Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Er cof am Megan Davies, Garn Cottage


Teyrnged y Parchedig R W Jones


Roedd Megan (Margaret Ellen) yn un o wyth o blant ? 3 bachgen a 5 o enethod,
ac yn efaill i Huw. Ar aelwyd Cilolwg, y Borth, y gwelodd hi gyntaf olau dydd.

Aeth i ysgol y Borth, a gwneud llawer o gyfeillion yno.

Yna, yn 1936, symudodd y teulu i fyw i'r Station House, Llandre.
Fe ddigwyddodd rhywbeth yno oedd i gael dylanwad arni am weddill ei hoes.
Bob bore Sadwrn, âi i ysgoldy Llandre i ddysgu'r Tonic Sol-ffa.
Os gwn i ai dyma pryd y dechreuodd hi ymddiddori mewn canu
? diddordeb a barodd i'r diwedd.

Yn 17 oed aeth i weithio i siop 'dairy' yn Fulham Road, Llundain,
ond pan dorrodd y rhyfel allan dychwelodd adre ac uno gyda'r Land Army.
Gweithiai yn y Tanws yn Rhydyfelin, ac roedd ganddi hefyd rownd laeth.

Dyma pryd y cyfarfu ag Emrys ? dyn llaeth oedd yntau hefyd.
Byddent yn cyfarfod y tu allan i'r Orsaf yn Aberystwyth,
yn clymu'r ceffylau wrth y railings ac yn mynd am baned i gaffi Jacksons.

Yn 1945 fe briododd y ddau a mynd i ffermio fferm y Fronfraith, Capel Dewi,
cyn symud i Aberystwyth am rai blynyddoedd, lle y ganwyd Meurig.

Yna symudodd y teulu i Peckham Road, Llundain, i redeg siop 'dairy'.

Buont yno am rai blynyddoedd, ac yno y ganwyd Beryl.
Yn Llundain, roeddent yn aelodau selog o Gapel Cymraeg Falmouth Road.

Pan oedd Megan yn byw yn Aberystwyth roedd hi wedi cael gwersi llais
gan Mr Llywelyn Jenkins, a chlywais fod hynny wedi parhau yn Llundain.

Yn 1960 dychwelodd y teulu i'r ardal ? i fferm y Fagwyr.
Byddai Megan yn cadw gwely a brecwast yno,
a byddai'r ymwelwyr yn cael cymaint o groeso ganddi
nes bod llawer ohonynt yn dod yn ôl sawl gwaith.

Ymdaflodd Megan i waith yr ardal, ac fe fu hi'n eithriadol o selog yma yn y Garn,
gan fynychu'r oedfaon bob bore a nos.

Os byddai ganddi lond tŷ o ymwelwyr,
yna byddai wedi codi'n gynnar i baratoi ar eu cyfer
er mwyn gallu mynd i'r capel.

Roedd yn aelod o'r Grŵp Help Llaw yma yn y Garn,
a byddai hefyd yn mynychu'r gwasanaeth yng Nghartref Tregerddan bob pnawn Sul.
Yr oedd hefyd yn aelod gwerthfawr o gangen Rhydypennau o Ferched y Wawr.

Yn ystod y blynyddoedd olaf yma, symudodd i Garn Cottage,
a pharhau i fod yn weithgar yn y gymdogaeth
hyd nes y trawyd hi'n wael ychydig cyn y Nadolig.

Trist oedd y misoedd olaf ? a'r llais wedi distewi,
ond hyderwn ei bod erbyn hyn wedi ail-gydio yn y gân.

20 Mai 2006


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu