Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Archif newyddion Capel y Garn 2013



Oedfa Nos Galan

Croesawyd y flwyddyn newydd mewn oedfa fer a gynhaliwyd am 11.30 nos Fawrth, 31 Rhagfyr, dan arweiniad y Gweinidog. Cafwyd cyfraniad arbennig hefyd gan yr Athro Dauvit Broun, Dunblane, a soniodd am ddathliadau ac arwyddocâd y Calan yn yr Alban.

Bore'r Nadolig

Yn ôl ein harfer, cynhaliwyd oedfa gymun dan arweiniad y Gweinidog, a braf oedd croesawu nifer o aelodau a chyfeillion y Garn oedd wedi dod i dreulio'r ŵyl gyda'u teuluoedd. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Meleri Jones a Sara Huws, y ddwy bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

Gwasanaeth y Gair a'r Geiriau

Daeth cynulleidfa niferus i'r Garn ar gyfer ein gwasanaeth Nadolig arbennig nos Sul, 22 Rhagfyr, dan ofal ein Gweinidog. Cafwyd darlleniadau o'r Beibl a cherddi, a chyfeiliwyd i'r carolau gan fand pres o ieuenctid, dan arweiniad Alan Phillips, a Meinir Willliams ar y delyn deires. Yn dilyn y gwasanaeth, cafwyd cyfle i gymdeithasu dros baned a mins pei yn y festri.

Apêl y Philipinau

Cafwyd cyngerdd ardderchog yng Nghapel y Garn nos Sul, 15 Rhagfyr, yng nghwmni nifer o artistiaid lleol. Trefnwyd y noson gan Alan Wynne Jones a derbyniwyd rhoddion tuag at yr apêl

Gwasanaeth Nadolig Plant Ysgol Sul Unedig Bow Street

Cynhaliwyd y gwasanaeth eleni yng Nghapel Noddfa fore Sul, 15 Rhagfyr, a chyflwynodd y plant, rhieni ac athrawon yr ysgol Sul stori annwyl Papa Panov. Treuliodd yr hen grydd Nadolig unig yn disgwyl i'r Iesu ddod i ymweld ag ef fel a ddigwyddodd yn ei freuddwyd. Ond hen ddyn yn brwsio'r stryd a merch ifanc, dlawd a'i baban oedd ei unig ymwelwyr y diwrnod hwnnw. Rhannodd Papa Panov ei fwyd â'r hen ddyn a rhoi pâr o esigidiau i blentyn y ferch dlawd – a dangos gwir ystyr stori'r Nadolig.

Dathlu'r Nadolig yng nghwmni Trefor ac Eleri

Nos Wener, 13 Rhagfyr, bu Cymdeithas Lenyddol y Garn yn dathlu'r Nadolig yng nghwmni Trefor Pugh ac Eleri Roberts. Cafwyd amrywiaeth o eitemau cerddorol ganddynt a oedd yn cyfleu naws ac ysbryd yr Ŵyl.

Gwasanaeth Nadolig Ysgol Rhydypennau

Roedd Capel y Garn dan ei sang, nos Iau, 12 Rhagfyr, ar gyfer gwasanaeth Nadolig plant Ysgol Gynradd Rhydypennau, a phleser oedd eu llongyfarch ar eu gwaith arbennig bob un - heb anghofio'r athrawon a fu'n eu hyfforddi, wrth gwrs.

Llongyfarchiadau calonnog iawn

i'r Arglwydd Elystan ar ennill y wobr am Gyflawniad Oes yng Ngwobrau Gwleidydd y Flwyddyn 2013. Cwbl haeddiannol!

Paned a chroeso ar drothwy'r Adfent

Bore Sadwrn, 30 Tachwedd 2013, daeth nifer dda i festri'r Garn i gymdeithasu a sgwrsio dros baned. Chwiorydd y capel oedd wedi trefnu'r achlysur, a derbyniwyd cyfraniadau tuag at Stordy'r Jiwbilî (banc bwyd Aberystwyth) ac Apêl y Philipinau

Noson yng nghwmni Mihangel Morgan

Nos Wener, 15 Tachwedd, cafwyd cyfarfod difyr iawn o'r Gymdeithas Lenyddol pan ddaeth y llenor Mihangel Morgan atom a darllen detholiad amrywiol a dadlennol o nifer o'i weithiau. Llywyddwyd y noson gan Gareth William Jones, Cadeirydd y Gymdeithas.

Swyddog Plant ac Ieuenctid Menter Gobaith

Ddydd Llun, 11 Tachwedd, dechreuodd Croeso Zoe Glynne Jones ar ei swydd fel Swyddog Plant ac Ieuenctid gyda Menter Gobaith Ceredigion. Cyn symud i Aberystwyth, bu Zoe yn ddirprwy reolwraig yng Ngholeg y Bala.

Cymdeithas Lenyddol y Garn

Cafwyd noson agoriadol arbennig i dymor y Gymdeithas eleni nos Wener, 18 Hydref 2013, pan gafwyd sgwrs gan yr Athro Gruffydd Aled Williams ar y testun 'Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr. Braf oedd gweld y festri'n llawn ar gyfer yr achlysur.

Gwasanaeth Diolchgarwch yr Ofalaeth

Daeth cynulleidfa niferus ynghyd i Gapel y Garn bore Sul, 13 Hydref 2013 i'r oedfa ddiolchgarwch, dan arweiniad y Bugail. Cymerwyd rhan gan blant yr ysgol Sul, a chafwyd neges bwrpasol yn seiliedig ar 'fara'r bywyd'. Cyflwynodd y plant ffrwythau a llysiau i'w rhoi i Gartref Tregerddan, a gwnaed casgliad at y Cartref hefyd.

Cystadleuaeth Cacen y Beibl

Yn ystod y gwasanaeth diolchgarwch, cyhoeddwyd mai enillydd y gystadleuaeth oedd Delyth Davies, Pen-llwyn. Diolch i Dwysli Peleg-Williams am osod y dasg ac am wneud y gacen - a'i rhannu gyda'r baned ar ôl yr oedfa. Fedrwch chi ddatrys y cliwiau? Mae copi i'w weld yn y rhifyn Hydref 2013 'Gair o'r Garn' drwy glicio cacen

Taith Gerdded yr Ofalaeth

Cafwyd taith lwyddiannus iawn, dan arweiniad Dilwyn a Carys Jones, o 'Langelynnin i Lanegryn' ddydd Sadwrn, 12 Hydref 2013. Dechreuwyd drwy ymweld ag eglwys hynafol Llangelynnin, cyn dringo'r bryn a mwynhau golygfeydd trawiadol o ben bryniau Meirion, ac yna ymlwybro tuag at Eglwys Llanegryn. Yno, cafwyd cyfle i weld y sgrin bren gerfiedig, y dywedir i'r mynachod ei chario yno o Abaty Cymer. Yna, aeth y criw yn hamddenol yn ôl tua Llangelynnin, gan fwynhau'r gwmnïaeth ddifyr a'r sgwrsio ar y ffordd. Lluniau yn yr oriel

Llongyfarchiadau calonnog iawn

i James a Kate, Tŷ Capel, ar enedigaeth mab bach, Osian, ddydd Mawrth, 8 Hydref - ac mae Osian eisoes wedi cael ei gyflwyno i aelodau'r Clwb CIC yn y festri. Hefyd i Wynne a Linda ar ddod yn dad-cu a mam-gu - ddwywaith - ganed efeilliaid, Efan Hedd ac Elis Gwern, i Meleri a Matthew yng Nghaerdydd.

Y Clwb Ieuenctid Cristnogol (CIC)

Nos Iau, 26 Medi, cafwyd noson gwis gyda Falyri Jenkins i agor tymor newydd o weithgareddau CIC. Braf oedd gweld nifer dda o ieuenctid wedi dod at ei gilydd i fwynhau.

Oedfa Menter Gobaith

Bore Sul, 22 Medi, teithiodd nifer o aelodau'r Garn i Gapel Carmel, Llanilar, i'r gwasanaeth arbennig a drefnwyd gan y Fenter, sy'n cefnogi gwaith plant ac ieuenctid yn yr ardal. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch Richard Lewis, cadeirydd y Fenter, a chymerwyd rhan gan blant ysgol Sul Rhydfendigaid. Cafwyd anerchiad gan Mrs Nia Williams, Coleg y Bala, ac roedd rhai o ieuenctid y Garn yn rhan o'r gerddorfa, dan arweiniad Mrs Llio Penri.

Ymweliad o'r India

Bore Mawrth, 17 Medi, cawsom y fraint o groesawu gweinidogion ar arweinwyr eglwysig o Henaduriaeth Laitumkhrah, Synod Khasi-Jaintia, Shillong, i Gapel y Garn. Paratowyd paned iddynt gan Chwiorydd y Garn, ac yna cynhaliwyd gwasanaeth byr dan arweiniad y Gweinidog, gyda'r cyfeillion o India'n canu cyfieithiad o'r emyn 'Dyma gariad fel y moroedd' yn eu hiaith eu hunain. Cyflwynwyd llun o'r Garn i'r ymwelwyr i gofio am yr achlysur.

Gwasanaeth Bedydd

Pnawn Sadwrn, 31 Awst 2013, bedyddiwyd Maddison Leigh Jones, merch Carwyn a Lyndsey, gan y Bugail. Mae Maddie'n chwaer fach i Jordan a Benjamin, ac yn wyres i Liz Lloyd Jones.

Cydymdeimlir

â Marian ac Eddie Jenkins a'r teulu yn eu profedigaeth. Bu farw Gwen Owen, chwaer Marian, yn Nhre-garth, ger Bangor, ar 25 Awst.

Llongyfarchiadau calonnog

i Vernon Jones ar ennill y wobr gyntaf am soned ar y testun 'Cloddiau' yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013.

Cydymdeimlir

â Nerys a Dewi Hughes, Jennifer a Gethin, yn eu profedigaeth. Bu farw mam Nerys, Mary Hughes, Tywyn gynt, yn dawel ar 31 Gorffennaf 2013.

Llongyfarchiadau

i Rhian Jones-Steele ar enedigaeth dwy wyres fach: Lili Haf, merch Anwen a Mike, a Seren Dorothy, merch Nia a Huw.

Llongyfarchiadau

i Vernon a Dilys Jones ar enedigaeth wyres fach, Elan Ceiro, ar 27 Gorffennaf, merch i Osian a Bethan, a chwaer i Gruff, Ifan a Rhys.

Oedfa Haf yr Ofalaeth

Dydd Sul, 14 Gorffennaf, croesawyd cyfeillion o ardal Corwen a oedd ar bererindod i'r ardal, dan arweiniad y Parch T Leonard Williams, i ymuno â ni yn yr oedfa haf flynyddol. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Ms Llinos Jones a'r Parch T L Williams, a chafwyd anerchiad pwrpasol gan y Parch Wyn Morris ar thema profiadau'r môr a'r mynydd.

Gŵyl yr Ysgolion Sul

Bu rhai o'r plant yng Nghanolfan y Morlan ddydd Sul, 23 Mehefin, i fwynhau'r ŵyl flynyddol. Arweiniwyd mewn gweddi gan y Parch John Roberts ac roedd y gweithgareddau amrywiol dan ofal Eleri Barder, Swyddog Datblygu Gwaith Plant ac Ieuenctid. Derbyniodd ysgol Sul y Garn Dystysgrif Gweithgaredd am waith yr ysgol Sul yn ystod y flwyddyn.

Grŵp Help Llaw

Bu festri Capel y Garn ar agor bore Sadwrn, 8 Mehefin, i dderbyn rhoddion o fwydydd tuag at Fanc Bwyd Stordy'r Jiwbilî. Eglwys St Anne, Penparcau, sy'n gyfrifol am drefnu'r Banc Bwyd ac mae'n darparu bwyd i bobl leol mewn argyfwng. Cafwyd ymateb gwych i'r apêl ac rydym yn ddiolchgar iawn am gyfraniadau arbennig o hael.

Y Ffordd Ymlaen

Nos Lun, 20 Mai, daeth nifer dda i'r cyfarfod arbennig i drafod argymhellion y Cyfarfod Eglwys a gynhaliwyd yn gynharach eleni ar y 'Ffordd Ymlaen' i'r Garn. Cafwyd sylwadau positif ac ymatebion brwd i'r cynlluniau - a hyderwn y bydd y Pwyllgor Eglwys newydd a fydd yn cael ei sefydlu yn cyfrannu at y nod o sicrhau parhad y dystiolaeth Gristnogol yn yr ardal yn y dyfodol.

Gwasanaeth Cymorth Cristnogol

Bore Sul, 19 Mai 2013 cafwyd gwasanaeth teuluol arbennig yn y Garn ar ddiwedd wythnos Cymorth Cristnogol, dan arweiniad y Parch Wyn Rhys Morris, y gweinidog. Clywyd am waith partneriaid Cymorth Cristnogol yn Bolivia, trwy gyfrwng ffilm am Ivana a bu'r plant wrthi'n brysur yn gweithio ar eu taflenni gwaith. Cyplyswyd hanes Elias a'r wraig weddw o Sareffath (1 Brenhinoedd 17) a'r angen i ni fod yn barod i roi ac i rannu. Yn dilyn y gwasanaeth, darparwyd cinio o fara a chaws yn y festri gan y Chwiorydd, a chasglwyd rhoddion tuag at Gymorth Cristnogol.

Cymanfa Ganu Unedig Gogledd Ceredigion

Cynhaliwyd y gymanfa flynyddol dydd Sul, 12 Mai 2013 yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth. Cafwyd cyfarfod arbennig i'r plant yn y bore a chymerwyd rhan gan blant ysgolion Sul y cylch. Yna cafwyd anerchiad i'r plant gan y Parch Eifion Roberts. Yn yr hwyr, cynhaliwyd Cymanfa'r Oedolion, dan arweiniad Mrs Margaret Daniel, Aber-porth.

Llongyfarchiadau calonnog

i'n gweinidog, y Parch Wyn Rhys Morris, ar gael ei sefydlu'n llywydd Cymdeithasfa'r De a oedd yn cyfarfod yn Llanddarog, 1–2 Mai 2013. Pob dymuniad da iddo yn y swydd yn ystod y flwyddyn.

Cydymdeimlir

ag Ann ac Alan Wynne Jones yn eu profedigaeth drist o golli mab, Rhodri, a oedd yn athro drama yn Ysgol Glantaf, Caerdydd; brawd Ceri a Gethin a'i wraig, Gwen, ac ewythr Ffion. Cafwyd dathliad o fywyd Rhodri yng Nghapel y Garn ddydd Gwener, 10 Mai 2013.

Llongyfarchiadau

i Carwyn a Lyndsey ar enedigaeth merch fach, Maddison Leigh, ar 28 Ebrill, chwaer fach i Jordan a Benjamin, ac wyres i Liz Lloyd Jones.

Croeso cynnes

i James a Katie-Hellen January-McCann, gofalwyr newydd Capel y Garn, a dymunwn bob hapusrwydd iddynt yn eu cartref newydd yn y Tŷ Capel.

Llongyfarchiadau calonnog

i Meleri Jones (Rhydyrysgaw, gynt) ar ei phenodiad yn Bennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd. Pob dymuniad da yn y swydd newydd.

Cydymdeimlir

â Dwysli Peleg-Williams a'r teulu yn eu profedigaeth o golli ei mam yn Llanuwchllyn.

Oedfa Gymun y Pasg

Cafwyd oedfa fendithiol, a nifer yn bresennol o wahanol eglwysi'r ofalaeth, fore Sul, 31 Mawrth 2013 dan arweiniad y Gweinidog. Seiliodd ei neges ar brofiad Mair Magdalen yn Efengyl Ioan: 'Ond yr oedd Mair yn dal i sefyll y tu allan i'r bedd, yn wylo' a chyflwynodd dri darlun ohoni: wrth y bedd gwag, gyda'r ddau angel, a chyda'r Crist atgyfodedig.

Oedfa Groglith yr Ofalaeth

Bore Gwener, 29 Mawrth 2013 cynhaliwyd oedfa i fyfyrio ar ystyr y diwrnod arbennig hwn yng Nghapel Pen-llwyn dan arweiniad y Gweinidog.

Cymdeithas Lenyddol y Garn

Nos Wener, 15 Mawrth, cafwyd noson i ddathlu Gŵyl Dewi hwyr ym Methlehem, Llandre. Y gŵr gwadd oedd yr Arglwydd Elystan Morgan. Yn ystod y noson cafwyd casgliad gyda ein gŵr gwadd yn enwebu elusen o'i ddewis. Felly dyma gyflwyno rhodd o ?130.00 i Ward Meurig Ysbyty Bronglais Aberystwyth ar ei ran.

Llongyfarchiadau

i Bryn a Meinir Roberts ar enedigaeth wyres, Mari Fflur, merch i Iwan a Nerys a chwaer fach i Iestyn, fore Sul, 10 Mawrth.

Ffarweliwyd

â Michael, Amanda a Violet Roberts, a symudodd i'w cartref newydd yn y Borth. Llawer o ddiolch i Michael ac Amanda am eu gwaith fel gofalwyr Capel y Garn am y ddwy flynedd ddiwethaf.

Gwasanaeth Sefydlu

Pnawn Sadwrn, 2 Mawrth, cynhaliwyd Gwasanaeth Sefydlu'r Parch Wyn Morris yn weinidog ar Eglwys Pen-llwyn, Capel Bangor. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr John Griffiths, llywydd yr Henaduriaeth, a chymerwyd rhan gan y Parchedigion Roger Ellis Humphreys, Nicholas Bee ac Eifion Roberts. Cafwyd cân bwrpasol gan blant yr ysgol Sul, cyflwynwyd y gweinidog ar ran yr ofalaeth gan Mr John Leeding a'i groesawu gan Mrs Heulwen Lewis. Rhoddwyd y siars i'r eglwys gan y Parch J E Wynne Davies.

Oedfa Gŵyl Ddewi'r Ofalaeth

Bore Sul, 24 Chwefror, daeth cynulleidfa luosog ynghyd i'r oedfa flynyddol i ddathlu gŵyl ein nawddsant, dan arweiniad y Gweinidog. Cafwyd cyfraniadau gan y plant a'r ieuenctid, a neges bwrpasol gan y Gweinidog ar eiriau olaf enwog Dewi: 'Byddwch lawen, cadwch eich ffyrdd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain'. Gwnaed casgliad tuag at ward y plant, Ysbyty Bronglais.

Gwasanaeth Bedydd

Bore Sul, 17 Chwefror 2013, bedyddiwyd Moi Tudur Schiavone, mab bach Owain a Lowri, a brawd Llew Ifan, gan y Gweinidog, y Parch Wyn Morris. Croeso cynnes i Moi i deulu'r Eglwys.

Ysgoldy Bethlehem

Ar raglen Cefn Gwlad nos Lun, 28 Ionawr 2013, bu Dai Jones yn ymweld â'r ysgoldy yng nghwmni Wynne Melville Jones. Cafwyd cyfle i weld y llun a beintiwyd o'r adeilad gan Wynne, a soniodd am bwysigrwydd yr ysgoldy fel canolfan i'r pentref.

Cerddi Dafydd Huws

Mae copi"au o'r gyfrol hon a gyhoeddwyd gan y teulu er cof am Dafydd ar werth gan Elen Roberts. Pris: £5, a'r elw i gyd at Gymorth Cristnogol.

Y Flwyddyn Newydd

Croesawyd y flwyddyn newydd mewn gwylnos o fyfyrdod a gweddi, dan arweiniad ein Gweinidog, nos Lun, 31 Rhagfyr, ac fe gynhaliwyd ein cwrdd gweddi blynyddol ar ddechrau blwyddyn nos Sul, 6 Ionawr. Cymerwyd rhan gan nifer o'r aelodau a chafwyd cyfarfod bendithiol iawn.


Am deyrngedau er cof am rai o aelodau'r Garn, cliciwch cofio.

Am archif newyddion 2012, cliciwch yma.


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu