Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Vanlalchhuanawma


Clawr y gyfrol
Ym mis Rhagfyr 2006, cyflwynwyd copïau o gyfrol arbennig iawn i rai o aelodau'r Garn,
sef Christianity and Subaltern Culture: Revival Movement as a Cultural Response to Westernisation in Mizoram.

Ffurf brintiedig ar draethawd PhD Vanlalchhuanawma ydyw'r gyfrol hon,
ac mae'n cynnwys astudiaeth o Gristnogaeth yn Mizoram
yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Mae lle cynnes iawn i'r awdur yng nghalonnau aelodau'r Garn, gan iddo ef a'i deulu fod yn byw ym Maes Ceiro a mynychu Capel y Garn tra oedd yn gwneud y gwaith ymchwil ar gyfer y traethawd yn ystod 1994-5.

Roedd Joseph, Samuel, a Danny yn aelodau ffyddlon o'r ysgol Sul,
ac fe fedyddiwyd Marc yn y Garn ddydd Nadolig 1994.

Cofiwn hefyd am Ruii, ei wraig, ac am Benjamin, a aned wedi i'r teulu fynd yn ôl i India.

Erbyn hyn, mae Vanlalchhuanawma yn ddirprwy brifathro Coleg Diwinyddol Aizawl, Durtland, Mizoram.

Bu rhai o chwiorydd y Garn yn helpu Vanlal gyda'i waith ymchwil drwy gyfieithu rhai o lythyrau'r cenhadon, dogfennau allweddol ac erthyglau o'r Cenhadwr,
ac mae'r awdur yn cydnabod hynny'n hael yn ei gyfrol.

Vanlalchhuanawma
Mizoram yw'r dalaith leiaf yng ngogledd-ddwyrain India, ac mewn ymdriniaeth drylwyr a meistrolgar honna Vanlalchhuanawma mai ffrwyth tensiwn parhaus rhwng yr Eglwys Sefydliadol a'r Mudiad Diwygiadol, mudiad brodorol a sefydlwyd yn 1906, yw Cristnogaeth unigryw y rhan hon o India.

Ar y dechrau tybiai'r Mizo mai arf seicolegol ac athronyddol a ddefnyddid gan awdurdodau Prydain oedd Cristnogaeth ac roeddent yn ddrwgdybus iawn o'r Eglwys a'r grefydd newydd hon.

Ond, drwy gyfuno'r diwylliant brodorol â delfrydau Cristnogol, llwyddodd y Mudiad Diwygiadol i drawsnewid y gymdeithas i fod yn gymdeithas o Gristnogion.

Os hoffech weld copi o'r gyfrol, cysylltwch ag Eddie a Bethan Jones, neu â Bryn a Vera Lloyd.

I ddarllen mwy am Eglwys Bresbyteraidd Mizoram, ewch i'w gwefan


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu