Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Er cof am y Fonesig Alwen Elystan Morgan


Y ddiweddar Fonesig Alwen Elystan Morgan
Ar y 19eg o Ragfyr 2006, yn Ysbyty Bronglais, bu farw'r Fonesig Alwen, gwraig yr Arglwydd Elystan Morgan, yn 75 mlwydd oed.

Fe'i claddwyd ym Mynwent y Garn ar ôl gwasanaeth o ddiolch yng Nghapel y Garn a arweiniwyd gan y Parchedig Elwyn Pryse, ac a fynychwyd gan dyrfa niferus o deulu, cyfeillion ac eraill.

Cymerwyd rhan gan y Parchedigion: Dr Tudno Williams, Dr Elfed ap Nefydd Roberts, R. W. Jones, Peter Thomas, W. J. Edwards, Maldwyn Griffiths a Meurig Dodd.

Ar ran y teulu, talodd y Parchedig Elwyn Pryse ddiolch arbennig i Dr Alan Axford a'r meddygon a nyrsus yn Ysbyty Bronglais, ac yn y gymuned leol, a roddodd y fath ofal gwych a thyner i Alwen dros flynyddoedd.

Mynych y dywedai bod meddygaeth nid yn unig yn broffesiwn holl fedrus ond hefyd yn alwedigaeth ysbrydoledig.


Mewn teyrnged goeth a threiddgar, pwysleisiodd y Parchedig Ddr. Alwyn Roberts (a oedd yn gyfaill mynwesol i'r teulu) gysondeb ei hymlyniad drwy ei hoes ? yn ferch ifanc yn Sir Feirionnydd, yn athrawes yn Hanley a Choedpoeth, ac wedyn weddill ei hoes yng Ngheredigion ? i'r uchel werthoedd ysbrydol a chymdeithasol a gynhysgeiddai ei bywyd.

Soniodd am ei lleytgarwch siriol, ei haelioni naturiol a'i hysfa ddiflino i helpu eraill ar lefel breifat a chymdeithasol, a hynny gyda gwreiddioldeb ymarferol.

Cyfeiriodd yn arbennig at ei hymdrechion dros ddegrifoedd yn trefnu gwasanaethau'r Sul yng Nghartref Tregerddan, ei gwaith diflino dros yr henoed yng Ngheredigion a thu allan, ei chyfraniad egwyddorol a di-ildio dros amryw flynyddoedd fel aelod o Awdurdod Iechyd Dyfed, ei chred ddi-sigl yn y Wladwriaeth Les, ei hamrywiol gyfraniadau i bapur bro'r Tincer, a'i llafur brwd dros Eglwys y Garn.

Soniodd hefyd am ei gofal serchus a thyner dros ei theulu ? yn enwedig Elystan ? a dderbyniodd gymaint o gefnogaeth ymroddedig ganddi ym mhob agwedd o'i fywyd.

Yn ddïau, yr oedd yn berl o gymeriad addfwyn ac anghyffredin a fu fyw bywyd cyflawn gyda'i ffydd ddiysgog yn yr Iesu yn ei galluogi i ddilyn llwybr dyletswydd hyd y diwedd.

Ar y daflen angladd, cyfeiriwyd mor gywir ati fel ?Priod ffyddlon ac ysbrydoledig, Mam annwyl a serchus, Nain addfwyn a hael, Chwaer dyner a di-flino.?.

?Daionus a di-weniaith
A dewr hyd derfyn y daith.?



Y Fonesig Alwen Elystan Morgan



Wrth i'r flwyddyn llynedd ddirwyn i ben aeth ag Alwen hynaws yn gynnes yn ei chôl gan adael teulu, cyfeillion a chymdeithas dipyn llwmach a thlotach. Yn wir, nid gormodiaith yw dweud fod yna dderwen wedi syrthio oherwydd roedd ganddi wreiddiau cadarn a noddfa ddiogel dan ei changhennau. Un o ?forwynion glân Meirionnydd? oedd Alwen ac fe'i trwythwyd yn gynnar ym mywyd crefyddol a diwylliannol ei bro gan fagu ynddi ruddin cymeriad a'i cynhaliodd gydol ei bywyd.

Pan ddaeth Elystan, ei phriod, i amlygrwydd yn y bywyd cyhoeddus bu'n gefn a chynhaliaeth iddo ym mhob agwedd ar ei waith heb chwennych clod na chyfri'r gost. Ymdaflodd â'i holl egni i wasanaethu ar wahanol lefelau heb erioed esgeuluso'i chartref lle bu'n wraig a mam ddelfrydol. Yn wir, gellid dweud yn hollol ddiffuant fod Alwen yn Fonesig o'i chorun i'w sawdl cyn iddi erioed gael ei hurddo â'r teitl yn swyddogol. Byddai ei hosgo bob amser yn naturiol fonheddig.

Gwasanaethodd ar nifer o bwyllgorau ac yn eu plith y Bwrdd Iechyd a Chyngor yr Henoed. Deilliai hyn i gyd o'r consyrn mawr oedd ganddi am bobol. Ni fedrai ddioddef ffyliaid yn llawen na chwaith unrhyw anhegwch a siarad gwag:

?Troi'r dweud yn WNEUD oedd ei nod?

Fel y gŵyr pawb, bu ei chyfraniad i Eglwys y Garn a Chartref Tregerddan yn ddihareb a gedy fwlch anferth ar ei hôl.

Bu hefyd yn ffrind triw i lawer ac yn llawn consyrn amdanynt:

?Yn d'oriau uchel, fy malchder erot
Yn d'oriau isel, fy ngweddi drosot?
Dyna athroniaeth ei bywyd.

Roedd ei blaenoriaethau wastad mewn trefn gan sicrhau fod amser ganddi i'r pethau pwysicaf mewn bywyd. Er ei bod yn berson prysur, eto'i gyd ni ddefnyddiodd ei phrysurdeb erioed fel esgus i lacio dwylo. Meddai ar y ddawn gyfriniol i wybod lle roedd yr angen a diwallodd bob un i eithaf ei gallu. Medrai gyd-lawenhau a chalonogi ynghanol gwynfyd bywyd a phan ddeuai adfyd ar ei dro byddai yno yn gwrando'n dawel a chydymdeimlo. Yn wir, roedd yna wawl yn perthyn i'w phersonoliaeth oedd yn eich codi a'ch cynnal.

Ni fu bywyd yn rhy garedig wrthi yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac amlygodd ddewrder aruthrol wrth frwydro yn erbyn afiechyd blin. Dioddefodd yn dawel heb dynnu sylw ati ei hun o gwbl a pharhaodd ei chonsyrn am arall gydol y daith. Drwy'r cyfan, gwelwyd y rhuddin cymeriad a'i ffydd dawel gadarn yn brigo i'r wyneb. Yn sicr bu geiriau emyn Cernyw a ganwyd yn ei hangladd yn gynhaliaeth iddi hithau yn y dyddiau tywyll:

?Mae'r gelyn yn gry, ond cryfach yw Duw,
Af ato yn hy, tŵr cadarn im yw,
Pan droir yn adfeilion amcanion pob dyn,
Mi ganaf mor ffyddlon yw'r Cyfaill a lŷn.?

Fel y cyfeiriwyd ar ei thaflen angladdol, bu fyw bywyd cyflawn, a diolchwn am y bywyd unigryw hwnnw.

Do, gwreiddiodd y dderwen hon yn ddwfn a chadarn: bu ei changhennau yn gysgod i lawer ac erys ei dail yn fytholwyrdd yn y cof.

(Beti Griffiths)




©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu