Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Ysgoldy Bethlehem, Llandre


Agorwyd ysgoldy Bethlehem yn 1876
ac yn ogystal â pharhau i fod yn gangen werthfawr o Eglwys y Garn,
mae hefyd yn fan cyfarfod hwylus i bentref Llandre.
Ysgoldy Bethlehem
Bydd dosbarth ysgol Sul i oedolion yn cwrdd yma'n rheolaidd
am 2 o'r gloch ar brynhawn Sul,
a chynhelir oedfa yma'n achlysurol am 5 o'r gloch ar y Sul.

Eitem bwysig yng nghalendr blynyddol yr Eglwys yw Te Bethlehem,
a gynhelir fel arfer ar nos Wener yn ystod mis Mehefin.


Te Bethlehem 2009

Nos Wener, 5 Mehefin cynhaliwyd y te blynyddol yn ysgoldy Bethlehem, Llandre. Y gwesteion arbennig oedd Wynne a Linda Melville Jones, a darparwyd yr adloniant gan Bryn Roberts a Kathleen Lewis.


Ysgol Sul Bethlehem, 2008-09

Cyfarfu'r dosbarth yn rheolaidd dan arweiniad medrus yr athrawes, Mrs Gaenor Hall.

Y maes llafur eleni oedd cyfrol Ieuan Elfryn Jones, Bob Dydd Bendithiaf Di, ac fe gafwyd trafod brwd ar yr amrywiol themâu sydd wedi'u cynnwys yn y gyfrol.


Cwrdd Diolchgarwch Bethlehem


Nos Iau, 23 Hydref 2008, cynhaliwyd y Cwrdd Diolchgarwch Blynyddol yn ysgoldy Bethlehem. Y bregethwraig wadd eleni oedd y Barchedig Enid Morgan a daeth cynulleidfa deilwng ynghyd i wrando ar ei neges bwrpasol.



Te Bethlehem 2008


Nos Wener, Mehefin 6ed, roedd hi'n noson Te Bethlehem, ac fel arfer roedd gwledd o fwyd wedi ei pharatoi dan gyfarwyddyd Gwenda James, arolygydd yr ysgol Sul. Agrowyd y noson drwy weddi gan y gweinidog, y Parch Wyn Morris.

Pan oedd y bwyd wedi'i glirio a'r llestri wedi'u golchi, tro ein gŵr gwadd oedd hi i roi ei anerchiad. Wrth gyflwyno Gwyn Jones, Llysmaelgwyn, soniodd Gaenor Hall am ei ddiddordeb dihysbydd mewn pobl, ei gymwynasgarwch a'i ddyfalbarhad yn trefnu casgliad Cymorth Cristnogol yn yr ardal bob blwyddyn; cyfeiriodd hefyd at ei ddarllengarwch a'i wybodaeth eang am bynciau'n amrywio o wyddoniaeth a hanes at athroniaeth a barddoniaeth Saesneg.

Yn ystod araith eang-ei-chwmpawd, yn llawn gwybodaeth a hiwmor, cawsom ein cyfareddu gan fân hanesion a gwybodaeth sylweddol am Abraham Lincoln, Oliver Cromwell, Immanuel Kant, yr Ymneilltuwyr Cynnar, a chyfundrefn amaethyddol y mân rydd-ddeiliad, ymhlith pethau eraill, a'r cyfan yn tarddu o'i gof - gydag ambell i gip ar y nodiadau a gadwai yn ei boced!

Ochr yn ochr â hyn i gyd cawsom gyfle i ddod i nabod y siaradwr ei hun yn well, dyn a fu am gyfnod yn 'genedl-ddyn' ymysg 'theolôgs' coleg Bala-Bangor, un sy'n nabod ffermwyr a ffermydd ledled Cymru, sy'n un o hoelion wyth Cymdeithas Edward Llwyd, sy'n feddyliwr annibynnol, cadarn ei farn, ac sy'n byw yn ein plith ers hanner can mlynedd.

Wrth ddiolch iddo cyfeiriodd y gweinidog at Gwyn Jones fel 'Bonheddwr o Werinwr', teitl oedd yn crynhoi i'r dim yr argraff roedd wedi ei gwneud ar ei gynulleidfa ym Methlehem.

Cyflwynwyd tusw o flodau i Mrs Ann Jones, priod y gŵr gwadd, gan Elina Davies.
Diolchwyd hefyd i Nest Davies a Megan Davies am osod y blodau ac i Gwenda James am fod yn gyfrifol am yr holl drefniadau.



Ysgol Sul Bethlehem


Beth yw angel?

Beth yw gwerth a pheryglon defodau a seremonïau allanol crefydd?

Ydy twyll yn bechod?

Pam na chafodd Jacob ei gosbi am dwyllo Esau?

A yw Duw'n mynegi ei fwriadau drwy freuddwydion?

Dyma rai o'r cwestiynau y bu'r Ysgol Sul yn ymgiprys â nhw wrth ddarllen Llyfr Genesis, oblegid dyna lle buom yn pori oddi ar fis Medi y llynedd, a chael blas mawr ar ddarllen yr hen hanesion am ddechreuadau cenedl Israel.

Mae'r awr fer ar b'nawn Sul yn hedfan; mae'r cyfle i rannu barn a chwestiwn yn amheuthun, a geiriau'n cael eu dihuno o ddyfnder y cof i sigo'r ymysgaroedd, megis cwestiwn dirdynnol Isaac i'w dad ? ?Wele dân a choed; ond ble mae oen y poeth offrwm??

Erbyn troad y flwyddyn roeddem wedi cyrraedd y stori orau ohonyn nhw i gyd, sef hanes Joseff. Campwaith yn wir.

Cawsom ein harwain o'r dechrau pan oedd Joseff yn hogyn ifanc deallus, (a gorhyderus efallai?) a oedd yn destun cenfigen i'w frodyr, drwy hanes y dial, y llwyddiant a'r siomiant a'r dial eto, at y cymodi gorfoleddus, sy'n glo fwy na theilwng i stori a ddechreuodd gyda'r fath dwyll a dichell.
Drwy'r cyfan mae'r storïwr yn llwyddo i'n cadw ar flaenau'n seddau gyda thensiwn a rhyddhad yn eilio â'i gilydd.

Ac onid yw Joseff yn ddyn gwerth ei nabod ? yn baragon o ddyn ? yn unplyg a doeth, yn ddeallus ac yn olygus. Does ryfedd yn y byd bod gwraig Potiffar wedi rhoi ei chrafangau ynddo. Er ei holl rinweddau lwyddodd e ddim i ddianc yn holliach rhag ei hystryw, ond gan fod yr Arglwydd gydag ef, trodd y camwedd yn gyfle.


Ymlaen at Efengyl Ioan yn awr
? a diolch i Gwenda am gadw trefn
ac i Gaenor am sicrhau llewych i'n llwybrau.
Llinos Dafis, Mawrth 2006



Parch a Mrs R W Jones ac aelodau ysgol Sul Bethlehem

'Deg Gorchymyn cyfoes'


Yn ddiweddar bu i Sianel 4 ymofyn am ddeg
gorchymyn mwy cyfoes na'r rhai a roddwyd i Moses
ar fynydd Sinai.

Rhestrir isod y deg ddaeth i'r brig.

Sut maent yn cymharu â'r gwreiddiol yn eich barn
chi?

Mae'n debyg fod y gorchymyn cyntaf ymhell ar y
blaen i'r gweddill.

1. Gwna i eraill fel y dymunet i eraill ei wneud i ti

2. Cymer gyfrifoldeb am dy weithredoedd

3. Na ladd

4. Bydd yn onest

5. Na ladrata

6. Gwarchod a meithrin dy blant

7. Gwarchod yr amgylchedd

8. Cymer ofal o'r diamddiffyn

9. Paid byth â bod yn dreisgar

10. Gwarchod dy deulu

Mrs Elina Davies, gofalwraig Bethlehem

Mwynhaodd y criw bach ohonom sydd yn mynychu'r Ysgol Sul yn Ysgoldy Bethlehem drafod y 'Deg Gorchymyn cyfoes'.

Nid peth hawdd yw crynhoi'r ymateb gan fod cryn wahaniaeth rhwng safbwyntiau gwahanol unigolion, ond cawsom dipyn o hwyl wrth drafod.

Sylwyd bod rhai o'r gorchmynion gwreiddiol yno yn eu crynswth, megis 'Na ladd' ac 'Na ladrata' ond nad oedd sôn am 'Na odineba', ' Na chwennych ? dim sydd yn eiddo i'th gymydog', na chwaith 'Cofia'r dydd saboth i'w gadw'n gysegredig'.

'Gwna i eraill fel y dymunet i eraill wneud i ti' oedd y gorchymyn cyntaf ymhlith y rhai newydd. Ymateb ambell un i hwn oedd ei fod yn rhy 'Fi' ganolog, a'i fod fel petai yn mynd yn groes i'r egwyddor Gristnogol o roi eraill yn gyntaf a bod yn hunanaberthol fel yr Arglwydd Iesu ei hun.

Ymateb gwahanol oedd gan eraill, gan gyfeirio at yr adnodau yn Efengyl Luc sydd yn arwain at ddameg y Samariad Trugarog. Dywedir yno wrthym y dylem weithredu yn ôl cyfraith yr Hen Destament, fel a ganlyn, i etifeddu bywyd tragwyddol: 'Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl nerth ac â'th holl feddwl, a châr dy gymydog fel ti dy hun' ? 'Gwna hynny a byw fyddi' oedd geiriau Iesu ei hun.

Cafwyd trafodaeth hefyd ar briodoldeb geirio'r chweched gorchymyn 'newydd', sef 'Gwarchod a meithrin dy blant'. Mynegwyd eto'r teimlad fod yna rywbeth 'myfïol' am hwn. Cododd y cwestiwn a oedd hwn yn adleisio'r cwestiwn 'Pwy yw fy nghymydog?' sef Pwy yw fy mhlant?; ai fy mhlant fy hun yn unig, ynteu plant fy nghymdogaeth, plant fy nhylwyth, ynteu plant y byd cyfan?

Y degfed gorchymyn newydd oedd 'Gwarchod dy deulu'.
Nid pawb oedd yn gweld gwerth mewn gwahaniaethu rhwng plant a theulu fel hyn. Gallem weld fod yna berthynas rhwng hwn a'r hen orchymyn nas cynhwyswyd, sef 'Anrhydedda dy dad a'th fam ?' Arweiniodd hyn at drafod gofal am yr henoed, a'r math o ofal a ddymunem ein hunain. Mewn gwirionedd soniwyd mwy am bethau a fyddai'n gas gennym, megis gorfod bwyta bwyd heb fod o'n dewis ein hunain, neu wylio rhaglenni teledu heb fod at ein dant!

Ysgoldy Bethlehem, Llandre
Ceisiwyd wynebu'r rheswm hefyd pam na sonnir am odinebu a chwennych. Yr oedd ambell un yn teimlo fod yma ymdrech i ymestyn at bobl heddiw, a'r mwyafrif ohonynt wedi troi cefn ar eglwys a chapel. Byddai llawer o bobl hefyd yn eu gweld fel llefydd a fyddai yn condemnio eu ffordd o fyw, gydag un o bob tair priodas yn diweddu mewn ysgariad, a chyd-fyw heb briodi yn gyffredin iawn. Fe geision ni fynd i'r afael â'r hyn a ddywedodd Iesu, fod chwenychu yn y galon cynddrwg â'r weithred.

Arweiniodd hyn at drafod y graddau y gellid rheoli'r meddwl a sut y gellid meithrin sancteiddrwydd yn y meddwl, a meithrin natur o gariad. Nodwyd, fodd bynnag, ei bod yn fwy anodd i rywun â natur 'cleptomania' ynddo gadw'r gorchmynion i beidio chwenychu a lladrata na'r rhelyw o bobl.

Yr oedd ymwybyddiaeth fod cryn wahaniaeth rhwng ein bywyd ni heddiw a bywyd pobl yng nghyfnod Moses. Nid rhyfedd na chyfeiriwyd at chwennych asyn cymydog, na chadw'r saboth, gydag asyn wedi peidio â bod yn rhywbeth y byddai llawer yn ei ddeisyfu yn ein gwlad ni heddiw, a'r Sul cyfoes yn cynnig cyfle i deuluoedd gael siopa'n hamddenol gyda'i gilydd neu fwynhau bwyta allan, neu gyfle i fyfyrwyr gael ennill arian at eu cadw, dyweder.

Er bod ambell un yn teimlo mai glastwreiddio'r Deg Gorchymyn gwreiddiol, a bod yn rhy feddal, sydd yn y Deg Gorchymyn 'mwy cyfoes', ar y cyfan credaf fod yna gytundeb gweddol rhyngom fod gwneud i eraill fel y dymunem iddynt hwy wneud i ninnau yn cwmpasu'r cyfan ac y gallai'r tinc personol ynddynt alluogi mwy ohonom i uniaethu â hwy a gweld eu perthnasedd i'n bywydau bob dydd.
Felicity Roberts

Dosbarth ysgol Sul Dr Gwenan Jones, Ionawr 1949











Dosbarth ysgol Sul Mr Parry Griffiths, Fronhaul, Rhagfyr 1952





Dosbarth ysgol Sul oedolion Bethlehem, 1983


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu