Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Er cof am Vera Lloyd, Cwm Eithin, Maes Ceiro (bu farw 5 Chwefror 2011)


Bore Sadwrn, 5ed Chwefror ar ôl cystudd blin bu farw Vera, priod Bryn, mam Nerys ac Aled, nain Mared a Rhydian a mam-yng-nghyfraith Ifer. Bu Vera'n dioddef am amser hir a threuliodd gyfnodau maith yn ysbytai Bron-glais a Threforys. Gŵyr pawb am yr ymdrechion diflino a wnaed i geisio'i hadfer, ond doedd hynny ddim i fod.

Roedd Vera'n unig blentyn i David Lewis a Hannah Sarah Thomas ac fe'i ganed yn Llandyfrïog yn Nyffryn Teifi ger Castellnewydd Emlyn. Aeth i ysgol gynradd Aber-banc ac
yna i Ysgol Ramadeg Llandysul. Yn bianydd ac organydd medrus, roedd cerddoriaeth yn bwysig i Vera ac enillodd radd ALCM yn 16 oed. Yn ei hieuenctid bu'n organydd yn ei heglwys yn Llandyfrïog.

Wedi'r ysgol ramadeg aeth i Goleg y Drindod, Caerfyrddin, i'w hyfforddi fel athrawes ysgol gynradd a'i phrif bwnc oedd cerddoriaeth. Wedi cymhwyso fel athrawes dechreuodd ar ei gyrfa yn Ysgol Hengoed Sir Forgannwg lle bu'n athrawes am bum mlynedd. Cyfarfu â'i phriod, Bryn, yn Nhŷ'r Cymry, Caerdydd, a bu'n aelod brwdfrydig o Aelwyd yr Urdd yno ac o Gôr yr Aelwyd dan arweiniad Alun Guy. Priododd Bryn ddiwedd Mawrth 1967 a ganwyd Nerys ac Aled yng Nghaerdydd cyn i'r teulu symud i Aberystwyth wedi penodi Bryn yn Ysgrifennydd y Llyfrgell Genedlaethol ym 1971. Fe ymgartrefwyd ym Maes Ceiro, Bow Street, ac ymaelodi yng Nghapel y Garn lle bu Vera yn athrawes ysgol Sul ac, hyd ei gwaeledd, yn organydd. Cyfrannodd yn gyson i fywyd ei chapel a'i chymuned gan gynnwys pwyllgor y neuadd bentref a'r sioe arddwriaeth flynyddol.

Am 11 mlynedd yn ystod y 70au a'r 80au bu Vera yn athrawes Feithrin yn Nhal-y-bont, cyfnod hapus iawn yn ei hanes, a chofnododd ei phrofiadau, gyda nifer o drigolion eraill Tal-y-bont, yn y gyfrol Ein Canrif, a argraffwyd gan wasg y Lolfa beth amser yn ôl. Bu'n gyfeilydd Côr Ysgol Tal-y-bont o dan arweinyddiaeth Geraint Thomas, gorchwyl a roddodd bleser mawr iddi wrth i'r côr fwynhau llwyddiant yn lleol a chenedlaethol. Yna ar ddechrau'r '80au, bu'n Drysorydd Ceredigion o'r Mudiad Meithrin yn Nyfed am tua chwe blynedd.

Cefnogodd yn ymarferol ymdrechion yn y capel i sefydlu grŵp Hwyl Hwyr i blant y Capel ddiwedd y '90au ac yna yn fwy diweddar y grŵp ieuenctid 'Os Mêts'. Wedi'r cyfnodau hyn bu Vera'n dysgu fel athrawes gyflenwi mewn sawl ysgol yng ngogledd Ceredigion hyd nes iddi gyrraedd 65 oed.

Byddai Vera yn mwynhau oriau hamdden prysur a diwyd yn gwau a gwnïo, gwirfoddoli i ddarllen papur sain cyfrwng Cymraeg yn Aberystwyth, ac yn ddiweddarach darllen pum papur bro misol ar dâp o'i chartref i ddeillion canol a gogledd Ceredigion. Yn ei hamser cododd gannoedd o bunnau i wahanol sefydliadau gan gynnwys uned babanod newydd-anedig yn Ysbyty Bron-glais; Age Concern; ymgyrch y Capel i brynu geifr i dlodion y trydydd byd, a chyda'i ffrindiau yn ngrŵp Help Llaw y Capel cynorthwyodd yn wythnosol at achosion dyngarol amrywiol.

Roedd yn un o aelodau gwreiddiol Brodwaith Cymru, ac yn ogystal bu'n aelod brwdfrydig o gangen Merched y Wawr, Bow Street, ac o Glwb Cinio'r Merched yn Aberystwyth hyd ei gwaeledd.

Gwasanaethwyd ar ddydd ei harwyl yng Nghapel y Garn gan ei Gweinidog, Y Parchedig Wyn Rhys Morris, ei chyn-weinidog Y Parchedig Elwyn Pryse, yn cael eu cynorthwyo gan y Parchedigion J E Wynne Davies, Towyn Jones, Judith Morris a Richard Lewis. Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Parchedigion Ken Williams, Andrew Lenny, John Tudno Williams, W J Edwards ac R W Jones (cyn-weinidog).

Yr archgludwyr oedd y Mri Geraint Rees, Martyn Thomas, Trefor Wynne a Rhys Knight a Mr Alan Wynne Jones oedd yn gwasanaethu wrth yr organ. Rhoddwyd ei chorff i orffwys ym mynwent y Garn a gwasanaethwyd ar lan y bedd gan Y Parchedigion Wyn Rhys Morris ac Elwyn Pryse.

(Cyhoeddwyd gyntaf yn y Tincer, Mawrth 2011)


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu