Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Er cof am Trefor Lewis (1921-2012)


Ganed Trefor ar 17 Mai 1921, yn Bod Gwilym, Pen-y-garn, yn fab i Alser ac Elizabeth Lewis, ac yn frawd i Gwilym ac i'r efeilliaid, Buddug ac Anna. Wedi colli Buddug ym 1954 a Gwilym ym 1962 ar ôl salwch hir, mae'n chwith meddwl mai dim ond Anna sy'n goroesi. Roedd gwreiddiau Trefor yn ddwfn yn yr ardal, a theulu'i dad yn weithgar yn y capel a'r gymuned. Ein cofion at Gwen Lewis, y gyfnither gant oed, yng Nghartref Tregerddan. Byddai Trefor yn sôn yn aml am Ann a Tom Hughes, Tŷ Capel y Garn, rhieni'i fam, a'i fodryb Neli a olynodd y rhieni i wasanaethu'r capel gyda David Rice ei phriod. Soniai hefyd am ei fodrybedd Marged Jenkins a Sally Shakespeare, a'i ewythr William, tad Gwynfor.

Ac yntau'n mynd a dod at ei fam-gu dafliad carreg o'i gartref bu'r capel a phopeth a ddigwyddai ynddo'n bwysig iddo gydol ei oes hir, ac yntau'n addoli yno'n ffyddlon ac wrth ei fodd fod Kathleen wrth yr organ. Fe'i clywais yn canmol pob gweinidog o Christmas Lloyd hyd at Wyn Morris, a chanmol J. T. Rees am roi sglein ar ganu plant a phobl. Am ei fod yn gyfeillgar gyda'i wyrion, Gwilym a Ceredig, roedd Trefor gyda Gwynfor ei gefnder yn cael chwarae ym Mronceiro a dod i nabod J. T. Rees y tad-cu. Ym 1931 tynnwyd llun y pedwar cyfaill y tu allan i Fronceiro yn ei trowsusau byr! Ac yn ddiweddarch pan ddeuai Ceredig o America at Morfudd ei chwaer, roedd rhaid tynnu llun y pedwar yn yr un drefn ? o'r chwith, Gwilym, Ceredig, Trefor a Gwynfor ? hyd yr olaf ym 2009, 78 mlynedd ar ôl y cyntaf. Am eu bod yn hoff o chwarae criced roedd bat ym mhob llun ac ar yr un olaf yr oedd '340 not out'. Wedi colli Gwilym a Trefor aeth y 'Big Four', fel y galwent eu hunain, yn ddau; roedd Gwynfor gyda ni yn yr angladd ac anfonwn ein cofion ar draws y moroedd at Ceredig.

Ar ôl gadael Ysgol Rhydypennau aeth Trefor yn brentis masiwn yn 14 oed at adeiladwyr adnabyddus y Dole a byddai'n cyfeirio at John Edmund Jones y 'bos' a Glyn, ei nai, yn aml. Byddai'n hoffi enwi'r masiyned a'r seiri a dweud mai dim ond John Gwynfa a Wynford Evans sy'n fyw o blith y criw mawr. Clod i grefftwyr y Dole oedd fod adeiladwyr Aberystwyth yn dweud ei bod yn hawdd adnabod eu gwaith. Wedi dyddiau'r Dole bu Trefor yn gweithio yng Ngogerddan ac yn ofalwr Neuadd Rhydypennau.

Gan i Trefor sôn droeon y dylwn groniclo hanes y Dole rwy'n gobeithio y gallaf lunio ambell bennod yn deyrnged i gyfraniad nodedig William Jones a'i ddisgynyddion. Wedi iddo godi tai ym Mhenrhyn-coch a Bwstryd roedd yn ymfalchïo o gael byw yn y tŷ a gododd yn Nhregerddan ym 1951. Buom yn gymdogion o hynny hyd heddiw ac rwy'n diolch am y cyfeillion eraill yn y rhes, rhan werthfawr o'r gymdogarth dda.

Wedi bod gyda phedwar o weithwyr y Dole yn adeiladu gwersyll Tonfannau (roedd Nhad yno 'run pryd) ymunodd Trefor â'r awyrlu ym 1942 ac yn yr Alban cyfarfu â'i gyfnither Peggy Shakespeare, ac â Mary Mowbray, merch fferm Kirkton, Tealing, bum milltir o Dundee, a'i phriodi ym 1944. Ar ôl geni Kathleen dychwelwyd i Ben-y-garn lle ganed Leslie. Yn ôl i'r Dole, i'r capel ac i chwarae i dîm pêl-droed y pentref, a manylu'n ddiddorol ar aml i sgarmes, yn enwedig y gemau yn y Borth. Mae'n werth cofio sylw Dei Hughes, Boston, blaenor yn Libanus (Gerlan) a chefnogwr selog ei dîm: 'If you ever played for Borth against Bow Street without committing a single foul, then you are a gentleman!'

Daeth y teulu a chyfeillion i'r Garn brynhawn Llun, 11 Mehefin, i gynhebrwng Trefor. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parchedig Wyn Rhys Morris yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn Richard Lewis, Elwyn Pryse a W. J. Edwards. Alan Wynne Jones oedd wrth yr organ. Wrth ddiolch am Trefor, a Mary fu farw yn 2005, cydymdeimlwn â Kathleen, Leslie a Sue, Anna a'i theulu, Meinir, Billie a Moira o'r Alban, a gweddill y perthnasau.

W. J. Edwards


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu