Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Archif newyddion Capel y Garn 2010


Gwasanaeth Nadolig y Plant

Cynhaliwyd gwasanaeth y plant fore Sul, 12 Rhagfyr 2010. Cafwyd darlleniadau a gweddi gan rai o'r ieuenctid, a chyflwyniad arbennig o stori'r Nadolig gan y plant lleiaf, gan gynnwys ymweliad gan aliens â phentref Bow St. Cafwyd neges bwrpasol am neges y Nadolig gan y Gweinidog cyn i bawb symud i'r festri i fwynhau lluniaeth a ddarparwyd gan rieni ac athrawon yr ysgol Sul. Cafwyd parti i'r plant, ac ymweliad gan neb llai na Siôn Corn ei hun, a gyflwynodd anrhegion i'r plant.

Ffair Nadolig y Garn

Cynhaliwyd y ffair fore Sadwrn, 27 Tachwedd, yn Neuadd Rhydypennau. Trefnwyd y ffair gan y Chwiorydd, a diolch i bawb a fentrodd drwy'r eira a'r rhew i gefnogi'r ymdrech flynyddol hon.

Llongyfarchiadau

a phob dymuniad da i'n cyn-weinidog, y Parch Elwyn Pryse, a ddathlodd ben-blwydd arbennig ym mis Tachwedd 2010.

Oedfa Gomisiynu

Dydd Sul, 14 Tachwedd, cynhaliwyd oedfa arbennig yng Nghapel Rhydlwyd, Lledrod, i gomisiynu Efan Miles Williams yn Swyddog Datblygu Gwaith Plant ac Ieuenctid yng ngogledd Aberteifi. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch Wyn Morris, cadeirydd y fenter gydenwadol a fu'n gyfrifol am benodi Efan, ac roedd rhai o ieuenctid y Garn yn rhan o'r band bywiog a oedd yn cyfeilio yn yr oedfa.

Operation Christmas Child

Dymuna'r Grŵp Help Llaw ddiolch i bawb a gefnogodd yr ymgyrch bocsys esgidiau eto eleni. Derbyniwyd 42 o focsys llawn anrhegion, yn ogystal â chyfraniadau o £230. Diolch i bawb am eu haelioni.

Cymdeithas Lenyddol y Garn

Nos Wener, 15 Hydref, i agor tymor newydd y Gymdeithas, cafwyd sgwrs ddifyr iawn gan Lyn Ebenezer am gymeriadau Ffair-rhos a'r dylanwadau cynnar arno.

Cwrdd Diolchgarwch Bethlehem, Llandre

Cynhaliwyd y cwrdd diolch blynyddol nos Iau, 14 Hydref. Llywyddwyd y cyfarfod gan ein gweinidog, y Parch Wyn Morris. Y pregethwr gwadd oedd y Parch Eifion Roberts, y Morfa, a chafwyd neges amserol a phwrpasol ganddo.

Cydymdeimlir

â theulu'r ddiweddar Enid Howells, Maes Ceiro, a fu'n farw'n dawel yn ei chartref ar 13 Medi 2010.

Gwasanaeth Diolchgarwch

Cynhaliwyd gwasanaeth diolchgarwch yr ofalaeth fore Sul, 10 Hydref yng Nghapel y Garn. Roedd yr oedfa dan ofal ein gweinidog, a dewisodd Ddameg yr Heuwr fel thema stori'r plant. Yn ystod ei anerchiad ar y testun: "Y mae un yn hau ac un arall yn medi", cafwyd gair gan ddau o genhadon Taith Dewi Sant am eu profiadau yn ystod yr wythnos.

Taith Dewi Sant

Bu cenhadon Through Faith Missions yn ardal Bow Street a'r cyffiniau yn ystod wythnos gyntaf Hydref 2010. Yn ogystal â chenhadu o ddrws i ddrws, bu'r cenhadon yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau yn yr ardal, yn ystod y dydd a gyda'r nos. Rydym yn ddiolchgar iddyn nhw am eu hymroddiad a hyderwn y gwelir ffrwyth eu llafur yn yr ardal yn fuan. I ddarllen adroddiadau am yr wythnos a chanlyniadau holiadur Taith Dewi Sant, ewch i Taith Dewi Sant

Yr Eglwys yn y Gymdeithas Gyfoes

Dyna oedd testun cyflwyniad arbennig gan Mari Fflur, Swyddog Cyfathrebu Eglwys Bresbyteraidd Cymru, i aelodau'r ofalaeth nos Wener, 24 Medi. Yn dilyn hynny, cafwyd trafodaeth a lywiwyd yn fedrus gan Wynne Melville Jones.

Oedfa Fedydd a Chroeso Nôl

Roedd oedfa bore Sul, 19 Medi, yn wasanaeth o groeso mewn sawl ystyr. Bedyddiwyd dau faban gan y Gweinidog, sef Hanna Thomas Jones, merch Alun a Siân, chwaer William a Gerwyn, a Liwsi Fflur Curley, merch Andrew a Manon, a chwaer Ffion. Seiliodd y Gweinidog ei neges o Groeso Nôl ar eiriau'r Iesu, 'Dewch i weld' (Ioan 1:39). Roedd yn braf gweld llawr y capel yn llawn, gyda nifer o berthnasau a ffrindiau'r ddau deulu yn bresennol, ac arloeswyd drwy gynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i'r rhai na allai ddilyn y gwasanaeth yn Gymraeg.

Cydymdeimlir

ag Erddyn James a'r teulu ar farwolaeth ei frawd yng Nghaer-wynt (Winchester).

Oedfa arbennig

Dyna a gafwyd bore Sul, 18 Gorffennaf yng Nghapel y Garn, pan gafwyd cwmni Côr Merched y Gaiman a Chôr CYD yn yr oedfa. Cafwyd cyfraniadau gan y ddau gôr, yn eitemau cerddorol a darlleniadau, yn ogystal ag unawdau gan Billy Hughes a Marcello Griffiths. Yn ystod yr oedfa bedyddiwyd Gwawr Eluned, merch fach Rheinallt a Delyth, chwaer Glesni a Teleri - yr oedd ei hen-hen ewythr, John Morgan, Pwllglas, ymysg teithwyr y Mimosa, a hwyliodd i Batagonia yn 1865. Cafwyd anerchiad pwrpasol gan y Gweinidog, a'n hatgoffodd o hanes Abraham yn cael ei alw i deithio i wlad arall. Oedfa gofiadwy iawn, a fydd yn aros yng nghof y gynulleidfa niferus oedd yn bresennol am amser maith. Lluniau yn yr oriel Os hoffech gael copi o'r DVD a gynhyrchwyd o'r gwasanaeth, cysylltwch â Vernon Jones. Pris £5 y copi.

Yr ysgol Sul

Daeth blwyddyn yr ysgol Sul i ben fore Sul, 18 Gorffennaf, pan groesawyd Mrs Jên Ebenezer ar ymweliad ar ran Pwyllgor Plant ac Ieuenctid yr Henaduriaeth. Cafodd gyfle i weld gwaith y plant, gan gynnwys nifer o ffilmiau byrion maent wedi'u llunio'n ddiweddar, dan arweiniad Rhodri.

Trip yr ysgol Sul

Ar ôl ymuno â'r gynulleidfa ar gyfer rhan gyntaf gwasanaeth haf yr ofalaeth, aeth plant yr ysgol Sul a'u rhieni ar ymweliad â Quackers, Pontnewydd-ar-Wy ? ac fe fwynhawyd y profiad gan y plant o bob oed.

Oedfa haf yr Ofalaeth

Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig yng Nghapel y Garn bore Sul, 11 Gorffennaf, i holl eglwysi'r ofalaeth, dan arweiniad ein gweinidog. Cyfeiriodd at y cyfle a geir yn yr haf i ymlacio, gan bwysleisio pwysigrwydd ymlonyddu yn yr Arglwydd - i'r corff, y meddwl a'r enaid. Cyflwynwyd y casgliad i Gangen Aberystwyth o Sefydliad y Galon. I ddarllen sail ei fyfyrdod, cliciwch Salm yr Haf

Barbeciw'r Garn

Nos Wener, 9 Gorffennaf, cynhaliwyd barbeciw'r Garn. Oherwydd nad oedd rhagolygon y tywydd yn ffafriol, yn ysgoldy Bethlehem y cafwyd y wledd, a baratowyd gan Mrs Dwysli Peleg-Williams a'i chynorthwywyr. Trefnwyd helfa drysor arbennig i'r plant, a mwynhawyd noson o gymdeithasu anffurfiol. Diolchwyd i bawb gan y Gweinidog, y Parch Wyn Morris.

Gŵyl yr ysgolion Sul

Aeth nifer o blant yr ysgol Sul i'r ŵyl flynyddol a gynhaliwyd bnawn Sul, 20 Mehefin, yn y Morlan dan arweiniad Euros Lewis. Mwynhawyd y cyfle o gael cymdeithasu gyda phlant o ysgolion Sul eraill ac ymuno yn y gweithgareddau amrywiol.

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

Bu plant yr ysgol Sul, dan arweiniad Rhodri a Nia, wrthi'n brysur yn paratoi collage i'w arddangos yn mhabell Cytûn ar faes yr Eisteddfod. Cofiwch ymweld â'r babell, sy'n darparu amrywiol weithgareddau yn ystod yr wythnos, i weld gwaith plant ysgolion Sul y fro.

Arhoswch yn Enw Duw

Agorwyd drysau Capel y Garn rhwng 10 a 12 o'r gloch bore Sadwrn, 22 Mai, i roi cyfle i unrhyw un droi i mewn i fod yn ddistaw o flaen Duw - mewn gweddi neu fyfyrdod fel rhan o ddigwyddiad Eglwys Bresbyteraidd Cymru ar benwythnos y Pentecost. Am weddi'r Pentecost, cliciwch gweddi

Sul Cymorth Cristnogol

Dydd Sul, 16 Mai 2010, oedd Sul Cymorth Cristnogol yn y Garn eleni ac fe gafwyd oedfaon arbennig i nodi'r achlysur. Yn oedfa'r bore, fe'n harweiniwyd gan y Gweinidog, a thrwy gymorth cyflwyniad PowerPoint, gwelwyd amodau byw truenus pobl Matopeni yn Nairobi, Kenya, a'r modd y mae partneriaid Cymorth Cristnogol yn helpu i drawsnewid bywydau'r bobl hyn. Yn dilyn yr oedfa, cafwyd cinio bara a chaws, a gwnaed casgliad tuag at Gymorth Cristnogol. Yn oedfa'r hwyr, fe'n harweiniwyd at fwrdd y cymun gan y Gweinidog, a chafwyd neges briodol ganddo ar drothwy'r Pentecost.

Cymanfa Ganu Unedig Gogledd Ceredigion

Cynhaliwyd y Gymanfa yn y Garn dydd Sul, 9 Mai 2010. Yn y bore cafwyd oedfa deuluol dan arweiniad Dr Owain Edwards, Coleg y Bala, ar y thema 'Ymddiried yn yr Iesu' ac fe gymerwyd rhan gan nifer dda o blant yr ysgolion Sul. Yn yr hwyr, cynhaliwyd cymanfa'r oedolion ac fe gafwyd cyfarfod bendithiol dan arweiniad Mrs Carol Davies, Henllan.

Cydymdeimlwn

yn ddwys â theulu'r diweddar Harold Evans, Saronfa gynt, a fu farw'n dawel yn Hafan-y-waun, ddydd Gwener, 7 Mai.

Damien, Tomos ac Arianwen Wen Wen

Cafwyd cyfle i weld cyflwyniad newydd gan Gwmni'r Morlan, Aberystwyth, 'Damien, Tomos ac Arianwen Wen Wen' yn ysgoldy Bethlehem, Llandre, nos Fawrth, 27 Ebrill 2010. Fe'n cyflwynwyd i Damien Willis, gŵr busnes llwyddiannus; Tomos, rheolwr ffatri yn India, ac Arianwen oedd yn awyddus iawn i wneud ei rhan i godi arian at achosion da. Trwy gyfrwng y sgript gelfydd, caneuon, rap, lluniau wedi'u taflunio a ffilm fer, cyflwynwyd neges heriol mewn ffordd gyfoes ac effeithiol.

Llongyfarchiadau calonnog

i Richard a Lynwen Evans ar enedigaeth merch fach, Enid Angharad, dydd Gwener, 16 Ebrill, wyres fach gyntaf i Elen Evans, Erw Las.

Cyfarfod Cenhadol Chwiorydd Gogledd Aberteifi

Tro'r Garn oedd hi i groesawu chwiorydd y dosbarth bnawn Sadwrn, 17 Ebrill. Llywyddwyd y cyfarfod gan Miss Beti Griffiths a'r wraig wadd oedd Mrs Menna Green, y Bala.

Llongyfarchiadau

i Glyn a Gill Saunders Jones ar ddod yn daid a nain unwaith eto - ganed mab bach, Tomos Dafydd, i Dafydd a Rebecca ddydd Sadwrn, 3 Ebrill.

Cydymdeimlwn yn ddwys

â theulu'r diweddar Gwyn Jones, Llys Maelgwyn, a fu farw'n dawel yn Ysbyty Bronglais ar 1 Ebrill, a hefyd â Dorothy Rees a'r teulu ar farwolaeth ei chwaer.

Cyngerdd Sul y Blodau

Cynhaliwyd cyngerdd llwyddiannus iawn gan Gôr Cantre'r Gwaelod, dan arweinyddiaeth Eleri Roberts, yng Nghapel y Garn nos Sul, 28 Mawrth 2010. Yr unawdydd oedd Trystan Llŷr Griffiths, ac fe swynodd y gynulleidfa â'i lais cyfoethog a'i bersonoliaeth hynaws. Cyflwynwyd yr artistiaid gan Alan Wynne Jones, a'r cyfeilyddion oedd Llio Penri a Tudur Jones. Derbyniwyd rhodd hael gan Dr Dafydd Huws, llywydd y noson, ac anfonwyd ein dymuniadau gorau ato.

Llongyfarchiadau calonnog

i Manon ac Andrew Curley ar enedigaeth merch, Liwsi Fflur, ar 27 Mawrth, chwaer fach i Ffion Mari.

Dawn y Ffotograffydd

Cafwyd noson arbennig i gloi tymor y Gymdeithas nos Wener, 19 Mawrth, pan ddaeth Marian Delyth i Fethlehem, Llandre, i gyflwyno rhai o'i lluniau. Cafwyd cipolwg ar nifer o ddelweddau trawiadol iawn a grewyd ganddi, a gwelwyd ei dawn arbennig i greu artistwaith. Cyflwynwyd Marian gan Mrs Mary Thomas, y Cadeirydd, ac i ddilyn cafwyd cawl blasus wedi'i baratoi gan aelodau'r pwyllgor.

Cwrdd Gweddi Byd-eang Chwiorydd y Byd

Cynhaliwyd y cwrdd gweddi blynyddol yng Nghapel y Garn, bnawn Gwener, 5 Mawrth. Ymunodd chwiorydd Capel Noddfa ac Eglwys Llanfihangel Genau'r Glyn gyda chwiorydd y Garn, a rhoddwyd yr anerchiad gan y Barch Judith Morris.

Oedfa Gŵyl Ddewi Plant yr Ofalaeth

Daeth cynulleidfa niferus i Gapel y Garn bore Sul, 28 Chwefror 2010, ar gyfer gwasanaeth arbennig i ddathlu gŵyl ein nawddsant. Cymerwyd rhan gan blant ac ieuenctid yr ysgol Sul, a chafwyd neges bwrpasol gan y gweinidog ar y thema: 'Gwnewch y pethau bychain'. Cyflwynwyd y casgliad tuag at Bapur Sain y Deillion yng Ngheredigion.

Apêl Argyfwng - Daeargryn Haiti

Cynhaliwyd bore coffi llwyddiannus yn festri'r Garn bore Sadwrn, 13 Chwefror, i godi arian at yr apêl argyfwng. Trefnwyd y bore gan y Swyddogion ac erbyn hyn, mae'r gronfa bron yn £1,400, yn cynnwys cyfraniadau gan rai o eglwysi eraill yr ofalaeth - diolch i bawb am eu cefnogaeth a'u haelioni.

Os Mêts

Mewn cyfarfod agored dan nawdd Os Mêts, nos Iau, 11 Chwefor, bu Wynford Ellis Owen yn sgwrsio am ei brofiadau a'i waith fel Cyfarwyddwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill. Cyfeiriodd yn arbennig at y project i sefydlu'r Ystafell Fyw yng Nghaerdydd, sef canolfan driniaeth fydd yn cynnig gofal dyddiol dwyieithog i rai sy'n cael anhawster gydag alcohol neu gyffuriau eraill. Am ragor o wybodaeth, cliciwch Ystafell Fyw

Taith Dewi Sant

Mewn gwasanaeth arbennig dan arweiniad ein Gweinidog, bore Sul, 7 Chwefror, cafwyd cyflwyniad i'r ymgyrch genhadol a fydd yn cael ei chynnal yn yr ardal yn ystod yr hydref. Cafwyd cyfraniadau hefyd gan Mike a Maggie Wilkinson o Swydd Henffordd, a fydd yn cydweithio â'r ofalaeth gyda'r paratoadau ar ran Through Faith Missions. Am ragor o fanylion, cliciwch Taith Dewi Sant

Yr Henaduriaeth yn y Garn

Pleser oedd estyn croeso i gynrychiolwyr o bob cwr o Henaduriaeth Ceredigion a Gogledd Penfro i'r Garn bnawn Mercher, 20 Ionawr 2010.

Dechrau Blwyddyn

Mewn gwasanaeth arbennig fore Sul, 17 Ionawr 2010, bedyddiwyd Llew Ifan Schiavone, mab bach Owain a Lowri, gan ein Gweinidog, y Parch Wyn Rhys Morris. Hyfryd oedd croesawu aelodau o'r teulu i ymuno â ni yn yr achlysur hapus hwn. Yng ngwasanaeth yr hwyr cafwyd darlleniadau, myfyrdodau a gweddïau ar gyfer dechrau'r flwyddyn, a bu hwn eto'n wasanaeth bendithiol iawn. I ddarllen un o'r gweddïau a gyflwynwyd, cliciwch myfyrdodau

Atgofion Amser Rhyfel

Mae'r llyfryn a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Lenyddol yn 2007 o atgofion Nest Davies, Marjorie Hughes, Eirlys Owen, Morfudd Rhys Clark a Trefor Lewis yn ystod yr Ail Ryfel Byd bellach allan o brint. I ddarllen copi (ar ffurf ffeil pdf), cliciwch atgofion

Gwylnos

Croesawyd y flwyddyn newydd - a degawd newydd - yng Nghapel y Garn ar ffurf gwylnos dan arweiniad y Bugail nos Iau, 31 Rhagfyr 2009. Ymunodd cyfeillion o eglwysi eraill gyda ni a chymerwyd rhan hefyd gan y Parchn Richard Lewis, Judith Morris a W J Edwards.

Am archif newyddion 2009, cliciwch yma.

Am archif newyddion 2011, cliciwch yma.


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu