Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Archif Newyddion y Garn 2015



Oedfa gymun deuluol ar fore'r Nadolig

Bore Gwener, 25 Rhagfyr 2015, cynhaliwyd oedfa gymun dan arweiniad ein Gweinidog. Cafwyd neges bwrpasol ganddo, a chroesawyd nifer o aelodau a chyfeillion oedd yn treulio'r ŵyl gartref gyda'u teuluoedd.

'Gwasanaeth y Gair a'r Geiriau'

Nos Sul, 20 Rhagfyr 2015, cynhaliwyd gwasanaeth arbennig o ddarlleniadau a charolau, wedi'i drefnu gan y Gweinidog. Cymerwyd rhan gan nifer o'r aelodau, a chafwyd cyfraniadau cerddorol gan Fand Pres yr Ieuenctid a Meinir Williams ar y soddgrwth. Yn dilyn y gwasanaeth, croesawyd pawb i'r festri i fwynhau paned a mins pei.

Gwasanaeth Nadolig y Plant

Cynhaliwyd gwasanaeth Nadolig plant yr ysgol Sul yng Nghapel Noddfa fore Sul, 20 Rhagfyr. Cyflwynwyd stori'r Geni'n effeithiol gan y plant, cyn iddynt fynd drwodd i'r festri i fwynhau eu parti blynyddol, gydag ymweliad arbennig gan Siôn Corn. Bnawn Sul, fe gyflwynodd y plant eu gwasanaeth hefyd i drigolion Cartref Tregerddan, a gwerthfawrogwyd hynny'n fawr ganddynt.

Oedfa Gymun Nadolig yr Ofalaeth

Cynhaliwyd oedfa'r ofalaeth fore Sul, 13 Rhagfyr, dan arweiniad y Gweinidog, a braf oedd gweld nifer o aelodau eglwysi'r ofalaeth yn bresennol. Gwnaed casgliad arbennig tuag a sicrhau cinio Nadolig elusennol i rai o drigolion Aberystwyth.

Nadolig y Gymdeithas

Roedd y festri'n llawn unwaith eto nos Wener, 11 Rhagfyr, wrth i'r Gymdeithas Lenyddol gynnal noson arbennig i ddathlu'r Nadolig. Cafwyd cwmni'r triawd dawnus Alan Wynne Jones, Alun John a Geraint Thomas, a gyflwynodd nifer o ganeuon a charolau oedd yn cyfleu naws y Nadolig i'r dim – yn ogystal ag ymweliad annisgwyl gan y Gendarmes! Ychwanegwyd at awyrgylch gartrefol y noson drwy gynnal cwis cerddorol, a chafwyd cyfle i gymdeithasu hefyd dros baned a mins pei.

Cyngerdd Nadolig Ysgol Rhydypennau

Roedd yn hyfryd gweld y capel yn llawn bwrlwm plant a'u rhieni nos Iau, 10 Rhagfyr, ar gyfer gwasanaeth Nadolig Ysgol Rhydypennau. Gwnaeth y plant eu gwaith yn raenus iawn, a chafwyd cyfarfod bendithiol yn eu cwmni.

Bore Coffi'r Chwiorydd

Cafwyd bore coffi llwyddiannus eto eleni, gyda nifer dda wedi dod i'r festri fore Sadwrn, 27 Tachwedd, i gymdeithasu dros baned a rhoi cynnig ar gwis lluniau Iestyn Hughes. Cyflwynwyd y gacen Adfent eleni eto yn rhodd gan Gartref Tregerddan, ac fe'i torrwyd gan y Gweinidog, cyn ei rhannu i bawb oedd yn bresennol. Codwyd tua £450 tuag at Fanc Bwyd y Jiwbilî, a diolchwyd i bawb am eu haelioni gan Llinos Dafis, Llywydd y Chwiorydd.

'Cofio John' - noson deyrnged i John Rowlands

Roedd festri'r Garn yn orlawn nos Wener, 26 Tachwedd, ar gyfer yr achlysur arbennig i gofio'r llenor a'r beirniad llenyddol John Rowlands, a oedd hefyd yn un o organyddion medrus y Garn pan oedd yn aelod yn yr eglwys. Cadeirydd y noson oedd yr Athro Gruffydd Aled Williams, a chafwyd teyrngedau ac atgofion hyfryd ac annwyl am John gan nifer o'i gyd-weithwyr yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, sef Dr Bleddyn Huws, Dr Mihangel Morgan, Dr Robin Chapman a'r Athro Marged Haycock. Roedd yn bleser cael cwmni Eluned, Dyfed a Huw gyda ni, ac anfonwyd cofion hefyd at Sioned a'r teulu ym Mharis.

Cymdeithas Lenyddol y Garn

Nos Wener, 16 Hydref 2015, yng nghyfarfod cyntaf y tymor, cafwyd sgwrs ddifyr a dadlennol iawn gan Elvey McDonald ar y pwnc - 'Y Wladfa 1865-2015 - dathlu beth?'

Cyfarfod Diolchgarwch y Garn

Bore Sul, 11 Hydref 2015, cynhaliwyd cyfarfod diolchgarwch yr ofalaeth, dan arweiniad ein Gweinidog. Cymerwyd rhan gan blant yr ysgol Sul a chafwyd cyflwyniad ar y thema 'Dŵr' gan Llinos Dafis. Gwnaed casgliad tuag at Water Aid.

Bedydd Now Dafydd Schiavone

Yn ystod yr oedfa fore Sul, 20 Medi, bedyddiwyd Now Dafydd, mab bach Lowri ac Owain, brawd Llew a Moi, ac ŵyr Delyth Jones, gan ein gweinidog, y Parch Wyn Morris. Estynnwyd croeso cynnes i aelodau'r teulu estynedig, oedd wedi ymuno â ni ar gyfer yr achlysur. Hefyd, croesawyd Mr a Mrs Llew Evans, oedd yn dathlu eu priodas aur, i'r gwasanaeth, a phleser oedd cael cwmni aelodau eraill o'r teulu gyda ni yn yr oedfa. Llongyfarchiadau a dymuniadau da i'r ddau deulu.

Swper Cynhaeaf

Nos Wener, 18 Medi 2015, cynhaliwyd Swper Cynhaeaf y Garn yn ysgoldy Bethlehem, Llandre. Trefnwyd helfa drysor i'r plant gan Alan Wynne Jones, ac roedd y bwyd wedi'i baratoi gan yr aelodau, dan arweiniad Mrs Delyth Jones. Cafwyd amser braf yn cymdeithasu a sgwrsio, a chyflwynwyd yr elw tuag at gronfa'r ffoaduriaid, drwy law Aberaid (Aberystwyth). Diolch i bawb am eu cefnogaeth a'u cyfraniadau.

Oedfa Haf Ofalaeth

Cynhaliwyd oedfa'r haf eleni yng Nghapel Rehoboth, Taliesin, fore Sul, 12 Gorffennaf, dan arweiniad y Gweinidog. Gwnaed casgliad tuat at Apêl y Llywydd at Ysbyty Shillong.

Taith Gerdded yr Ofalaeth

Dydd Sadwrn, 11 Gorffennaf, daeth nifer dda ynghyd i gerdded ar hyd llwybr Taith Sant John Roberts yn ardal Trawsfynydd. Arweiniwyd y daith gan Dilwyn a Carys Jones, a chafwyd diwrnod difyr iawn, gan orffen gyda phaned yng Ngwesty Rhiw Goch, sef man geni John Roberts.

Astudiaeth Feiblaidd yr Ofalaeth

Bnawn Iau, 2 Gorffennaf, daeth tymor yr astudiaeth i ben dros yr haf wrth i'r grŵp gyrraedd Llyfr y Datguddiad, a diwedd cyfrol Huw John Hughes, Cydymaith Stori Duw. Diolchwyd i'r Gweinidog am ei holl waith yn paratoi mor drylwyr ar gyfer yr astudiaeth o wythnos i wythnos, a theimlai'r aelodau eu bod wedi cael budd mawr o fynychu'r cyfarfodydd.

Oedfa'r Pentecost

Roedd ein gwasanaeth eleni dan ofal yr aelodau, a thrwy gyfrwng emynau, darlleniadau, gweddïau, delweddau ar sgrin i gyfeiiant cerddoriaeth bwrpasol, cafwyd cyfle i gofio am y Pentecost cyntaf a'i arwyddocâd i ni heddiw.

Sul Cymorth Cristnogol

Bore Sul, 17 Mai, ar derfyn Wythnos Cymorth Cristnogol, cafwyd gwasanaeth dan arweiniad y Gweinidog i gyflwyno neges ymgyrch arbennig eleni, oedd yn canolbwyntio ar wragedd Ethiopia. Yn dilyn cafwyd Cinio Bara a Chaws yn y festri, wedi'i baratoi gan y Chwiorydd, a braf oedd gallu croesawu aelodau Capel Noddfa i'r gwasanaeth a'r cinio. Diolch i bawb am eu cyfraniadau tuag at yr achos teilwng yma.

Cymanfa Ganu Unedig Gogledd Ceredigion - Cymanfa'r Oedolion

Cafwyd canu eneiniedig yng nghyfarfod y nos o'r Gymanfa, a gynhaliwyd yn y Garn ar 10 Mai 2015, dan arweiniad Robert Nicholls, Caerdydd. Llywydd y noson oedd Alan Wynne Jones, a'r organydd oedd Llio Penri.

Cymanfa Ganu Unedig Gogledd Ceredigion - Cyfarfod y Plant

Roedd yn braf cael croesawu plant o ysgolion Sul yr ardal i'r Gymanfa a gynhaliwyd yn y Garn ar 10 Mai 2015. Cyflwynwyd yr emynau a gweddïau gan y gwahanol ysgolion Sul, a chafwyd canu bywiog dan arweiniad Alan Wynne Jones, gyda Llio Penri'n cyfeilio ar yr organ. Cyflwynwyd stori Sacheus a chafwyd gair gan Zoe Jones, Swyddog Plant ac Ieuenctid. Gwnaed casgliad o dros £300 tuag at Gymorth Cristnogol. Lluniau yn yr oriel

Oedfa Gymun y Pasg

Hyfryd oedd croesawu aelodau o eglwysi'r ofalaeth i Gapel y Garn ar fore'r Pasg, 5 Ebrill 2015, i oedfa gymun dan arweiniad ein Gweinidog. Cafwyd neges amserol ganddo ar y testun: 'Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy'n fyw?' Yn dilyn y gwasanaeth cafwyd cyfle i gymdeithasu dros baned yn y festri.

Oedfa bore'r Groglith

Daeth aelodau o eglwysi'r ofalaeth at ei gilydd yn Seion, Capel Seion, fore'r Groglith, 3 Ebrill 2015, i orig o fyfyrdod ar y Groglith, dan arweiniad ein Gweinidog. Diolch i gyfeillion Capel Seion am eu croeso ac am ddarparu llunwiaeth ar ddiwedd y gwasanaeth.

Atgofion Eisteddfodol

I gloi tymor llwyddiannus y Gymdeithas Lenyddol eleni, cyflwynodd y Parch W. J. Edwards aelod arall o'r teulu, sef ei frawd Hywel Wyn Edwards, a rannodd nifer o atgofion difyr a dadlennol am ei gyfnod fel Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol. Paratowyd swper blasus o gawl a tharten afalau gan aelodau'r pwyllgor - ac edrychir ymlaen at raglen ddifyr arall yn yr hydref.

Cwis y Morlan

Llongyfarchiadau i dîm y Garn ar ennill Tarian Her y Morlan yn Noson Gwis y Morlan, a gynhaliwyd nos Fercher, 21 Ionawr 2015, dan ofal y cwis-festr hwyliog Phil Davies, Tal-y-bont.

Cydymdeimlwn

yn ddwys â Meinir a Bryn Roberts a'r teulu yn eu profedigaeth. Bu farw brawd Meinir, y Parchedig Eryl Lloyd Davies, gweinidog yn ardal Llanrwst, ddydd Llun, 19 Ionawr 2015.

Cymdeithas Lenyddol y Garn

Cafwyd cyfarfod arbennig o'r Gymdeithas nos Wener, 17 Ionawr, pan gyflwynodd pedair o'r aelodau eu hargraffiadau am froydd eu mebyd: Nia Peris - Dyffryn Nantlle; Llio Penri - Dyffryn Aman; Gillian Saunders Jones - Llanelidan; Judith Morris - Pontardawe.

Cydymdeimlwn

yn ddwys â theulu'r ddiweddar Mrs Nest Davies, a fu farw ddydd Llun, 12 Ionawr 2015. Bu'n ffyddlon i'r Garn am flynyddoedd lawer, a chyfrannodd yn helaeth at weithgaredd yr eglwys, yn arbennig fel organydd a threfnydd y blodau. Cynhaliwyd ei hangladd yn y Garn, dan ofal ei gweinidog, ddydd Gwener, 17 Ionawr

Cyfarfod Gweddi Dechrau'r Flwyddyn

Cynhaliwyd ein cyfarfod gweddi blynyddol nos Sul, 4 Ionawr yn y festri a chafwyd orig fendithiol iawn gyda nifer o'r aelodau'n cymryd rhan. Cyfeiriodd Alan Wynne Jones at ystyr ac arwyddocâd yr Ystwyll, darllenwyd cerdd Mererid Hopwood, 'Gwaith y Nadolig' gan Ann Wynne Jones, a thestun myfyrdod Dewi Hughes oedd 'trugaredd'. Diolch iddynt am eu cyfraniadau.

Gwylnos i groesawu'r Flwyddyn Newydd

Unwaith eto eleni cafwyd cyfle i groesawu'r Flwyddyn Newydd mewn gweddi a myfyrdod yn y festri, dan arweiniad ein Gweinidog.

Am deyrngedau er cof am rai o aelodau'r Garn, cliciwch cofio.

Am archif newyddion 2014, cliciwch yma.


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu