Daeth aelodau a chyfeillion at ei gilydd yng Nghapel y Garn ar gyfer gwasanaeth y cymun dan arweiniad ein Gweinidog, y Parch Wyn Morris. Braf oedd gallu croesawu nifer atom oedd wedi dod adre i dreulio'r Nadolig gyda'u teuluoedd.
Nos Sul, 21 Rhagfyr 2014, cafwyd gwasanaeth hyfryd o ddarlleniadau a charolau wedi'i drefnu gan ein Gweinidog. Crëwyd naws arbennig gan ieuenectid y band pres a thelyn deires Meinir Williams. Yn dilyn, cafwyd cyfle i gymdeithasu yn y festri dros baned a mins pei.
Bore Sul, 21 Rhagfyr 2014, cyflwynodd plant Ysgol Sul Unedig Bow Street stori'r geni drwy lygaid yr asyn bach. Cafwyd cyfraniad cerddorol hefyd gan barti'r rhieni a'r plant, a neges berthnasol gan ein Gweinidog – a'r cyfan yn creu cyfanwaith bendithiol iawn. Yn dilyn y gwasanaeth, cafwyd parti i'r plant yn y festri, a galwodd Siôn Corn heibio gydag anrheg i bawb.
Ddydd Gwener, 12 Rhagfyr, daeth y newyddion trist am farwolaeth Eddie Jones, un o aelodau mwyaf ffyddlon y Garn. Fel athro ysgol Sul, trysorydd a blaenor, fe wnaeth Eddie gyfraniad arbennig i Gapel y Garn, a gweithiodd yn ddiflino dros sawl mudiad arall, megis Urdd Gobaith Cymru, Oxfam, Bwyd i Bosnia ac Operation Christmas Child. Estynnwn ein cydymdeimlad dwys â Bethan, ei weddw, Nerys a Dafydd a'u teuluoedd yn eu hiraeth a'u colled.
Nos Wener, 12 Rhagfyr 2014, cafwyd noson arbennig yn naws y Nadolig yng nghwmni Trefor ac Eleri unwaith eto eleni.
Crëwyd naws gynnes y Nadolig brynhawn Mercher, 3 Rhagfyr, pan ddaeth Eryl Evans i'r te misol. Wrth arddangos ei gwaith llaw cain a dyfeisgar, rhannodd beth o'i hanes a'i hatgoion a darllen darnau o farddoniaeth yn ymwneud â'r Nadolig. Merched y Dolau oedd yn gweini'r te.
Bore Sadwrn, 29 Tachwedd 2014, cynhaliwyd bore coffi blynyddol y Chwiorydd ar ddechrau'r Adfent. Roedd staff Cartref Tregerddan wedi paratoi cacen Adfent hyfryd ar ein cyfer eleni eto, a thorrwyd y darn cyntaf gan ein Gweinidog i agor y digwyddiad. Derbyniwyd nifer helaeth o duniau amrywiol ar gyfer Banc Bwyd y Jiwbilî, a rhannwyd y cyfraniadau ariannol rhwng Capel y Garn a'r Banc Bwyd.
Bore Sul, 16 Tachwedd 2014, bedyddiwyd Math Lewys, mab bach Steffan ac Elen Roberts, brawd Lois, yng Nghapel y Garn gan ein Gweinidog. Dymunwn bob bendith i'r teulu.
Cafwyd perfformiadau cofiadwy o'r ddrama newydd hon gan Euros Lewis i gyd-fynd ag arddangosfa Cofio'r Rhyfel Mawr: Prosiect Cofio a Myfyrio, yng nghapeli'r Garn, Bethel, Tal-y-bont; Pen-llwyn a Horeb, Penrhyn-coch yn ystod mis Tachwedd 2014. Cymerwyd rhan gan actorion lleol o gwmni Licris Olsorts a Chwmni Troed-y-rhiw, a gwnaed casgliad tuag at Gymdeithas y Cymod ar ddiwedd y perfformiadau. Lluniau yn yr
oriel
Llyfryn dwyieithog i gyd-fynd â'r arddangosfa, yn rhoi cefndir cyffredinol y rhyfel, gan gynnwys recriwtio, rôl y merched a gwersyll y Tiriogaethwyr yn yr ardal. Cynhwysir hefyd enwau a bywgraffiad byr o'r dynion lleol a gollwyd yn y rhyfel. Pris: £2. Anfonwch ebost at: ymholiadau@capelygarn.org. I weld llun o'r clawr, cliciwch
llyfryn
Nos Lun, 3 Tachwedd 2014, roedd Neuadd Rhydypennau dan ei sang ar gyfer noson agoriadol yr arddangosfa o ddeunyddiau a gasglwyd yn lleol. Llywiwyd y noson gan Penri James a chafwyd eitemau gan ysgolion cynradd Tal-y-bont, Rhydypennau, Llanfihangel-y-Creuddyn a Phenrhyn-coch. Darllenwyd Neges Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru gan ddisgyblion o Ysgol Penweddig, a chafwyd eitemau hefyd gan fand pres yr ysgol. Cafwyd gair gan William Howells, curadur yr arddangosfa, a chan Gwynfor Hughes, Caerdydd. Bu ei dad, William Hughes, gynt o Dŷ Capel y Garn, yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Am wybodaeth am yr arddangosfa a'r ddrama 'Cofia'n Gwlad', cliciwch
poster
ag Alan ac Ann Wynne Jones a'r teulu yn eu profedigaeth. Bu farw mam Alan yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ar 21 Hydref.
Cafwyd dechrau arbennig i'r tymor newydd gyda darlith ardderchog gan Gwyn Jenkins ar y testun 'Ceredigion a'r Rhyfel Byd Cyntaf'. Cyflwynwyd y siaradwr gan y Parch W. J. Edwards, Cadeirydd y Gymdeithas am eleni.
Cynhaliwyd y gwasanaeth eleni yng Nghapel Noddfa bore Sul, 12 Hydref, dan arweiniad y Parch Richard Lewis. Cymerwyd rhan gan blant yr ysgol Sul, ac roedd y casgliad tuag at Gartref Tregerddan a Banc Bwyd Aberystwyth.
i Gaenor ac Eric Hall, ar ddathlu eu priodas ddiemwnt ar 13eg Awst, ac am rannu'r achlysur â'r gynulleidfa fore Sul, 10 Awst.
i Lleucu Roberts, o Rostryfan bellach ond yn wreiddiol o Bow Street - a Chapel y Garn - ar gyflawni camp unigryw yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014. Cipiodd Wobr Goffa Daniel Owen am ei nofel
Rhwng Edafedd a'r Fedal Ryddiaith am ei chyfrol o straeon byrion
Saith Oes Efa.
Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig yn ysgoldy Bethlehem, Llandre, nos Sul, 20 Gorffennaf, dan arweiniad y Gweinidog. Roedd hwn yn achlysur arbennig i nodi ymddeoliad Mrs Elina Davies fel gofalwraig Bethlehem, ar ôl blynyddoedd lawer o wasanaeth. Cafwyd atgofion a gair o ddiolch i Elina gan Mrs Gaenor Hall a chyflwynodd Alan Wynne Jones rodd iddi ar ran yr eglwys. Darllenodd Vernon Jones englyn a luniodd yn arbennig i Elina a chyflwynwyd copi ohono wedi'i lythrennu'n gain gan Erddyn. Wrth ddiolch i Elina, rydyn ni'n croesawu Annette Williamson, ei holynydd, ac yn dymuno'r gorau iddi hithau yn y gwaith.
Bore Sul, 20 Gorffennaf, mewn gwasanaeth dan arweiniad y Gweinidog, bedyddiwyd Efan Hedd ac Elis Gwern, efeilliaid bach Meleri a Matthew Flint, ac wyrion Wynne Melville a Linda Jones. Yn ystod y gwasanaeth cafwyd cyfle hefyd i longyfarch ein cyn-weinidog, y Parch Elwyn Pryse, gan iddo gael ordeinio i'r weinidogaeth drigain mlynedd yn ôl i eleni. Yn dilyn y gwasanaeth, cafwyd cyfle i gymdeithasu yn y festri – a rhannu'r gacen arbennig i nodi'r achlysur.
Bore Sul, 13 Gorffennaf, daeth cynulleidfa niferus i Gapel y Garn, ar gyfer oedfa haf yr ofalaeth,dan arweiniad y Gweinidog. Cymerwyd rhan gan rai o blant yr ysgol Sul a chafwyd anerchiad i'r plant ar y thema 'Dwylo'n Gwasanaethu'. Yna, trwy gyfrwng lluniau a fideos, cafwyd cyfle i rannu rhai o brofiadau'r Gweinidog ar ei daith ddiweddar i Shillong a Mizoram, gogledd-ddwyrain India. Roedd gweld y capeli'n llawn yno a brwdfrydedd y bobl ifanc yn agoriad llygad, a braint arbennig oedd gweld a derbyn cyfarchion y Parch. Riwphona Maublei a theulu Vanlal, sydd â chysylltiad arbennig â Chapel y Garn. Gwnaed casgliad tuag at Tearfund, ac roedd yn hyfryd cael cyfle i gymdeithasu dros baned yn dilyn yr oedfa.
Diolch i bawb ddaeth â deunydd ar gyfer i'r gwahanol ganolfannau yn ystod wythnnos y sesiynau cywain, 8–11 Gorffennaf.
Cynhaliwyd yr ŵyl eleni eto yn y Morlan, Aberystwyth, am bore Sul, 29 Mehefin. Thema'r gwasanaeth oedd 'Arwyr' a chafwyd cyflwyniad dramatig iawn o hanes Dafydd a Goliath, gyda Gweinidog y Garn yn serennu yn un o'r rhannau.
Pnawn Sul, 29 Mehefin, cafwyd gwasanaeth arbennig i gofio'r cewri Hywel Harris a Thomas Charles yng Nghapel y Garn. Roedd yn bleser croesawu aelodau'r Gymdeithas yn ogystal â nifer o gapeli eraill y fro. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch Aled Jenkins, Hwlffordd, a'r Parchn. Wyn a Judith Morris oedd yn gyfrifol am y rhannau dechreuol. Cafwyd anerchiad ysbrydoledig gan y Parch Ddr D Ben Rees, Lerpwl, a lwyddodd i grynhoi cymeriadau a chyfraniadau'r ddau wron. Yn dilyn y gwasanaeth, gwahoddwyd pawb i de yn y festri, wedi'i baratoi gan y chwiorydd.
Cafwyd erthygl bwysig gan Elystan Morgan ar dudalen flaen rhifyn 20 Mehefin o'r Goleuad. I'w darllen, cliciwch
Goleuad
ag Elen a Ray Evans a'u teuluoedd yn eu profedigaeth o golli eu chwaer hynaf, Mair Elizabeth Jones, a fu farw'n dawel ar 7 Mehefin.
i Elen a Steffan Roberts ar enedigaeth eu mab, Math Lewys, ar 5 Mehefin, brawd bach i Lois, ac ŵyr i Rhian Huws.
Bore Sul, 18 Mai, cynhaliwyd gwasanaeth arbennig dan arweiniad y Bugail i nodi diwedd wythnos Cymorth Cristnogol. Trwy gymorth ffilm a sleidiau, gwelwyd sut mae mudiad Cymorth Cristnogol a'i bartneriaid yn newid bywydau pobl yn Colombia, Swdan ac Irac. Yn dilyn y gwasanaeth paratowyd cinio bara a chaws yn y festri, a gwnaed casgliad tuag at Gymorth Cristnogol.
Nos Fawrth, 13 Mai, yng Nghapel y Crwys, Caerdydd, cyflwynodd ein Gweinidog ei araith ymadawol fel Llywydd y Sasiwn. Cafwyd ganddo araith rymus a heriol, yn seiliedig ar dri darlun o genedl Israel: cyn y gaethglud, yn ystod y gaethglud ac yn dilyn y gaethglud, ynghyd â neges oedd yn herio'r eglwys i ystyried ei sefyllfa bresennol. I ddarllen yr araith, cliciwch:
Araith
i'n cyn-weinidog, y Parch Elwyn Pryse sydd wedi treulio 60 mlynedd yn y weinidogaeth. Cafodd ei longyfarch yn ffurfiol yn Sasiwn y De yng Nghapel y Crwys, Caerdydd, ddydd Mawrth, 13 Mai ac mae aelodau'r Garn hefyd am ei longyfarch a diolch iddo am ei gyfraniad dros gynifer o flynyddoedd.
Dydd Sul, 11 Mai, oedd diwrnod y gymanfa eleni ac fe'i cynhaliwyd yng Nghapel Bethel, Aberystwyth. Roedd cyfarfod y plant dan arweiniad y Barch Judith Morris, a chymerwyd rhan hefyd gan ysgolion Sul yr ardal. Yng nghymanfa'r oedolion yn yr hwyr, yr arweinydd oedd Mrs Margaret Daniel, Aber-porth, a'r llywydd oedd yr Athro Jane Aaron. Bu'r diwrnod yn un llwyddiannus iawn, a chafwyd dau gyfarfod bendithiol.
y Parch Wyn Morris, sydd wedi dychwelyd i'r wlad yn dilyn ei ymweliad ag ardaloedd Shillong a Mizoram, India. Cafodd brofiadau cyfoethog yn y rhan hon o India sydd â chysylltiadau arbennig â chenhadon o Gymru.
Bore Sul, 20 Ebrill, cynhaliwyd oedfa deuluol yn y Garn i ddathlu'r Pasg. Cafwyd darlleniadau a gweddïau gan nifer o aelodau'r gwahanol gapeli, a chanwyd 'O Nefol Addfwyn Oen' gan barti o wragedd ifanc. Cafwyd cyfle hefyd i wylio ffilm Stori'r Pasg a luniwyd gan blant yr ysgol Sul, dan gyfarwyddyd Rhodri. Roedd hwn yn wasanaeth bendithiol iawn a fydd yn aros yn y cof yn hir.
i Siwan ac Endaf Griffiths ar enedigaeth eu mab, Huw Lloyd Griffiths, ar 8 Ebrill, brawd bach i Megan.
Daeth tymor y Gymdeithas i ben nos Wener, 21 Mawrth, gydag 'Eisteddfod Fach' ym Methlehem, Llandre. Meuryn y tasgau oedd Rocet Arwel Jones, a daeth sawl talent gudd i'r amlwg. Dyma'r rhai a ddaeth i'r brif: darn o ryddiaith dim mwy na 100 gair: 'Stormydd' - Eddie Jenkins; dau bennill: 'Cadair' - Dilys Jones; limrig - Vernon Jones; brawddeg o'r gair 'Gwynfor' - Janet Roberts. Llongyfarchiadau i'r enillwyr i gyd!
Roedd yn braf gweld cynulleidfa luosog wedi dod ynghyd fore Sul, 2 Mawrth 2014, i'n gwasanaeth blynyddol i ddathlu gŵyl ein nawddsant. Cafwyd eitem gan gôr rhieni a phlant yr ysgol Sul a neges bwrpasol i'r plant a'r oedolion gan y Parch Richard Lewis.
ar eu gwylnos lwyddiannus nos Iau, 27 Chwefror 2014. Llwyddodd y criw - ifanc a hŷn - i gadw'n effro am 24 awr yn y festri - a hynny er mwyn codi arian at achosion da. Diolch i Zoe am drefnu ac i bawb a gyfrannodd ym mhob ffordd.
nos Wener, 21 Chwefror, cafwyd noson ddifyr yng nghwmni Gwerfyl Pierce Jones, a gyflwynodd ddetholiad o gerddi a rhyddiaith oedd yn hoff ganddi hi. Wrth iddi roi cefndir y darnau a ddewiswyd ganddi, cafwyd cip ar fywydau'r awduron a hefyd ar rai o brofiadau Gwerfyl wrth iddi ddod i gysylltiad â hwy.
i Bryn ac Aled Lloyd yn eu cartref newydd yng Nghaerdydd. Mae Bryn wedi rhoi blynyddoedd maith o wasanaeth ffyddlon a diflino i'r Garn, fel blaenor am 30 mlynedd, ac yn arbennig ei ofal am yr adeiladau ac fel Ysgrifennydd Ariannol.
Bore Sul, 9 Chwefror, ymunodd rhai o aelodau'r Garn â'r gynulleidfa luosog yng Nghapel Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth, ar gyfer oedfa i gomisiynu Zoe Jones yn Swyddog Datblygu Gwaith Plant ac Ieuenctid. Llywyddwyd y cyfarfod gan Dewi Hughes, ac roedd y band ieuenctid dan arweiniad Llio Penri. Gweddïwyd dros Zoe gan y Barch Nan Powell-Davies a chafwyd anerchiad bywiog i'r plant gan Dr Owain Edwards, Coleg y Bala. Pob bendith a dymuniad da i Zoe yn y swydd bwysig hon.
Am deyrngedau er cof am rai o aelodau'r Garn, cliciwch
cofio.
Am archif newyddion 2013, cliciwch
yma.