Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Archif newyddion Capel y Garn 2011


Am deyrngedau er cof am rai o aelodau'r Garn, cliciwch yma.

Bore'r Nadolig

Cynhaliwyd oedfa hyfryd am 9 o'r gloch fore'r Nadolig dan arweiniad y Gweinidog, a da oedd gweld nifer o deuluoedd yn bresennol yn ogystal â nifer oedd wedi dod adref i ddathlu'r Nadolig. Roedd y plant wedi dod ag un o'u hanrhegion i'w dangos ac anogodd y Gweinidog hwy i gyflwyno'u rhodd fwyaf werthfawr, sef eu bywydau i Grist. Cyfeiriodd at wahanol nodweddion y rhodd a dderbyniwyd ar ddydd Nadolig, cyn gweinyddu'r cymun i bawb oedd yn bresennol.

Nadolig y Gymdeithas

Nos Wener, 16 Rhagfyr, bu aelodau'r Gymdeithas yn dathlu'r Nadolig trwy gyfrwng darlleniadau amrywiol, yn seiliedig ar lythrennau'r wyddor, a chydganu carolau. Trefnwyd y noson gan Ann ac Alan Wynne Jones, a chafwyd cyfle i gymdeithasu dros baned a mins pei cyn troi am adre wedi profi naws y Nadolig.

Gwasanaeth Nadolig Ysgol Rhydypennau

Nos Iau, 15 Rhagfyr yng Nghapel y Garn, braf oedd gweld y capel yn llawn ar gyfer gwasanaeth Nadolig yr ysgol. Cyflwynodd plant Blynyddoedd 3-6 stori'r Geni ar lafar ac ar gân, ac yn dilyn cafwyd cyflwyniad lliwgar o'r stori gan blant Blynyddoedd 1-2 yn eu gwisgoedd amrywiol. Yna cariodd y plant hynaf gristinglau i mewn i'r capel a'i oleuo yn y tywyllwch a chanwyd carolau i gloi gwasanaeth arbennig iawn.

Gwasanaeth Nadolig y Plant

Bore Sul, 11 Rhagfyr, cyflwynodd y plant stori'r Geni yn eu gwasanaeth Nadolig blynyddol, a hyfryd oedd eu gweld yn gwneud eu gwaith mor naturiol. Cafwyd cyflwyniad gan rai o'r bobl ifanc, yn ogystal â neges arbennig gan y Gweinidog. Yn dilyn y gwasanaeth, cafwyd parti i'r plant, a galwodd Siôn Corn heibio gydag anrhegion i'r plant. Paratowyd y gwasanaeth a'r parti gan rieni ac athrawon yr ysgol Sul.

Bore Coffi'r Swyddogion

Cafwyd cefnogaeth dda i'r bore coffi a gynhaliwyd ddydd Sadwrn, 26 Tachwedd, a braf oedd gweld y festri'n llawn o sgwrsio a chymdeithasu. Gyda chymorth y stondinau lliwgar a'r amrywiol weithgareddau, heb anghofio'r coffi a gafodd ei weini mor urddasol gan y blaenoriaid, llwyddwyd i godi tipyn o arian tuag at y capel.

Y Gymdeithas Lenyddol

Nos Wener, 25 Tachwedd, cafwyd noson ddifyr ac addysgiadol yng nghwmni Gwyn Jenkins, Tal-y-bont, a fu'n cyflwyno 'Rhai Agweddau ar Hanes Gogledd Ceredigion'.

Operation Christmas Child

Dymuna'r Grŵp Help Llaw ddiolch i bawb a gyfrannodd focs sgidiau yn llawn anrhegion ar gyfer yr apêl flynyddol hon unwaith eto ? yn aelodau'r capel a chyfeillion, Cartref Tregerddan ac Ysgol Sul Capel Seion. Derbyniwyd 60 o focsys a £200 o gyfraniadau ariannol.

Cwrdd Diolchgarwch Bethlehem, Llandre

Nos Wener, 4 Tachwedd 2011, cafwyd oedfa fendithiol dan arweiniad Miss Beti Griffiths. Fe'i cyflwynwyd gan y Gweinidog, yr organydd oedd Gaenor Hall, a pharatowyd paned yn dilyn yr oedfa gan chwiorydd Bethlehem.

Dathlu Dau Ganmlwyddiant

Bore Sul, 28 Hydref, dan arweiniad y Gweinidog, cafwyd gwasanaeth arbennig i ddathlu dau ganmlwyddiant ordeinio gweinidogion cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd, gan ddilyn yr oedfa a baratowyd gan y Parch Glyn Tudwal Jones ar gyfer yr achlysur. Cymerwyd rhan gan nifer o'r aelodau, mewn gwasanaeth oedd yn dathlu ein treftadaeth yn ogystal â'n herio i ymateb i her y dyfodol.

Cymdeithas Lenyddol y Garn

Cafwyd noson ddifyr a chartrefol yng nghwmni Tecwyn Ifan, nos Wener, 28 Hydref, i agor tymor newydd y Gymdeithas. Soniodd am gefndir cyfansoddi nifer o'i ganeuon a chafwyd cyfle i'w glywed yn eu canu, gan gynnwys clasuron megis 'Bytholwyrdd', 'Stesion Strata' a 'Bytholwyrdd'.

Dechrau Canu, Dechrau Canmol

Nos Sul, 16 Hydref, darlledwyd y rhaglen gyntaf o ddwy a recordiwyd yng Nghapel y Garn yn gynharach eleni. Cafwyd cyfweliadau gan dri aelod o'r Garn, sef Vernon Jones, Wynne Melville Jones a Rhodri Llwyd Morgan, a chafwyd canu graenus dan arweiniad Alan Wynne Jones, a'r organydd Llio Penri.

Diolchgarwch

Cynhaliwyd Cwrdd Diolchgarwch y Chwiorydd bnawn Mercher, 5 Hydref, dan arweiniad y Barch Judith Morris, a Gwasanaeth Diolchgarwch yr Ofalaeth fore Sul, 9 Hydref, dan arweiniad y Parch Wyn Morris. Roedd yn braf gweld cynulliad da o eglwysi'r ofalaeth yn ogystal â nifer o deuluoedd ifainc yn y gwasanaeth. Gwnaed casgliad tuag at Apêl Elain yn y ddwy oedfa.

Apêl y Cartref Cariadus

Bore Sul, 11 Medi, cafwyd gwasanaeth arbennig dan arweiniad y Gweinidog lle rhoddwyd sylw i apêl Hmangaihna In, sef cartref i blant amddifaid yn Durtlang, India. Trwy gyfrwng darlleniadau, sleidiau a ffilm, cafwyd cip ar amgylchiadau'r plant a'r ymdrechion a wneir i'w helpu. Ar ddiwedd y gwasanaeth, gwnaed casgliad tuag at yr apêl.

Swper Haf Bach Mihangel

Nos Wener, 9 Medi, croesawyd nifer o'r aelodau a chyfeillion i ysgoldy Bethlehem, Llandre. Paratowyd gwledd amrywiol ar ein cyfer gan Delyth Jones a llu o gynorthwywyr, a mwynhawyd cyfle i gymdeithasu yn dilyn gwyliau'r haf. Roedd yr elw at Gapel y Garn, ac fe wnaed casgliad hefyd at Apêl y Cartref Cariadus, Durtlang.

Cyflwyno tysteb

Bore Sul, 17 Gorffennaf, cyflwynodd y Bugail dysteb ar ran aelodau'r Garn i Ian a Gwen Cole, fel gwerthfawrogiad o'u gwaith diflino fel gofalwyr y capel am gyfanswm o 24 o flynyddoedd.

Organ W. Llewelyn Edwards

Yn dilyn uno'r Gerlan â'r Garn, mae'r organ a ddefnyddiwyd gan y cerddor W. Llewelyn Edwards i gyfansoddi ei emynau arni wedi cael cartref newydd yn festri'r Garn. Hyderir y bydd llawer o ganu ar ei emynau ef, ac eraill, am flynyddoedd eto i ddod, i gyfeiliant yr organ arbennig hon.

Cydymdeimlad

Taenwyd ton o dristwch drwy'r eglwys a'r ardal o glywed y newyddion trist am farwolaeth Dr Gwion Rhys, Nefyn, trwy ddamwain ddydd Mawrth, 12 Gorffennaf. Cydymdeimlir yn ddwys a diffuant iawn a'i rieni, Alun ac Enid Jones, ac a'r teulu i gyd yn eu profedigaeth lem.

Oedfa haf yr ofalaeth

Cynhaliwyd oedfa'r haf eleni yng Nghapel Rehoboth, Taliesin, dan arweiniad y Bugail, y Parch Wyn Rhys Morris, bore Sul, 10 Gorffennaf. Croesawyd nifer o aelodau o wahanol gapeli'r ofalaeth a gwnaed casgliad tuag at Blas Lluest.

Cydymdeimlir

yn ddwys iawn â Rhian Huws a'r teulu yn eu profedigaeth drist o golli gŵr, tad a brawd annwyl ym marwolaeth y Dr Dafydd Huws ddydd Sul, 3 Gorffennaf. Cynhaliwyd ei angladd yn y Garn ddydd Sadwrn, 9 Gorffennaf, dan arweiniad y Parch. R. Alun Evans. I ddarllen ei deyrnged i Dafydd, cliciwch teyrnged

Cydymdeimlir

yn ddwys iawn â Noel Morgan ar farwolaeth ei dad a hefyd ag Eirlys Owen ar farwolaeth ei brawd.

Bedydd ac ymweliad

Bore Sul, 19 Mehefin, bedyddiwyd Tomos Cai, mab bach Ian ac Ann Elias, ac ŵyr Ray Evans, gan y Gweinidog. Croesawyd nifer o aelodau'r teulu i'r gwasanaeth, yn ogystal ag Alwen Roberts, Dafydd ac Anna, a oedd yn ymweld â'r ysgol Sul ar ran Pwyllgor Addysg Gristnogol yr Henaduriaeth.

Cydymdeimlir

yn ddiffuant ag Ian a Gwen Cole, y Marian, ar farwolaeth William Cole, tad Ian, ddydd Sadwrn, 18 Mehefin.

Taith Mari Jones

Dydd Gwener a dydd Sadwrn, 3 a 4 Mehefin 2011, dan arweiniad medrus John Leeding, dilynodd criw o gerddwyr dewr lwybr Mari Jones o Lanfihangel-y-Pennant i'r Bala. Cafwyd tywydd braf iawn i werthfawrogi'r golygfeydd godidog ar y ffordd a chofio am ymdrech arwrol Mari Jones gynt i sicrhau Beibl.

Adnabod Duw yn Bersonol

Dyma deitl llyfryn arbennig a ddosbarthwyd yn ystod Taith Dewi Sant, y genhadaeth a gynhaliwyd yn Hydref 2010. I ddarllen rhagor amdano, ewch i'r dudalen myfyrdodau

Byd yr Aderyn Bach

Nos Sul, 22 Mai, cafwyd cyfle i weld cyflwyniad Cwmni'r Morlan, Byd yr Aderyn Bach, sef addasiad Geraint Evans, cynhyrchydd y cwmni, o sgript Hefin Wyn yn crynhoi hanes a gweledigaeth y bardd Waldo Williams. Cafwyd ymateb gwresog gan y gynulleidfa i gyflwyniad arbennig iawn, a throsglwyddwyd y casgliad o £110 at Gymorth Cristnogol.

Oedfa Cymorth Cristnogol

Bore Sul, 15 Mai, cynhaliwyd gwasanaeth arbennig dan arweiniad y Bugail i nodi dechrau wythnos Cymorth Cristnogol. Dilynwyd y gwasanaeth gan ginio Bara a Chaws, a chafwyd cyfle i gymdeithasu yn ogystal â chyfrannu at yr elusen.

Cymanfa Ganu Gogledd Ceredigion

Cynhaliwyd y gymanfa ddydd Sul, 8 Mai 2011 yn Seion, Aberystwyth, gydag oedfa'r plant a'r ieuenctid yn y bore a chymanfa'r oedolion, dan arweiniad Dr Rhidian Griffiths, yn yr hwyr.

Taith y Crynwyr

Dydd Sadwrn, 7 Mai 2011, mentrodd criw da o gerddwyr ddilyn Taith y Crynwyr yn ardal Dolgellau. Er gwaetha'r glaw, cafwyd taith i'w chofio, gyda Miss Catherine James yn egluro arwyddocâd rhai o'r mannau a gysylltir â'r Crynwyr ar y daith. Diolch i Wyn a Judith am drefnu. Lluniau yn yr oriel

Oedfaon cyfnod y Pasg

Dathlwyd gŵyl y Pasg eleni gyda dwy oedfa gymun i eglwysi'r ofalaeth yng Nghapel y Garn. Arweiniwyd yr oedfaon gan y Bugail, a chymerwyd rhan gan aelodau'r gwahanol eglwysi ar fore'r Groglith.

Gofalwyr y Tŷ Capel

Dymuniadau gorau i Ian a Gwen Cole a ymddeolodd ddiwedd Mawrth 2011 fel gofalwyr y Garn, wedi cyfanswm o 24 o flynyddoedd o wasanaeth arbennig iawn. Gwelir colled fawr ar eu hôl; bu eu gofal am yr eglwys a'i hadeiladau yn eithriadol.

Croeso cynnes iawn i Michael ac Amanda Roberts i'r Tŷ Capel, a phob dymuniad da iddynt fel gofalwyr newydd y Garn.

Mrs Gladys Jones

Ym marwolaeth Mrs Gladys Jones ddydd Iau, 17 Mawrth, collodd y Garn ei haelod hynaf, gwraig ddiynhongar a fu'n ffyddlon iawn i'r achos. Cynhaliwyd ei hangladd dan ofal ei Gweinidog ddydd Gwener, 25 Mawrth 2011, a chydymdeimlir â'r teulu a'i ffrindiau.

Y Gymdeithas Lenyddol

I gloi'r tymor am eleni, nos Wener, 11 Mawrth 2011 cynhaliwyd 'Cyfarfod Bach' yn ysgoldy Bethlehem, Llandre. Yn dilyn gwledd o gawl a baratowyd gan y pwyllgor, aeth y beirniad, Mr Tegwyn Jones, ati i gloriannu cyfansoddiadau niferus a dderbyniwyd i'r cystadlaethau, a mwynhawyd noson hwyliog a chartrefol.

Oedfa Gŵyl Ddewi'r Ofalaeth

Bore Sul, 27 Chwefror, daeth cynulleidfa niferus ynghyd ar gyfer oedfa arbennig i ddathlu gŵyl ein nawddsant, dan arweiniad y Bugail. Cafwyd cyflwyniad dramatig o olygfeydd o fywyd Dewi gan y plant, a darlleniadau a gweddïau gan yr ieuenctid, yn ogystal â chyfeiliant ar y delyn. Cyflwynwyd y casgliad tuag at apêl Plas Lluest.

Llongyfarchiadau

i Elfyn ac Anna Lloyd Jones, Dolau, ar enedigaeth merch fach, Gwenno Elfyn, ar 20 Chwefror, chwaer i Lois Elfyn ac wyres i Mrs Liz Jones, Maes Ceiro; hefyd i Ian ac Ann Elias (Caergywydd gynt) ar enedigaeth mab bach, Tomos Cai, ŵyr i Mrs Ray Evans, Maes Ceiro.

Cydymdeimlir

yn ddwys â theulu'r ddiweddar Vera Lloyd a fu farw yn ysbyty Bronglais ddydd Sadwrn, 6 Chwefror 2011. Bu Bryn, Nerys a'r teulu, ac Aled yn hynod o ofalus o Vera yn ystod ei chystudd blin; hefyd â Meinir a Bryn Roberts a'r teulu ar farwolaeth Mrs Dilys Davies, mam Meinir ddydd Mercher, 9 Chwefror 2011, a'r Parchn Wyn a Judith Morris. Bu farw mam Wyn, Laura Myfanwy Morris, yn dawel yng Nghaerfyrddin ddydd Gwener, 18 Chwefror.

Yr Wythnos Weddi dros Undod Cristnogol

Fel rhan o'r wythnos, cynhaliwyd oedfa ddwyieithog yn ysgoldy Bethlehem, Llandre, nos Fawrth, 25 Ionawr 2011. Trefnwyd yr oedfa gan y Parch Ddr David Williams, ficer â gofal Eglwys Llanfihangel Genau'r Glyn. Cymerwyd rhan gan rai o aelodau'r Eglwys a Chapel y Garn, a phregethwyd gan y Parch. Richard Lewis.

Oedfa'r Bore

Dydd Sul, 23 Ionawr 2011, fel rhan o'r Wythnos Weddi dros Undod Cristnogol, darlledwyd oedfa arbennig dan arweiniad y Parchn Wyn a Judith Morris ar Radio Cymru.

Cymdeithas Lenyddol y Garn

Cafwyd dechrau arbennig i'r flwyddyn gyda sgyrsiau difyr gan ddau o 'dadau ifanc' yr eglwys. Testun Dr Rhodri Llwyd Morgan oedd y 'Cymro Croen-denau', sef delwedd y Cymry yng ngwaith awduron o'r cyfnod yr Oesoedd Canol cynnar ymlaen, a chafwyd cyflwyniad i farddoniaeth Iwan Llwyd gan Geraint Williams.

Cyfarfod Gweddi Dechrau'r Flwyddyn

Cynhaliwyd y cwrdd gweddi nos Wener, 7 Ionawr, a chymerwyd rhan gan y Parch Elwyn Pryse, Mr Eddie Jenkins, Mrs Dilys Baker-Jones a Mr Wynne Melville Jones. Cafwyd gair hefyd gan y Bugail, y Parch Wyn Morris, i derfynu'r cwrdd, a chyfeiliwyd gan Mr Alan Wynne Jones.

Uno dwy eglwys

Ar 1 Ionawr 2011, unwyd eglwys y Gerlan, y Borth, ag eglwys y Garn. Estynnwn groeso cynnes i gyn-aelodau'r Gerlan wrth iddynt ymuno â theulu'r eglwys sy'n addoli yn y Garn.

Am archif newyddion 2010, cliciwch yma.




©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu