Dyma atgofion pum aelod o Gapel y Garn o'r cyfnod tywyll a heriol hwnnw rhwng 1939 a 1945 wedi eu cyhoeddi mewn cyfrol fechan.
Mae amrywiaeth y profiadau a bywiogrwydd y dweud yn rhoi cip ar weithgareddau a sefyllfaoedd diddorol a dieithr yn Llundain, Avonmouth, Penrhyn Gŵyr, Ynys Tiree a La Paz.
Bydd eu darllen yn dihuno atgofion i rai efallai, ac yn sicr yn peri syndod ac yn creu chwilfrydedd am gael gwybod rhagor!
Diolch i Nest Davies, Marjorie Hughes, Eirlys Owen, Morfudd Rhys Clark a Trefor Lewis am rannu eu hatgofion â ni.
Mae'r gyfrol ar werth am £3.