Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Cenhadu yn Cumbria


Un o bennaf gorchwylion pob Cristion yw cenhadu, sef rhannu'r newyddion da ag eraill. Adeg ei Ddyrchafael, gorchymyn yr Iesu i'w ddisgyblion ydoedd, ?Byddwch yn dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea a Samaria, a hyd eithaf y ddaear? (Actau 1:8b).

Ac ar ddechrau mis Mai eleni fe ddaeth cyfle arbennig i wneud hynny mewn pentref tlws iawn o'r enw Ambleside, ar ochr ogleddol Llyn Windermere, yn sir Cymbria. Yr oeddwn yn rhan o ymgyrch 'Through Faith Missions' gyda phum cant o bobl o bob rhan o wledydd Prydain wedi disgyn ar y sir dros gyfnod o dair wythnos i ledaenu'r Efengyl.

Ymddiriedolaeth elusennol ydyw ?Through Faith Missions? gyda'i bencadlys yn Coton, yn ymyl Caer-grawnt, a'i sylfaenydd yw'r Parchedig Daniel Cozens, offeiriad yn Eglwys Loegr. Rhwng Mai 1991 a Medi 2005 trefnwyd cymaint â 10 o deithiau cerdded gwahanol gan y mudiad, gan gynnwys yr un yn 1996 a oedd yn ymlwybro ar hyd Clawdd Offa.

Prif Deithiau Cerdded ?Through Faith Missions? (Mil o Wŷr ar Draed)

1991 Llwybr y Penwynion (Pennine Way)
1993 Cernyw
1995 Gogledd Iwerddon
1996 Clawdd Offa
1999 Caint
2000 Ynys Manaw
2001 Ynys Wyth
2003 Wessex
2004 Ynys Jersey
2005 De Dyfnaint

Fel y teithiau blaenorol, prif nodweddion yr ymgyrch genhadol yn Cymbria oedd mynd at y bobl yn eu cynefin a cheisio cyrraedd y rhai hynny a oedd y tu allan i'r gymuned Gristnogol o addolwyr.

Yr oedd hi'n bwysig, felly, ein bod fel tîm o 15 aelod yn Ambleside yn cyd-weithio'n agos â'r 4 enwad eglwysig yn y pentref, sef yr Eglwys Anglicanaidd, yr Eglwys Fedyddiedig, yr Eglwys Fethodistaidd a'r Eglwys Gatholig. Cawsom groeso cynnes iawn gan arweinwyr y gwahanol eglwysi ac yr oeddent wedi trefnu'n helaeth ar ein cyfer trwy ddarparu llety ar lawr y neuadd gymunedol yn y pentref, yn ogystal â chynnig lluniaeth fin nos yng nghartrefi rhai o'r aelodau.

Paratowyd rhaglen waith gynhwysfawr ar ein cyfer a olygai ein bod yn mynd o ddrws i ddrws yn cynnal arolwg ar gredoau personol y trigolion, e.e. Beth oedd eu cred am Dduw? Beth oedd eu cred ynglŷn â'r hyn a ddigwyddai iddynt ar ddiwedd eu bywyd? Pe gallent ofyn un cwestiwn i Dduw, beth fyddai hwnnw? Bu cyfle hefyd yn ystod yr wythnos i wneud gwaith ysgol (gwasanaethau boreol a gwersi addysg grefyddol), mynd i gyfarfodydd a digwyddiadau o bob math, ymweld â chartrefi'r henoed, cynnal oedfaon yn yr eglwysi, yn ogystal â gweithio'n allanol ar y strydoedd ac yn y tafarndai. Yn wir, lle bynnag yr oedd cyfle i sôn wrth eraill am Iesu, mi fyddem yno.

Ein bwriad oedd ceisio cyhoeddi'r Efengyl yn y ffordd fwyaf effeithiol, pa sefyllfa bynnag y caem ein hunain ynddi, gan wybod y byddai'r eglwysi lleol yn Ambleside yn sicrhau y byddai dilyniant i'n gwaith. Ar hyd yr wythnos ceisiem gael pobl i ddod i adnabod Duw yn bersonol a phrofi o'i gariad. Am hynny byddem yn annog pobl i wahodd Iesu Grist i mewn i'w bywyd fel eu Harglwydd a'u Gwaredwr drwy eu cymell i offrymu'r weddi awgrymedig hon:

Arglwydd Iesu, mae'n ddrwg gennyf fy mod wedi mynd fy ffordd fy hun yn hytrach na'th ffordd di. Diolch i ti am farw drosof a dileu fy mhechodau.

Plîs dere mewn i'm bywyd a gwna fi y person yr wyt ti eisiau i mi fod. Amen.

Cefais brofiadau anghyffredin yn ystod y daith genhadol yn Cymbria, profiadau a fydd o fudd mawr i mi yn ystod fy ngweinidogaeth yn ngogledd Ceredigion. Carwn ddiolch i chi fel gofalaeth am fy rhyddhau i wneud y gwaith pwysig hwn. Fy ngobaith a'm gweddi yw y bydd yr had a heuir gan Gristnogion ym mha bentref neu gymuned bynnag yn dwyn ffrwyth ar ei ganfed.




©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu