Bore Sul, 16 Rhagfyr, cafwyd gwasanaeth Nadolig teuluol i gyflwyno Stori'r Geni, lle cymerwyd rhan gan nifer o blant ac oedolion, gyda pharti i'r plant yn dilyn. Yna, nos Sul, 23 Rhagfyr, cynhaliwyd Gwasanaeth y Gair a'r Geiriau, dan arweiniad y Gweinidog, a chrewyd naws Nadoligaidd hyfryd gan y band ieuenctid, yr amrywiol ddarlleniadau, y carolau cynulleidfaol yn ogystal â chyfraniad gan y parti canu, dan arweiniad Alan Wynne Jones. Bore'r Nadolig, cafwyd oedfa deuluol fendithiol, eto dan arweiniad ein Gweinidog. Braf oedd croesawu nifer dda i'r gwasanaethau hyn, a melys oedd y cymdeithasu yn y festri dros baned wedyn - diolch i bawb am eu cefnogaeth.
Cafwyd noson arbennig yn 'Dathlu'r Nadolig' nos Wener, 14 Rhagfyr, dan arweiniad Alan Wynne Jones. Braf oedd gweld y festri'n llawn ar gyfer y cyflwyniadau amrywiol - yn ddarlleniadau a charolau, a chafwyd cyfle i gymdeithasu dros baned a mins pei i ddilyn.
Estynnir ein cydymdeimlad dwysaf â theulu'r ddiweddar Janet Roberts, a fu farw'n dawel ddydd Sul, 21 Hydref. Bu Janet yn aelod gwerthfawr a ffyddlon - yn athrawes ac yn drysorydd yr ysgol Sul am flynyddoedd lawer ac yn ysgrifenydd y Gymdeithas Lenyddol. Fe welir ei cholli yn fawr iawn, ac anfonwn ein cofion at Dylan, Steffan, Trystan a'u teuluoedd.
Pnawn Sul, 21 Hydref 2018, cynhaliwyd oedfa arbennig yng Nghapel y Babell i nodi uno cynulleidfaoedd y Babell a'r Garn. Llywyddwyd yr oedfa gan Mrs Margaret Daniel, Blaenannerch, Llywydd yr Henaduriaeth, a chafwyd cyfraniadau gan gyn-weinidogion y Babell, yn ogystal ag anogaeth i'r dyfodol gan y Gweinidog presennol, y Parch Ddr Watcyn James. Yn dilyn yr oedfa, paratowyd te croeso yn festri'r Garn.
Nos Wener, 14 Medi 2018, daeth nifer dda i Ysgoldy Bethlehem, Llandre, i fwynhau ein swper cynhaeaf blynyddol. Llywiwyd y noson gan Alan Wynne Jones, a Dwysli Peleg-Williams a Delyth Jones oedd yn gyfrifol am baratoi'r wledd flasus a gafwyd. Yna, cyflwynodd yr Arglwydd Elystan-Morgan roddion i Erddyn a Gwenda James i ddiolch iddynt am eu gwasanaeth a'u gofal am Fethlehem am flynyddoedd lawer.
Bore Sul, 2 Medi 2018, daeth aelodau eglwysi'r ofalaeth at ei gilydd i gydaddoli yng Nghapel Rehoboth, Taliesin, dan arweiniad y Gweinidog. Gwnaed casgliad tuag at Hosbis yn y Cartref, Aberystwyth.
Bore Sul, 22 Gorffennaf 2018, daeth eglwysi'r ofalaeth ynghyd yng Nghapel Pen-llwyn, Capel Bangor, ar gyfer gwasanaeth arbennig dan arweiniad y Gweinidog. Cafwyd oedfa fendithiol gyda'n gilydd ar y thema: 'Myfi yw bara'r bywyd'. Gwnaed casgliad tuag at Hosbis yn y Cartref, Aberystwyth - elusen yr ofalaeth am eleni.
Cafwyd gŵyl lwyddiannus iawn ddydd Sul, 24 Mehefin 2018, yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth. Arweiniwyd y sesiwn gan Dr Owain Edwards a Chriw Coleg y Bala, a braf oedd gweld plant o ysgolion Sul yr ardal yn mwynhau gemau, stori, ffilm a chân gyda'i gilydd. Roedd y bwyd barbeciw, dan ofal cyfeillion Capel y Morfa, hefyd yn flasus iawn, fel arfer! Gwnaed casgliad tuag at Dŷ Helyg, Ysbyty Bronglais, sy'n rhoi cefnogaeth werthfawri blant a phobl ifanc.
Dydd Sul, 13 Mai, cynhaliwyd cymanfa lwyddiannus yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth. Yng nghyfarfod y plant yn y bore, cyflwynwyd yr emynau gan blant ysgolion Sul y cylch, arweiniwyd y canu gan Llio Penri a chafwyd neges bwrpasol gan y Parch Eifion Roberts. Arweinydd cymanfa'r oedolion yng nghyfarfod yr hwyr oedd Alwyn Evans, a chafwyd oedfa fendithiol o ganu mawl dan ei arweiniad.
Cafwyd noson arbennig iawn yng nghwmni Mererid Hopwood, nos Iau, 10 Mai 2018, yng Nghapel Horeb, Penrhyn-coch, yn glo i weithgareddau'r prosiect a fu'n ystyried effeithiau Rhyfel 1914-18 ar ardal gogledd Ceredigion. Wedi i gadeirydd y pwyllgor, Llinos Dafis, a gyflwyno crynodeb cynhwysfawr o hanes y prosiect, cafwyd sgwrs wefreiddiol gan y siaradwraig wadd ar 'Bensaerni"aeth Waldo'. Yn dilyn hynny, roedd cyfle i arwyddo Llyfr Gwyn Hedddwch a chymdeithasu dros baned. Gwnaed casgliad tuag at Gymdeithas Waldo a Chymdeithas y Cymod.
Ar ôl cynnal ein hoedfaon ym Methlehem, Llandre, am rai Suliau yn dilyn trafferthion gyda'r gwresogi, cynhaliwyd yr oedfa gyntaf yn ôl y capel fore Sul, 29 Ebrill 2018, dan arweiniad ein Gweinidog. Braf oedd cael cwmni'r plant ar ddechrau'r oedfa a chlywed bwrlwm y plant yn yr ysgol Sul.
Llongyfarchiadau calonnog i dîm y Garn ar ennill Cwis Blynyddol y Morlan nos Fercher, 7 Chwefror 2018 - a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol. Aelodau'r tîm oedd: Llinos, Cynog, Aled a Wyn.
Pnawn Mercher, 7 Chwefror 2018, cafwyd sgwrs ddifyr iawn gan yr Athro Gruffydd Aled Williams ar ei gysylltiadau â Russell Gulch, y dref anghysbell yn nhalaith Colorado, yr Unol Daleithiau, lle ganed ei fam. Llywyddwyd y cyfarfod gan Llinos Dafis, a Meinir Lowry oedd yn gyfrifol am y defosiwn. Paratowyd y te gan chwiorydd ardal gwaelod y pentref.
Hyfryd oedd cael croesawu aelodau o wahanol eglwysi'r ofalaeth i oedfa undebol, dan arweiniad y Gweinidog, fore Sul, 28 Ionawr. Yn dilyn ffilm fer a gair i'r plant ar hanes y Creu, roedd neges y Gweinidog yn ein hatgoffa fod Duw'n gweithredu drwy'r Gair a'r Ysbryd. Yn dilyn yr oedfa, cafwyd cyfle i gymdeithasu yn y festri dros baned
'Digon o Ryfeddod' oedd thema Dewi G Hughes, yn ei sgwrs i'r aelodau nos Wener, 19 Ionawr. Gan ddechrau â'r cerflun hollbresennol o Grist yr Eiriolwyr yn Rio de Janeiro, aeth ymlaen wedyn i Paraguay ac Uruguay, cyn ymweld â'r Wladfa a chael y croeso twymgalon arferol yno. Diolchwyd i Dewi am noson ddiddorol gan y Llywydd, y Parch Elwyn Pryse.
Am archif newyddion 2017, cliciwch
yma.