Mae'n Sul y Blodau Sul nesaf, dechrau Gŵyl y Pasg, ac i'r Iddew roedd yn ŵyl lawen, liwgar ac yn ymestyn dros ddyddiau lawer. Digon syber ac unffurf oedd yr addoli yn y synagaog yn Nasareth (ddim yn annhebyg i'r traddodiad Cymraeg ), ond fe allwn ddychmygu, i blentyn ac i bobl ifanc yn mynd yn finteioedd gyda'u teuluoedd, fod cael mynd i Jerwsalem yn wyliau ac yn hwyl - fel carfanwyr yn mynd i'r Steddfod Genedlaethol neu'r Sioe Amaethyddol i fwynhau eu hunain. Dathlu daioni Duw mewn gwledd o ŵyl oedd y Pasg: gŵyl codi'r cwpan i ddiolch am fywyd, am ryddid, am gynhaeaf, am Jerwsalem.
Fe fyddai Eirlys, Eilee, Mrs. Mel, wedi bod wrth ei bodd gyda'r lliw a'r llawenydd. Dyna pam na fedrwn ni wneud dim ond diolch - dathlu hyd yn oed - yn y gwasanaeth hwn. Er i'r blynyddoedd olaf fod yn anodd iddi hi ac yn anodd i chi fel teulu (ac fe wn i eich bod yn gwerthfawrogi yn fawr fod Bodlondeb/Golygfa, y staff yno ac am ychydig yn Hafan y Waun, yn ogystal â Meddygfa Padarn wedi bod yn gymaint o gymorth yn eu gofal mawr). Mae yna lun ohoni yn Golygfa mor ddiweddar â 2005, rhwng Meleri a Manon, yn lliwgar ac yn chwerthin. Fe gafodd oes faith o fwynhad, o'i phlentyndod i'w henaint nad oedd yn hen.
Ar ôl cael rhyw bwl o salwch rhywbryd, roedd Wynne yn ceisio ei pherswadio i fynd allan am dro. I ble'r awn ni? Rhywle am 'laugh'. Dos â fi i weld Tegwyn Rhosgoch, 'Mae hwnnw yn gallu gwneud mochyn i chwerthin.'
Roedd yna rhywbeth eang a chreadigol yn ei bywyd o'r dechrau: ei thad Jenkin Davies yn symud o Landdeiniol i Gwm Llynfi a Maesteg ac yn datblygu busnes adeiladydd yno. Fe fu'n adeiladu tai braf ym Maesteg a hefyd, gyda llaw, yn Elysian Grove a'r Gelli, lle bu ei chyfnither yr-un-mor-hapus, Olwen R. E., yn byw, yn ogysal â thai yn Salisbury Road, Maesteg, gan cynnwys y cartref. Dilwyn, ei brawd, wnaeth etifeddu'r busnes, ac mae Jill ei ferch a nith i Eirlys yn byw yn ôl yn yr hen gartref.
Mae yna ehangder yng Ngwm Llynfi ac mae hynny i'w weld o'r cartref yn Salisbury Road. Roedd Capel Tabor yn hollbwysig i'r teulu ac yn bwysicach fyth pan syrthiodd Eirlys liwgar mewn cariad â'r gweinidog , Melville Jones. Yn 1938 yr oedd y briodas. Yn nhraddodiad anghyffurfiol Cymru, mae lle gwraig y gweinidog yn rhan o drefn rhagluniaeth ac mae iddi ei lle a'i delwedd. Yn rhamant y garwriaeth ym Maesetg efallai fod ambell deulu, fel teulu Thomas Tabor (yr hen weinidog ) neu deulu Gelli Lenor, yn gofyn yn dawel, 'Tybed, wneith hi wraig gweinidog?'
Yn ystod blynyddoedd gweinidogaeth faith Melville Jones yn Nhregaron (bu yno o 1944 tan ei farwolaeth yn 1972), fe ddaeth Eirlys Maesteg yn Mrs. Mel. Os oedd hi'n wraig gweinidog anghonfensiynol ym Maesteg, roedd hi fwy fyth yn Nhregaron. Roedd Eirlys yn chwerthin wrth ddyfynnu rhywun a ddywedodd amdani 'nad oedd hi'n ffit i fod yn wraig gweinidog'. Doedd hi ddim yn berson cyhoeddus yn yr ystyr ddisgwyliedig i wraig gweinidog fod, ond mae Rosalind yn cofio iddi orfod croesawu Sasiwn neu Sasiwn y Chwiorydd i Dregaron ac iddi, yn nerfus iawn, iawn, ddweud, 'Mae'n bwrw glaw heddiw, mae'n hindda'n y tŷ, mae merched Tregaron yn rhoi croeso i chi.'
Ond pwysicach na'r cyhoeddus, cywir, roedd hi'n gynnes, yn groesawus, yn llawn cydymdeimlad â phobl, yn llawn hwyl ac yn gyfaill ardderchog. Ac nid yw'n anodd meddwl iddi fod yn gefn ac yn gysur mawr i Melville - wedi ei wneud i chwerthin ar ôl ambell Sul fflat neu bwyllgor diflas, ac efallai hyd yn oed wedi dweud wrtho fod ambell i wasanaeth yn feichus ac yn rhy faith. A chwerthin wedyn. Mwy o glod fyth iddi hi, nad oedd yn ffitio i'r ddelwedd, ei bod wedi rhoi ei chyfan i'w phriod ac i'r eglwys. Yr oedd yr un peth yn wir ar ôl symud yn 1972 i Dyddyn Llwyn yn Llandre: fe fu mor ffyddlon i'r eglwys yn y Garn ac i'r ysgoldy ym Methlehem ac fe gafodd fedal Gee am ei ffyddlondeb i'r ysgol Sul.
Roedd y ddawn artistig ynddi yn amlwg iawn. Yn ei chegin roedd ei chacennau a'i chacen simnel a'i marsipan yn werth eu gweld. A'i chartref, fel ei dillad a'i thlysau a'i gardd yn llawn lliw. Mae'r cartref o hyd yn llawn lluniau o'i gwaith ei hun (fe fu Hywel Harris yn gyfrwng i'w hannog i beintio). Roedd cerddoriaeth bob amser yn llenwi'r tŷ - o'r clasurol i'r gwerin a'r ysgafn. Ar un amser, yn ôl Wynne, Traed Wadin yn canu 'Mynd fel bom' oedd ei hoff gân.
Heddiw, yn yr un cartref mae Lleucu Siôn wyth wythnos oed, plentyn Geraint a Nia, a'i gor-wyres gyntaf. Fe fyddai wrth ei bodd ac yn hapus iawn i roi ei lle i Lleucu Siôn. Roedd hi'n falch o'i theulu - nid yn ymffrostgar, ond gyda diolch: Rosalind, Wynne, Gareth a Linda, Geraint ac Aled, Meleri a Manon, fe fydd yn rhaid i chi godi gwydryn siampen iddi yn y briodas ym mis Awst.
I lawer o bobl, mynd â blodau ar fedd yw Sul y Blodau. Roedd Eirlys - Eilee - yn gyfarwydd a cholli - roedd yn weddw am dros ddeg ar hugain o flynyddoedd ac fe fu'n cydymdeimlo a channoedd dros y blynyddoedd. Ond merch yr 'Hosanna' oedd hi. Nid nad oedd hi chwaith yn ymwybod a dwyster Yr Wythnos Sanctaidd, Gethsemane a'r Groes. Llai na blwyddyn yn ol roeddwn yn arwain gwasanaeth yn Golygfan yn dilyn angladd un o'r preswylwyr, Eiriana Ashton, ac roedd Eirlys yno, ond erbyn hyn yn ddi-ymateb. Doedd dim digon ohonom yn medru canu ond fe ganwyd emyn ar y piano a phan ddigwyddodd hynny, fe fu ymateb corfforol ganddi: rhyw ddyfnder a eilw ar ddyfnder wrth sŵn dy foliant Di. Roedd yr emynau yr ydym yn eu canu heddiw yn rhan o'i byd a'i bywyd a'i ffydd - 'Euogrwydd fel mynyddoedd byd, dry'n ganu wrth y groes'.
Fedrwch chi ddim bod yn rhan o'n traddodiad anghydffurfiol ni (er ei bod yn ddigon hapus yn yr Eglwys hefyd) a'r Ysgol Sul heb ymwybod â'r Gwas Dioddefus ac aberth ei Groes. Ond llawenydd yr Atgyfodiad a'i meddiannodd, ac fe fedrodd chwerthin a mwynhau bywyd am mai ffydd i'w dathlu yw ein ffydd ni. Ac fe fuodd hi farw ar ddydd yr Atgyfodiad. A heddiw, o bob dydd, ac wrth ddiolch am Eirlys, o bawb - Eilee, Mrs. Mel, Eirlys o Faesteg - fe allwn ninnau ddathlu a llawenhau, yn ein chwithdod a chwithau fel teulu yn eich diolch. Mae'r gwasaenth hwn bellach yn rhan o'n Pasg ni eleni.
30 Mawrth 2007