![]() |
![]() Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones |
![]() |
Croeso i Wefan Capel y Garn![]() Ers ei sefydlu tua 1793, mae i'r eglwys hanes maith a chyfoethog o hyrwyddo'r dystiolaeth Gristnogol yn yr ardal, a'n gobaith yw y bydd y wefan yn un ffordd arall o gyflawni hyn i'r dyfodol. Amserau cwrddFel arfer, cynhelir gwasanaethau yn y capel bob Sul am 10 a 5 o'r gloch, ac mae ysgol Sul i'r plant yn ystod gwasanaeth y bore.Mae Capel y Garn yn un o saith eglwys sydd yng ngofalaeth y Garn, dan weinidogaeth y Parchedig Ddr R. Watcyn James, ac fe gynhelir oedfaon arbennig i holl eglwysi'r ofalaeth ar rai Suliau. Bydd yr oedfaon hyn yn cael eu cynnal am 10 o'r gloch, ac ni fydd gwasanaeth nos yn y Garn ar y Suliau hynny. Byddwn hefyd yn cydaddoli'n rheolaidd â chynulleidfa Capel Noddfa, eglwys yr Annibynwyryn y pentref. ![]() GweithgarwchMae nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal yn y capel yn rheolaidd, er enghraifft, cyfarfodydd Cymdeithas y Chwiorydd a'r Gymdeithas Lenyddol, a bydd y Garn yn cymryd rhan yn flynyddol yng Nghymanfa Ganu Unedig Gogledd Aberteifi.Gwaith gwirfoddolRhoddir llawer o bwyslais yn y Garn ar waith gwirfoddol a chodi arian i helpu pobl anghenus, er enghraifft, casglu bwyd i Bosnia dan ofal y Grŵp Help Llaw a chefnogi apêl flynyddol Cymorth CristnogolMae'r Garn hefyd wedi ymrwymo i fod yn eglwys masnach deg Trowch i mewn atomUn o eglwysi Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw'r Garn, ond mae i unrhyw un droi i mewn atom ac ymuno yn ein haddoliad neu gymryd rhan yn ein gweithgareddau.Am ragor o fanylion, gweler y dyddiadur neu Gair o'r Garn, cylchlythyr yr eglwys, a gyhoeddir bedair gwaith y flwyddyn. Fe gyfeirir yn y crynodeb o hanes yr Eglwys at Ddiwygiad 1904/05 yn cyffwrdd â'r ardal hon ac am y miloedd a ddaeth ym Mehefin 1905, ychydig dros ganrif yn ôl, i addoli a moli Duw yn y capel hwn, ac yn y caeau o'i gwmpas. Ganrif yn ddiweddarach mae'r nifer yn dipyn llai, ond mae yma o hyd gyfeillgarwch a chynhesrwydd a brwdfrydedd. Rydym yn eglwys sydd yn edrych allan ac yn ymwybodol iawn o'r angen sydd yn ein byd, ac o'r herwydd mae yma gyfrannu hael a chyson. Ond rydym hefyd yn ymwybodol fod angen arall yn ein plith. Ganrif yn ôl, dod heb eu cymell a wnâi pobl i addoli Duw. Drwy'r wefan hon, gallwn nid yn unig ddweud peth o'n hanes, ond hefyd wahodd pobl i ddeialog, i ystyried, i bwyso'r hyn a ddywedir ac, efallai, i uno gyda ni yn ein haddoliad. Yr un yw'r neges heddiw ag erioed: O'r fath gyfaill ydyw'r Iesu, Ffrind ym mhob ystorom gref. |
Newyddion o'r GarnGair o'r Garn Mae rhifyn Calan 2021 bellach ar gael ar ein tudalen cylchlythyr Naws y Nadolig Cafwyd noson hyfryd i'n rhoi yn ysbryd y Nadolig, dan ofal Llinos Dafis a Heledd Ann Hall, nos Wener, 11 Rhagfyr yn y Gymdeithas Lenyddol. Cyflwynodd Llinos rai o berlau oesol Salmau Cân y Ficer Rhys Prichard, a chafwyd taith gerddorol ddifyr gan Heledd a chyfle i wrando ar ddetholiad o garolau llai cyfarwydd, yn ogystal â rhai o'r ffefrynnau. Diolch i Llinos a Heledd am noson arbennig iawn. Cwis Zoom Nos Wener, 20 Tachwedd, cafwyd cwis hwyliog ac amrywiol ar gyfer y Gymdeithas Lenyddol, dan ofal Ann ac Alan Wynne Jones. Cwestiynau cerddorol a gafwyd gan Alan, a phrofi ein gwybodaeth gyffredinol a wnaeth Ann. Watcyn a Lowri James ddaeth i'r brig – llongyfarchiadau calonnog iddyn nhw! Y Gymdeithas Lenyddol Oherwydd y sefyllfa gyda Covid-19, arloeswyd drwy gynnal y Gymdeithas drwy gyfrwng Zoom. Ymunodd nifer dda o gyfeillion, o bell ac agos, i wrando ar siaradwraig ein noson agoriadol, sef Sara Huws, Caerdydd, nos Wener, 16 Hydref. Trwy olrhain ei gyrfa a chyfeirio at nifer o brofiadau amrywiol, rhoddodd Sara gip ar yr ystyriaethau y tu ôl i greu a chynnal amgueddfeydd ac arddangosfeydd, yn cynnwys ei gwaith fel un o brif sefydlwyr yr East End Women's Museum yn Llundain. Ailagor Capel y Garn Bore Sul, 4 Hydref, roedd yn hyfryd gweld drysau Capel y Garn ar agor unwaith eto ar gyfer yr oedfa gyntaf yn y capel ers mis Mawrth. Er gwaetha'r tywydd stormus y tu allan, cafwyd croeso cynnes gan y swyddogion a oedd wedi rhoi trefniadau gofalus yn eu lle, yn dilyn y canllawiau perthnasol, er sicrhau diogelwch y gynulleidfa. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Gweinidog, y Parch Ddr R Watcyn James, a chafwyd neges amserol ganddo, yn seiliedig ar Salm 103, 'Fy enaid, bendithia yr Arglwydd'. Roedd yn braf iawn cael y cyfle i gydaddoli yng nghwmni ein gilydd, a chafwyd oedfa fendithiol. Bydd gweddill oedfaon mis Hydref yn cael eu cynnal drwy gyfrwng Zoom, a bydd yr oedfa nesaf yn y Garn fore Sul, 1 Tachwedd, am 10 o'r gloch, os bydd yr amgylchiadau'n caniatáu. Mae croeso i unrhyw un ymuno yn y gwasanaethau Zoom – am fanylion, anfonwch neges at yr ysgrifennydd: ymholiadau@capelygarn.org Sianel YouTube Capel y Garn rydym bellach wedi sefydlu sianel YouTube lle gallwch wylio fideos arbennig a ddarparwyd gan ein Gweinidog 'Gobaith Bywiol' gwasanaeth byr gan y Parch Watcyn James - gweler tudalen Facebook Capel y Garn Gobaith Bywiol 'Gobaith Bywiol' mae fersiwn sain ar gyfer ar Soundcloud: https://soundcloud.com/watcyn-a-lowri-james/sain-3ydd-mai-1-pedr-bennod-1-01, a gellir darllen fersiwn print yn yr adran myfyrdodau 'Y Bugail Da' darlleniadau a myfyrdod gan Watcyn a Lowri James ar dudalen Facebook Capel y Garn Y Bugail Da 'Y Bugail Da' mae'r myfyrdod hefyd ar gael ar Soundcloud: https://soundcloud.com/watcyn-a-lowri-james/myfi-yw-y-bugail-da-4ydd-sul-wedir-pasg, a gellir darllen fersiwn print yn yr adran myfyrdodau 'Felly y credasoch chwithau' Myfyrdod ar 1 Corinthiaid, pennod 15, gan Watcyn a Lowri James - ewch i dudalen Facebook Capel y Garn neu https://soundcloud.com/watcyn-a-lowri-james/felly-y-credasoch-chwithau. Gellir darllen copi yn yr adran myfyrdodau Myfyrdodau ar gyfer y Groglith a'r Pasg I wrando ar y myfyrdodau, ewch i dudalen Facebook Capel y Garn neu https://soundcloud.com/watcyn-a-lowri-james/yn-ol-yr-ysgrythurau-gwener-y-groglith. Gellir darllen copi o'r myfyrdodau yn yr adran myfyrdodau Myfyrdod ar nos Iau Cablyd Gallwch wrando ar y myfyrdod gan y Parch Watcyn James ar dudalen Facebook Capel y Garn ac ar Soundcloud: https://soundcloud.com/watcyn-a-lowri-james/cablu-a-charu. Gellir hefyd ddarllen copi o'r myfyrdod yn yr adran myfyrdodau Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu'r ddiweddar Marian Jenkins, a fu farw'n dawel ddydd Gwener, 3 Ebrill, yn dilyn cyfnod o salwch. Roedd Marian yn aelod ffyddlon a gweithgar iawn o'n cymdeithas yng Nghapel y Garn, ac anfonwn ein cofion arbennig at Eddie, Hywel Sion, Rhiannon a'r teulu estynedig yn eu hiraeth a'u colled. Gwasanaeth Sul y Blodau 2020 Mae gwasanaeth arbennig dan arweiniad Watcyn a Lowri James ar gael ar dudalen Facebook Capel y Garn ac ar Souncloud https://soundcloud.com/watcyn-a-lowri-james/sul-y-blodau-2020. Gellir hefyd ddarllen copi o'r gwasanaeth yn yr adran myfyrdodau Cyfarchion arbennig i Mrs Ann James, sydd ar hyn o bryd yng Nghartref Tregerddan. Pen-blwydd hapus iawn i chi ddydd Sadwrn, 4 Ebrill, a hefyd llongyfarchiadau i Watcyn a Lowri James a fydd yn dathlu pen-blwydd eu priodas ddydd Llun, 6 Ebrill - oddi wrth bawb yng Nghapel y Garn. Mynwent y Garn Yn dilyn cyfarwyddyd a dderbyniwyd gan Gyngor Sir Ceredigion, ni chaniateir mynediad i fynwent y Garn ar hyn o bryd, er enghraifft i osod blodau ar fedd ar Sul y Blodau. Diolch am eich cydweithrediad. Gair o'r Garn Mae'r rhifyn diweddaraf, sef rhifyn Gwanwyn 2020, bellach ar gael. I weld copi, cliciwch Gair o'r Garn Adnoddau addoli ar-lein Ar dudalen Facebook newydd Capel y Garn, gellir gwrando ar oedfa fer dan arweiniad ein Gweinidog, y Parch Watcyn James. Am grynodeb ysgrifenedig o'r oedfa a myfyrdodau eraill, ewch i'r adran myfyrdodau Canslo gweithgareddau Yn dilyn cyfarwyddyd Eglwys Bresbyteraidd Cymru mewn ymateb i ofynion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ni fydd unrhyw weithgareddau'n cael eu cynnal yng Nghapel y Garn am y tro. Am wybodaeth bellach, anfonwch neges atom: ymholiadau@capelygarn.org. Diolch am eich cydweithrediad. Oedfa'r Ofalaeth a chyflwyno siec Bore Sul, 26 Ionawr 2020, daeth eglwysi'r ofalaeth ynghyd yng Nghapel y Garn i oedfa gynta'r ofalaeth eleni, dan arweiniad ein Gweinidog, y Parch Ddr Watcyn James, a da oedd cael dod at ein gilydd fel hyn i gydaddoli. Ar ddiwedd y gwasanaeth, cyflwynodd Delyth Davies, Cadeirydd Pwyllgor Swyddogion yr Ofalaeth, siec i elusen Beiciau Gwaed Cymru. Cafwyd disgrifiad cryno o waith yr elusen gan Mathew Leeman, a chyfle i archwilio un o feiciau modur grŵp Aberystwyth. I ddysgu mwy am waith yr elusen werthfawr hon, ewch i wefan Beiciau Gwaed Cymru/Blood Bikes Wales Dilynwch ni ar Twitter @capelygarn Am fyfyrdodau a gwasanaethau ar ffurf fideo, a mwy ewch i dudalen Facebook Capel y Garn neu i sianel YouTube Capel y Garn I weld newyddion blaenorol, ewch i archif 2019 I'ch dyddiadur...
Ysgol Sul y Plant Bob bore Sul yn ystod tymor ysgol, am 10 o'r gloch, ar y cyd ag ysgol Sul Noddfa - croeso cynnes i blant a phobl ifanc o bob oed. Am fanylion pellach, ewch i'r dyddiadur "Gwreiddiau" Grŵp newydd sy'n cyfarfod yn festri'r Garn bob bore Iau rhwng 10.15 a 11.30 o'r gloch - paned, sgwrs a chyfle i archwlio ein gwreiddiau yn y ffydd, dan arweiniad ein gweinidog. Croeso cynnes i bawb. . Am restr lawn o ddigwyddiadau ewch i'r dyddiadur |