Cynhaliwyd gwasanaeth Nadolig y plant fore Sul, 14 Rhagfyr, a'i thema eleni oedd 'Pasio'r Parsel'. Wrth i aelodau'r gynulleidfa dynnu'r haenau o bapur oddi ar y parsel i ddatgelu Ffurflen Cyfrifiad, Angel, Seren, Gwellt, Baban a Chroes, cyflwynodd plant yr ysgol Sul stori'r geni mewn modd newydd a gwahanol.
Bore Sul, 21 Rhagfyr, cynhaliwyd gwasanaeth Y Garol a'r Gair, dan arweiniad ein Gweinidog. Cymerwyd rhan gan nifer o'r aelodau mewn darlleniadau a gweddïau, a chafwyd eitemau gan Barti Cymysg y Garn, dan arweiniad Alan Wynne Jones. Cyfeiliwyd ar yr organ gan Llio Penri, ac aelodau'r band pres oedd Iwan, Rhun, Gwern, Iestyn a Ffion.
Bore'r Nadolig cynhaliwyd Gwasanaeth y Cymun am 9 o'r gloch dan arweiniad y Gweinidog. Hyfryd oedd cael cwmni nifer o 'blant' yr Eglwys oedd wedi dod adref i dreulio'r Nadolig gyda'u teuluoedd.
ar enedigaeth mab bach, Iago, brawd i Harri.
Yn ystod cyfarfod o'r Gymdeithas Lenyddol, nos Wener, 21 Tachwedd, cyflwynodd Kate Crockett dystysgrif i'r Grŵp Help Llaw am eu cyfraniad yn gweu 345 o hetiau babanod yn yr ymgyrch 'Gall eich het achub bywyd'.
Pnawn Sul, 16 Tachwedd, darlledwyd rhaglen arbennig o Gapel y Garn i nodi canmlwyddiant geni'r cyfansoddwr emyndonau
William Llewelyn Edwards, a oedd yn aelod yn y Garn. Cyflwynwyd yr emynau gan y Parch. Elwyn Pryse, cafwyd teyrnged fer gan Gaenor Hall, canwyd unawd gan Marianne Jones Powell, a deuawd gan Rhun a Gwern Penri. Yr arweinydd oedd Alan Wynne Jones a'r organydd oedd Brenda Williams. Cofiwch fod modd gwrando ar y rhaglen am gyfnod cyfyngedig drwy wefan BBC Radio Cymru.
Dymuna'r Grŵp Help Llaw ddiolch i bawb am eu cyfraniad i'w hymgyrch ddiweddaraf. Trosglwyddwyd 54 bocs o anrhegion ynghyd â bron i £300, gan gynnwys cyfraniad ariannol o wasanaeth diolchgarwch plant yr ysgol Sul.
Nos Lun, 27 Hydref 2008, cynhaliwyd cwis hwyliog i blant ysgolion Sul y cylch gyda Glyn Saunders Jones yn gwisfeistr. Bu'n ornest agos iawn rhwng tîm y merched a thîm y bechgyn, ac fe gafwyd ymateb brwd i'r cwestiynau amrywiol ar gymeriadau a storïau'r Beibl ar y sgrin fawr.
Cynhaliwyd oedfa deuluol bore Sul, 19 Hydref, a chymerwyd gan blant, rhieini ac athrawon yr ysgol Sul. Lluniwyd y gwasanaeth gan ein Gweinidog ac fe gyflwynodd neges arbennig yn seiliedig ar Ddameg yr Heuwr. Roedd y casgliad tuag at Operation Christmas Child.
Cafwyd noson agoriadol gofiadwy iawn i flwyddyn arall yn hanes y gymdeithas nos Wener, 17 Hydref 2008, gyda darlith wych gan Arglwydd Elystan-Morgan. Ei destun oedd 'Ambell Atgof Gwleidyddol' ac fe rannodd sawl perl gyda'r gynulleidfa niferus oedd yn y festri.
Roedd y festri'n llawn bwrlwm ieuenctid nos Iau, 16 Hydref, pan fu aelodau clwb Os Mêts yn mwynhau swper cynhaeaf. Y gŵr gwadd oedd Aled Myrddin, a Mrs Vera Lloyd a'i thîm oedd yn gyfrifol am baratoi'r wledd.
Dydd Mawrth, 14 Hydref, bu cwmni Andante yn recordio rhaglen arbennig i ddathlu 25 mlwyddiant cyhoeddi Clap a Chân i Dduw (Eddie Jones) a chofio chanmlwyddiant geni'r cerddor W. Llewelyn Edwards. Yn ystod y prynhawn, canwyd nifer o ganeuon o Glap a Chân gan rai o ddisgyblion Ysgol Rhydypennau a chanwyd emyndonau W. Llewelyn Edwards gyda'r hwyr, dan arweiniad Alan Wynne Jones.
i Vernon a Dilys Jones ar enedigaeth ŵyr, Rhys Ceiro, ar 18 Medi, mab bach Osian a Bethan, a brawd i Gruff ac Ifan. Pob dymuniad da i chi fel teulu.
â theulu'r diweddar Mr E J Morgan, Perthog, a fu farw ddydd Sul, 14 Medi, a hefyd â theulu'r diweddar Mr Geraint Morgan, Pwllglas, a fu farw ddydd Llun, 15 Medi.
Nos Sul, 7 Medi, cafwyd oedfa arbennig dan arweiniad ein Gweinidog, y Parch Wyn Morris. Yn bresennol yn yr oedfa yr oedd y Parch Ddr P L Lianzuala o Aizawl, Mizoram, sydd ar ymweliad â Chymru yn ymchwilio i hanes y cenhadon cyntaf a aeth o Gymru i Mizoram. Braint oedd gwrando arno'n sôn am weithgaredd yr eglwys Gristnogol ym Mizoram; roeddent yn cynorthwyo rhai anghenus oedd yn dioddef o newyn yn lleol ac yn Burma, yn ogystal ag anfon cenhadon allan i wledydd megis China a Thailand. Cyfeiriodd hefyd at yr erlid sy'n digwydd i Gristnogion mewn rhai rhannau o'r wlad, a gofynnnodd am ein gweddïau ar eu rhan. I ddiweddu'r oedfa, cyflwynodd weddi daer yn yr iaith Mizo y bydd i Gymru hithau brofi adfywiad tebyg i'r hyn a gafwyd yn ei wlad yntau.
i Vernon Jones ar ennill cadair Eisteddfod Rhys Thomas James, Llanbedr Pont Steffan.
i Elfyn ac Anna, ac i Richard a Lynwen, a briodwyd yn ystod mis Awst;
i Osian Penri ar ei lwyddiant yn ei arholiadau Lefel A, a phob dymuniad da iddo yn y Coleg Meddygol yng Nghaerdydd.
yn ddwys ag Eddie Jenkins a'r teulu ar farwolaeth ei frawd Tom o Temple Bar ddiwedd Gorffennaf.
Bore Sul, 20 Gorffennaf, bedyddiwyd Llio Tanat, merch fach Rhodri a Cet Morgan, a chwaer Rhys ac Elain, gan y Gweinidog. Hefyd, estynnwyd croeso cynnes i Rhodri a Cet yn aelodau yn y Garn. Dymunwn bob bendith i chi fel teulu.
Nos Wener, 18 Gorffennaf, er gwaethaf y tywydd anffurfiol, daeth tyrfa dda ynghyd i ysgoldy Bethlehem, Llandre, i fwynhau'r barbeciw blynyddol. Roedd gwledd wedi'i darparu ar ein cyfer gan Dwysli a'i thîm a mwynhawyd noson ddifyr o gymdeithasu. Diolch i bawb am gefnogi. Lluniau yn yr
oriel
i Osian Penri ar ddathlu ei ben-blwydd yn 18 oed ar 14 Gorffennaf;
i Lowri ac Owain ar eu priodas yng nghapel y Garn ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf, a phob dymuniad da i chi yn y dyfodol;
i Seiriol ar ennill gradd mewn Hanes o Brifysgol Caergrawnt, a phob dymuniad da iddo yn ei swydd newydd gyda chwmni Rondo yng Nghaernarfon.
Cynhaliwyd yr ŵyl eleni bnawn Sul, 29 Mehefin, yn ysgol Llanfarian. Y gŵr gwadd oedd Ifan Gruffydd, Tregaron, a mwynhaodd y plant weithgareddau amrywiol, yn cynnwys celf, cerddoriaeth a chwaraeon. Derbyniodd yr ysgol Sul dystysgrif gweithgaredd am ei gwaith yn ystod y flwyddyn.
am adferiad llwyr a buan i'n cyn-weinidog, Y Parchedig R W Jones, a fu'n cael triniaeth yn yr ysbyty. Anfonwn ein cofion cynhesaf atoch chi a Mrs Rhian Jones.
Cynhaliwyd oedfa deulol arbennig dan arweiniad y Gweinidog bore Sul, 18 Mai, ar y thema Trawsnewidwyr. Yn dilyn yr oedfa, cafwyd Cinio Bara a Chaws tuag at Apêl Cymorth Cristnogol, wedi'i drefnu gan y Chwiorydd.
Cynhaliwyd oedfa deuluol fore Sul y Pentecost, 11 Mai 2008 yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth. Cymerwyd rhan gan aelodau ysgolion Sul Gogledd Ceredigion a'r gŵr gwadd oedd Martyn Geraint. Arweiniwyd cymanfa'r oedolion yn yr hwyr gan Alan Wynne Jones, ac fe gafwyd canu mawl ac addoliad effeithiol dan ei arweiniad.
Bu'r aelodau'n gwneud gwaith dyngarol trwy gasglu arian mân fel rhan o ymgyrch Oxfam i brynu geifr i deuluoedd tlawd yn Affrica. Llwyddwyd i godi £250 hyd yma - felly bydd 10 o deuluoedd yn elwa o'r ymdrechion hyn. Diolch i bawb am eu cyfraniadau a'u cefnogaeth, ac yn arbennig i Mrs Vera Lloyd am ei gweledigaeth a'i harweiniad.
I gofio a dathlu'r Pasg eleni, cynhaliwyd dwy oedfa gymun - ar fore'r Groglith ac ar fore Sul y Pasg - dan arweiniad y Bugail. Yn ei neges ar fore'r Groglith pwysleisiodd fod y goleuni yn drech na'r tywyllwch, ac ar fore Sul y Pasg, ei anogaeth oedd y byddai'r geiriau a ddefnyddiwyd i ddisgrifio profiad Ioan wrth iddo wynebu'r bedd gwag, sef 'Gwelodd ac fe gredodd', yn dod yn brofiad real a byw i ni heddiw.
i Ann ac Alan Wynne Jones ar ddod yn daid a nain am y tro cyntaf. Ganed merch fach, Ffion, i Gethin a Gwen ddydd Iau, 20 Mawrth, a dymunwn bob bendith i'r teulu bach.
Dymuna'r Grŵp Help Llaw ddiolch i bawb a ddaeth i festri'r Garn fore Sadwrn, 15 Mawrth, gyda chyfraniadau, yn nwyddau ac arian, i lenwi tryc Eric Harries a fydd yn mynd ar daith i Mostar, Bosnia yn fuan.
Daeth tymor y gymdeithas i ben am eleni gyda noson arbennig iawn gan Beti Griffiths, Llanilar, gyda chymorth ei brawd Isaac a'i ffrind Eirwen Hughes, nos Wener, 14 Mawrth. Mewn cyfuniad o'r llon a'r lleddf, cafwyd cyflwyniadau effeithiol ganddynt o neges Dewi Sant - i fod yn llawen, cadw'r ffydd a gwneud y pethau bychain - mewn noson a fydd yn aros yn y cof am amser maith.
Bore Sul, 2 Mawrth, daeth cynulleidfa gref ynghyd i ddathlu gŵyl ein nawddsant mewn gwasanaeth arbennig dan arweiniad ein Gweinidog. Cymerwyd rhan flaenllaw gan y plant, a'r llefarwyr oedd Carwen Hughes-Jones, Nia Peris ac Elfyn Lloyd Jones.
Nos Fercher, 27 Chwefror, i ddathlu Gŵyl Ddewi cafwyd noson Gawl a Chwis yn Festri'r Garn. Y cwisfeistr medrus oedd Lyn Lewis Dafis.
â Mrs Ann Jones, Llys Maelgwn, a'r teulu yn eu profedigaeth o golli mam a nain annwyl, sef Mrs Alwen Williams, gynt o Ben-y-wern, a hithau wedi cyrraedd yr oedran teg o 101 oed.
Gyda gofid a thristwch y derbyniwyd y newydd am farwolaeth ddisymwyth Sion Ifan Evans, Gweithiwr Ieuenctid yng Ngholeg y Bala, fore Sadwrn, 8 Chwefror. Bu Sion yn eithriadol o gefnogol i'n hymdrechion i sefydlu gweithgaredd 'Os Mêts' i ieuenctid yr ardal, a gwelir ei golli'n fawr. Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â'i deulu, ei ffrindiau a'i gyd-weithwyr. Er parch i'w goffadwriaeth, gohiriwyd cyfarfod 'Os Mêts' a oedd i'w gynnal nos Fercher, 13 Chwefror.
Yng Nghyfarfod y Chwiorydd bnawn Mercher, 6 Chwefror 2008, cafwyd cyfle i glywed profiadau'r Parch W J a Mrs Gwenda Edwards ym Mhatagonia, lle bu WJ yn gweinidogaethu am dri mis ddiwedd 2007.
Canolfan Hamdden Clarach oedd man cyfarfod y criw nos Fercher, 29 Ionawr, ac fe gafwyd noson ddifyr yn mwynhau gêm o Fowlio Deg.
Nos Wener, 18 Ionawr, cafwyd noson arbennig yn y Gymdeithas Lenyddol yng nghwmni'r Dr Rhiannon Ifans a Pharti Plygain Penrhyn-coch.
Cynhaliwyd y cyfarfod gweddi blynyddol nos Wener, 11 Ionawr, a chymerwyd rhan gan Eddie Jenkins, Vernon Jones, Bryn Lloyd, Elystan Morgan a Dewi Hughes. Rhoddwyd y fendith gan y Gweinidog, a'r cyfeilydd oedd Vera Lloyd.
Brynhawn Sul, Ionawr 7fed, cynhaliwyd gwasanaeth yng Nghartref Tregerddan dan ofal Alan Wynne Jones. Canwyd carolau gan y Côr Unedig, gyda Llio Penri yn cyfeilio, darllenodd Gwenda Edwards a Hywel Roberts, a rhoddodd Alan Wynne Jones anerchiad ar yr Hen Galan.
Am archif newyddion 2007, cliciwch
yma.
Am archif newyddion 2009, cliciwch
yma.