Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Ymweliad â Bryniau Khasia


Daeth cyfle annisgwyl yn gynharach eleni i ymweld ag Eglwys Bresbyteraidd India ar Fryniau Khasia, yn dilyn gwahoddiad gan Henaduriaeth Laitumkhrah i weinidog o Gymru fynd draw yno i bregethu yn eu Cymanfa Ieuenctid.

Yn ogystal â'r croeso tywysogaidd a dderbyniais, yr hyn a'm trawodd yn fwy na dim yn ystod fy ymweliad oedd awydd a brwdfrydedd y bobl, yn arbennig yr ifainc, mewn perthynas â'r Efengyl; a'r Eglwys yno yng nghanol diwygiad, yr oeddent ar dân dros Grist.

Diddorol oedd canfod hefyd eu bod yn awyddus iawn i wybod mwy am Gymru, am ei hanes crefyddol, ei threftadaeth a'i diwylliant. Ni allaf bwysleisio'n ddigonol pa mor ddyledus ydynt i'r fam-eglwys yng Nghymru am anfon yr holl genhadon i'w gwlad yn y gorffennol ac am roddi iddynt yr Efengyl, ynghyd â'r Beibl yn eu hiaith eu hunain, rhywbeth a fynegwyd wrthyf dro ar ôl tro yn ystod fy ymweliad.
Yng nghwmni rhai o ieuenctid Bryniau Khasia
Yn un o eglwysi Shillong y cynhaliwyd y Gymanfa ac yr oedd y trefnwyr wedi paratoi rhaglen gynhwysfawr ar gyfer yr ieuenctid, gydag amryw o oedfaon a seminarau diddorol. Profiad cofiadwy ydoedd cerdded i fewn i'r gwasanaeth agoriadol a'r gynulleidfa hardd yn canu emyn yn yr iaith Khasi ar y dôn Gymreig ?Cwm Rhondda?. Nid oes prinder corau yn yr eglwysi ar Fryniau Khasia a bu tri chôr gwahanol yn canu yn ystod y gwasanaeth.

Ar nos Wener y Gymanfa cyflwynwyd rhaglen gymdeithasol, ysgafn ei natur, gan yr ieuenctid, a oedd yn cynnwys sgets a gêmau yn seiliedig ar y Beibl. Ar y prynhawn Sadwrn cefais gyfle i sgwrsio â rhai o'r cynrychiolwyr ifainc ac yr oeddent yn awyddus iawn i wybod mwy am gyflwr crefydd yng Nghymru.

Dyma rai o'r cwestiynau treiddgar a ofynnwyd imi: ?Yr ydym wedi clywed sôn nad oes llawer o bobl yn mynychu llefydd o addoliad yng Nghymru. Ydy hynny'n wir ac, os felly, beth sy'n cael ei wneud gan yr eglwys i ddenu'r ifainc? Beth yw'r materion pwysicaf sydd yn mynd â bryd ieuenctid Cymru? Beth am yr emynau a genir yn yr oedfaon? A yw'r gerddoriaeth yn ddigon afieithus?? Yr oedd yr haul yn gwenu'n braf ar y dydd Sul, a diolch am hynny gan fod y gwasanaethau yn cael eu cynnal mewn stadiwm yn yr awyr agored. Braint yn wir oedd cael pregethu yn yr oedfa brynhawnol o flaen 10,000 o bobl, nifer fawr ohonynt yn bobl ieuainc.

Yn ogystal â mynchu'r Gymanfa ei hun, daeth cyfle hefyd i ymweld â rhai o'r llefydd pwysicaf yn hanes y genhadaeth ar Fryniau Khasia a Jaintia. Yn Cherrapunji (Sorah), yn y flwyddyn 1841, y cychwynnodd y cyfan pan gyrhaeddodd y cenhadwr cyntaf o Gymru, Thomas Jones a'i briod. Profiad arbennig oedd cael fy nhywys o gwmpas y Coleg Hyfforddi a'r hen Orsaf Genhadol yn Cherrapunji a gweld cartrefi'r cenhadon, ynghyd â'r fynwent ar y bryn lle cawsai rhai ohonynt eu claddu. Rhaid oedd talu ymweliad hefyd â'r ysbytai yn Shillong a Jowai yn ystod y daith ac, yn ogystal, Ysgol Uwchradd y Merched, y Cartref i Blant Amddifaid a Phencadlys y Synod yn Shillong. Bu cyfle hefyd cyn dychwelyd i Gymru i ymweld â bedd Thomas Jones yn Calcutta.

Yr hyn a fydd yn aros yn y cof am fy ymweliad â Bryniau Khasia yw'r parch a ddangosir tuag at y cenhadon a ddaeth yno o Gymru, ynghyd â brwdfrydedd ac ysbrydoledd yr eglwys, sydd yn parhau i dyfu a datblygu. Byddai'n fuddiol iawn i ni fel Cyfundeb i ystyried cryfhau ein cysylltiadau â'r Eglwys Bresbyteraidd yng ngogledd-ddwyrain yr India.



©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu