Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Archif newyddion Capel y Garn 2007


Gwylnos

Ganol nos y 31ain o Ragfyr cynhaliwyd gwylnos i groesawu'r Flwyddyn Newydd, ac unwaith eto braf oedd gweld aelodau o gapeli eraill yr ofalaeth ac o gapel Noddfa wedi troi i mewn. Cafwyd darlleniadau o'r Beibl a myfyrdodau gan y Bugail, Eddie Jenkis, Bryn Lloyd, Marian Beech Hughes, Gweneira Williams, a'r Parchedigion W J Edwards a Richard Lewis. Vera Lloyd oedd wrth yr organ.

Oedfa bore Nadolig

Fore dydd Nadolig am naw o'r gloch cafwyd Oedfa Gymun yn y Garn dan arweiniad y Parch Wyn Morris. Braf oedd gweld rhai o blant yr eglwys a oedd gartref dros y gwyliau, ynghyd ag aelodau o eglwysi eraill yr ofalaeth ac o Gapel Noddfa yn ymuno yn y dathlu.

Noswyl Nadolig

Mynychodd aelodau'r o'r Garn yr oedfa i groesawu'r Nadolig a gynhaliwyd yng Nghapel y Noddfa dan arweiniad y gweinidog, y Parch Richard Lewis.

Gwasanaeth Nadolig Unedig

Fore Sul, Rhagfyr 23ain, cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig ar y cyd i'r Garn a'r Noddfa yng Nghapel y Garn. Alun Jones oedd wedi trefnu'r darlleniadau ac Alan Wynne Jones oedd yn gyfrifol am y gerddoriaeth. Cymerodd nifer fawr o aelodau'r ddau gapel ran yn yr addoliad, ac fe ganodd y côr unedig nifer o garolau. Llio Penri oedd wrth yr organ. Cafwyd cyfeiliant hefyd gan grŵp o offerynwyr pres ifainc, sef Iwan Williams, Rhun Penri ac Iestyn Evans. Methodd Gwern Penri â bod yn bresennol oherwydd salwch.

Y Gymdeithas Lenyddol

Nos Wener, Rhagfyr 21ain, bu'r Gymdeithas Lenyddol yn cyfarfod. Mary Thomas, Dôlgelynnen oedd y wraig wadd. Treuliwyd noson ddiddorol a difyr yn ei chwmni yn clywed am ei gwaith yn olrhain achau ei thylwyth, ac yn trafod perthnasau. Gaenor Hall, Cadeirydd y Gymdeithas, oedd yn llywyddu.

Gwasanaeth Nadolig

Fore Sul, Rhagfyr 16eg, cynhaliwyd Oedfa Nadolig i'r Ofalaeth yn y Garn. Perfformiodd y plant lleiaf ddrama'r 'Bugail Blin' dan gyfarwyddyd Gweneira Williams, ac fe gafwyd darlleniadau, gweddïau, caneuon, a sgets gan y merched uwchradd a oedd wedi eu hyfforddi gan Alun Jones. Dangosodd y Gweinidog Stori'r Geni ar Powerpoint, ac fe ganodd y Côr Unedig o aelodau'r Garn a'r Noddfa, dan arweiniad Alan Wynne Jones, nifer o garolau. Brenda Williams oedd yr organydd. Hyfryd oedd gweld cynifer o blant ac ieuenctid yr Ysgol Sul yn gwneud eu gwaith mor raenus, a chynifer o bobl yn y gynulleidfa i gyfranogi o'r addoliad.

Parti Nadolig yr ysgol Sul

Cynhaliwyd y parti bnawn Sadwrn, 15 Rhagfyr, yn festri'r Garn. Yn dilyn te blasus, cafodd y plant hwyl fawr yn chwarae'r gemau roedd Joyce Bowen wedi eu paratoi ar eu cyfer. Galwodd Siôn Corn draw hefyd gyda llond sach o anrhegion. Diolch i Janet Roberts am drefnu'r cyfan ac i Gwynant Evans am helpu Santa.

Trip Nadolig Os Mêts ...

Nos Fercher, 12 Rhagfyr, aeth criw 'Os Mêts' i lawr i Theatr Felin-fach i weld y pantomeim blynyddol. Yn ôl y disgwyl, fe gafwyd noson werth chweil, gyda phawb yn mwynhau noson hwyliog. Diolch i Dewi am drefnu.

Oedfa fedydd

Bore Sul, 9 Rhagfyr, mewn gwasanaeth arbennig dan arweiniad ein Gweinidog, y Parch Wyn Morris, bedyddiwyd Lois Medi, merch ferch Chris a Carwen, a Ffion Mari, merch fach Andrew a Manon. Cyflwynwn ddymuniadau gorau'r eglwys i'r ddau deulu.

Cydymdeimlwn

yn ddwys iawn â theulu'r diweddar Rhys Davies, Nant Gwyn, Dolau, a fu farw'n ddisymwth, ddydd Sul, 2 Rhagfyr. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladd, dan ofal ei Weinidog, yng Nghapel y Garn, ddydd Sadwrn, 8 Rhagfyr. Meddyliwn yn arbennig am ei fam, Mrs Nest Davies, ac am weddill y teulu yn eu profedigaeth drist.

Oedfa'r Bore

Y Parchedigion Wyn a Judith Morris oedd yn arwain oedfa'r bore a ddarlledwyd ar Radio Cymru fore Sul, 25 Tachwedd, ar Radio Cymru. Eu thema oedd 'Y Môr a'r Mynydd', a chymerwyd rhan hefyd gan Gôr Cantre'r Gwaelod.

Ffair Nadolig y Garn

Cynhaliwyd y ffair flynyddol, dan ofal y Chwiorydd, fore Sadwrn, 24 Tachwedd, yn Neuadd Rhydypennau. Erddyn a Gwenda James agorodd y ffair eleni, a chyflwynwyd blodau i Gwenda gan Owen. Er gwaetha'r tywydd anffafriol, cafwyd ffair lwyddiannus - diolch i bawb am eu cefnogaeth a'u cyfraniadau.

Operation Christmas Child

Dymuna'r Grŵp Help Llaw ddiolch i bawb a gefnogodd ymgyrch hon eto eleni, a diolch yn arbennig i Eddie a Bethan Jones am drefnu. Anfonwyd dros ddeugain o focsys i'r ymgyrch, yn ogystal â £135 o nawdd.

Apêl Sierra Leone

Cynhaliwyd Bore Coffi dan ofal y Blaenoriaid tuag at yr apêl bore Sadwrn, 27 Hydref, yn y festri. Diolch i bawb am eu cefnogaeth a hefyd i'r aelodau hynny a gyfrannodd trwy gyfrwng yr amlenni arbennig. Trosglwyddwyd swm o £1,300 ? heb gynnwys yr ad-daliadau Cymorth Rhodd ? i gronfa'r apêl.

Cyfarfod Diolchgarwch

Cynhaliwyd oedfa ddiolchgarwch y Garn dan arweiniad y Gweinidog, Y Parchedig Wyn Morris, fore Sul, 21 Hydref. Cymerwyd rhan gan blant ac ieuenctid yr ysgol Sul a chafwyd anerchiad arbennig gan y Gweinidog. Pleser hefyd oedd cael cwmni cyfeillion o Gapel Noddfa.

Llongyfarchiadau calonnog

a dymuniadau gorau'r Eglwys i Eddie a Bethan Jones, a ddathlodd eu priodas aur ar 19 Hydref.

Cydymdeimlwn

yn ddwys iawn â Mrs Menna James yn ei phrofedigaeth o golli ei gŵr, Mr Ifor James, a hefyd â Mrs Bet Evans a'r teulu yn eu profedigaeth o golli ei brawd.

'Os Mêts ...'

Cynhaliwyd noson i lansio gweithgareddau'r clwb ieuenctid i bobl ifanc 11+ oed, nos Fercher, 10 Hydref, yn festri'r Garn, yng nghwmni Siôn Evans o Goleg y Bala.

Oedfa deuluol

Bore Sul, 23 Medi, cynhaliwyd oedfa deuluol, ar thema 'Porthi'r Pum Mil', dan arweiniad y Gweinidog, y Parch Wyn Morris. Cymerwyd rhan gan blant ac ieuenctid yr ysgol Sul, a chafwyd gair gan y Gweinidog, gyda chymorth cyflwyniad Powerpoint, yn dangos neges ac arwyddocâd y wyrth hon.

Cyfarfod Chwiorydd Henaduriaeth Gogledd Aberteifi

Prynhawn Sadwrn, 22 Medi, cafwyd sgwrs ddifyr gan Mrs Ina Tudno Williams am ei thaith ddiweddar i India gyda'i gŵr, Y Parchedig Athro John Tudno Williams. Tra oeddynt yno, dadorchuddiwyd cofeb i Thomas Jones, y cenhadwr cyntaf i Fryniau Casia, gan y Parchg John Tudno Williams.

Llongyfarchiadau calonnog

i'r Parchedig W J Edwards, y mae ei wreiddiau'n ddwfn yng Nghapel y Garn, ar gyflawni 40 mlynedd yn y weinidogaeth. Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig yn Llanuwchllyn ddydd Sul, 2 Medi 2007, i ddathlu ac i ddiolch am ei weinidogaeth.

Dymuniadau gorau'r eglwys hefyd iddo ef a Gwenda ar eu hymweliad â Phatagonia, lle bydd W J yn gweinidogaethu am y tri mis nesaf.

Llongyfarchiadau

i Manon Wyn a Gwion ar eu priodas yng Nghapel y Garn, ddydd Sadwrn, 1 Medi 2007. Pob hapusrwydd i chi eich dau yn y dyfodol.

Dymuniadau gorau

i Dewi Hughes ar ei ymddeoliad o'i swydd fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn Adran Addysg Ceredigion ddiwedd mis Awst. Gobeithio y cei fwynhau seibiant haeddiannol, Dewi!

Llongyfarchiadau calonnog iawn

i Vernon Jones ar ei lwyddiant yn ennill y wobr gyntaf am hir a thoddiad ar y testun 'Clawdd' yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a'r Cyffiniau.

Caethwasiaeth ddoe a heddiw

Mewn gwasanaeth arbennig a drefnwyd gan ein Gweinidog, bore Sul, 29 Gorffennaf, cafwyd cyfle i fyfyrio ar erchyllterau'r fasnach gaethweision a'r ymdrechion a wnaed i'w dileu. Cyfeiriwyd yn arbennig at ddeddf Diddymu Caethwasiaeth 1807 a hefyd at gyfraniad Martin Luther King i'r ymgyrch dros hawliau i bobl groenddu. I gloi, fe'n hatgoffwyd o'r ffaith - er gwaethaf yr holl ymdrechion hyn - fod llawer o bobl yn parhau i fod yn 'gaeth' heddiw.

Am ragor o wybodaeth am ymgyrch arbennig i ddileu'r fasnach ddynol yn Albania, cliciwch yma.

Bedydd

Bore Sul, 15 Gorffennaf, bedyddiwyd Gerwyn Thomas Jones, mab bach Alun a Siân a brawd William, Caergywydd, gan ein Gweinidog, y Parch Wyn Morris. Dymunwn bob bendith i chi fel teulu.

Trip yr ysgol Sul

Dydd Sadwrn, 14 Gorffennaf, teithiodd y plant, eu rhieni, athrawon yr ysgol Sul a chyfeillion i Gaer i ymweld â'r Sŵ. Braf oedd cael cwmni'r gweinidog, y Parch Wyn Morris, a'r Barchedig Judith Morris hefyd. Cafwyd diwrnod gwych ac roedd blas arbennig ar y sglodion yn y Trallwm ar y ffordd adre. Diolch i Lowri am drefnu.

Gwasanaeth Ordeinio a Sefydlu

Dymuniadau gorau a phob bendith i'r Barchedig Judith Morris, a ordeiniwyd ac a sefydlwyd yn weinidog ar Eglwysi Bethel, Aberystwyth, a Horeb, Penrhyn-coch, mewn gwasanaeth a gynhaliwyd yng Nghapel Bethel, Aberystwyth, bnawn Sadwrn, 7 Gorffennaf.

Llongyfarchiadau

i Catrin Thomas a Phil ar eu priodas yng Nghapel y Garn, ddydd Sadwrn, 7 Gorffennaf. Pob dymuniad da i chi yn y dyfodol. Llun yn yr oriel.

Barbeciw'r Garn

Daeth tyrfa dda i Fethlehem, Llandre, nos Wener, 6 Gorffennaf i fwynhau'r barbeciw blynyddol - diolch i'r pwyllgor gweithgar dan arweiniad Alan Wynne Jones am drefnu noson ddifyr o gymdeithasu, ac yn arbennig i Dwysli Peleg-Williams a'i chriw am baratoi'r wledd. Lluniau yn yr oriel.

Gwasanaeth Sefydlu'r Parchedig Wyn Rhys Morris

Nos Wener, 25 Mai, roedd Capel y Garn yn gyffyrddus lawn, gyda nifer fawr wedi teithio o ofalaeth Llanfynydd i ymuno gydag aelodau'r ofalaeth a chyfeillion o eglwysi eraill ar gyfer y gwasanaeth arbennig hwn. Llywyddwyd gan y Parchedig Pryderi Llwyd Jones, a chymerwyd rhan gan aelodau eglwysi'r ofalaeth a nifer o weinidogion a chyfeillion; rhoddwyd siars i'r eglwysi gan y Parchedig Eric Greene.

Am gopi o'r rhaglen, cliciwch yma

Am adroddiad o'r gwasanaeth, portread o'r Parchedig Wyn Morris a siars y Parchedig Eric Greene i eglwysi'r ofalaeth, cliciwch yma.

Am luniau o'r achlysur, ewch i'r oriel.

Cenhadu yn Cumbria

Ddechrau Mai eleni, treuliodd ein gweinidog, y Parchedig Wyn Morris, wythnos ym mhentref Ambleside, Cumbria, fel rhan o ymgyrch genhadu 'Through Faith Missions'. Am adroddiad o'i brofiadau yn ystod yr ymgyrch, cliciwch yma.

Ymweliad â Bryniau Khasia

Ddiwedd Ionawr 2007, bu'r Parchedig Wyn Morris a Mrs Judith Morris ar ymweliad ag Eglwys Bresbyteraidd India ar Fryniau Khasia. Am adroddiad o'u taith, cliciwch yma.

Llongyfarchiadau

i Alun Jones, Gwyddfor, ar gael ei anrhydeddu â'r wisg wen yn yr Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Awst 2007.

'Os mêts ...'

Daeth tymor presennol y clwb ieuenctid i ben nos Fercher, 23 Mai, gyda chwaraeron a barbeciw yn Ynys-las. Diolch i Glyn Saunders Jones a Dewi Hughes am drefnu, ac i'r ieuenctid a'u rhieni am eu cefnogaeth.

Oedfa Cymorth Cristnogol

Bore Sul, 20 Mai, daeth eglwysi'r ofalaeth a Chapel Noddfa at ei gilydd dan arweiniad ein Gweinidog ar gyfer oedfa arbennig i nodi diwedd wythnos Cymorth Cristnogol. Yn dilyn yr oedfa, cafwyd cinio bara a chaws er budd Cymorth Cristnogol. Lluniau yn yr oriel.

Cymanfa Ganu Unedig Gogledd Ceredigion

Cynhaliwyd y gymanfa eleni ddydd Sul, 13 Mai, yng nghapel Bethel, Tal-y-bont. Cafwyd oedfa deuluol yn y bore ar y thema 'Ffrindiau', a chymerwyd rhan gan blant ac ieuenctid yr ysgolion Sul. Y gŵr gwadd oedd Ifan Gruffydd, Tregaron, ac fe gafwyd gair pwrpasol ganddo. Arweiniwyd cymanfa'r oedolion yn yr hwyr gan Alan Wynne Jones, ac fe gafwyd oedfa fendithiol iawn o ganu mawl dan ei arweiniad.

Bedydd Lleucu Siôn

Bore Sul, 22 Ebrill, bedyddiwyd Lleucu Siôn, merch fach Geraint a Nia, gan ein Gweinidog. Croeso cynnes iddi hi a'i rhieni yn aelodau o deulu'r Eglwys yn y Garn.

Pwyllgor Cenhadol y Chwiorydd, Henaduriaeth Gogledd Aberteifi

Cynhaliwyd y Pwyllgor Blynyddol bnawn Sadwrn, 21 Ebrill 2007, yn y Garn. Llywyddwyd gan Miss Beti Griffiths, a'r siaradwr gwadd oedd Aneurin Owen, Llansannan, a soniodd am ei daith i Mizoram, India, fis Tachwedd 2006 fel rhan o'r tîm cynghori ar atal HIV/Aids yn y dalaith. I ddarllen mwy am y cynllun, cliciwch yma

Croesawu Gweinidog newydd

Llawenydd mawr i aelodau'r eglwys yw croesawu'r Parchedig Wyn Rhys Morris yn weinidog ar Ofalaeth y Garn. Dymunwn bob bendith iddo ef a'i briod, Mrs Judith Morris, gweinidog newydd Gofalaeth Bedyddwyr Gogledd Ceredigion. Dechreuodd y Parch Wyn Morris ar ei weinidogaeth yn y Garn gydag oedfa gymun fore'r Groglith ac oedfa gymun i'r ofalaeth fore Sul y Pasg. Calondid oedd gweld y gynulleidfa niferus a ddaeth ynghyd o'r gwahanol gapeli i ddathlu'r ŵyl gyda'n gilydd ar yr achlysur hapus hwn.

Bwyd i Bosnia

Dymuna'r Grŵp Help Llaw ddiolch i bawb a ddaeth i festri'r Garn fore Sadwrn, 31 Mawrth 2007, i gyflwyno rhoddion tuag at daith Eric Harries i Bosnia. I ddarllen mwy am yr apêl, cliciwch yma.

Cydymdeimlwn

yn ddwys iawn â theulu'r ddiweddar Mrs Eirlys Melville Jones, a fu farw ddydd Sul, 25 Mawrth. Cofiwn amdani fel gwraig liwgar a hwyliog, a fu'n arbennig o ffyddlon yn y Garn ac yn enwedig yn ysgoldy Bethlehem. I ddarllen teyrnged y Parchedig Pryderi Llwyd Jones i Mrs Melville Jones, cliciwch yma

Os Mêts ...!

Cynhaliwyd noson gyntaf Clwb Ieuenctid Cristnogol newydd ar gyfer Blynyddoedd 7-11 nos Wener, 16 Mawrth, gydag ymweliad â Theatr y Celfyddydau, Aberystwyth i fwynhau perfformiad o'r ddrama gerdd newydd 'Hello Dolly'. Am fanylion cyfarfodydd Ebrill a Mai, ewch i'r dyddiadur

Dileu caethwasiaeth

Ddydd Sul, 25 Mawrth, cofiwyd am ddaucanmlwyddiant pasio'r Ddeddf Seneddol i ddileu caethwasiaeth a chyfraniad arloesol William Wilberforce i'r ymgyrch. I ddarllen rhagor am y digwyddiad hanesyddol hwn, ewch i Adran Grefydd safle BBC Cymru, drwy glicio yma

I ddarllen cyfieithiad Dafydd Owen o 'Amazing Grace', emyn enwog John Newton sy'n ymwneud â dileu caethwasiaeth, ewch i dudalen myfyrdodau

'Credu Heddiw'

Nos Fawrth, 20 Mawrth, cafwyd yr olaf mewn cyfres o sgyrsiau gan Iolo Lewis, Aberystwyth, ar y testun 'Beth yn rhesymol y gellir ei gredu heddiw?' - cyfres nodedig a ysgogodd sawl trafodaeth frwd ac a gododd nifer o gwestiynau dyrys ac amserol. Rydym yn ddiolchgar iawn i Iolo Lewis am gyflwyno'r sgyrsiau hyn. Lluniau yn yr oriel

Atgofion Amser Rhyfel

Lansiwyd y gyfrol hon, sy'n cynnwys atgofion pump aelod o Gapel y Garn yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mewn cyfarfod o'r Gymdeithas Lenyddol a gynhaliwyd nos Wener, 16 Mawrth 2007. Mae copïau ar werth am £3. Am ragor o fanylion, cliciwch yma.

Perfformiad gwefreiddiol

- dyna farn y criw mawr a deithiodd i lawr i Theatr Felin-fach nos Iau, 15 Mawrth, i weld cynhyrchiad Cwmni Broydd Tywi o'r pasiant 'Jwdas' gan Nan Lewis. I ddarllen mwy am y cynhyrchiad, cliciwch yma

Cymdeimlwn

yn ddwys iawn â Bethan, Lowri ac Ifan yn eu profedigaeth o golli mam a nain annwyl, sef Mrs Margaret Roberts, Dinbych, a fu farw'n dawel ar 15 Mawrth.

Llongyfarchiadau


i Charlotte am ennill y gadair yn eisteddfod ysgol Rhydypennau, ac i Meinir am ddod yn ail yn yr un gystadleuaeth. Mae'r ddwy ymysg selogion pennaf yr ysgol Sul. Daliwch ati!

i Manon ac Andrew Curley ar enedigaeth merch, Ffion Mari, ar 5 Chwefror - wyres i Dan a Sandra Mason a gor-wyres i Eirlys Owen.

Dydd Gweddi Byd-eang y Chwiorydd

Cynhaliwyd cwrdd gweddi yn y Garn nos Wener, 2 Mawrth 2007, pryd y cymerwyd rhan gan chwiorydd Eglwys Llanfihangel Genau'r-glyn, Noddfa a'r Garn. Rhoddwyd yr anerchiad gan Mrs Llinos Dafis. I ddarllen rhagor am y diwrnod a'r gwasanaeth arbennig hwn, a luniwyd eleni gan ferched Paraguay, cliciwch yma.

Cymorth i Lithuania

Dymuna'r Grŵp Help Llaw ddiolch i bawb am y rhoddion a dderbyniwyd erbyn diwedd Chwefror 2007 mewn ymateb i apêl a dderbyniwyd o'r cwfaint yn Pastuva i helpu dau deulu anghenus yn Lithuania.

Llongyfarchiadau

calonnog iawn i Vernon a Dilys Jones ar enedigaeth ŵyr bach, Ifan Ceiro, mab i Osian a Bethan, a brawd bach i Gruff, ar 9 Ionawr. Dymuniadau gorau i chi fel teulu.

Am archif newyddion 2008, cliciwch yma.

Am archif newyddion 2006, cliciwch yma.


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu