Cenhadaeth yn ymwneud ag eglwysi ar draws tair sir oedd Taith Dewi Sant, gan ddechrau yn Nhalacharn yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin ac yna ymestyn ar draws siroedd Penfro a Cheredigion gyfan hyd at Aberystwyth yn y gogledd. Fe ofynnodd arweinwyr eglwysig lleol i'r gwasanaeth cenhadol
Through Faith Missions gydlynu'r tair wythnos, a gwahodd pob eglwys yn yr ardal i gymryd rhan.
Gyda'r Parchedig Daniel Cozens, efengylydd ac un a bregethwyr Caergaint, yn arweinydd ers 34 mlynedd, mae TFM wedi cyd-drefnu cannoedd o genadaethau ar draws Prydain, gan gynnwys teithiau cenhadol ar raddfa eang fel hon. Mae gan TFM nifer o weithwyr llawn-amser profiadol, yn ogystal â chenhadon gwirfoddol dawnus. Bu dros 4,000 o wŷr a gwragedd yn gweithio mewn timau yn cynorthwyo eglwysi lleol gyda'u cenhadaeth.
I ddarllen mwy am y genhadaeth, cliciwch
Taith Dewi Sant
I ddarllen cyfieithiad o sylwadau Richard Winski, un o genhadon Taith Dewi Sant, cliciwch
ymateb Richard
To read some comments by Richard Winski from Cambridge, one of the Walk Saint David team members, click
Richard's reflections
![Cenhadon Taith Dewi Sant y tu allan i Gapel y Garn Cenhadon Taith Dewi Sant y tu allan i Gapel y Garn](lluniau/taithdewisant1.jpg)
Mawr fu'r edrych ymlaen at yr wythnos gyntaf ym mis Hydref. Dyma oedd penllanw misoedd o baratoi manwl ar gyfer cenhadaeth Taith Dewi Sant ym mhentrefi Bow Street, Capel Bangor, Llandre, Penrhyn-coch,Taliesin a Thal-y-bont. Cynrychiolwyr o'r gwahanol eglwysi yn y cylch oedd aelodau'r tîm cynllunio lleol a buont wrthi'n ddyfal yn paratoi ar gyfer pob agwedd yn ymwneud â'r genhadaeth gan gynnwys llunio gweithgareddau'r wythnos, cyhoeddusrwydd, trefniadau llety a lluniaeth, yn ogystal â chludiant.
Fe'n hysbywyd mai deg o genhadon a fyddai'n dod i'r ardal ond oherwydd rhesymau personol a theuluol dim ond wyth a ddaeth yn y diwedd. Roeddent wedi teithio cyn belled ag Ynysoedd Erch (Stuart), Caergrawnt (Richard), Peterborough (Dave), Burnley (Peter), Bournemouth (Neil), Poole (Ian), Llangennech (Derek) ac Eric (Y Bala). Er i ni obeithio y byddai mwy o'n cydwladwyr wedi cymryd rhan yn y genhadaeth, yn y diwedd roeddem yn ffodus bod dau o'r cenhadon yn siarad Cymraeg.
Cyrhaeddodd y mwyafrif o'r tîm ar y nos Wener (1af o Hydref) er mwyn teithio i lawr i Aberteifi ar gyfer yr Oedfa Gomisiynu am 11.00 o'r gloch ar y bore Sadwrn canlynol. Yn ystod hanner cynta'r wythnos bu'r cenhadon yn cysgu ar lawr festri Capel y Garn yn Bow Street. Roedd gofalwyr y capel, Ian a Gwen Cole, wrth law i sicrhau bod eu harhosiad mor gartrefol â phosib. Bu nifer o aelodau'r eglwys hefyd yn garedig iawn yn darparu gwelyau cynfas/plygu ar gyfer y tïm er mwyn eu galluogi i gael noson dda o gwsg, neu fel arall byddai'r cenhadon wedi gorfod cysgu ar lawr y festri.
Wedi brecwast bob bore byddai'r tîm yn mwynhau egwyl gyda'i gilydd yn gweddïo, myfyrio ac yn cynnal astudiaethau Beiblaidd cyn bwrw ati i ddiwrnod llawn o weithgarwch a oedd yn cynnwys ymweld ag ysgolion cynradd yr ardal, y Brownis a'r Geidiau, cartrefi'r henoed, cartrefi lloches, boreau coffi, yn ogystal â chenhadu o ddrws i ddrws. Gyda'r nos caent gyfle i ymweld â'r tafarndai yn y gwahanol bentrefi. Er nad oedd y rhan fwyaf o aelodau'r tîm wedi cyfarfod yn flaenorol, eto i gyd o fewn ychydig amser roeddent mewn cytgord llwyr â'i gilydd. Ar y cyfan rhoddwyd croeso cynnes iddynt gan drigolion yr ardal ac yn arbennig felly gan y rhai a oedd wedi paratoi prydau o fwyd iddynt gyda'r nos.
Dydd Mercher oedd y diwrnod newid drosodd, gyda'r tîm yn symud i Benrhyn-coch. Penderfynodd y cenhadon eu bod am gerddedd y daith ar hyd y lonydd culion a chawsant eu bendithio â thywydd hydrefol braf. Cyn pen dim roeddent wedi gwneud eu hunain yn gysurus yn eu cartref newydd yn festri capel Horeb a chyda chymorth Ian Cole a threiler Merfyn James cludwyd y gwelyau a'r matresi draw o Gapel y Garn.
Yn ystod yr wythnos cynhaliwyd nifer o oedfaon arbennig yn ogystal â'r gwasanaethau Sul arferol. Bu oedfa ddiolchgarwch Cymdeithas y Chwiorydd yng Nghapel y Garn ar brynhawn dydd Mercher gydag un o'r cenhadon, y Parchedig Eric Greene, yn pregethu. Ar y nos Fercher cynhaliwyd dwy oedfa ddiolchgarwch, y naill yn Eglwys Capel Bangor lle bu Roger Murphy, Efengylydd gyda Through Faith Missions yn pregethu, a'r llall yn Neuadd Penrhyn-coch o dan arweiniad y Parchedig Tecwyn Ifan, Ysgogwr Cymanfa gyda'r Bedyddwyr yn Ninbych, Fflint a Meirion. Yn ogystal, cynhaliwyd Gwasanaeth Iacháu yng nghapel Horeb ar y nos Wener.
Ar y bore Sul olaf bu'r cenhadon yn mynychu nifer o oedfaon yng nghapeli ac eglwysi'r ardal cyn dychwelyd i Neuadd yr Eglwys ym Mhenrhyn-coch ar gyfer cinio, wedi'i baratoi'n garedig gan rai o aelodau'r capel a'r eglwys. Yn y rhan fwyaf o'r gwasanaethau bu'r cenhadon yn rhoi eu tystiolaeth, rhywbeth a werthfawrogwyd yn fawr gan bawb a gafodd y fraint o wrando arnynt. Darparwyd offer cyfieithu ar y pryd ar gyfer rhai oedfaon er mwyn galluogi'r cenhadon di-Gymraeg i ddeall yr hyn a oedd yn digwydd. Mawr yw ein diolch i Mrs Llinos Dafis am gyfieithu.
Pa elw felly a ddaeth i eglwysi'r cylch yn sgil cynnal Taith Dewi Sant? Heb amheuaeth, bu'r genhadaeth yn fodd i ddarparu ffocws arbennig i alluogi eglwysi'r ardal i gyd-weithio ac o ganlyniad mae'r gweithlu lleol wedi penderfynu cyfarfod yn rheolaidd o hyn ymlaen i drefnu digwyddiadau cydenwadol ac i annog ei gilydd yn ein gweinidogaeth Gristnogol.
Hefyd, cafodd ein ffydd ei gryfhau a'i herio yn ystod yr wythnos wrth i rai ohonom fod yng nghwmni'r cenhadon bron bob awr o'r dydd. Roeddent mor daer a brwdfrydig yn eu hawydd i rannu'r Efengyl ag eraill. Efallai ein bod wedi teimlo ychydig yn betrusgar cyn iddynt gyrraedd ond gwelsom yn fuan nad pobl uwchysbrydol oeddent ond pobl gyffredin, yn union fel chi a fi!
Mae'r Arolwg a gynhaliwyd gan y cenhadon wrth fynd o ddrws i ddrws wedi dangos yn glir fod y rhan fwyaf o bobl yn dal i gredu mewn Duw neu o leia, yn chwilio am adnabyddiaeth ohono. Holwyd tua 200 o bobl yn ystod yr wythnos a dyma oedd y canlyniadau:
Ydwyf (60%) / Nac ydwyf (22%) /Ddim yn siŵr (18%)
Grym (15%) / Pell (8%) / Personol (53%) / Rhywbeth arall (24%)
Rydym yn marw a dyna ni (20%)
Down yn ôl i'r byd ar ffurf arall neu fel person arall (8%)
Mae pawb yn mynd i'r nefoedd (17%)
Mae rhai yn mynd i'r nefoedd ond fe â eraill i uffern (16%)
Ddim yn siŵr (28%)
Rhywbeth arall (11%)
Ni fu'n bod o gwbl (3%)
Roedd yn ddyn cyffredin a dim byd mwy (17%)
Roedd yn broffwyd neu'n negesydd oddi wrth Dduw (24%)
Ef yw unig Fab Duw (40%)
Arall (16%)
Dyma rai posibiliadau:
Pam na wnei di ddangos dy hun fel y daw pawb i gredu ynot? (9%)
Pam ydw i ar y ddaear? (6%)
Pam mae cymaint o ddioddefaint yn y byd? (44%)
Pam wnaethost ti greu y byd yn y lle cyntaf? (11%)
Rhywbeth arall (30%)
Na fyddai (11%) / Byddai (58%) / Ddim yn siŵr (28%) / Rhyw ymateb arall (3%)
Yn sicr bu Taith Dewi Sant yn galondid mawr i bawb a fu'n ymwneud â hi. Rydym i gyd yn gobeithio y bydd yr hadau newydd a blannwyd yn ein cymunedau yn dwyn ffrwyth a thystiolaeth i'n Harglwydd Iesu maes o law.
Gyda mawr ddiolch i bawb a roddodd groeso a chymorth yn ystod Taith Dewi Sant.
Judith a Wyn Morris
Adnabod Duw yn Bersonol
![Adnabod Duw yn Bersonol Adnabod Duw yn Bersonol](lluniau/adnabodwyneb.gif)
Adnodd pwysig i'w ddefnyddio yn ystod Taith Dewi Sant oedd y llyfryn ?Adnabod Duw yn Bersonol?. Fe'i cyfieithwyd yn arbennig ar gyfer y genhadaeth gyda'r bwriad o gyflwyno neges yr efengyl mewn sgwrs un ag un. Mawr yw ein diolch i Lyn Lewis Dafis, Aberystwyth, am y gwaith o'i gyfieithu.
Mae'r llyfryn bychan, 18 tudalen, yn amlinellu'r hyn a olygir wrth ddod yn Gristion, drwy feithrin perthynas bersonol â Duw. Fe'i hysgrifennwyd yn gyntaf yn yr iaith Saesneg (
Knowing God Personally) gan sylfaenydd Agapé, sef Bill Bright, yn 1956 ac yn ystod y 50+ mlynedd dilynol cynhyrchwyd dros 2.5 biliwn o gopïau ohono mewn dros 200 o ieithoedd.
Erbyn hyn gallwn ymfalchïo ei fod ar gael yn Gymraeg. Gwerthfawrogir y cyfraniad ariannol sylweddol a dderbyniwyd gan Fwrdd Bywyd a Thystiolaeth, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, tuag at y gost o'i gynhyrchu.
Mae strwythur arbennig i'r llyfryn gydag adnodau o'r Beibl yn cyfeirio at y pwyntiau allweddol, ynghyd â chwestiynau treiddgar sy'n herio'r unigolyn i ymateb. Mae'r llyfryn hefyd yn egluro'r hyn sy'n digwydd pan ddaw rhywun yn Gristion a sut y gall ef neu hi dyfu fel disgybl i'r Iesu. Tanlinellir y pedair egwyddor sylfaenol canlynol:
Egwyddor Un: Mae Duw yn ein caru ac mae wedi ein creu er mwyn i ni ei adnabod.
Egwyddor Dau: Cawsom ein gwahanu oddi wrth Dduw oherwydd ein pechod, ac felly ni allwn ei adnabod na phrofi ei gariad.
Egwyddor Tri: Iesu Grist yw'r unig ateb i'n pechod. Dim ond trwyddo ef y gallwn adnabod Duw a phrofi ei gariad a'i faddeuant.
Egwyddor Pedwar: Rhaid i bob un ohonom ymateb trwy ofyn i Iesu ddod i mewn i'n bywydau. Yna fe allwn ni adnabod Duw yn bersonol a phrofi ei gariad a'i faddeuant.
Nid yw'n ddigon dim ond gwybod neu deimlo fod hyn yn wir. Rhaid i ni ddewis ...
Â'r llyfryn yn ei flaen i sôn mai'r unig ffordd y gellir dechrau perthynas gyda Duw yw drwy roi ein bywyd yn ei ddwylo ef. Gofynnir i ni ddweud hyn wrth Dduw a'i feddwl:
Arglwydd Iesu,
rydw i am dy adnabod yn bersonol.
Mae'n ddrwg gen i am ddilyn fy ffordd fy hun
yn hytrach na dy ffordd di.
Diolch i ti am farw ar y groes
er mwyn maddau fy mhechod.
Tyrd i mewn i fy mywyd
a chymer y lle blaenaf
a'm gwneud i
yr hyn yr wyt ti am imi fod.
Mae'r llyfryn ar gael drwy gysylltu ag Agapé, 3 Temple Row West, Birmingham B2 5NY (Rhif Ffôn: 0121 765 4404) ac mae 1 pecyn o 25 copi yn costio £4.50. Mae'n bosibl hefyd lawrlwytho'r llyfryn oddi ar y we,
www.agape.org.uk Dyma adnodd arbennig i'w roi yn eich poced, waled neu fag llaw, gan ei wneud yn offeryn delfrydol ar gyfer cenhadu.