i Alun a Siân, Caergywydd, ar enedigaeth merch fach, Hanna, ddydd Llun, 28 Rhagfyr, chwaer fach i William a Gerwyn, a'r wyres gyntaf i Ray Evans, Maes Ceiro.
Dymuna'r Grŵp Help Llaw ddiolch i bawb a gyfrannodd stampiau ar gyfer OXFAM a chardiau Nadolig i'w hailgylchu er budd Coed Cadw.
Daeth nifer ynghyd am 9 o'r gloch i ddathlu'r Nadolig mewn oedfa gymun dan arweiniad y Gweinidog. Cafwyd neges bwrpasol ganddo, a da oedd gweld rhai o 'blant yr Eglwys' ac aelodau o eglwysi eraill yn ymuno â ni yn y gwasanaeth.
Er gwaetha'r tywydd gaeafol, cynhaliwyd dwy oedfa i baratoi ein hunain ar gyfer yr Ŵyl. Yn y bore, arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parch J E Wynne Davies, a'i thema oedd: 'Llawenychasant â llawenydd mawr pan welsant y seren.' Gwasanaeth y Garol a'r Gair a gafwyd yn yr hwyr, a chymerwyd rhan gan nifer o ieuenctid ac aelodau'r eglwys. Trefnwyd y gwasanaeth gan ein Gweinidog, a chyfeiliwyd gan Alan Wynne Jones, gyda chymorth Gwern, Iestyn a Ffion.
i Alun ac Enid Jones ar ddod yn daid a nain unwaith eto. Ganed mab bach, Deio, i Gwion a Manon yn Nefyn ar 10 Rhagfyr; hefyd i Carys a Siôn Owen ar enedigaeth mab bach, Deio Elis, a aned ar 15 Rhagfyr, ŵyr i Ambrose a Margaret Roberts.
Cynhaliwyd oedfa Nadolig y plant bore Sul, 13 Rhagfyr 2009, yng Nghapel y Garn. Cyflwynwyd stori'r Nadolig (gydag ambell ychwanegiad cyfoes) gan blant yr ysgol Sul, ac yn dilyn hynny fe gafwyd neges bwrpasol gan y Gweinidog. Yn dilyn y gwasanaeth cafwyd parti yn y festri i'r plant oedd wedi cymryd rhan yn y cyflwyniad.
Unwaith eto eleni bu'r Grŵp Help Llaw yn gyfrifol am gydlynu'r ymgyrch hon. Derbyniwyd 59 o focsys wedi'u llenwi i'r ymylon a £258 mewn rhoddion ariannol. Diolch am eich cefnogaeth, ac i Ysgol Sul Capel Seion am ymuno gyda ni eleni.
â Gill a Glyn Saunders Jones a'r teulu ar farwolaeth mam Gill, sef Mrs Renee Edwards, Rhuthun, ar 4 Rhagfyr.
Cynhaliwyd y ffair flynyddol bore Sadwrn, 28 Tachwedd 2009, yn Neuadd Rhydypennau. Fe'i hagorwyd gan Alan ac Ann Wynne Jones a chyflwynwyd blodau iddynt gan William a Gerwyn, Caergywydd. Cafwyd cyfle i brynu nwyddau amrywiol y stondinau lliwgar a rhoi cynnig ar sawl cystadleuaeth Trefnwyd y ffair eleni eto gan y Chwiorydd a chafwyd cefnogaeth dda i'r achlysur.
Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig bore Sul, 15 Tachwedd 2009, dan arweiniad y Gweinidog i nodi Sul yr Urdd. Soniodd Wynne Melville Jones am arwyddair y mudiad, a chafwyd ymweliad annisgwyl gan neb llai na Mistar Urdd ei hun. Yn ystod y gwasanaeth bedyddiwyd Gruffydd Siôn, mab Geraint a Nia, a brawd Lleucu; a Tomos Llywelyn, mab Chris a Carwen, a brawd Lois.
Cynhaliwyd y cwrdd diolchgarwch blynyddol nos Iau, 22 Hydref, dan arweiniad y Parch. Cen Llwyd.
i Elfyn ac Anna ar enedigaeth merch fach, Lois Elfyn, ar 20 Hydref, wyres fach gyntaf Liz Jones.
â Gwen ac Ian Cole ar farwolaeth tad Gwen, John Edwards, ddydd Sul, 18 Hydref.
Daeth cynulleidfa luosog ynghyd i wasanaeth diolchgarwch yr ofalaeth yng Nghapel y Garn, bore Sul, 11 Hydref dan arweiniad y Gweinidog, y Parch Wyn Morris. Thema'r gwasanaeth oedd 'Bod yn ddiolchgar', yn seiledig ar hanes Iesu'n iacháu'r deg gwahanglwyf. Cymerwyd rhan gan blant yr ysgol Sul a rhai o rieni ifainc yr eglwys, a chafwyd cyflwyniad gweledol i atgyfnerthu'r neges. Gwnaed casgliad tuag at Gyngor yr ysgolion Sul a'r NSPCC.
Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig o groeso fore Sul, 20 Medi, dan arweiniad y Gweinidog, a braf oedd gweld cynulleidfa dda wedi dod ynghyd ar gyfer yr oedfa. Defnyddiwyd amrywiol ddulliau, yn gyflwyniad gweledol, dramodig i'r plant, darlleniadau, gweddïau ac anerchiad i gyfleu hanes Sacheus, a'i neges i ni heddiw.
i Ann Evans, Caergywydd gynt, ar ei phriodas ag Ian Elias yn Efrog Newydd ar 4 Medi.
i Dilys a Vernon Jones ar enedigaeth wyres, Ela Grug, ar 2 Medi, merch i Non a Gerwyn, a chwaer fach i Glain Erin.
Llongyfarchiadau i Gwyneth Keyworth ar ei chanlyniadau Safon Uwch ac ar ei hymddangosiad yn y ffilm Framed a ddarlledwyd ar BBC1 nos Lun, 30 Awst; ac i Iwan Williams ar ei ganlyniadau ardderchog yn ei arholiadau TGAU.
i Delyth a Rheinallt Morgan ar enedigaeth merch fach, Gwawr Eluned, chwaer i Glesni a Teleri; i Geraint a Nia Williams ar enedigaeth mab bach, Gruffydd Siôn, brawd i Lleucu Siôn; i Carwen a Chris Jones ar enedigaeth mab bach, Tomos Llywelyn, brawd i Lois Medi; ac i Lowri ac Owain Schiavone ar enedigaeth mab bach, Llew Ifan. Mae'r argoelion yn dda ar gyfer dyfodol yr ysgol Sul!
i Vernon Jones ar ei lwyddiant yn ennill y wobr gyntaf am delyneg ar y testun 'Gafael' yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala.
Ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol y Bala, cyhoeddwyd cyfrol o atgofion am Buddug James: Brenhines y Ddrama, a fu mor ffyddlon a gweithgar yn y Garn, yn enwedig gyda'r ysgol Sul a'r ieuenctid. Mae'r gyfrol yn cynnwys cyfraniadau gan nifer o'r aelodau a thrigolion yr ardal, ac yn deyrnged deilwng i gymeriad unigryw.
Cynhaliwyd 'Te Prynhawn' ddydd Sadwrn, 25 Gorffennaf, yng ngardd Pantyperan, Llandre, i godi arian at Apêl Huw Edwards, i brynu cadair olwyn arbenigol i Huw. Roeddem yn falch o gael cwmni Huw yn y digwyddiad, ac fe godwyd dros £2,000 tuag at yr apêl.
i Mrs Linda Jones ar ei hymddeoliad fel athrawes yn ysgol Rhydypennau ers nifer fawr o flynyddoedd.
i Alun ac Enid Jones ar ddod yn daid a nain i efeilliaid. Ganed mab a merch, Iolo a Branwen, i Garmon a Lowri yng Nghaerdydd ar 12 Gorffennaf.
Bore Sul, 12 Gorffennaf 2009, cynhaliwyd oedfa haf yr ofalaeth yng Nghapel Madog dan arweiniad y Gweinidog, a braf oedd gweld cynulleidfa deilwng wedi dod ynghyd i'r achlysur arbennig hwn.
Nos Wener, 5 Mehefin cynhaliwyd y te blynyddol yn ysgoldy Bethlehem, Llandre. Y gwesteion arbennig oedd Wynne a Linda Melville Jones, a darparwyd yr adloniant gan Bryn Roberts a Kathleen Lewis.
Bore Sadwrn 30 Mai, daeth rhai o aelodau'r ofalaeth at ei gilydd i Gapel y Garn i dreulio munudau tawel o fyfyrdod a gweddi, dan arweiniad y Gweinidog. I ddarllen un o'r gweddïau a rhai pwyntiau gweddi, ewch i dudalen
Myfyrdodau
Cynhaliwyd oedfa arbennig ar ddiwedd wythnos Cymorth Cristnogol fore Sul, 17 Mai 2009, dan arweiniad ein Gweinidog. Thema ei anerchiad oedd 'Cariad yw Duw': cariad sy'n adnabod, yn llifo ac yn trawsnewid. Yn dilyn yr oedfa, cynhaliwyd Cinio Bara a Chaws er budd Cymorth Cristnogol.
Dyna oedd thema oedfa'r bore Cymanfa Unedig Gogledd Ceredigion ddydd Sul, 10 Mai 2009 yng Nghapel Bethel, Aberystwyth. Cymerwyd rhan gan blant ysgolion Sul y cylch a diolch i Iestyn, Gwern a Glesni am gyflwyno hanes y Daith i Emaus ar ran y Garn. Roedd yr oedfa dan arweiniad Andy Hughes, David Timothy a'r band, ac roedd yn hyfryd gweld tyrfa mor luosog yn bresennol. Cynhaliwyd cymanfa'r oedolion yn yr hwyr, dan arweiniad Mrs Carol Davies, Henllan.
yn ddwys iawn â Mrs Ray Evans, Siân ac Ann, a theulu'r diweddar John Evans, Caergywydd, a fu farw ddydd Mercher, 6 Mai 2009.
Cynhaliwyd dwy oedfa gymun i'r ofalaeth dan arweiniad y Gweinidog dros gyfnod y Pasg - y gyntaf ar fore'r Groglith yng Nghapel Rehoboth, Taliesin, a'r ail ar fore Sul y Pasg yng Nghapel y Garn.
Cynhaliwyd bore coffi yn festri'r Garn bore Sadwrn, 21 Mawrth 2009, i godi arian tuag ymgyrch ddiweddaraf Eric Harris i gynorthwyo trigolion Mostar, Bosnia. Roedd y trefniadau dan ofal y Grŵp Help Llaw, a llwyddwyd i godi swm sylweddol tuag at yr achos arbennig hwn. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.
I gloi'r tymor am eleni, nos Wener, 20 Mawrth, aeth aelodau'r Gymdeithas i'r Llyfrgell Genedlaethol. Yno, mwynhawyd detholiad o ffilmiau Cymreig, gan gynnwys y clasur Noson Lawen - a ddaeth â llawer o atgofion nôl! Yna, ymlaen i Bendinas lle roedd bwffe wedi'i baratoi ar ein cyfer. Diweddglo blasus i flwyddyn lwyddiannus arall o gyfarfodydd.
Ymunodd Chwiorydd y Garn ac Eglwys Llanfihangel Genau'r Glyn yn y cwrdd gweddi a gynhaliwyd yng Nghapel Noddfa, bnawn Gwener, 6 Mawrth. Paratowyd y gwasanaeth eleni gan chwiorydd Papua Guinea Newydd, ar y thema 'Yng Nghrist y mae aelodau lawer ond corff', a rhoddwyd yr anerchiad gan Mrs Mair Lewis.
Prynhawn Sul, 1 Mawrth, darlledwyd rhaglen arbennig i ddathlu pum mlynedd ar hugain er cyhoeddi Clap a Chân i Dduw gan Eddie Jones, gyda phlant Ysgol Rhydypennau yn cyflwyno ac yn canu detholiad o'r caneuon.
Daeth cynulleidfa luosog iawn o holl eglwysi'r ofalaeth i gapel y Garn fore Sul, 1 Mawrth, i ddathlu gŵyl ein nawddsant mewn gwasanaeth arbennig. Cymerwyd rhan gan blant ac ieuenctid yr ofalaeth yn ogystal ag unigolion o'r gwahanol eglwysi. Cyflwynwyd neges Dewi gan ein Gweinidog: Byddwch lawen; cedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain.
Cafodd y criw noson hwyliog nos Iau, 26 Chwefror, i ddathlu gŵyl ein nawddsant. I ddechrau cafwyd cawl blasus wedi'i baratoi gan Heulwen ac Aeronwy, ac yna gwis difyr dan ofal Lyn Léwis Dafis. Diolch i Dewi Hughes am ei ofal arferol gyda'r trefniadau ac i'r Gweinidog am ei gefnogaeth.
Daeth Iwan Meical Jones i'r Gymdeithas, nos Wener, 20 Chwefror, i ddangos rhai o luniau'r ffotograffydd arloesol hwn o Gellan, Ceredigion, yn wreiddiol. Rhyfeddwyd at ddawn John Thomas i greu delweddau cofiadwy o gymeriadau'r cyfnod, a gyflwynwyd mor ddifyr gan Iwan.
i Manon a Gwion ar enedigaeth mab bach, Ianto Jac James, ar 6 Chwefror, ac i Wynne a Linda am ddod yn dad-cu a mam-gu am y tro cyntaf. Pob dymuniad da i chi fel teulu.
Pnawn Mercher, 4 Chwefror, cafwyd cyfarfod difyr iawn yng nghwmni'r Athro Gruffydd Aled Williams. Testun ei sgwrs oedd yr athrylith Siôn Dafydd Rhys.
Nos Wener, 16 Ionawr 2009, cafwyd noson arbennig yng nghwmni dau brifardd lleol, sef Dafydd John Pritchard a Huw Meirion. Pleser oedd gwrando ar y ddau fardd dawnus yn darllen detholiad amrywiol o'u cerddi, ac yn esbonio cefndir eu gwaith.
Diolch i bawb a gyfrannodd stampiau wedi'u torri oddi ar amlenni (i Oxfam), a chardiau Nadolig (i sefydliad Coed Cadw). Aeth Mr Eddie Jones â thua dwy fil ar bymtheg o stampiau i Oxfam, a throsglwyddwyd nifer sylweddol o gardiau i Goed Cadw.
Am archif newyddion 2008, cliciwch
yma.
Am archif newyddion 2010, cliciwch
yma.