Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Cymdeithas Lenyddol y Garn


Mae'r gymdeithas yn cwrdd yn fisol o fis Hydref hyd fis Mawrth, gan wahodd gwahanol siaradwyr i'n hannerch.
Mae'r testunau'n amrywio o'r llenyddol i'r cyffredinol.

Cynhelir y cyfarfodydd yn festri'r Garn ar nos Wener am 7.30 o'r gloch.

Atgofion Amser Rhyfel

Yn 2007, cyhoeddodd y Gymdeithas lyfryn yn cynnwys atgofion pump o aelodau'r Garn am eu profiadau yn ystod yr Ail Ryfel Byd, sef atgofion Nest Davies, Marjorie Hughes, Eirlys Owen, Morfudd Rhys Clark a Trefor Lewis. Mae'r gyfrol bellach allan o brint, ond gellir darllen copi (ar ffurf ffeil pdf) drwy glicio atgofion.



Swyddogion 2009?2010

Llywydd: Y Parch Wyn Morris

Cadeirydd: Mrs Mary E Thomas, Croesawdy

Is-gadeirydd: Mr Gwynant Evans

Ysgrifennydd: Mrs Mary Thomas, Tŷ Clyd

Trysorydd: Mrs Bet Evans

Aelodau'r Pwyllgor:

Mrs Elina Davies
Mrs Gaenor Hall
Mrs Shân Hayward
Mr Dewi Hughes
Mr Erddyn James
Mr Vernon Jones
Mrs Margaret Rees
Mrs Janet Roberts



Tymor 2008-2009


Cafwyd tymor llwyddiannus arall o gyfarfodydd difyr ac amrywiol.

Agorwyd y gyfres gyda darlith unigryw gan yr Arglwydd Elystan-Morgan, nos Wener, 17 Hydref. Soniodd am rai o'i atgofion cynharaf, yn cynnwys ei blentyndod yn y pentref, cyn mynd ymlaen i sôn - mewn ffordd ddiddwyll iawn - am ei yrfa nodedig ym myd gwleidyddiaeth a'r gyfraith.

Nos Wener, 21 Tachwedd, cafwyd cwmni Kate Crockett, a amlinellodd waith Cronfa Achub y Plant, ac ar ddiwedd y cyfarfod fe gyflwynodd Kate Crockett dystysgrif i'r Grŵp Help Llaw am eu cyfraniad yn gweu 345 o hetiau babanod yn yr ymgyrch 'Gall eich het achub bywyd'.

Noson o frethyn cartref a gafwyd nos Wener, 19 Rhagfyr, mewn cyfarfod ac iddo naws Nadoligaidd - rhannwyd atgofion plentyndod mewn sawl ardal ac ymunwyd i ganu ambell garol.

Y prifeirdd lleol Dafydd Pritchard a Huw Meirion a'n gwefreiddiodd ar 16 Ionawr, wrth iddynt ddarllen rhai o'u cerddi ar bynciau amrywiol iawn mewn gwahanol fesurau ac arddulliau. Gwledd yn wir!

Troi at fyd y ffotograffydd John Thomas a wnaeth Iwan Jones ar 20 Chwefror a chyflwyno noson o hen luniau, yn seiliedig ar ei gyfrol o luniau'r ffotograffydd arloesol hwn - ac roedd hi'n syndod faint y gall rhywun ei ddysgu wrth graffu'n fanwl ar lun.

Nos Wener, 20 Mawrth, i gloi'r tymor, aeth yr aelodau draw i'r Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol i fwynhau noson o hen ffilmiau, gan gynnwys yr anfarwol 'Noson Lawen' cyn troi tua bwyty Pendinas am fwffe blasus - diweddglo teilwng i gyfarfodydd y gymdeithas.


Tymor 2007-2008



Nos Wener, 26 Hydref 2007, i agor tymor y gaeaf, cafwyd darlith ddiddorol iawn ar y testun 'Baledi Cymraeg a Chaethwasiaeth' gan Dr Wyn James, Caerdydd.

Tro'r ieuenctid i ddweud eu dweud oedd hi yng nghyfarfod, pan fentrodd Elfyn, Carwyn, Manon a Lowri i fynegi eu barn ar amrywiol bynciau. Yr holwraig oedd Llinos Dafis, a chafwyd noson ddifyr a hwyliog.

Nos Wener, 21 Rhagfyr, Mary Thomas, Dôlgelynnen, oedd y wraig wadd. Treuliwyd noson ddiddorol a difyr yn ei chwmni yn clywed am ei gwaith yn olrhain achau ei thylwyth, ac yn trafod perthnasau. Gaenor Hall, Cadeirydd y Gymdeithas, oedd yn llywyddu.

Yng nghyfarfod Ionawr 2008, cafwyd sgwrs gan y Dr Rhiannon Ifans, Penrhyn-coch, ar Ddathlu'r Plygain, gyda chymorth Parti Plygain Penrhyn-coch.

Nos Wener, 15 Chwefror, braint oedd cael gwrando ar Gwyn Angell Jones, Y Felinheli, yn sôn am ei ymweliad ag Ysbyty Jowai, India. Yn ystod 2006 dychwelodd Gwyn i Jowai, lle treuliodd ddeng mlynedd cyntaf ei fywyd, ac yn dilyn yr ymweliad hwnnw trefnodd apêl i godi swm sylweddol o arian i gael offer i'r ysbyty.


Swyddogion 2007?2008


Cadeirydd: Mrs Gaenor Hall

Is-gadeirydd: Mr D Bryn Lloyd

Ysgrifennydd: Mrs Mary Thomas

Trysorydd: Mrs Bet Evans

Aelodau'r Pwyllgor:

Mrs Elina Davies
Mrs Shân Hayward
Mr Dewi Hughes
Mr Erddyn James
Mr Vernon Jones
Mrs Margaret Rees
Mrs Janet Roberts
Mrs Mary Thomas
Mrs Brenda Williams





Swper y Gymdeithas


Cynhaliwyd swper pentymor y Gymdeithas yn Festri'r Garn nos Wener, 16 Mawrth 2007,
pan ddaeth yr aelodau ynghyd i fwynhau pryd o fwyd danteithiol wedi ei baratoi gan Mrs Margaret Griffiths, Gwesty'r Victoria, Borth.

Atgofion Amser RhyfelYn ystod y swper tynnwyd sylw at lyfryn sydd newydd gael ei gyhoeddi gan y Gymdeithas,
sef Atgofion Amser Rhyfel, lle ceir ysgrifau gan bump aelod yn disgrifio'u bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Roedd hi'n hyfryd bod y pump, sef Eirlys Owen, Nest Davies, Marjorie Hughes,
Morfudd Rhys Clark a Trefor Lewis i gyd yn bresennol yn y swper.
Mae'r llyfr ar werth am £3.

Ar ôl y swper cafwyd anerchiad gan y gŵr gwadd, Mr Gwynfor Hughes, Caerdydd, brodor o Bow-Street ac un o blant y Garn.
Teitl ei sgwrs oedd 'Hanes Dau Gyfaill'.
Y ddau dan sylw oedd ei dad W. J. Hughes, a'r Dr T.I.Rees, a fu'n gyfeillion oes.
Yr ohebiaeth rhyngddyn nhw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf aeth â'r sylw nos Wener,
pan oedd y naill yn ymladd yn y ffosydd yn Ffrainc a'r llall yn gweithio i'r Swyddfa Dramor yn Nicaragua.

Wrth gloi'r cyfarfod diolchodd y cadeirydd, Mrs Llinos Dafis, yn gynnes iawn i bawb a gyfrannodd i wneud y tymor yn llwyddiant,
ac yn enwedig i swyddogion y Gymdeithas,
Mrs Mary Thomas yr ysgrifenyddes, a Mrs Bet Evans y drysoryddes,
sydd yn eu swyddi ers blynyddoedd ac sy'n hwyluso pob trefniant gan wneud gwaith y Cadeirydd yn hawdd iawn.



Tymor yr Hydref 2006


Llinos Dafis a Dafydd Pritchard, Hydref 2006
Cafwyd tri chyfarfod diddorol o'r gymdeithas yn ystod yr hydref.
Daeth Dafydd Pritchard o Archif Sgrîn a Sain Cymru atom ym mis Hydref
i roi hanes adfer llais Evan Roberts oddi ar sylindrau sain a oedd wedi eu recordio ddechrau'r ganrif ddiwethaf.
Gwefr yn wir oedd cael clywed llais y Diwygiwr.

Ym mis Tachwedd Atgofion Amser Rhyfel oedd y testun
ac fe gafwyd cyfle i rannu atgofion
Eirlys Owen, Nest Davies, Morfudd Clark a Marjorie Hughes o'r dyddiau cythryblus hynny.




Ozi Osmond a Dewi Hughes yn y Gymdeithas, Rhagfyr 2006Tro Mr Ossie Osmond oedd hi ym mis Rhagfyr i'n goleuo ynghylch delweddau o Gymru
â'u perthynas â hanes economaidd Cymru.





Y Gymdeithas, Mawrth 2006


Wyddech chi fod cyw-ddeintyddion o Sweden yn gofod dod i Brydain i weld dannedd gosod?

Dyna un o'r ffeithiau rhyfedd a glywyd gan y deintydd Illtud Griffiths yn ei anerchiad i Gwrdd Llenyddol y Garn, nos Wener, Mawrth 17eg.

Roedd gwledd wedi ei pharatoi yn Ysgoldy Bethlehem y noson honno gyda thri bwriad, sef dathlu Gŵyl Ddewi, dathlu diwedd y gaeaf,
a ffarwelio â'r Gweinidog, y Parch R W Jones, a fydd yn ymddeol ddiwedd y mis.

Er gwaethaf oerfel y tywydd, roedd pob sedd wedi ei chymryd,
a chanmol brwd i'r bwyd a baratowyd gan Margaret Griffiths, Gwesty'r Victoria, y Borth,
heb anghofio'r pwdinau roedd aelodau'r pwyllgor wedi eu cyfrannu!

Llywyddwyd y noson gan Vernon Jones, a fynegodd ddymuniadau da
ffyddloniaid y Cwrdd Llenyddol i Bob a Rhian yn eu cartref newydd yn Wrecsam.

Vernon Jones a Caryl Lewis, enillydd Llyfr y Flwyddyn, yn y Gymdeithas, Hydref 2005






©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu