, cliciwch yma

Cydymdeimlwn â Mrs Glenwen Thomas a'r teulu yn eu profedigaeth drist o golli mam Mrs Thomas yn Llanidloes.

Cymanfa Ganu Unedig Gogledd Ceredigion

Cafwyd oedfaon bendithiol yng Nghapel Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth, ddydd Sul, 14 Mai. Hyfryd oedd gweld cymaint o blant ac ieuenctid yn cymryd rhan yng ngwasanaeth y bore ar y thema 'Cyfri dy fendithion'. Diolch i Rhun am gynrychioli'r Garn.

Linda (Gwraig Waldo)

Cafwyd perfformiad gwefreiddiol gan Theatr Gymunedol Troed-y-rhiw o ddrama newydd Euros Lewis ar berthynas arbennig Waldo a'i wraig Linda yn y capel nos Wener, 12 Mai. Am adolygiad a rhagor o fanylion am y perfformiad, cliciwch yma.

Diolch am wasanaeth arbennig wrth yr organ

Ddydd Sul, 23 Ebrill, cafwyd gwasanaeth Mair Evans wrth yr organ am y tro olaf. Cyflwynwyd rhodd iddi ar ran yr Eglwys i ddiolch am ei chyfraniad maith a chyfoethog i gerddoriaeth y Garn. Dymunwn bob bendith iddi yn ei heglwys newydd yn Horeb, Penrhyn-coch. Lluniau yn yr oriel.

Pasg yr ysgol Sul

Bu athrawon yr ysgol Sul yn brysur yn trefnu gweithgareddau arbennig ar gyfer y plant bnawn Iau, 13 Ebrill. Gweler y lluniau yn yr oriel.

Cyngerdd Côr Merched Canna

Nos Sadwrn, 1 Ebrill, cafwyd cyngerdd o gerddoriaeth amrywiol o safon uchel gan y côr hwyliog hwn, dan arweiniad medrus Delyth Medi. Cyflwynwyd y côr gan Alan Wynne Jones a llywydd y noson oedd y Parchedig R W Jones. Lluniau yn yr oriel.

Cymorth i Bosnia, 2006

Eleni eto, cafwyd ymateb hael i apêl y Grŵp Help Llaw am roddion i lenwi lorri Eric Harries a fydd yn mynd i Bosnia ddechrau Ebrill. Diolch am bob cyfraniad - yn nwyddau ac arian - ac yn enwedig i'r rhai fu'n helpu i lwytho'r lorri fore Sadwrn, 25 Mawrth. Lluniau yn yr oriel.


Parch R W Jones, Gweinidog yr Eglwys tan 31 Mawrth 2006

Ymddeoliad y Parchedig R W Jones

Diwedd Mawrth 2006, ymddeolodd y Parchedig R W (Bob) Jones wedi cyfnod o ddeuddeng mlynedd yn gweinidogaethu yng ngofalaeth y Garn a'r Borth.

Cyfarfod ymadawol y Parchedig R W Jones

Cafwyd cyfarfod arbennig nos Wener, 24 Mawrth, i gyflwyno tysteb i'r Parch R W (Bob) a Mrs Rhian Jones ar achlysur ymddeoliad y Gweinidog o'i ofalaeth. Am adroddiad o'r cyfarfod, teyrngedau, cyfarchion barddol, a sgwrs gyda'r Parch R W Jones, cliciwch yma.





Ymweliad Grŵp Help Llaw â Chwfaint y Carmeliaid

Prynhawn Mercher, 15 Mawrth, bu rhai o aelodau'r grŵp ar ymweliad â Chwfaint y Carmeliaid yn Nolgellau yng nghyswllt gwaith y Grŵp â'r anghenus yn Lithuania. Am adroddiad o'r ymweliad a manylion sut i gyfrannu at yr apêl arbennig hon, cliciwch yma.

Dawns yn ei waed

Yn rhifyn 23 Mawrth 2006 o Golwg ceir portread o un o'n haelodau mwyaf gweithgar a ffyddlon, sef Eddie Jones, sydd wedi cyfrannu cymaint mewn amryw feysydd dros y blynyddoedd.

Cyfres deledu

Llongyfarchiadau i'r Arglwydd Elystan ar gyfres deledu arbennig, a ddarlledwyd yn ystod mis Mawrth 2006. Yn y rhaglen gyntaf, soniodd yn gynnes iawn am ei gyswllt agos â Chapel y Garn. Am ragor o fanylion, cliciwch yma

Adnewyddu'r gegin

Yn ystod mis Chwefror 2006 bu Rees Thomas yn ddiwyd wrth y gwaith o adnewyddu cegin y festri. Diolchwn iddo am ei holl lafur a hefyd i Gronfa Eleri am gymorth hael tuag at y costau. Gweler y lluniau yn yr oriel.

Am archif newyddion 2007, cliciwch yma.



©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu