Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Gair o'r Garn - Cylchlythyr Gofalaeth y Garn
Mae cylchlythyr yr eglwys bellach wedi cael ei ehangu i gynnwys yr holl ofalaeth. Bydd yn cael ei gyhoeddi bedair gwaith y flwyddyn, a'i ddosbarthu i holl gartrefi'r aelodau.
Bydd yn cynnwys cyflwyniad gan ein Gweinidog, tudalen arbennig i'r plant, cyfraniadau gan aelodau eglwysi eraill yr Ofalaeth, yn ogystal â dyddiadur o weithgareddau'r Garn.
Os hoffech gyfrannu eitem ar gyfer y rhifyn nesaf neu os ydych am gael copi printiedig o Gair o'r Garn,
cysylltwch â Marian Beech Hughes (01970 828662).