Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Croesawu'r Parchedig Wyn Rhys Morris, BA, BD


Y Gwasanaeth Sefydlu


Defod y SefydluCynhaliwyd Cyfarfod Sefydlu'r Parchedig Wyn Morris yn Weinidog ar Ofalaeth y Garn yng Nghapel y Garn, nos Wener Mai'r 25ain, gyda'r Parchedig Pryderi Llwyd Jones, Llywydd Henaduriaeth Gogledd Aberteifi, yn llywyddu. Daeth aelodau o Ofalaeth Dosbarth Llanfynydd ynghyd ag aelodau Gofalaeth y Garn a ffrindiau o ofalaethau ac eglwysi eraill at ei gilydd i dystio i ddefod y Sefydlu ac i gyfrannu yn eu gwahanol ffyrdd at y gwasanaeth.

Ar ôl i'r Llywydd offrymu'r weddi agoriadol darllenwyd emyn gan Mrs Edna Thomas, Rehoboth. Braf oedd clywed y canu ysbrydol yn llenwi'r capel gyda chyfeiliant cadarn Llio Penri wrth yr organ. Cafwyd dau ddarlleniad o'r Ysgrythur gan Dr Maredudd ap Huw, Seion, y naill yn tynnu ein sylw at hanes y Dyrchafael a'r llall yn ein hatgoffa o'r Pentecost cyntaf. Offrymwyd gweddi gan y Parchedig W. J. Edwards, ac fe gafwyd eitem gan Gwen Sims-Williams, Madog, Buddug Williams, Seion, a Rhun Penri, y Garn, ar ran plant ac ieuenctid yr Ofalaeth. Miss Nia Evans, Nasareth, ddarllenodd yr ail emyn. Tro pobl Caerfyrddin oedd hi wedyn i gyflwyno'r Gweinidog i ni. Gwnaed hyn gan Mr Lloyd Thomas ar ran Eglwysi Gofalaeth Dosbarth Llanfynydd a Mr Mel Morgans ar ran Henaduriaeth Gogledd Myrddin. Cyflawnwyd defod y Sefydlu yn rasol dan ofal y Llywydd, ac offrymwyd gweddi ar ran y Gweinidog gan y Parchedig Trefor Lewis.

Gwasanaeth Sefydlu
Darllenwyd emyn gan Mrs Llinos Evans, Babell, ac yna croesawyd y Gweinidog newydd i'n plith gan yr Arglwydd Elystan-Morgan ar ran Eglwysi'r Ofalaeth, Mr Glyn T. Jones ar ran yr Henaduriaeth a'r Parchedig Richard Lewis ar ran eglwysi'r ardal. Y Parchedig Eric Greene, Capel Tegid y Bala, draddododd y siars i'r eglwysi. A hithau mor agos at y Sulgwyn roedd hi'n addas iawn mai'r Penetcost a gymerodd yn sail i'w anerchiad. Offrymwyd gweddi ar ran eglwysi'r Ofalaeth gan y Parchedig R. W. Jones, cyn-weinidog yr Ofalaeth. Darllenodd Ms Mared Hughes, Madog, yr emyn olaf ac offrymwyd y fendith gan y Parchedig John Livingstone.

Yn dilyn y gwasanaeth cafodd yr ymwelwyr swper danteithiol yn Neuadd Rhydypennau, wedi ei drefnu a'i weini gan chwiorydd yr Ofalaeth.
Gweinidogion yn y Gwasanaeth Sefydlu

Am gopi o raglen y gwasanaeth sefydlu, cliciwch yma



Portread o'r Parchedig Wyn Rhys Morris, BA, BD


O Fancycapel ger Caerfyrddin, mae'r Parch. Wyn Morris yn hanu. Ar wahân i bedair blynedd yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor, a chyfnod yn y Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth, cadwodd yn deyrngar i'w sir enedigol. Bu'n athro yng Nghastell Newydd Emlyn a Hendy-gwyn ar Daf, ac yn athro ymgynghorol gydag Awdurdod Addysg Dyfed cyn mynd i weinidogaethu ar eglwysi gofalaeth Dosbarth Llanfynydd yn Henaduriaeth Gogledd Myrddin.

Bellach dyma fe'n mentro y tu hwnt i ffiniau Sir Gâr, i fyny i Ogledd Ceredigion. Dieithr iawn oedd yr ardal hon iddo cynt, meddai fe. Fe wyddai am y cyfansoddwyr J T Rees a William Llywelyn Edwards, ac roedd e'n nabod ei gyd-fugail, y Parch. R W Jones, ac yn gwybod am un neu ddau o enwau eraill, ond ar wahân i un ymweliad â Sasiwn yn y Garn, lle i basio drwyddo ar daith rhwng de a gogledd oedd yr ardal a chyfle am saib a chwpaned o goffi yng Nghrefftau Pennau.

Yn ffodus ac yn gyfleus iawn mae ei briod, sef Mrs Judith Morris, hefyd yn dod i wasanaethu gyda'r Bedyddwyr yn eglwysi Penrhyn-coch ac Aberystwyth. 'Rwy'n gwybod nad Judith a finnau yw'r pâr priod cyntaf i weinidogaethu ar eglwysi o wahanol enwadau yng Nghymru,' meddai, 'ond mae hyn yn ddatblygiad cyffrous i'r ddau ohonon ni.' Aeth ymlaen i esbonio ei fod yn eciwmenydd mawr ac yn credu'n daer mai angen mawr yr 'Eglwys Lân Gatholig heddiw yw cael yr aelodau i gydweithio'.

Y Parchedig Wyn Morris a Mrs Judith Morris
Pan ymwelais i ag ef yn ei gartref dros-dro ym Mhenrhyn-coch fe ges i groeso tawel a chynnes. Ond prysurdeb, yn hytrach na'r llonyddwch personol yma, sy'n gwir adlewyrchu ei fywyd beunyddiol. Roedd Judith yn ôl mewn angladd yn yr hen ardal y prynhawn hwnnw, esboniodd. Roedden nhw'u dau newydd ddod yn ôl o ymweliad â'r maes cenhadol ym Mryniau Casia yn yr India, ac wedi cael eu taro gan frwdfrydedd y bobl, yn enwedig y bobl ifainc, at yr Efengyl. Yn ystod y gaeaf eleni bu ef yn cymryd rhan Iesu Grist yn y sioe gerdd Jwdas, a berfformiwyd gan Gwmni Broydd Tywi. Mae pawb a welodd honno'n gwybod am ei bresenoldeb tawel ac urddasol ar y llwyfan.

Ddechrau mis Mai treuliodd wythnos ar daith genhadol i Cumbria. Corff o'r enw Through Faith Missions oedd yn trefnu'r daith a dyma'r drydedd i Wyn Morris fynd arni. Roedd yn un o ryw ddau gant o bobl o bob cwr o Brydain a deithiodd i'r ardal honno. Ar ôl cyrraedd fe'u rhannwyd yn grwpiau bach i fynd o ddrws i ddrws, i ysgolion ac i dafarndai i gynnal Arolwg ar Goelion Personol. Bydd canlyniadau a chasgliadau'r arolwg yn cael eu cyflwyno yn ôl i'r eglwys leol er mwyn i'r bobl leol allu eu dilyn i fyny. Bu yn Swydd Caint a Swydd Efrog o'r blaen ar yr un perwyl.

Pwy fu'n ddylanwad arno ym more ei fywyd? Cafodd gweinidogion Banc y Capel gryn ddylanwad arno wrth gwrs, felly hefyd y Parch. Glyndwr Walker, athro Addysg Grefyddol Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Caerfyrddin, ond i Mr Tom Bowen, Prifathro Ysgol Gynradd Idole, mae'r diolch am ei lwyddiant ym myd cerdd dant. Daeth yn fuddugol ar yr unawd gerdd dant dan 12 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mrynaman yn 1963, a than 15 yn Eisteddfod Porthmadog yn 1964. Ar ôl i'w lais dorri trodd at adrodd, a chael ei hyfforddi gan Mrs Meira Jones, ac ennill dan 25ain yn Eisteddfod Genedlaethol Hwlffordd yn 1972. Ond yn bennaf mae'n talu teyrnged uchel a chynnes iawn i'w fam, sy'n dal i fyw yn sir Gâr. Hi roddodd iddo ei wreiddiau yn y capel a'r ysgol Sul, a hi sicrhaodd iddo bob cyfle a chwarae teg ym mhob agwedd ar ei fywyd.

Mae Wyn Morris felly yn un sy'n gosod ei nod yn uchel, a dycnwch ac ymroddiad a phwyll yn nodweddion amlwg yn ei bersonoliaeth. Mae'n siŵr y daw ef a Judith Morris yn wynebau cyfarwydd ac yn bresenoldeb yn ein cymunedau a'n cynulleidafoedd yng Ngogledd Ceredigion yn fuan iawn. Mae e eisoes yn mynd ati i ddod i nabod aelodau capeli'r ofalaeth, ac rwy'n deall ei fod hefyd wedi ymuno â Chôr Cantre'r Gwaelod!

(Llinos Dafis)



Siars y Parchedig Eric Greene i Eglwysi'r Ofalaeth


Ond fe dderbyniwch nerth wedi i'r Ysbryd Glân ddod arnoch. (Actau 1:8)

Yr oedd y disgyblion cyntaf eisoes wedi profi dylanwad yr Atgyfodiad ac yn awr yr oeddent yn disgwyl i addewid y Tad gael ei gyflawni. Yr oeddent ar fin derbyn arweiniad yr Ysbryd Glân yn eu bywydau. Os yw gwaith yr Arglwydd yng ngofalaeth y Garn am ddwyn ffrwyth yn ystod y blynyddoedd nesaf rhaid i chwi, yr arweinyddion a'r aelodau, yn ogystal â'r bugail newydd, fod yn sicr bod y tri pheth yma yn eich bywydau, fel unigolion ac fel eglwysi.

1. Dylanwad yr Atgyfodiad
Un o'r cwestiynau y byddem yn ei ofyn wrth y drysau gydag Ymgyrch 'Mil o Wŷr ar Draed' oedd hwn: Beth rydych yn feddwl am Iesu Grist? 4 dewis – ddim yn bod; dyn da; proffwyd; neu unig Fab Duw? Nid dyn da a fu farw dros ryw achos arbennig ydy'r Iesu – merthyron oedd y rhai hynny ac yr ydym yn darllen amdanynt mewn llyfrau hanes; nid proffwyd chwaith – y mae'r Iesu'n wahanol i'r rhain i gyd – a hynny am ei fod wedi atgyfodi o'r bedd yn fyw. Mae'n fyw yng nghalonnau a phrofiadau Ei bobl heddiw. Ydy E'n fyw yn dy brofiad di? Ydy dylanwad yr Atgyfodiad yn eglur wrth i bobl edrych ar ein heglwysi ni ac arnom ni fel aelodau unigol o'r eglwysi?

2. Derbyn yr Addewidion
Yn ystod ei weinidogaeth, roedd Iesu wedi rhoi'r addewid hwn i bob un a oedd yn teimlo fod bywyd yn anodd: 'Deuwch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi. Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i'ch eneidiau' (Mathew 11:28–9). Dywedodd wrth Ei ddisgyblion wrth iddynt ei gyfarfod ar fynydd yng Ngalilea a derbyn comisiwn ganddo: 'Wele yr wyf fi gyda chwi bob amser.' Yn wir, y mae'r Gair yn llawn o addewidion pwysig sy'n gallu bod yn gysur ac yn gymorth mawr i ni ar daith bywyd.

Yr ydym i gyd, ar ryw adeg yn ein bywydau, wedi cael ein siomi gan rywun na chadwodd ei addewid – rhyw athro ysgol, rhyw arweinydd ieuenctid, rhyw ffrind yr oeddem yn ymddiried ynddo neu'n sicr, rhyw blaid wleidyddol! Ond yn yr Iesu, y mae gennym ni Un sydd wastad yn cadw ei holl addewidion.

3. Dibynnu ar arweiniad yr Ysbryd Glân
Mae'r Gair yn dweud wrthym fod yr Ysbryd Glân yn eiddo i bob Cristion, ond nid pob Cristion sy'n ymwybodol o hyn o bell ffordd. Yn Effesus, fe ddaeth Paul ar draws nifer o gredinwyr ac meddai ef wrthynt: 'A dderbyniasoch yr Ysbryd Glân pan gredasoch?' ac meddent hwythau, 'Naddo, ni chlywsom hyd yn oed fod yna Ysbryd Glân.'

Fe fyddaf yn meddwl weithiau fod yna lawer o bobl tebyg iddynt yn yr eglwysi yng Nghymru heddiw, ddim yn llythrennol wir hwyrach. Mae pawb yn ein heglwysi yn gwybod y gras apostolaidd sy'n sôn am 'gymdeithas yr Ysbryd Glân' ond fe fyddai llawer o'n pobl hefyd yn gallu dweud: 'Ni chlywsom fod yr Ysbryd Glân yn gallu bod yn rym yn ein bywydau gan ein galluogi ni i wneud pethau yn ei nerth Ef na allem erioed eu gwneud ar ein pennau ein hunain.'

Ond dyna yw'r angen mawr os yw'r eglwys am lwyddo – pobl sy'n barod i gredu bod yr Ysbryd Glân yn gallu gweithio trwyddynt – i ddileu ein swildod a'n hansicrwydd a'n gwneud yn dystion effeithiol yn y byd heddiw.

Y perygl yw fod llawer ohonom yn dweud fod pethau fel hyn – dylanwad yr Atgyfodiad, derbyn yr addewidion a dibynnu ar arweiniad yr Ysbryd Glân yn iawn i'r gweinidogion a'r blaenoriaid, ond 'Cyfrifwch fi allan! Count me out! Rwy'n ddigon hapus i aros ar y cyrion. Mi wnaf beth fedra i, pan mae'n hwylus.'

Onid dyna pam mae'r sefyllfa fel y mae hi yng Nghymru heddiw? Dim digon o bobl yn barod i gomitio eu hunain i'r gwaith, dim digon o bobl wedi profi dylanwad yr Atgyfodiad yn eu bywydau, heb allu dibynnu ar yr addewidion ac sydd heb dderbyn arweiniad yr Ysbryd Glân yn eu bywydau fel grym effeithiol. Dyna'r math o bobl y mae Wyn Morris eu hangen i gyd-weithio ag ef yn y fan yma. Dyna'r math o bobl y mae'r Arglwydd Iesu yn chwilio amdanynt i gario ymlaen ei waith heddiw. Faint o bobl yr ofalaeth sy'n barod i wynebu yr her hon?

Yr wyf am orffen gyda'r darn hwn o farddoniaeth a gyfieithiwyd gan Llion Griffiths:

Mae yna bum cant a chwe-deg o aelodau yn ein heglwys,
Ond mae cant ohonynt yn eiddil a hen.
Felly dyna adael pedwar cant a chwe deg i wneud y gwaith.
Ond mae saith deg pedwar o'r rhain yn bobl ifainc mewn colegau,
Gedy hyn dri chant wyth deg a chwech i wneud y gwaith i gyd.
Ond mae cant a hanner ohonynt wedi blino oherwydd eu hymrwymiad i'w gwaith,
Felly dyna adael dau gant tri deg a chwech i wneud y gwaith.
O'r rhain mae cant a hanner yn famau gyda phlant bach,
Sy'n gadael wyth deg chwech.
Mae pedwar deg a chwech o'r rhain â diddordebau arbennig,
Gan adael deugain i wneud yr holl waith.
Ond mae pymtheg ohonynt yn byw yn rhy bell i ddod yn gyson,
Felly dyna adael pump ar hugain i wneud y gwaith i gyd.
Dywed tri ar hugain o'r gweddill yma eu bod wedi gwneud eu siâr,
Felly dyna adael Ti a Fi.
'Rwyf i wedi llwyr ymlâdd
Felly pob lwc i ti!














©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu