Gweddi wrth gyflwyno rhoddion Nadolig
Dad graslon,
Fel Mair, cyflwynwn ein hewyllys i ti.
Fel y bugeiliaid, cyflwynwn ein haddoliad i ti.
Fel y doethion, cyflwynwn i ti ein cyfoeth.
Fel Joseff, cyflwynwn i ti ein gwaith.
Rhodd gennyt ti yw ein bywyd, felly cyflwynwn ein bywyd i ti,
Yn enw Iesu.
Amen
Ymweliad y gwŷr doeth
1 Cafodd Iesu ei eni yn Bethlehem yn Jwdea, yn y cyfnod pan oedd Herod yn frenin. Ar ôl hynny daeth gwŷr doeth o wledydd y dwyrain i Jerwsalem
2 i ofyn, "Ble mae'r un sydd newydd gael ei eni yn frenin yr Iddewon? Gwelon ni ei seren yn codi yn y dwyrain, a 'dyn ni yma i dalu teyrnged iddo."
3 Pan glywodd y brenin Herod hyn roedd wedi cynhyrfu'n lân. Roedd cynnwrf yn Jerwsalem hefyd.
4 Felly galwodd Herod y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig i'w gyfarfod. Gofynnodd iddyn nhw, ?Ble mae'r Meseia i fod i gael ei eni??
5 "Yn Bethlehem Jwdea," medden nhw. "Dyna ysgrifennodd y proffwyd:
6 "'Bethlehem, yn nhiriogaeth Jwda ?
Nid rhyw bentref dinod yn Jwda wyt ti;
oherwydd ohonot ti daw un i deyrnasu,
un fydd yn fugail i arwain fy mhobl Israel.'"
7 Ar ôl cael gwybod hyn, dyma Herod yn galw'r gwŷr doeth i gyfarfod preifat. Cafodd wybod ganddyn nhw pryd yn union oedd y seren wedi ymddangos.
8 Yna dwedodd, "Ewch i Bethlehem i chwilio am y plentyn. Yna gadewch i mi wybod pan ddowch o hyd iddo, er mwyn i mi gael mynd i dalu teyrnged iddo hefyd."
9 Ar ôl gwrando beth oedd gan y brenin i'w ddweud, i ffwrdd â nhw. Dyma'r seren yn mynd o'u blaen nhw, nes iddi aros uwchben yr union fan lle roedd y plentyn.
10 Roedden nhw wrth eu boddau!
11 Pan aethon nhw i mewn i'r tŷ, dyna lle roedd y plentyn hefo'i fam, Mair, a dyma nhw'n disgyn ar eu gliniau o'i flaen a'i addoli. Yna dyma nhw'n agor eu paciau a rhoi anrhegion gwerthfawr iddo ? aur a thus a myrr.
12 Rhybuddiodd Duw nhw mewn breuddwyd i beidio mynd yn ôl at Herod, felly dyma'r gwŷr doeth yn teithio'n ôl i'w gwlad eu hunain ar hyd ffordd wahanol.
(Fersiwn
beibl.net o Mathew 2:1-12)
Nid ysgrifennu'r hanes am ei fod yn hanesyn bach neis a wnaeth yr Efengylwyr,
ond ysgrifennu i bwrpas, ysgrifennu er mwyn ceisio argyhoeddi.
Dyma a ddywed Ioan ar ddiwedd ei Efengyl,
'Ond y mae'r rhain wedi eu cofnodi er mwyn i chwi gredu
mai Iesu yw'r Meseia, Mab Duw,
ac er mwyn i chwi trwy gredu gael bywyd yn ei enw Ef.'
Beth yw'n hymateb ni, tybed?
Os down i Fethlehem mewn gwirionedd y Nadolig yma,
yna ni allwn fynd oddi yno yn hollol yr un fath.
Dywedir am y brenhinoedd eu bod wedi dychwelyd i'w gwlad
'ar hyd ffordd arall'.
Wedi plygu wrth grud yr un bychan,
ni allent fod yn hollol yr un fath â chynt ?
roedd bywyd wedi newid.
Wedi gweld ei ogoniant ef,
ni allwn anghofio'n cyd-ddyn.
Fedrwn ni ddim anghofio'r rhai hynny
na chânt gyfle i ddathlu'r Nadolig,
y rheini sy'n byw yng nghanol rhyfel
a'r trueniaid nad oes ganddynt ddigon i fyw arno.
Gweddi
Llewyrched dy oleuni dwyfol, Arglwydd,
ym mannau tywyll ein daear.
Deued y goleuni hwnnw'n obaith
i'r carcharor trwy farrau tywyll ei gell,
i'r claf yng nghanol cystudd ei ystafell,
i'r unig yn ei gornel gyfyng,
i'r tlawd a'r newynog yng nghanol eu byd llwm,
i'r diniwed a'r diamddiffyn yng nghanol braw a dychryn rhyfel,
ac i'r profedigaethus yn y storm sy'n curo arnynt.
Amen.
Y Doethion a'u Hanrhegion
Ac fe ddaeth y doethion â'u hanrhegion. Wyddon ni ddim faint o'r doethion ddaeth. Nid oes cyfeiriad at eu nifer yn yr ysgrythurau, er bod y carolau a'r cardiau Nadolig bob amser yn portreadu tri, yn union fel y chwedlau amrywiol a dyfodd o'u cwmpas. Y tebyg yw fod pobl wedi casglu mai tri oedd eu nifer am mai tair anrheg a gyflwynwyd i'r baban: aur, a thus, a myrr. Awgrymwyd ymhellach mai pwrpas yr aur oedd anrhydeddu ei frenhiniaeth, y thus i anrhydeddu ei dduwdod, a'r myrr i anrhydeddu ei ddyndod. Yn ôl traddodiad mae gweddillion y gwŷr doeth wedi'u rhoi i orwedd mewn cist aur uwchben yr allor yn Eglwys Gadeiriol Cwlen (Cologne), lle'r adroddir pob math o straeon dychmygol am y tri ? gan gynnwys eu henwau, eu hil, eu hoed, a lle buont farw.
Ond nid nifer y doethion a'u hanrhegion sydd o bwys; dygasant roddion. Rhaid i ninnau hefyd y Nadolig hwn ddwyn ein rhoddion at y Baban ? yr hyn a feddwn, sy'n cyfateb i'r aur a'r thus a'r myrr. Ond gadewch i ni efelychu'r doethion hyd yn oed yn fwy na hynny. Gadewch i ni ddwyn ein hunain, oherwydd dyna fyddai'r Iesu yn ei ddymuno. Ie, ar bob cyfrif, gadewch i ni ddod â'n rhoddion materol, ein cyfoeth a'n pethau gwerthfawr, ond gadewch i ni ddod â'n calonnau a'n ffydd hefyd. Dod â'n hunain ? ein talentau; ein personoliaethau; ein gweithgarwch; ein sgiliau; y cyfan oll a feddwn. Roedd y doethion yn bobl ddysgedig, yn astrolegwyr o fri. Daethant â'u holl wybodaeth a'u medrusrwydd at y preseb ac addolasant Ef. Fel y bugeiliaid o'u blaen, rhoddasant eu hunain yn gyfangwbl i'r Meseia. Nid yw Duw yn disgwyl llai gan wŷr a gwragedd doeth ein byd a'n cyfnod heddiw.
Wrth gwrs, rhodd o natur wahanol gafwyd gan Herod. Anfonodd filwyr i lofruddio pob plentyn gwryw ym Methlehem oedd yn ddwy flwydd oed neu lai (Mathew 2:16). Hyd yn oed pan oedd yn blentyn, gwyddai'r Iesu am fygythiad yr anghrediniol. Wynebodd hynny hefyd yn Nasareth pan oedd ei gyd-addolwyr yn y synagog wedi'i yrru allan o'r dref er mwyn ei luchio oddi ar y clogwyn (Luc 4:29). Cyfarfu ag ef eto ar Galfaria wrth ddioddef a marw ar groesbren (Mathew 27:32?44; Luc 23:26?49 ac yn y blaen). Mae'r Iesu yn deisyf ac yn haeddu cymaint mwy.
Dygodd y doethion eu rhoddion; rhaid i ninnau hefyd! A wnawn ni offrymu'n rhoddion i'r Iesu yn yr ysbryd priodol ar hyd y flwyddyn newydd? Neu ai esgusodion o bob math a gynigiwn iddo? Ai rhoddion fyddant a offrymir mewn cariad, neu ynteu rhoddion a estynnir mewn difaterwch, malais, casineb ac anghrediniaeth? Gwyddom beth yw dymuniad yr Iesu. Byddai am i ni gofio'r tlawd a'r difreintiedig yn y byd. Byddai am i ni bledio achos cyfiawnder a heddwch. Byddai am i ni wneud ein gorau fel aelodau o'i Eglwys er mwyn i'n hymdrechion fedru dwyn ffrwyth ar ei ganfed. Os mai hau had casineb a wnawn, byddwn yn siŵr o fedi ei boen. Ond os heuwn had caredigrwydd a thosturi, fe brofwn hyfrydwch a bendith. Mae'r addewid bob amser i'w ganfod yn yr ysbryd y cyflwynwn ein hunain i'r Iesu, ac ni ddylai'n bwriad fyth fod yn llai na chariadlawn.
Roedd y doethion yn barod i roi'r cyfan a feddent i'r Arglwydd. ?Daethant i'r tŷ, a gweld y plentyn gyda Mair ei fam; syrthiasant i lawr a'i addoli, ac wedi agor eu trysorau offrymasant iddo anrhegion, aur a thus a myrr.? (Mathew 2:11). Rhoesant wrogaeth i'r un a oedd nid yn unig yn Frenin yr Iddewon, ond yn Feseia i'r holl fyd. Gadewch i ninnau fynd yn eu cwmni i Fethlem y Nadolig hwn.
Yn unol awn eleni ? i gofio
Gwir gyfoeth Ei eni,
Cawn waddol o'i addoli,
A daw nawdd Mab Duw i ni.
(D. Gerald Jones)
(
WRhM)
Myfyrdod ar gyfer y Nadolig
Anodd iawn yw osgoi prysurdeb a rhuthr adeg y Nadolig. Oni fuom wrthi ers wythnosau yn trefnu a pharatoi? Mae cymaint o bethau i'w gwneud cyn y ?diwrnod mawr?, a'r amser mor brin. Cardiau i'w postio, anrhegion i'w prynu, addurniadau i'w gosod yn eu lle, bwyd i'w goginio a phobl i'w gweld. Nawr sawl diwrnod siopa sydd ar ôl erbyn hyn? Pryd mae'r dyddiad postio olaf? Ac mae Anti Jên yn dod atom i aros dros y Nadolig eleni!
Hyd yn oed y Nadolig cyntaf hwnnw, yr oedd yna brysurdeb mawr. Dyna i chi Mair a Joseff yn gorfod teithio'r holl ffordd o dref Nasareth yng Ngalilea i Fethlehem Jwdea i ymgofrestru, pellter o ryw 70 i 80 o filltiroedd, ac ar ôl cyrraedd yno, yn darganfod bod y ?ddinas? yn gyffro i gyd ac yn llawn ymwelwyr:
A welaist ti'r ddau a ddaeth gyda'r hwyr
o Nasareth draw, wedi blino'n llwyr?
Bu raid imi ddweud bod y llety'n llawn
a chlywais hwy'n sibrwd, ?Pa beth a wnawn??
(W. Rhys Nicholas)
Ar yr olwg gyntaf hawdd iawn fyddai cydymdeimlo â'r tafarnwr dychmygol hwnnw ym Methlehem am wrthod galwad Mair a Joseff am le yn y llety. Wedi'r cyfan, ni allai fod wedi gwneud dim arall. Roedd y gwesty'n llawn. O leiaf, chawsant mo'u hanfon yn ôl i'r stryd; rhoddodd gysgod iddynt yn llety'r anifail.
Ond gellir beirniadu'r tafarnwr hefyd am na ddangosodd fwy o dosturi tuag at y ddau anghenus. Pam na allai fod wedi dod o hyd i ryw gornel bach iddynt yn y gwesty ac yntau'n gwybod yn iawn fod y fam ifanc yn disgwyl baban unrhyw funud? Ai am ei fod mor brysur? Roedd cymaint o bethau yn hawlio'i sylw. Roedd pobl yn heidio i Fethlehem i dalu trethi ac yn chwilio am le i aros. A phe bai e wedi cynnig llety i Mair a Joseff, byddai hynny wedi golygu gorfod troi rhai o'r ymwelwyr mwyaf cyfoethog o'r neilltu. Felly, yng nghanol rhuthr a phrysurdeb Bethlehem, mewn beudy llwm y ganwyd y Baban.
Eleni eto, fel pob Nadolig arall, bydd yr Iesu'n curo ar ddrysau calonnau'r ddynoliaeth ac yn erfyn am gael mynediad. Yn anffodus, ei wrthod a wna'r mwyafrif am eu bod yn ei weld fel ymyriad ar eu bywydau prysur.
Ydy, mae E'n gallu bod yn dipyn o niwsans! Mae'n medru herio ein gwerthoedd a'n safonau moesol. Mae'n mynnu codi ei lais yn erbyn anghyfiawnder cymdeithasol a gwleidyddiaeth eithafol. Ni all yr un sefydliad gwleidyddol a chymdeithasol ei gadw'n dawel. Nid dyn y ?status quo? mohono. Mae'n herio unrhyw wladwriaeth a rydd bwys ar arfogaeth lawn. Mae rhyfelgarwyr a chyfundrefnau gwleidyddol llwgr yn ennyn ei lid. Tybed ar ba ddrysau enwadol y bydd yn curo'r Nadolig hwn? Yr Eglwys Bresbyteraidd? Yr Eglwys Fedyddiedig? Yr Eglwys Anglicanaidd? Dydw i ddim yn meddwl y byddai gan yr Iesu ryw lawer i'w ddweud wrth enwadaeth rywsut. Am hynny, efallai na châi ryw lawer o groeso gennym yn yr eglwysi heddiw, mwy nag a gafodd yn y synagogau yn y ganrif gyntaf.
Ond nid curo ar ddrysau ein calonnau yn ystod y Nadolig yn unig a wna'r Iesu, mae'n parhau i wneud hynny ar hyd yr amser. Yn nhymor yr hydref 2010 cynhaliwyd cenhadaeth gyffrous yn Aberystwyth a'r cylch a oedd yn rhan o genhadaeth ehangach ar draws siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion. Cydlynwyd y genhadaeth gan y mudiad Through Faith Missions a'i nod yn syml iawn oedd dwyn Teyrnas Dduw at y tyrfaoedd sy'n sefyll ar yr ymylon, er mwyn iddynt allu dod o hyd i'r croeso mwyaf yng Nghrist a derbyn maddeuant, cymod a thangnefedd yn Nuw.
Daeth y cenhadon i'r ardal a mynd o ddrws i ddrws i rannu'r Newyddion Da, yn mynychu digwyddiadau o bob math, megis boreau coffi, cyfarfodydd cymdeithasol, gwasanaethau ysgolion a hefyd yn ymweld â'r tafarndai i sgwrsio â'r cwsmeriaid. Yn feiddgar, ond nid yn ymosodol, fe fu'r cenhadon yn curo ar ein drysau ac yn ein herio i ddod i adnabod Iesu Grist fel ein Harglwydd personol. Dyma waith a chyfrifoldeb pob Cristion a braint oedd cael bod yn rhan o'r genhadaeth werthfawr hon.
Wrth i ni baratoi i ddathlu'r Nadolig eleni eto, gadewch i ni sicrhau ein bod yn ymateb i alwad taer yr Iesu drwy agor iddo ddrysau ein calonnau led y pen. Peidiwn â'i anwybyddu yng nghanol prysurdeb yr Ŵyl. Rhown ein hewyllys iddo, ein doniau a'r cyfan a feddwn, ein bywyd oll.
(WRhM)