Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Archif newyddion Capel y Garn 2012


Am deyrngedau er cof am rai o aelodau'r Garn, cliciwch yma.

Gwasanaethau'r Nadolig

Cynhaliwyd oedfa arbennig o garolau a darlleniadau nos Sul, 23 Rhagfyr, ac oedfa gymun fore'r Nadolig, dan arweiniad ein Gweinidog a'r Parch W. J. Edwards.

Oedfa Nadolig Plant yr Ofalaeth

bore Sul, 16 Rhagfyr, cynhaliwyd gwasanaeth Nadolig yr ofalaeth pan gyflwynodd plant ysgol Sul y Garn stori'r geni. Lluniwyd y sgript gan Cêt Morgan, a hyfforddwyd y plant gan Carwen Hughes-Jones, Nia Peris a'r rhieni. Cafwyd gair gan y Gweinidog ar y Goeden Nadolig, a'i symbolau o safbwynt Crist, y Nadolig a Christnogaeth.

Cymdeithas Lenyddol y Garn

Nos Wener, 14 Rhagfyr, bu aelodau'r Gymdeithas yn 'Dathlu'r Nadolig' mewn noson gartrefol a drefnwyd gan Ann ac Alan Wynne Jones.

Cymdeithas Chwiorydd y Garn

Cynhaliwyd Te Misol y Chwiorydd ddydd Mercher, 5 Rhagfyr, gyda Merched y Dolau yn paratoi'r te. Mrs Sue Davies, Llandre, oedd y wraig wadd, ac ar ôl i Llinos Dafis arwain yn y defosiwn dechreuol cafwyd awr ddiddig iawn yn gwneud addurniadau Nadolig deniadol. Roedd cyfle wedyn i brynu nwyddau masnach deg ar stondin a oedd wedi ei gosod yn ochor y bwrdd te. Gofynnwyd bendith ar y te gan ein Llywydd, y Barch Judith Morris, ac er syndod mawr roedd anrheg ddirgel wedi ei lapio ar blât pawb.

Ffair y Garn

Bore Sadwrn, 24 Tachwedd, cynhaliwyd y ffair flynyddol yn festri'r Garn. Trefnwyd y digwyddiad gan y Chwiorydd ac fe'i hagorwyd gan Wynne Melville a Linda Jones. Cafwyd bore llwyddiannus o brynu nwyddau o'r stondinau a chymryd rhan mewn cystadlaethau amrywiol, yn ogystal â chyfle i gymdeithasu dros baned. Diolch i Meinir Jones o Fanc Barclays am sicrhau cyfraniad 'Punt am Bunt', ac i bawb a eu cefnogaeth.

Operation Christmas Child

Diolch i bawb a gyfrannodd tuag at yr ymdrech hon eto eleni. Anfonwyd 55 o focsys a ?80 o arian yn ychwanegol at arian y bocsys. Rydym yn gwerthfawrogi gwaith trylwyr Eddie a Bethan Jones yn trefnu'r ymdrech flynyddol hon eto.

'Tro ar Waith'

Cafwyd cipolwg diddorol ar dair swydd wahanol iawn yng nghyfarfod diweddaraf y Gymdeithas Lenyddol. Cyflwynwyd y siaradwyr gan Gareth William Jones, yr is-gadeirydd. Gweithio fel rheolwr safle yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Mhantperthog mae Carwyn Lloyd Jones, cynorthwyydd ymchwil yn sefydliad IBERS yw Sian Jones ac mae Seiriol yn is-gynhyrchydd gyda chwmni teledu RondoMedia, sy'n gyfrifol am raglenni pêl-droed Sgorio.

Atgofion Oes

Llongyfarchiadau i'r Arglwydd Elystan-Morgan ar gyhoeddi cyfrol o'i atgofion, Atgofion Oes. Cynhaliwyd y lansiad nos Wener, 9 Tachwedd pan oedd Canolfan y Morlan dan ei sang i wrando ar Elystan yn cael ei holi gan Dylan Iorwerth. Cyhoeddir y gyfrol gan y Lolfa, ac mae'n cynnwys darlun cynnes o'i blentyndod yn yr ardal, gan gynnwys ei atgofion am gapel ac ysgol Sul y Garn.

Cymdeithas Lenyddol y Garn

Y gŵr gwadd yn noson agoriadol y Gymdeithas eleni oedd y Parch. W. J. Edwards, a threuliwyd orig ddifyr iawn yn gwrando arno'n 'Dwyn i Gof' amrywiol atgofion, gan gynnwys nifer o gymeriadau o ardal Llanuwchllyn.

Oedfa Ddiolchgarwch yr Ofalaeth

Bore Sul, 14 Hydref 2012, cynhaliwyd y gwasanaeth diolchgarwch blynyddol dan arweiniad y Bugail. Cafwyd cyflwyniad graenus gan y plant a neges arbennig iddynt gan y Bugail yn seiliedig ar bwysigrwydd 'Gwenyn'. Wedi i'r plant fynd allan i'r festri, cyflwynodd y Bugail neges amserol ac addas ar bwysigrwydd diolch. Gwnaed casgliad tuag at Beibl.net

Clwb CIC

Nos Iau, 11 Hydref 2012 cafwyd parti arbennig i ddathlu noson gyntaf y Clwb Ieuenctid Cristnogol. Roedd yn wych gweld nifer dda wedi dod i fwynhau gêmau amrywiol dan arweiniad Eleri Pierce Barder, y Swyddog Gwaith Plant ac Ieuenctid. Bydd y clwb yn cwrdd bob pythefnos - croeso i unrhyw un rhwng 10 a 17 oed; cysylltwch ag Eleri, gogleddceredigion@gmail.com

Oedfa Gomisiynu

Bore Sul, 30 Medi, cynhaliwyd oedfa arbennig yng Nghapel Bethel, Aberystwyth, i gomisiynu Eleri Pierce Barder yn Swyddog Gwaith Plant ac Ieuenctid Gogledd Ceredigion. Roedd yn hyfryd gweld cynulleidfa niferus - o bob oed - wedi dod at ei gilydd ar gyfer yr achlysur hapus hwn. Gwenan Creunant, Cadeirydd y Fenter, oedd yn gyfrifol am y comisiynu a chafwyd neges i'r plant a'r ieuenctid gan Dr Owain Edwards o Goleg y Bala. Cymerwyd rhan gan blant ac ieuenctid ysgolion Sul yr ardal, a chyfeiliwyd i'r emynau gan y band ieuenctid, dan arweiniad Llio Penri.

Sul Croeso ?Nôl

Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig o groeso bore Sul, 16 Medi dan arweiniad y Bugail, fel rhan o'r ymgyrch genedlaethol 'Croeso 'Nôl.

Swper Haf Bach Mihangel

Cafwyd noson lwyddiannus iawn nos Wener, 14 Medi 2012 ym Methlehem, Llandre, pan ddaeth aelodau a ffrindiau ynghyd i fwynhau pryd o fwyd ac i gymdeithasu. Codwyd ?440 tuag at Ap?l Guatemala.

Gwasanaeth bedydd

Bore Sul, 9 Medi, bedyddiwyd Lois Martha, merch Steffan ac Elen Roberts, Mynydd Gorddu, ac wyres Rhian Huws gan y Bugail. Pob dymuniad da i'r teulu.

Pob dymuniad da

i Meleri Wyn a Matthew Flint ar eu priodas yng Nghapel y Garn, ddydd Sadwrn, 1 Medi.

Llongyfarchiadau calonnog

i Vernon Jones ar ennill cystadleuaeth cyfansoddi baled ar y testun 'Y Ffair' yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, 2012.

Cydymdeimlir yn ddwys

â Maureen a Noel Morgan ar farwolaeth tad Maureen, John Daniel Jones, yn dawel ddydd Gwener, 3 Awst.

Cystadleuaeth Farddoniaeth Siocled

Llongyfarchiadau calonnog iawn i Rhys Tanat ar ennill yr ail wobr yn yr oedran 7-11 oed mewn cystadleuaeth Farddoniaeth Siocled a drefnwyd gan Cymorth Cristnogol a Divine. I ddarllen mwy am y gystadleuaeth, a cherdd arbennig Rhys, cliciwch Barddoniaeth Siocled

Y Gemau Olympaidd

Nos Sul, 22 Gorffennaf, dan arweiniad rhai o'r blaenoriaid cynhaliwyd gwasanaeth ar thema'r Gemau Olympaidd. I ddarllen crynodeb o'r gwasanaeth, cliciwch Gemau Olympaidd

Trip yr ysgol Sul

Dydd Sul, 15 Gorffennaf, aeth plant, rhieni a chyfeillion o ysgolion Sul y Garn a'r Noddfa ar daith i gloi gweithgareddau'r ysgol Sul am y tymor. Cafwyd taith ddifyr mewn cwch o'r Ceinewydd ar hyd arfordir Bae Ceredigion ac yn dilyn hynny roedd y tywydd yn ddigon braf i'r criw dreulio'r pnawn yn chwarae ar y traeth.

Oedfa Haf yr Ofalaeth

Bore Sul, 8 Gorffennaf 2012, cynhaliwyd oedfa haf yr ofalaeth dan arweiniad y Bugail yng Nghapel y Garn. Yn y ystod y gwasanaeth cafwyd cyflwyniad arbennig gan Mari Fflur, Pennaeth Cyfathrebu Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ar Apêl Guatemala. Dangosodd sleidiau o'i thaith i Guatemala, gan roi amlinelliad o waith amrywiol rhai o bartneriaid Cymorth Cristnogol yn y wlad.

Apêl Llifogydd Ceredigion

Daeth nifer dda o drigolion Bow Street at ei gilydd i Noson Goffi yn Neuadd Rhydypennau i godi arian at yr apêl nos Wener, 6 Gorffennaf. Roedd y noson dan ofal Capel Noddfa, Capel y Garn, Merched y Wawr a'r WI, a chodwyd tua mil o bunnau at yr achos. Yn ychwanegol at yr ymdrech hon, codwyd ?756 o bunnau at yr apêl mewn casgliad arbennig a wnaed ymysg aelodau'r Garn. Diolch am bob haelioni a chefnogaeth.

Gŵyl yr ysgolion Sul

Dydd Sul, 1 Gorffennaf 2012, cynhaliwyd yr ŵyl flynyddol yn y Morlan, Aberystwyth, dan arweiniad Owain Edwards a chriw Coleg y Bala. Roedd nifer dda o blant yn bresennol a chafwyd cyfle i gymdeithasu â phlant o ysgolion Sul eraill, yn ogystal â derbyn Tystysgrif Gweithgaredd am waith yr ysgol Sul yn ystod y flwyddyn.

Taith Gerdded Ann Griffiths

Dydd Sadwrn, 30 Mehefin, 2012, aeth nifer o aelodau gofalaethau'r Parch. Wyn a Judith Morris ar daith gerdded. Dechrau'r daith oedd yr Hen Gapel, Pontrobert, lle cafwyd cyflwyniad i hanes ac arwyddocâd y capel gan Nia Rhosier. Yna, dan arweiniad gofalus Dilwyn a Carys Jones cerddwyd yn hamddenol i Ddolanog, lle cawsom gyfle i ymweld â Chapel Coffa Ann Griffiths cyn dychwelyd ar hyd llwybr Ann i Bontrobert. Er nad oedd y tywydd yn arbennig o ffafriol, yn enwedig tua diwedd y daith, roedd y golygfeydd yn drawiadol a'r gwmn?aeth yn gynnes.

Cydymdeimlwn

yn ddwys iawn â theulu'r ddiweddar Tegwen Pryse, a fu farw'n ddisymwth fore Sul, 24 Mehefin. Meddyliwn yn arbennig am y Parch Elwyn Pryse, cyn-weinidog yr ofalaeth, Maldwyn ac Eleri, ac Eilir a Meleri. Cynhaliwyd ei hangladd yng Nghapel y Garn ddydd Gwener, 29 Mehefin, dan ofal ei gweinidog, y Parch Wyn Morris.

Cydymdeimlwn

yn ddwys â theulu'r ddiweddar Beryl Cadman, Tregerddan, a fu farw ar 16 Mehefin. Cynhaliwyd ei hangladd yn y Garn ddydd Gwener, 22 Mehefin, dan arweiniad ei gweinidog, a chyflwynwyd teyrnged iddi gan y Parch W J Edwards.

Cydymdeimlwn

yn ddwys â theulu'r diweddar Trefor Lewis, Llys Alban, Tregerddan, a fu farw ddydd Sadwrn, 2 Mehefin. Cynhaliwyd ei angladd yn y Garn ddydd Llun, 11 Mehefin, dan arweiniad ei weinidog. I ddarllen y deyrnged a gyflwynwyd gan y Parch W J Edwards yn yr angladd, cliciwch teyrnged

Llongyfarchiadau calonnog

i'r Gweinidog, y Parch Wyn Rhys Morris, ar gael ei ethol yn Ddarpar Lywydd Cymdeithasfa'r De.

Sul Cymorth Cristnogol

Bore Sul, 20 Mai, cynhaliwyd oedfa deuluol arbennig i gapeli'r Garn a'r Noddfa dan arweiniad y Parch Wyn Rhys Morris ar ddiwedd wythnos Cymorth Cristnogol. Yn dilyn yr oedfa, aeth nifer dda drwodd i'r festri i gymdeithasu dros ginio bara a chaws. Roedd y casgliad tuag at waith Cymorth Cristnogol yn Sierra Leone a Guatemala.

Cymanfa Ganu Gogledd Ceredigion

Cynhaliwyd y gymanfa eleni yng Nghapel Bethel, Tal-y-bont, dydd Sul, 13 Mai. Canwyd nifer o emynau'r Detholiad yng nghyfarfod y plant yn y bore a bu Mari Owen yn sgwrsio â'r plant. Roedd cymanfa'r oedolion yn yr hwyr dan arweiniad Dr Rhidian Griffiths, a chafwyd cefnogaeth dda a chanu bendithiol.

Dechrau Canu, Dechrau Canmol

Nos Sul, 6 Mai, darlledwyd rhaglen yn y gyfres Dechrau Canu, Dechrau Canmol a recordiwyd yng Ngapel y Garn. Ymysg y rhai a gyfrannodd i'r rhaglen yr oedd yr Arglwydd Elystan-Morgan a soniodd am ei fagwraeth yn yr ardal ac a ddewisodd un o'r emynau. Roedd y canu dan arweiniad Alan Wynne Jones a'r organydd oedd Llio Penri.

Oedfaon y Pasg

Cafwyd dwy oedfa arbennig i eglwysi'r ofalaeth dros gyfnod y Pasg, dan arweiniad y Bugail. Cynhaliwyd oedfa bore'r Groglith yng Nghapel Rehoboth, ac fe seiliodd y Bugail ei neges ar faddeuant. Yng Nghapel y Garn yr oedd oedfa gymun bore'r Pasg, a'r Bugail yn ein hatgoffa fod neges y Pasg yn cynnig: maddeuant am y gorffennol, llawenydd i'r presennol a gobaith i'r dyfodol. Cafwyd dwy oedfa fendithiol iawn a braf oedd gallu croesawu cynulleidfa dda ar y ddau achlysur. I ddarllen mwy am y project Maddeuant, ewch i Delweddau Maddeuant

Cymdeithas Lenyddol y Garn

Yng Nghapel Bethlehem, Llandre, nos Wener 16 o Fawrth, dathlodd 27 o aelodau'r gymdeithas Ŵyl Dewi mewn steil gyda chawl cig eidion a tharten afal a hufen. Gŵr gwadd y noson oedd Mr Iestyn Hughes, ac fe'n diddanwyd gyda rhinweddau tynnu lluniau a'r ffordd i wneud y gorau o'n camera digidol. Codwyd ?55.00 at elusen o ddewis y gŵr gwadd, sef Ambiwlans Awyr Cymru.

Cwrdd Gweddi Byd-eang y Chwiorydd

Pnawn Gwener, 5 Mawrth, unodd chwiorydd y Garn gyda chwiorydd Capel Noddfa ac Eglwys Llanfihangel Genau'r Glyn i gynnal y cwrdd gweddi blynyddol a hynny yng Nghapel Noddfa eleni. Lluniwyd y gwasanaeth gan chwiorydd Malaysia, a'i thema oedd 'Boed i Gyfiawnder Lwyddo'. Rhoddwyd yr anerchiad gan Mrs Mair Lewis.

Gwasanaeth Gŵyl Ddewi'r Ofalaeth

Bore Sul, 26 Chwefror 2012, cynhaliwyd oedfa flynyddol yr ofalaeth i ddathlu Gŵyl Ddewi. Roedd y gwasanaeth dan arweiniad y Gweinidog a chyflwynodd y plant adnodau a phenillion addas ar gyfer yr achlysur cyn mynd i'r ysgol Sul yn y festri. Hyfryd oedd eu gweld yn eu gwisgoedd traddodiadol lliwgar. Gwnaed casgliad tuag at 'Llyfrau Llafar Cymru'

Cymdeithas Lenyddol y Garn

Nos Wener, 17 Chwefror 2012, roedd y cyfarfod dan ofal Eleri Roberts. Yn gwmni iddi roedd Trefor Pugh a'r tair chwaer ddawnus o Landdeiniol, Alwen, Enfys a Glesni, a chafwyd gwledd o ganu, yn unawdau a deuawdau, ac ambell adroddiad hefyd ? o'r dwys i'r digrif - noson werth chweil yn wir.

Cyflwyno llun Bethlehem

Cynhaliwyd achlysur hyfryd yn ysgoldy Bethlehem, Llandre, nos Iau, 26 Ionawr, pan gyflwynodd Wynne Melville Jones lun a beintiwyd ganddo i'r ysgoldy. Llun olew o'r ysgoldy ei hun ydyw, ac eglurodd yr arlunydd iddo bortreadu'r adeilad fel petai'n cuddio tu ?l i sgrin o ddwy goeden fythwyrdd, ond o graffu'n fanwl, gwelir bod golau ynghynn yn yr ysgoldy bach - arwydd o'r bywyd sydd i'w gael o'i fewn. Roedd lluniau a ffotograffau gan artistiaid lleol eraill hefyd yn cael eu harddangos ar y noson, a diolchwyd i Wynne ac i bawb a gefnogodd yr achlysur gan y Parch Wyn Morris.

Cydymdeimlir

yn ddwys â Geraint a Nia, Lleucu a Gruffudd ar farwolaeth tad Geraint, Gareth Williams, Caerdydd.

Cwrdd Gweddi Dechrau'r Flwyddyn

Nos Wener, 6 Ionawr 2012, yn ?l ein harfer cynhaliwyd cwrdd gweddi dechrau'r flwyddyn yn Festri'r Garn. Cymerwyd rhan gan Mr Alan Wynne Jones, Mrs Llinos Dafis, Yr Arglwydd Elystan-Morgan, Dewi G Hughes a'r Gweinidog, y Parch Wyn Morris. Er mai criw bychan iawn o'r aelodau oedd wedi dod ynghyd, cafwyd cyfarfod arbennig a bendithiol iawn, a gwerthfawrogwyd y cyfraniadau amrywiol a phwrpasol a gyflwynwyd. I ddarllen myfyrdod Mr Dewi G Hughes, a myfyrdod Mrs Llinos Dafis ar y gair 'Ffordd', cliciwich Myfyrdodau

Blwyddyn newydd brysur

Bu penwythnos cyntaf 2012 yn un prysur iawn yng Nghapel y Garn: nos Sadwrn, 31 Rhagfyr 2011, cynhaliwyd gwylnos, dan arweiniad y Gweinidog, i groesawu'r Flwyddyn Newydd mewn myfyrdodd a gweddi. Dydd Calan, cynhaliwyd dwy oedfa dan arweiniad y Parch Elwyn Pryse, a chafwyd neges amserol ganddo ar ddechrau blwyddyn. A phrynhawn Sul, aeth nifer o'r aelodau i Gartref Tregerddan i gynnal oedfa i'r trigolion, dan arweiniad Alan Wynne Jones.

Am archif newyddion 2011, cliciwch yma.


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu