Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Croeso i Wefan Capel y Garn

Y Parch Ddr R Watcyn JamesPwrpas y wefan yma yw rhannu gwybodaeth am Gapel y Garn, Bow Street, Aberystwyth, ac estyn gwahoddiad cynnes i chi i droi i mewn i gyd-addoli gyda ni ar y Sul neu ymuno yn y gwahanol weithgareddau a gynhelir gan yr eglwys.

Ers ei sefydlu tua 1793, mae i'r eglwys hanes maith a chyfoethog o hyrwyddo'r dystiolaeth Gristnogol yn yr ardal, a'n gobaith yw y bydd y wefan yn un ffordd arall o gyflawni hyn i'r dyfodol.

Amserau cwrdd

Fel arfer, cynhelir gwasanaethau yn y capel bob Sul am 10 a 5 o'r gloch, ac mae ysgol Sul i'r plant yn ystod gwasanaeth y bore.

Mae Capel y Garn yn un o saith eglwys sydd yng ngofalaeth y Garn, dan weinidogaeth y Parchedig Ddr R. Watcyn James, ac fe gynhelir oedfaon arbennig i holl eglwysi'r ofalaeth ar rai Suliau. Bydd yr oedfaon hyn yn cael eu cynnal am 10 o'r gloch, ac ni fydd gwasanaeth nos yn y Garn ar y Suliau hynny.

Byddwn hefyd yn cydaddoli'n rheolaidd â chynulleidfa Capel Noddfa, eglwys yr Annibynwyryn y pentref.

Cinio Bara a Chaws, Cymorth Cristnogol 2010

Gweithgarwch

Mae nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal yn y capel yn rheolaidd, er enghraifft, cyfarfodydd Cymdeithas y Chwiorydd a'r Gymdeithas Lenyddol, a bydd y Garn yn cymryd rhan yn flynyddol yng Nghymanfa Ganu Unedig Gogledd Aberteifi.

Gwaith gwirfoddol

Rhoddir llawer o bwyslais yn y Garn ar waith gwirfoddol a chodi arian i helpu pobl anghenus, er enghraifft, casglu bwyd i Bosnia dan ofal y Grŵp Help Llaw a chefnogi apêl flynyddol Cymorth Cristnogol
Mae'r Garn hefyd wedi ymrwymo i fod yn eglwys masnach deg

Trowch i mewn atom

Un o eglwysi Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw'r Garn, ond mae i unrhyw un droi i mewn atom ac ymuno yn ein haddoliad neu gymryd rhan yn ein gweithgareddau.

Am ragor o fanylion, gweler y dyddiadur neu Gair o'r Garn, cylchlythyr yr eglwys, a gyhoeddir bedair gwaith y flwyddyn.

Fe gyfeirir yn y crynodeb o hanes yr Eglwys at Ddiwygiad 1904/05 yn cyffwrdd â'r ardal hon ac am y miloedd a ddaeth ym Mehefin 1905, ychydig dros ganrif yn ôl, i addoli a moli Duw yn y capel hwn, ac yn y caeau o'i gwmpas.

Ganrif yn ddiweddarach mae'r nifer yn dipyn llai, ond mae yma o hyd gyfeillgarwch a chynhesrwydd a brwdfrydedd. Rydym yn eglwys sydd yn edrych allan ac yn ymwybodol iawn o'r angen sydd yn ein byd, ac o'r herwydd mae yma gyfrannu hael a chyson.

Ond rydym hefyd yn ymwybodol fod angen arall yn ein plith. Ganrif yn ôl, dod heb eu cymell a wnâi pobl i addoli Duw. Drwy'r wefan hon, gallwn nid yn unig ddweud peth o'n hanes, ond hefyd wahodd pobl i ddeialog, i ystyried, i bwyso'r hyn a ddywedir ac, efallai, i uno gyda ni yn ein haddoliad. Yr un yw'r neges heddiw ag erioed:

O'r fath gyfaill ydyw'r Iesu,
Ffrind ym mhob ystorom gref.




Newyddion o'r Garn

Gair o'r Garn Mae rhifyn Calan 2024 bellach ar gael. Gweler tudalen y cylchlythyr



Gwasanaeth 'Y Gair a'r Geiriau' Cynhaliwyd y gwasanaeth hwn nos Sul, 19 Rhagfyr 2022, dros Zoom, pan gyflwynwyd detholiad amrywiol o ddarlleniadau a charolau, gyda nifer o'r aelodau'n cymryd rhan yn eu tro. Diolch eto i'r Gweinidog am y paratoadau trylwyr.


Gwasanaeth Nadollig Bore Sul, 19 Rhagfyr, cynhaliwyd ein gwasanaeth Nadolig teuluol a hyfryd oedd clywed lleisiau'r plant yn cymryd rhan. Diolch i'r Gweinidog am y gwaith paratoi a'i neges arbennig ac i Lowri am y cwis heriol.


Gair o'r Garn Mae rhifyn Hydref 2021 bellach ar gael. Gweler ein tudalen cylchlythyr


Maureen Morgan Ddechrau Awst, cafodd eglwys y Garn ergyd arall gyda marwolaeth Maureen Morgan. Cofiwn am ei gw?n siriol a'i phersonoliaeth radlon, ac estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf ?'i phriod, Noel, a'r teulu yn eu colled a'u hiraeth.


Yr Arglwydd Elystan Morgan Dydd Mercher, 7 Gorffennaf, derbyniwyd y newyddion trist am farwolaeth yr Arglwydd Elystan-Morgan. Cafodd ei fagu yng Nghapel y Garn, ac roedd i'r Garn le cynnes iawn yn ei galon. Bu'n eithriadol o ffyddlon i'r achos ar hyd y blynyddoedd a gwnaeth gyfraniad amhrisiadwy fel blaenor am hanner can mlynedd. Bydd bwlch enfawr ar ei ôl. Estynnwn ein cydymeimlad dwysaf ag Eleri, Owain a'r teulu estynedig. Ymhlith y teyrngedau hael a niferus a dalwyd i Elystan, mae teyrnged BBC Cymru Fyw yn cynnwys cyfeiriad at ei gyfraniad cyfoethog i Gapel y Garn teyrnged


Gwenda Edwards Gyda thristwch y derbyniwyd y newyddion am farwolaeth un o'n haelodau, sef Mrs Gwenda Edwards, ddydd Llun, 5 Gorffennaf. Bu Gwenda'n aelod ffyddlon a gweithgar o'r eglwys ac yn gefnogol i'w holl weithgareddau. Roedd yn gymeriad addfwyn a diymhongar, a bydd colled fawr ar ei hôl yn nheulu'r Garn. Estynnwn eich cydymdeimlad dwysaf â Nest, Lowri a Non, a'r teulu estynedig, yn eu colled a'u hiraeth.


Gair o'r Garn Mae rhifyn Haf 2021 bellach ar gael ar ein tudalen cylchlythyr


Naws y Nadolig Cafwyd noson hyfryd i'n rhoi yn ysbryd y Nadolig, dan ofal Llinos Dafis a Heledd Ann Hall, nos Wener, 11 Rhagfyr yn y Gymdeithas Lenyddol. Cyflwynodd Llinos rai o berlau oesol Salmau Cân y Ficer Rhys Prichard, a chafwyd taith gerddorol ddifyr gan Heledd a chyfle i wrando ar ddetholiad o garolau llai cyfarwydd, yn ogystal â rhai o'r ffefrynnau. Diolch i Llinos a Heledd am noson arbennig iawn.


Cwis Zoom Nos Wener, 20 Tachwedd, cafwyd cwis hwyliog ac amrywiol ar gyfer y Gymdeithas Lenyddol, dan ofal Ann ac Alan Wynne Jones. Cwestiynau cerddorol a gafwyd gan Alan, a phrofi ein gwybodaeth gyffredinol a wnaeth Ann. Watcyn a Lowri James ddaeth i'r brig â?? llongyfarchiadau calonnog iddyn nhw!


Y Gymdeithas Lenyddol Oherwydd y sefyllfa gyda Covid-19, arloeswyd drwy gynnal y Gymdeithas drwy gyfrwng Zoom. Ymunodd nifer dda o gyfeillion, o bell ac agos, i wrando ar siaradwraig ein noson agoriadol, sef Sara Huws, Caerdydd, nos Wener, 16 Hydref. Trwy olrhain ei gyrfa a chyfeirio at nifer o brofiadau amrywiol, rhoddodd Sara gip ar yr ystyriaethau y tu ôl i greu a chynnal amgueddfeydd ac arddangosfeydd, yn cynnwys ei gwaith fel un o brif sefydlwyr yr East End Women's Museum yn Llundain.


Ailagor Capel y Garn Bore Sul, 4 Hydref, roedd yn hyfryd gweld drysau Capel y Garn ar agor unwaith eto ar gyfer yr oedfa gyntaf yn y capel ers mis Mawrth. Er gwaethaâ??r tywydd stormus y tu allan, cafwyd croeso cynnes gan y swyddogion a oedd wedi rhoi trefniadau gofalus yn eu lle, yn dilyn y canllawiau perthnasol, er sicrhau diogelwch y gynulleidfa. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Gweinidog, y Parch Ddr R Watcyn James, a chafwyd neges amserol ganddo, yn seiliedig ar Salm 103, â??Fy enaid, bendithia yr Arglwyddâ??. Roedd yn braf iawn cael y cyfle i gydaddoli yng nghwmni ein gilydd, a chafwyd oedfa fendithiol. Bydd gweddill oedfaon mis Hydref yn cael eu cynnal drwy gyfrwng Zoom, a bydd yr oedfa nesaf yn y Garn fore Sul, 1 Tachwedd, am 10 oâ??r gloch, os bydd yr amgylchiadauâ??n caniatáu. Mae croeso i unrhyw un ymuno yn y gwasanaethau Zoom â?? am fanylion, anfonwch neges at yr ysgrifennydd: ymholiadau@capelygarn.org


Sianel YouTube Capel y Garn rydym bellach wedi sefydlu sianel YouTube lle gallwch wylio fideos arbennig a ddarparwyd gan ein Gweinidog


'Gobaith Bywiol' gwasanaeth byr gan y Parch Watcyn James - gweler tudalen Facebook Capel y Garn Gobaith Bywiol


'Gobaith Bywiol' mae fersiwn sain ar gyfer ar Soundcloud: https://soundcloud.com/watcyn-a-lowri-james/sain-3ydd-mai-1-pedr-bennod-1-01, a gellir darllen fersiwn print yn yr adran myfyrdodau


'Y Bugail Da' darlleniadau a myfyrdod gan Watcyn a Lowri James ar dudalen Facebook Capel y Garn Y Bugail Da


'Y Bugail Da' mae'r myfyrdod hefyd ar gael ar Soundcloud: https://soundcloud.com/watcyn-a-lowri-james/myfi-yw-y-bugail-da-4ydd-sul-wedir-pasg, a gellir darllen fersiwn print yn yr adran myfyrdodau


'Felly y credasoch chwithau' Myfyrdod ar 1 Corinthiaid, pennod 15, gan Watcyn a Lowri James - ewch i dudalen Facebook Capel y Garn neu https://soundcloud.com/watcyn-a-lowri-james/felly-y-credasoch-chwithau. Gellir darllen copi yn yr adran myfyrdodau


Myfyrdodau ar gyfer y Groglith a'r Pasg I wrando ar y myfyrdodau, ewch i dudalen Facebook Capel y Garn neu https://soundcloud.com/watcyn-a-lowri-james/yn-ol-yr-ysgrythurau-gwener-y-groglith. Gellir darllen copi o'r myfyrdodau yn yr adran myfyrdodau


Myfyrdod ar nos Iau Cablyd Gallwch wrando ar y myfyrdod gan y Parch Watcyn James ar dudalen Facebook Capel y Garn ac ar Soundcloud: https://soundcloud.com/watcyn-a-lowri-james/cablu-a-charu. Gellir hefyd ddarllen copi o'r myfyrdod yn yr adran myfyrdodau


Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu'r ddiweddar Marian Jenkins, a fu farw'n dawel ddydd Gwener, 3 Ebrill, yn dilyn cyfnod o salwch. Roedd Marian yn aelod ffyddlon a gweithgar iawn o'n cymdeithas yng Nghapel y Garn, ac anfonwn ein cofion arbennig at Eddie, Hywel Sion, Rhiannon a'r teulu estynedig yn eu hiraeth a'u colled.


Gwasanaeth Sul y Blodau 2020 Mae gwasanaeth arbennig dan arweiniad Watcyn a Lowri James ar gael ar dudalen Facebook Capel y Garn ac ar Souncloud https://soundcloud.com/watcyn-a-lowri-james/sul-y-blodau-2020. Gellir hefyd ddarllen copi o'r gwasanaeth yn yr adran myfyrdodau


Cyfarchion arbennig i Mrs Ann James, sydd ar hyn o bryd yng Nghartref Tregerddan. Pen-blwydd hapus iawn i chi ddydd Sadwrn, 4 Ebrill, a hefyd llongyfarchiadau i Watcyn a Lowri James a fydd yn dathlu pen-blwydd eu priodas ddydd Llun, 6 Ebrill - oddi wrth bawb yng Nghapel y Garn.


Mynwent y Garn Yn dilyn cyfarwyddyd a dderbyniwyd gan Gyngor Sir Ceredigion, ni chaniateir mynediad i fynwent y Garn ar hyn o bryd, er enghraifft i osod blodau ar fedd ar Sul y Blodau. Diolch am eich cydweithrediad.


Gair o'r Garn Mae'r rhifyn diweddaraf, sef rhifyn Gwanwyn 2020, bellach ar gael. I weld copi, cliciwch Gair o'r Garn


Adnoddau addoli ar-lein Ar dudalen Facebook newydd Capel y Garn, gellir gwrando ar oedfa fer dan arweiniad ein Gweinidog, y Parch Watcyn James. Am grynodeb ysgrifenedig o'r oedfa a myfyrdodau eraill, ewch i'r adran myfyrdodau


Canslo gweithgareddau Yn dilyn cyfarwyddyd Eglwys Bresbyteraidd Cymru mewn ymateb i ofynion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ni fydd unrhyw weithgareddau'n cael eu cynnal yng Nghapel y Garn am y tro. Am wybodaeth bellach, anfonwch neges atom: ymholiadau@capelygarn.org. Diolch am eich cydweithrediad.


Oedfa'r Ofalaeth a chyflwyno siec Bore Sul, 26 Ionawr 2020, daeth eglwysi'r ofalaeth ynghyd yng Nghapel y Garn i oedfa gynta'r ofalaeth eleni, dan arweiniad ein Gweinidog, y Parch Ddr Watcyn James, a da oedd cael dod at ein gilydd fel hyn i gydaddoli. Ar ddiwedd y gwasanaeth, cyflwynodd Delyth Davies, Cadeirydd Pwyllgor Swyddogion yr Ofalaeth, siec i elusen Beiciau Gwaed Cymru. Cafwyd disgrifiad cryno o waith yr elusen gan Mathew Leeman, a chyfle i archwilio un o feiciau modur grŵp Aberystwyth. I ddysgu mwy am waith yr elusen werthfawr hon, ewch i wefan Beiciau Gwaed Cymru/Blood Bikes Wales



Dilynwch ni ar Twitter @capelygarn


Am fyfyrdodau a gwasanaethau ar ffurf fideo, a mwy ewch i dudalen Facebook Capel y Garn neu i sianel YouTube Capel y Garn


I weld newyddion blaenorol, ewch i archif 2019



I'ch dyddiadur...

Gwasanaeth Nadolig teuluol Bore Sul, 18 Rhagfyr 2022 am 10 o'r gloch, yng Nghapel y Garn


Gwasanaeth y Gair a'r Geiriau Nos Sul, 18 Rhagfyr am 6 o'r gloch


Bore'r Nadolig Oedfa fer dan arweiniad y Gweinidog yng Nghapel y Garn am 9 o'r gloch


Dydd Calan Oedfa'r ofalaeth, dan arweiniad y Gweinidog am 10 o'r gloch dros Zoom. Am fanylion cysylltu, anfonwch neges at ymholiadau@capelygarn.org



Am restr lawn o ddigwyddiadau ewch i'r dyddiadur


   


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu