Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Linda (Gwraig Waldo)


LINDA ? GWRAIG RHWNG CROMFACHAU
Linda a Waldo

Nos Wener, Mai'r 12fed daeth Cwmni Theatr Cydweithredol Troed-y-rhiw i Gapel y Garn i gyflwyno Linda, gan Euros Lewis. Drwy berfformiad cywrain i'w ryfeddu cawsom ein cludo'r tu hwnt i le ac amser i brofi grym y cariad a thywyllwch y brofedigaeth a ddioddefodd Waldo Williams ym marwolaeth annhymig ei wraig Linda.

Cawsom ein hudo gan afiaith y ddau gariad ifanc ar y dechrau, ac yna ymhen dim roeddem yn cael ein llethu gan ofid y clafychu a thristwch y farwolaeth anochel, greulon. Nid oes unrhyw gyfeiriad at Linda wrth ei henw yng ngherddi Dail Pren ond yn y ddrama angerddol hon gwelwn gymaint ei dylanwad a'i hysbrydoliaeth. Drwy gyfrwng gair, dawns, cerddoriaeth a llwyfannu deheuig cawsom gipolwg ar rywbeth na wyddem ei fod yno. Ein braint ni oedd hynny.
(Adolygiad gan Llinos Dafis)


Carwriaeth un o feirdd mwyaf Cymru, ond carwriaeth a anghofiwyd gan y gwybodusion, yw testun ail gynhyrchiad Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw, y cwmni a sefydlwyd yng Ngheredigion y llynedd i ail-egnio'r ddrama yn ei chadarn leoedd.

Tua'r un adeg â thoriad yr Ail Ryfel Byd, â Waldo Williams yn athro cyflenwi yn ysgolion cynradd Sir Benfro, daeth i adnabyddiaeth â Linda Llewelyn ? merch o'r Rhondda Fach ond oedd â'i gwreiddiau, ar ochr ei thad, yn Llandisilio, sef cartref teuluol Waldo. Wrth iddi ymweld â'i thylwyth ar odre'r Preseli datblygodd yr adnabyddiaeth â'r bardd ifanc yn berthynas ddwys, a'r berthynas ddwys yn briodas tu hwnt o hapus. Ond byrhoedlog bu'r baradwys. Bu farw Linda o'r dicai (T.B.) â hwythau wedi mwynhau lai na dwy flynedd o fywyd priodasol.

'Does dim dwywaith na fu'r brofedigaeth yn ergyd arswydus iddo' medd Euros Lewis, awdur y ddrama newydd LINDA (GWRAIG WALDO). 'Wrth gofio y bu iddo droi ei gefn ar Gymru, rai misoedd wedi'r farwolaeth, ac ymgartrefu mewn pentref bach nid nepell o Rydychen, ym mherfeddwlad Lloegr, mae'n amlwg i mi mai colli Linda oedd ei Gwmwl Haf. Yn wir, dwi'n weddol o sicr fod y cyfnod coll hwn yn ei hanes yn un lle y bu iddo deithio hyd ymyl ei fodolaeth ? yn ffoadur rhag ei brofedigaeth ac yn bererin, yn ceisio ail-ddarganfod ei eurferch, fel y gwnaeth Orpheus gynt wrth fentro i ben-draw Hades ar drywydd Eurydice.' Medd Euros: 'Heb ddeall dwyster ac arwyddocad y siwrne hon does dim modd i ni lawn ddeall dewrder ac arwriaeth y cerddi mawr a greodd wedi'r mudandod - wedi iddo ddychwelyd drwy'r wythien dywyll.'

Linda a Waldo
Ond os yw Linda'n ffigwr mor allweddol yn ei hanes, pan nad oes fwy o sôn amdani? Pam nad yw ei delwedd yn amlycach yn y llun? Mae hynny, yn ôl Euros, am ei bod hi, dro ar ôl tro, wedi'i pheintio mas ohono. 'Wedi'r cyfan, pwy oedd hi? Merch fach gyffredin o gefndir cyffredin. Pa ddylanwad a fydde gan rywun felly ar un o feirdd mwya'n cyfnod. Dyma pam y cyfeirir ati'n unig fel Linda (gwraig Waldo).' Ond os yw Euros yn feirniadol o ryw fath o snobeidd-dra merch-ddifriol ymysg y gwybodusion dyw e ddim yn credu mai dyma'r rheswm pennaf am ei statws anweledig. 'Mae'n glir i mi ? o'r cof plentyn sydd gen' i ohono ar strydoedd Abergwaun, ac o ddarllen rhwng llinellau Dail Pren ? mai Waldo ei hunan sydd bennaf gyfrifol. A hynny am i'r cwlwm o gariad a fodolai rhyngddynt gryfhau, yn hytrach na llacio, wedi ei marw. Paradwys breifat oedd paradwys Waldo a Linda ? yn eu priodas, ac yn fwy fyth wedi'r brofedigaeth. Dyma'r ffynnon o gariad yr ymdrechodd yn ddi-baid i'w cadw rhag y baw.'

MANYLION PELLACH: THEATR GYDWEITHREDOL TROED-Y-RHIW, 01570 470135 / 471328 / 07813 173155





'...Dyma bortread dadlennol... esiampl drawiadol o'r dychymyg treiddgar, cydymdeimladol.' [Damian Walford Davies ? Taliesin, Gwanwyn, 2006]

'...Anghofiwch 'Cofio'. Gadewch 'Menywod' ar lwyfannau adrodd yr eisteddfodau... Dyma gynhyrchiad sy'n ein tywys, drwy'r wythien dywyll...at wraidd gweledigaeth Waldoaidd na chafodd hyd yma y lle dyledus yn ein hymwybyddiaeth genedlaethol...'
[Jason Walford Davies ? Taliesin, Gwanwyn 2006]


LINDA (GWRAIG WALDO)
Yr Ail Daith

NOS FAWRTH, MAI 9:
FESTRI BRONDEIFI,
LLANBEDR-PONT-STEFFAN (8.00)
NOS FERCHER, MAI 10:
NEUADD YSGOL LLANDUDOCH (8.00)
NOS IAU, MAI 11:
CANOLFAN GYMDEITHASOL TRELECH (8.00)
NOS WENER, MAI 11:
CAPEL Y GARN, BOW STREET, ABERYSTWYTH (7.30)
NOS WENER, MAI 19:
THEATR Y CRWYS,
HEOL RICHMOND, CAERDYDD (7.30)

Ar y daith gyntaf, ym mis bach, ymwelodd y cynhyrchiad â...
FESTRI TROED-Y-RHIW, CRIBYN,
FESTRI'R TABERNACL, ABERAERON,
NEUADD TALGARREG,
NEUADD CAERWEDROS, BRO SION CWILT,
YSGOL Y DDWYLAN, CASTELL NEWYDD EMLYN,
NEUADD LLANGEITHO,
NEUADD DIHEWYD, DYFFRYN AERON,
NEUADD PONTRHYDFENDIGAID,
THEATR FELIN-FACH,
CAPEL BLAENCONIN, LLANDISILIO,
FESTRI HERMON, ABERGWAUN,
YR HEN YSGOL, LLANFIHANGEL-AR-ARTH


Y Chwaraewyr

Prif actorion Linda (Gwraig Waldo) yw...

Linda: MEINIR MATHIAS ? merch a fagwyd ym Mro Sion Cwilt, ond sydd â'i gwreiddiau (fel Linda Llewelyn) yn Sir Benfro. Dechreuodd Meinir ddawnsio, wedi gadael yr ysgol. Ond, yn 1998 ymunodd â C.I.C. (Theatr Ieuenctid Ceredigion, Theatr Felin-fach) gan serennu yn y ffilm HAMBÔNS, a gynhyrchwyd gan y cwmni ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, Llambed, y flwyddyn ddilynol. Ddwy flynedd yn ôl cymerodd y brif ran yng nghynhyrchiad awyr-agored Cwmni Actorion Felin-fach o ddrama fawr T. James Jones NEST, gan chwarae gyferbyn â Iwcs (y Tywysog Owain) a Huw Emlyn (Gerald), un o sylfaenwyr Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw.

Waldo: PAUL MORGANS ? aelod arall o griw HAMBÔNS a aeth yn ei flaen i hyfforddi fel actor yng Ngholeg Drama Guildford. Oddi yno cafodd gyfnod ar lwyfan y West End yn y ddrama enwog The Mousetrap, cyn dychwelyd i Gymru, yn gyntaf fel rhan o griw EXTRA, ac yna i enwogrwydd uwch fel Dwayne ym Mhobol y Cwm. Mae gweithio â Theatr Troed-y-Rhiw yn ddychweliad tua thre iddo gan ei fod yn hannu o deulu enwog o actorion yn Nyffryn Aeron.








©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu