Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Myfyrdodau ar ddiolchgarwch


Diolchgarwch


Ymhlith y ffrwythau a'r llysiau y byddwn yn siŵr o'u canfod yn addurno ein capeli a'n heglwysi adeg Gŵyl Ddiolchgarwch y Cynhaeaf, y mae bron bob amser dorth o fara. Wrth gwrs, symbol yw'r bara o'r cynhaeaf yn ei gyfanrwydd, yn cynrychioli ffrwythau'r ddaear a llafur dwylo dyn – yr hyn y diolchwn oll i Dduw amdanynt.

Yr oedd gan yr Arglwydd Iesu lawer i'w ddweud am fara ac fe'n dysgodd i ddeisyf wrth weddi"o ar ein Tad nefol, "Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol." Nid yw dyn yn hunan-ddigonol er ei holl wybodaeth a'i sgiliau technegol, gwyddonol a chyfrifiadurol. Ni all fyw heb Dduw ac wrth weddi"o am ei fara bob dydd a diolch amdano, yr hyn a wna yw cydnabod daioni'r Creawdwr a'i ddibyniaeth arno. "Ar ei drugareddau yr ydym oll yn byw", ac y mae'r cynhaeaf yn dangos hynny'n glir. Yr adeg arbennig hon o'r flwyddyn, felly, rhown ddiolch am fod y bara yn arwydd o gynhaliaeth ddigonol Duw i'n cyrff.

Ond nid yw Gweddi'r Arglwydd yn gorffen gyda'r geiriau "Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol." A^ yn ei blaen, "a maddau i ni ein dyledion." A dyna'r Weddi felly yn cysylltu'r ddwy agwedd sylfaenol ar fywyd, sef y corfforol a'r ysbrydol.

Gwyddai'r Iesu fod cymaint o angen maddeuant ar ein heneidiau ag a oedd o angen bara ar ein cyrff. Yn anffodus, ni ellir dweud fod y rhan fwyaf o bobl heddiw yn ymwybodol o'u hanghenion ysbrydol a thybiant nad yw derbyn maddeuant yn ystyriaeth bwysig o gwbl. Ond a fyddai'r Iesu wedi ein dysgu i ofyn i Dduw am faddau i ni ein pechodau oni bai fod pechod yn rhywbeth real, a maddeuant yn gwbl angenrheidiol? Onid oes arnom angen maddeuant Duw yn feunyddiol, cymaint yn wir â bara?

Y gwir amdani yw i'r Arglwydd Iesu ei Hun ddweud, pan gafodd ei demtio gan Satan yn yr anialwch, na all dyn fyw ar fara yn unig. Efallai y gall fodoli ar fara yn unig, ond ni all fyw ar hynny. Rhaid wrth rywbeth amgenach, sef yr Efengyl Sanctaidd. Dim ond wrth wrando ar yr hyn y mae Duw yn ei ddweud y gall dyn fyw y bywyd llawn yng Nghrist Iesu, dim ond wedi iddo agor ei galon i'r Efengyl ac ymateb i'r Hollalluog mewn ffydd, addoliad, ufudd-dod a gostyngeiddrwydd y gall ddod o hyd i deyrnas Dduw.

Y mae yna newyn yng nghalonnau pob yr un ohonom na all neb ei ddiwallu, ond Iesu Grist ei hun. Ni ellir byth ddod o hyd i'r bywyd newydd tra bo gennym gyrff cyflawn ac eneidiau gwag; a'r hyn y mae ein heneidiau yn dyheu amdano yn fwy na dim yw cymdeithas â'n Creawdwr, yr Hwn sydd wrth wraidd ein bodolaeth.

Felly, yn ystod ein cyfarfodydd diolchgarwch eleni, gadewch i ni gofio nad y bara sydd yn diwallu ein cyrff yw'r rhodd fwyaf a gawsom gan Dduw, ond y gras sydd yn adfer ein heneidiau. Ni allwn fyw ar fara yn unig. Yr ydym yn ddibynnol ar Air Duw, ar yr Hwn a ddywedodd "Myfi yw bara'r bywyd. Ni bydd eisiau bwyd byth ar y sawl sy'n dod ataf fi, ac ni bydd syched byth ar y sawl sy'n credu ynof fi" (Ioan 6:35). Yng ngeiriau emyn cyfarwydd y Parchedig Tudor Davies:

Holl angen dyn, tydi a'i gŵyr,
d'Efengyl a'i diwalla'n llwyr;
nid digon popeth hebot ti:
bara ein bywyd, cynnal ni.

(Wyn Rhys Morris)


EMYN DIOLCHGARWCH

O Arglwydd y cynhaeaf,
braenara eto dir
ar lymder erwau angen
i'r had 'rôl gaeaf hir.

Anadla dy ddaioni
ym mhridd ein cynnyrch dwys
a ffrwydred heulwen gwanwyn
yr egin dan y gwys.

Yn oriau'r cynaeafu
bendithia'r dwylo brwd
ag awyr las ddilygredd
wrth drin a chasglu'r cnwd.

Diolchwn am ddarpariaeth
yr ebran sydd dan do,
ydlannau o fodlonrwydd
a'th hydre'n sgubo'r fro.

O maddau holl fydolrwydd
a rhemp ein rhuthro ni
ar ddaear oedd mor sanctaidd
un waith pan luniaist hi.

Dad annwyl y tymhorau,
rhoist gymorth yn ei bryd,
dysg ni yn nydd digonedd
i rannu'r bwrdd â'r byd.

(Vernon Jones)



DIOLCHGARWCH


Mynd i'r siop y diwrnod o'r blaen a dal y drws i wraig ganol-oed ddod allan;
hithau'n fy mhasio heb edrych arnaf.

Stopio'r car – er mai gen i roedd yr hawl – er mwyn gadael i gar arall gael mynd yn gyntaf;
hwnnw'n mynd heibio fel tawn i ddim yn bod.

Plentyn mewn pram yn taflu tegan ar y stryd, minnau'n ei godi;
y fam yn ei gythru oddi arnaf, yn rhegi'r plentyn ac, yn guchiog ei gwedd, yn mynd ymlaen ar ei hynt.

Peidiwch â 'nghamddeall i! Doeddwn i ddim eisiau ffws, ond fe fyddai gwên, codi llaw neu sibrwd diolch wedi bod yn dderbyniol. Ond ai adlewyrchiad o'r gymdeithas yn gyffredinol yw'r tair enghraifft? Y gŵyn a glywn yw fod 'Diolch' yn air prin.

Os yw hynny'n wir, does ryfedd fod Cyfarfod Diolchgarwch yn mynd ar i lawr.
Os na fedrwn ni ddiolch i'n gilydd, sut y mae disgwyl i ni ddiolch i Dduw?

Ond efallai na wêl rhywun ddim i ddiolch amdano.

Pam y dylwn i ddiolch? Dydy bywyd ddim yn hawdd, a dw i'n gweithio'n ddigon caled am yr hyn ydw i'n ei gael.

Does yna neb yn dy rwystro di rhag mynd o gwmpas yn weddol ddidramgwydd;
edrych i gyfeiriad Irac, y bomio a'r saethu, a byw yn hunllef,
– a dwed air o ddiolch.

Mae dy gnydau di'n tyfu, pe bai ond y blodau neu'r chwyn yn yr ardd; mae yna dyfiant a'r ffrwyth ar dy fwrdd.
Dydy hi ddim wedi bwrw glaw mewn rhannau o'r Affrig ers blynyddoedd, a dim ond llwch gei di o lwch!,
– a phlyga i ddiolch.

Ar ddiwedd dydd, mi fyddi'n cau'r drws rhag y nos ac yn suddo i foethusrwydd dy aelwyd wedi dy amgylchynu gan beirianwaith y dechnoleg ddiweddaraf;
ond dim ond cyfnas blastig fydd to i rywrai a'r aelwyd fydd hofel neu ddrws siop,
– a rho air o ddiolch.

Os wyt ti'n mwynhau bywyd ac iechyd, ac yn gallu symud o gwmpas, rho dro i Ysbyty Bronglais, o ward i ward, dos a gwêl 'deulu'r poen a'r cystudd',
– ac o waelod dy enaid, diolcha!

Ac ar ambell awr dywyll yn dy hanes, a bywyd fel pe bai o'n cau i lawr arnat ti, fe ddaeth rhywun yn dawel, dawel i sefyll yn d'ymyl di;
adawodd o mo'i enw, ond gadawodd ei fendith a'i nerth.


Ac os gwyddost ti am brofiad fel yna, rho ddiolch iddo a chanmol ei enw:

diolch fo'n ein calon,
moliant yn ein cân.

(R. W. Jones)


©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu