Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Cymdeithas y Chwiorydd


Y Parchedig W J a Gwenda Edwards yn agor Ffair y Capel, Tachwedd 2006Bydd chwiorydd y Garn yn cyfarfod yn fisol am 2.30 o'r gloch ar y dydd Mercher cyntaf yn y mis o Hydref hyd Ebrill.

Nod y cyfarfod yw helpu i gynnal y gymdeithas o fewn a thu allan i'r Eglwys gyda defosiwn a siaradwr/wraig, a mwynhau sgwrs dros baned o de. Rhydd y casgliad gyfle hefyd i gyfrannu ychydig at sawl achos da.

I gael manylion am y cyfarfodydd unigol, ewch i'r dyddiadur.

Mae croeso i unrhyw un droi i mewn atom.








Medi 2010?Ebrill 2011


Ddydd Mercher, Ebrill 6ed 2011, cynhaliwyd cyfarfod olaf y tymor. Diolchwyd i'r swyddogion am y rhaglen ddifyr ac amrywiol a gafwyd drwy'r tymor. Llinos Dafis oedd yn y gadair a Kathleen Lewis oedd yn cyfeilio.

Yn ystod y tymor rydym wedi ymweld, drwy gyfrwng lluniau, ag Oberammergau, Patagonia a Nepal, a'r tro yma taith i wlad Pŵyl yng nghwmni Meinir Lowry a Llinos Dafis oedd yr arlwy, i gloddfa halen Wieliczka i fod yn fanwl gywir, sydd rhyw 10 milltir o Krakow. Bu'r gloddfa hon yn cynhyrchu halen ers o leiaf fil o flynyddoedd ac i ddynodi ei phwysigrwydd fe'i rhoddwyd ar restr gyntaf UNESCO o Safleoedd Treftdadaeth y Byd yn 1978. Yr hyn sy'n rhyfeddod yn ei chylch bellach yw'r holl gerfluniau, galeriau, siambrau a chapeli tanddaearol gwych sydd i'w gweld yno, - i gyd wedi eu naddu o halen, a'r cwbl o waith y cloddwyr eu hunain.

Mrs Nansi Thirsk oedd y wraig wadd ym mis Mawrth. Mae hi'n hanu o'r Bala ac yn gyfreithiwr yn Nolgellau, ond mae gwreiddiau teulu ei mam yn ddwfn yn yr ardal yma. Mae hi'n wyres i'r Dr T Ifor Rees, ac yn orwyres i'r cerddor J T Rees.

Mae Nansi wedi bod yn ymweld yn gyson, Nepal ers tua saith mlynedd bellach a dyna oedd testun ei sgwrs. Mynd i gefnogi ffrind iddi, sydd bellach yn brifathrawes Ysgol Llanuwchllyn, a wnaeth hi yn y lle cyntaf. Ar ymweliad blaenorol ag ardal dlawd a chyntefig yn Nepal, roedd ei fffrind, Dilys, wedi ei syfrdanu gan dlodi ac amddifadedd yr ardal. Ar ôl dod yn ôl roedd hi wedi mynd ati i godi arian i geisio gwella'r sefyllfa trwy greu adeilad mwy pwrpasol i'r ysgol. Erbyn hyn mae yna ysgol fodern yr olwg sydd ? phob math o gyfleusterau cyfrifiadurol a thechnolegol.

Mae Nansi a Dilys yn dychwelyd i Nepal bob rhyw ddwy flynedd a bellach mae partneriaeth wedi datblygu gyda chynrychiolaeth o Nepal yn dod i ymweld â Chymru yn gyson hefyd. Yn ystod gwledd o luniau hyfryd o'r ardal anghysbell hon, y brodorion, y plant, yr anifeiliaid a'r mynyddoedd, ac o daith dridiau i un o gopaon y mynyddoedd i weld yr haul yn codi, daeth yn amlwg bod dawn ei thad-cu i dynnu lluniau a'i hoffter o fynyddoedd wedi eu trosglwyddo i'w wyres.

Mrs Gwenan Price, Mrs Shân Hayward, Mrs Anne Jones, Mrs Bethan Jones a'r Parchg Judith Morris oedd yn gyfrifol am y te. Judith Morris arweiniodd y defosiwn agoriadol gyda Gwenan Price yn darllen a Kath Lewis yn cyfeilio. Llinos Dafis oedd yn cadeirio.

Tegwyn Jones oedd ein gŵr gwadd ym mis Chwefror. Serendipity oedd ei destun annisgwyl. Esboniodd mai ystyr y gair yw'r pleser a geir o ddod ar draws rhywbeth annisgwyl a gwell na'r hyn a ddisgwylid. Rhoddodd Tegwyn enghreifftiau di-ri o'r math yma o ddarganfyddiad a ddaethai i'w ran pan oedd e'n gweithio ar Eiriadur y Brifysgol ? yn gerddi, emynau, nodiadau, a chofnodion. Roedd y rhan fwyaf wedi eu hysgrifennu ar dudalennau gwyn gwag blaen a chefn llyfrau, neu ochr-ddalen llawysgrifau, a hynny ar adeg pan oedd papur yn beth prin. Yn gellweirus awgrymodd y gallai hyn fod yn rheswm dros yr amser hir a gymerwyd i gyhoeddi'r Geiriadur! Roedd pob enghraifft a rannodd ? ni yn ddifyr, a doniolwch naturiol Tegwyn yn ychwanegu at y mwynhad.

Chwiorydd Bow-Street oedd yn gyfrifol am y te ? Joyce Bowen, Kath Lewis, Meinir Lowry, Eirlys Owen a Janet Roberts. Meinir Lowry arweiniodd y defosiwn agoriadol, gyda Kath Lewis yn cyfeilio a Llinos Dafis yn y gadair.



Tymor yr Hydref 2009



I ddechrau'r tymor, cynhaliwyd Cyfarfod Diolchgarwch y Chwiorydd brynhawn Mercher, 7 Hydref. Llywydd y cyfarfod gan Mrs Gwenda Edwards a lluniwyd y gwasanaeth gan y Barchedig Judith Morris. Cymerwyd rhan gan nifer o'r chwiorydd a gwnaed casgliad tuag at Ffagl Gobaith.

Prynhawn Mercher, 4 Tachwedd, croesawyd Mrs Dilys Jones, Aber-arth, fel gwraig wadd. Testun ei sgwrs oedd 'Bywyd ar ôl Ymddeol' ac fe gafwyd cyfarfod difyr yn ei chwmni.

Ffair Nadolig y Garn - Cynhaliwyd y ffair flynyddol bore Sadwrn, 28 Tachwedd 2009, yn Neuadd Rhydypennau. Fe'i hagorwyd gan Alan ac Ann Wynne Jones a chyflwynwyd blodau iddynt gan William a Gerwyn, Caergywydd. Cafwyd cyfle i brynu nwyddau amrywiol y stondinau lliwgar a rhoi cynnig ar sawl cystadleuaeth Trefnwyd y ffair eleni eto gan y Chwiorydd a chafwyd cefnogaeth dda i'r achlysur.

Parhawyd gyda thema'r Nadolig yng nghyfarfod mis Rhagfyr pan groesawyd yr artist a'r cymeriad Ruth Jên i sôn am 'Hwyl y Nadolig'.



Medi 2007?Ebrill 2008


Dechreuwyd y tymor ar 3 Hydref 2007, gyda Chyfarfod Diolchgarwch. Cymerwyd rhan gan nifer o'r aelodau a thraddodwyd yr anerchiad gan y Barchedig Judith Morris.

Yng nghyfarfod mis Tachwedd, cafwyd cyfle i wrando ar Margaret Rees yn sôn am ei thaith i China. Cynhaliwyd y ffair flynyddol yn Neuadd Rhydypennau ar 24 Tachwedd. Agorwyd y ffair eleni gan Erddyn a Gwenda James, a chyflwynwyd blodau iddynt gan Owen Drakeley.

Cyfarfod yn naws y Nadolig a gafwyd ar ddechrau mis Rhagfyr, a hynny ym Methlehem, Llandre. Cymerwyd rhan gan nifer o'r aelodau ? a chafwyd cyfle i wrando ar hanesion plentyndod, traddodiadau, storïau a darlleniadau yn ymwneud â'r Nadolig.

Yng nghyfarfod cyntaf 2008, y gŵr gwadd oedd Gareth William Jones, a thestun ei sgwrs oedd tair Cymraes amlwg ym myd llenyddiaeth plant, sef Moelona, Elizabeth Watkin Jones ac Emily Huws. Treuliwyd orig ddifyr yng nghwmni Teulu Bach Nantoer, Luned Bengoch a Babi Gwyrdd.

Pnawn Mercher, 5 Chwefror 2008, daeth llond y festri o aelodau a ffrindiau ynghyd i glywed hanes taith WJ a Gwenda Edwards i Batagonia. Treuliodd y ddau dris mis yn y Wladfa, yn gweinidogaethu, hel achau a mwynhau. Diddorol oedd clywed am yr holl gysylltiadau lleol a thu hwnt sydd yn dal i fodoli gyda llawer o'r ardal hon sydd â theulu pell ym Mhatagonia. Da oedd gweld fod peth amser wedi'i neilltuo i hamddena ? yn gweld y morfilod, yn y tŷ te ac yn gwledda!

I ddathlu Gŵyl Ddewi ddechrau Mawrth cafwyd cwmni rhai o ddisgyblion Ysgol Rhydypennau. Darparwyd adloniant o safon uchel, yn bartïon canu, unawdau a deuawdau, ac eitemau offerynnol.

Y gŵr gwadd ar 2 Ebrill oedd y Parchedig Wyn Morris, ac fe gafwyd orig ddifyr yn ei gwmni i gloi tymor llwyddiannus eto eleni.



Ebrill 2007


Daeth Vernon Jones, Gaerwen, atom i sôn am fudiad y Samariaid. Diddorol oedd sylwi nad oedd cymaint yn ffonio ag a fu yn y gorffennol gan fod cymaint o linellau cymorth eraill ar gael. Soniodd Vernon hefyd sut yr oedd y mudiad wedi symud ymlaen gyda'u ffordd mwy agored o ymateb i alwadau'r cyhoedd. Darparwyd te arbennig y Pasg gan aelodau'r pwyllgor.

Hydref 2006


Ailddechreuwyd gweithgareddau'r chwiorydd ar y dydd Mercher cyntaf ym mis Medi,
pryd y bu Marian Jenkins yn rhoi ei hargraffiadau o'i thaith i India.

Cynhaliwyd ein gwasanaeth o ddiolchgarwch bnawn Mercher, 4 Hydref, am 2 o'r gloch
o dan ofal Eirwen Llwyd Jones, Capel y Morfa, gyda te yn dilyn y gwasanaeth.

Yng nghyfarfod mis Tachwedd, bu Gwenda Edwards yn sôn am ei thaith i Lithuania.
Am luniau a chrynodeb o'i hanes, ewch i dudalen y Grŵp Help Llaw



Gweithgareddau 2006



Cinio Bara a Chaws


Trefnwyd Cinio Bara a Chaws er budd Cymorth Cristnogol yn dilyn y gwasanaeth unedig a gynhaliwyd fore Sul, 21 Mai 2006.
Ymunodd cyfeillion o eglwysi Noddfa a Madog yn y Garn,
a gwerthfawrogwyd y cyfle i gymdeithasu
ac ar yr un pryd i gofio am rai llai ffodus na ni.

Noson Goffi'r Chwiorydd


Cynhaliwyd y noson goffi flynyddol ym Methlehem, Llandre, nos Wener, 5 Mai 2006. Paratowyd y coffi gan aelodau'r pwyllgor ac roedd y stondinau dan ofal y blaenoriaid.


Cafwyd noson hwyliog a llwyddiannus. Gweler y lluniau yn yr oriel.

Dirgelion y We


Nigel Callaghan yn egluro dirgelion y WeAr y dydd Mercher cyntaf ym mis Chwefror, daeth Nigel Callaghan o gwmni Technoleg Taliesin atom i ddangos 'mwy o'r Garn ar y We'.

Eglurodd inni'r gwahanol bosibiliadau o ddefnyddio'r rhyngrwyd a gwnaeth i gymhlethdod y wefan edrych yn hawdd.

Cafodd y rhai ohonom nad oedd yn gyfarwydd â'r wefan weld adroddiadau o'r Garn a lluniau rhai o'r cyfarfodydd i gyd-fynd â'r gwahanol weithgareddau.

Diolchwyd am bnawn difyr gan Alan Wynne Jones.

Tro chwiorydd ardal Pen-y-garn oedd hi i baratoi'r te, a Marian Jenkins oedd yn gyfrifol
am y defosiwn.

Dydd Gweddi Byd-eang y Chwiorydd


Cymerodd rhai o'r Chwiorydd ran yng ngwasanaeth Dydd Gweddi Byd-eang y Chwiorydd a gynhaliwyd eleni yng Nghapel Noddfa, nos Wener 3 Mawrth. Y thema oedd 'Arwyddion yr Amserau' a pharatowyd y gwasanaeth gan wragedd Cristnogol De Affrica. Cynrychiolwyd y Garn gan Mary Thomas, Rhian Jones, Vera Lloyd, Elen Evans, Alwen Morgan a Gaenor Hall.

Yng nghyntedd y capel gosodwyd crochan trithroed yn cynnwys cardiau ag adnod o'r ysgrythur arnynt i bawb eu cymryd wrth ddod i mewn. Mae'r crochan yn symbol o gydfwyta, o rannu a chymdeithasu, ac o fywyd yn ei gyflawnder. Mae tair troed y crochan yn symbol ein bod wedi ein hangori yn y Drindod, ac yn dibynnu'n llwyr arno.

Cymharu dwy ganrif


Ym mis Mawrth cawsom gwmni Hywel Roberts. Bu ef yn cymharu digwyddiadau ym mhapurau newydd gogledd a de sir Aberteifi yn y flwyddyn 2006 â'r digwyddiadau yn y papurau hynny heddiw. Yn rhyfedd iawn, canfuwyd nad oedd llawer o wahaniaeth rhyngddynt, ac nad oedd troseddau wedi cynyddu fawr ers 1906 ond eu bod ar ffurf wahanol.

Roedd y te hyfryd y tro hwn wedi ei ddarparu gan aelodau'r pwyllgor.

Seiat holi


Cynhaliwyd cyfarfod ola'r tymor yn y festri bnawn Mercher, 5 Ebrill, gyda'r Fonesig Alwen Morgan yn llywyddu a Mrs Gaenor Hall yn arwain y defosiwn.

Roedd panel o bedwar wedi eu gwahodd i roi eu barn ar bynciau llosg y dydd, sef Eric Hall, Gareth William Jones, Enid Jones a Rhiannon Roberts.

Holwyd cwestiynau am y Gwasanaeth Iechyd, Pobol y Cwm, tîm rygbi Cymru, a dyfodol cynulleidfaoedd ein capeli, ac fe gafwyd atebion cynhwysfawr a gwybodus ? er nad yn unfryd ? gan y panel.

Roedd y te danteithiol wedi ei baratoi gan chwiorydd ardal y Dole.



Rhai o weithgareddau 2005



Ffair y Capel

Cynhaliwyd Ffair y Capel dan ofal y chwiorydd, bore Sadwrn, 26 Tachwedd 2005,
rhwng 10 a 12 o'r gloch.
Fe'i hagorwyd gan Eddie a Bethan Jones. Bu'r Ffair yn un llwyddiannus a gwnaed elw o £1404.75.

I weld lluniau o'r achlysur, ewch i'r oriel.

Cinio Bara a Chaws

Codwyd swm o £304 yn dilyn cinio Bara a Chaws ar ôl oedfa bore Sul Mai 15fed 2005 er budd Cymorth Cristnogol (gweler y lluniau yn yr oriel). Yn ychwanegol at hynny, derbyniwyd £59, sef swm casgliad y gwasanaeth undebol, felly, trosglwyddwyd £363 i Gwyn Jones, trefnydd lleol Cymorth Cristnogol.

Noson goffi

Cafwyd noson goffi lwyddiannus yn y festri nos Wener, Ebrill 22ain 2005, a gwnaed elw o £425. Trosglwyddwyd £350 ohono i gronfa'r Eglwys. Gweler y lluniau yn yr oriel.





©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu