Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Adroddiadau


Gwasanaeth Nadolig 2006

Crewyd naws y Nadolig yn y gwasanaeth a gynhaliwyd yng Nghapel y Garn fore Sul, Rhagfyr 24ain.
Cyflwynodd plant yr Ysgol Sul ddrama 'Martha Ddrwg' gyda Charlotte Drakeley,
Dinas Drakeley, Thomas Drakeley, Ffion Evans, Iestyn Evans, Gwawr Keyworth,
Glesni Morgan, Teleri Morgan, Gwern Penri a Meinir Williams yn actio'u rhannau yn hyfryd.

Cafwyd cerddoriaeth offerynnol amserol gan Osian Penri, Rhun Penri ac Iwan Williams,
a darlleniadau gan Lowri Jones, Seiriol Hughes, a Gwyneth Keyworth.

Llio Penri oedd wrth yr organ a rhoddodd Llinos Dafis anerchiad i'r plant. Ei thema oedd 'Goleuni',
gan ganolbwyntio ar ddarlun enwog Holman Hunt.
Dosbarthwyd anrhegion i'r plant a'r ieuenctid a gymerodd ran yn y gwasanaeth.

I gloi canodd côr cymysg dan arweiniad Alan Wynne Jones bedair carol o waith y diweddar Gilmor Griffiths.



Gwasanaeth Cymorth Cristnogol, 21 Mai 2006


A hithau'n wythnos Cymorth Cristnogol daeth aelodau eglwysi Noddfa,
Madog a'r Garn ynghyd i Gapel y Garn fore Sul, Mai'r 21ain,
i ymuno mewn gwasanaeth yn canolbwyntio ar waith y mudiad hwnnw,
wedi'i drefnu gan Mrs Marian Beech Hughes.

Cymerwyd rhan gan Gwawr Keyworth, Eddie Jenkins, Gweneira Williams,
Janet Roberts, Jean Davies, Alwyn Hughes, Angharad Rowlands,
Gareth William Jones, Meinir Williams, Beryl Hughes, Eirian Hughes,
Osian, Rhun a Gwern Penri, a Mrs Brenda Williams wrth yr organ.

Rhoi gobaith yw nod Cymorth Cristnogol, meddai'r Parchedig Tom Defis Caerfyrddin,
yn ei anerchiad. Gobaith Mamau yw un o'r prif themâu eleni.

Cyfeiriodd at yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Gymorth Cristnogol ddechrau'r wythnos,
sef Hinsawdd Tlodi: Ffeithiau, Ofnau a Gobaith, sy'n dangos
mai tlodion y byd fydd yn dioddef fwyaf o effeithiau cynhesu global.
Nhw fydd yn wynebu'r dinistr mwyaf o ganlyniad i lifogydd,
newyn, sychder, a gwrthdaro.
Beth yw gobaith mamau mewn amgylchiadau o'r fath, holodd.
Ond ddaw dim lles o anobeithio.

Atgoffodd Tom Defis ni mai Cymorth Cristnogol yw'n llygaid a'n breichiau ni,
aelodau'r eglwysi Cristnogol, yn yr ymdrech ddyngarol anferth
sydd ar waith i roi gobaith.

Ac mae yna rai digwyddiadau, meddai, sydd yn codi gobaith,
megis cynllun Cymorth Cristnogol ym Mozambique i gyfnewid arfau am adnoddau defnyddiol.

Ar ôl y gwasanaeth mwynhawyd cinio o fara a chaws, wedi ei baratoi gan y chwiorydd.

(Llinos Dafis)


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu