Cyfarfod Gweddi Dechrau'r Flwyddyn, Nos Wener, 6 Ionawr 2012
A ydych chi fel fi yn hoffi lloffa? Byddaf wrth fy modd yn sbrotian drwy lyfrau a phapurau newydd - yn enwedig ar droad y flwyddyn, adroddiad am yr hyn a fu a darogan yr hyn a ddaw. Gorchwyl digon pleserus, hamddenol, digyffro ond anghynhyrchiol iawn - eiliadau'n troi'n funudau, munudau'n oriau ac mewn gwirionedd fawr ddim wedi'i gyflawni a llai fyth wedi'i weithredu. Ia, dyna fo'r gair: diffyg gweithredu yw un o'm ffaeleddau niferus, os nad y mwyaf.
Mae adolygiadau rhai o'r papurau newydd yn hynod ddiddorol. Rhai'n nodi'r llon; rhai'n nodi ac yn ceisio tafoli'r digwyddiadau fu'n destun gofid, megis effeithiau dinistriol grymoedd natur neu'n sôn am drachwant a'i effaith erchyll ar yr economi a chymdeithas neu anghyfiawnder ac anobaith o fewn cymunedau.
Wrth loffa a myfyrio fe'm trawyd gan ymatebion arweinwyr a newyddiadurwyr o wahanol grefyddau i'r modd rydym yn ymateb i'r sefyllfa gymdeithasol.
Fe'm hysgytwyd gan un pennawd: 'Christianity deserves better worshippers'. Mwslemiad yw'r colofnydd Yasmin Alibhai-Brown, ond anogaeth oedd ganddi i Gristnogion wir arfer gwerthoedd arbennig eu cred - y Gristnogaeth a osododd sylfaen i'r wladwriaeth les o iawn ryw, ond sydd bellach yn cael ei defnyddio yn arf wleidyddol. Mae'n cydnabod ymdrechion arweinwyr crefyddol fel Archesgobion Caergaint a Chaerefrog a'r Parch Giles Fraser sydd yn ddiweddar wedi ceisio pwysleisio cyfrifoldeb y gwleidyddion a Christnogion hefyd i weithredu er budd eu cyd-ddinasyddion difreintiedig. Yn ddeifiol, dywed yn Saesneg:
'These churchmen try to remind their people of Christ who came to save them, a child born to asylum seekers. Their words are unheeded. Too many are like (certain politicians) - part-time Christians of convenience, living for mammon, who use their religion as a weapon against those they despise, the poor, helpless and "alien": all those embraced by Jesus Christ in his time.'
Yn yr un modd anogodd Archesgob Cymru, y Dr Barry Morgan, Gristnogion nid yn unig i uniaethu â dyheadau'r 'Meddianwyr' (The Occupy) a welwyd yn St Paul a Chaerdydd a dinasoedd eraill, yn ogystal ag Efrog Newydd a San Fransisco, ond i 'faeddu eu dwylo' yn enw Crist. Coder cri dros iawnderau a chyfiawnder. Ond mae i bob un ei lais a'i gyfraniad, fel yr anogodd ein cyn-Fugail, y Parch Elwyn Pryse, ni ar ddydd Calan, pan bwysleisiodd yr angen i sefyll yn y bwlch ac adeiladu i'r cenhedloedd ar sylfaen grefyddol gref ein hetifeddiaeth. Gyda gwroldeb a gweledigaeth, 'Mab Dyn, saf ar dy draed.'
Ar fore'r Nadolig fe'n hatgoffwyd gan ein Bugail, y Parch Wyn Morris, am y rhodd werthfawr a roddwyd i ni ar y Nadolig cyntaf ac a roddwyd hefyd i'n gwaredu ar y Groes. Pwysleisiodd fod y rhodd hon yn gymorth i'n gofidiau, yn sail i'n gobaith ac yn cynnig maddeuant i'n ffaeleddau. Gyda'r sicrwydd, yma awn ymlaen i'r Flwyddyn Newydd hon.
Yn amserol iawn ar ddechau blwyddyn fel hyn, Iddew - Prif Rabbi Undeb Cynulleidfaoedd Iddewig y Gymanwlad - yr Arglwydd Jonathan Sachs sy'n ein hatgoffa yn y cyd-destunau a awgrymwyd fod tair addewid i'w gwneud a'u gweithredu. Yn gyntaf, diolchwn i Dduw: cenedl sy'n diolch i'w Duw, beth bynnag eu helbul a'u llawenydd, yw'r Iddewon; yn ail amlygwn gariad at ein câr, ein cydnabod a'n cyd-dyn. Dywed y Rabbi:
'True faith is all about love. Love God with all your heart, your soul, your might. Love your neighbour as yourself. Love the stranger because to others you are a stranger. You don't have to be religious to love, but you have to love to be religious. Love is the space we make for that which is not me. By opening ourselves to something bigger than ourselves, we grow.'
Yn drydydd: gweddiwn. Gweddi yw'n sgwrs a'n Arall anfeidrol: 'Prayer is to soul what exercise is to the body and without it we become emotionally flabby.' Mae'n argyhoeddedig fod gweddi'n fwy effeithiol drwy ei harfer gydag eraill mewn lle o addoliad. Aiff ymlaen i ddweud, gan gyfeirio at Iris Murdoch a'i syniad o 'unselfing': 'That is what prayer achieves at its best. It opens our eyes to the wonder of the world.' Ac er helbulon y byd, awgryma Sachs: 'But the principle is simple. When business is bad, invest in the spirit. If the economy stops growing, your happiness can still increase.'
Felly, wynebwn y byd yn y Flwyddyn Newydd gyda'n gilydd a gyda gobaith yn ein calonnau gan derbyn yr her i wneud gwahaniaeth.
Gweddi
Ar ddechrau blwyddyn newydd, yn ansicr o'r daith sydd yn ein hwynebu, cynorthwya ni i dy weld am y Duw wyt ti. Bydd yn gymorth ac yn gynhaliaeth i ni wrth gerdded llwybr ein bywyd ac yn arbennig felly yn ystod y dyddiau a'r oriau anodd. A boed i sicrwydd dy addewidion fod yn gyfrwng llawenydd a gobaith.
Cofiwn - y rhai sy'n byw mewn ofn ac ansicrwydd.
Yng nghanol bywyd a'i dreialon, yn ddigyfeiriad ar adegau, diolchwn i ti, Arglwydd, dy fod yn Dduw tragwyddol, yn gymaint rhan o'n hyfory ag yr wyt o'n heddiw. Felly, datganwn mai ti yw gwir ffynhonnell ein gobaith. Mewn gwyleidd-dra, ymddiriedwn ynot.
Cofiwn - y rhai sy?n ymddiried yn yr hyn sy?n darnio a difetha bywydau.
Diolch, Arglwydd, dy fod wedi sicrhau tystion ym mhob cenhedlaeth. Yn y dydd sydd ohoni rho nerth a gallu i bawb sy'n tystio i'th gariad a'th drugaredd, a chaniatâ i'th wirionedd dreiddio o'r newydd i galonnau dynion.
Cofiwn - blant ac ieuenctid ein gwlad.
Arglwydd heddwch a thangnefedd, bydd yn agos at y rhai sy'n dioddef effeithiau rhyfel a chasineb. Yng nghanol sefyllfaoedd dyrys y byd caniatâ i ni weld a chredu o'r newydd yng Nghrist, y gwas a ddaeth nid i ddinistrio bywyd ond i greu ac yn hynny y bydd gobaith y cenhedloedd.
Cofiwn - y gwledydd sydd eto i brofi heddwch.
Drugarog Dad, gweddi"wn dros y rhai sy'n byw eu bywydau dan amgylchiadau anodd a dyrys. Bydd yn agos atynt a boed i brofiad dy gariad fod yn gyfrwng cysur a chynhaliaeth. Rho iddynt nerth i ddyfalbarhau a llawenydd yn y sicrwydd hwnnw o'u gwobr nefol.
Cofiwn - y rhai sy'n tystio dan amgylchiadau anodd.
Wrth gofio am y rhai a deithiodd o bell i geisio dy Fab Iesu Grist, cofiwn am y rhai sy'n dal i deithio, y rhai hynny sy'n dal i geisio gwneud synnwyr o'th ymwneud trugarog - dyn ym mherson a gwaith dy Fab. Boed i'th oleuni lewyrchu yn eu calonnau a'u dwyn o'r newydd i'r gwirionedd.
Cofiwn - y rhai sydd eto heb glywed am yr lesu.
Clod i-th enw sanctaidd dy fod, er ein beiau a'n ffaeleddau, yn parhau i ymwneud â ni yn dy drugaredd. Agor ein meddyliau a'n calonnau'n ddyddiol i'r ddealltwriaeth o 'Grist Ynom' a boed i'r ymwybyddiaeth honno ein llenwi â phob gallu a nerth.
Cofiwn - y rhai sy'n ei chael yn anodd i amgyffred y 'Dirgelwch'.
Arglwydd, rwyt ti'n awdur bywyd, yn dragwyddol yn dwyn trefn allan o anhrefn. Diolch am dy drugaredd tuag atom yng Nghrist a'r modd y bu i ti ein geni o'r newydd. Trwy weinidogaeth dy Lân Ysbryd boed i ti barhau dy waith yn ein calonnau a'n gwneud yn bobl greadigol yn dy bethau di.
Cofiwn - y rhai sydd yn methu gweld Duw ar waith.
Cyflwynwn ein hunain ar ddechrau blwyddyn i weithredu yn enw dy annwyl fab, ein gwaredwr, Iesu Grist. Amen
Seiliwyd y weddi ar yr hyn a gynhwysir yn 'Gair y Dydd' (Ionawr, Chwefror, Mawrth 2012) a luniwyd gan Fugail ac aelodau Capel y Morfa, Aberystwyth
Myfyrdod ar ddechrau blwyddyn: Ffordd
Fe allen ni weld y flwyddyn sydd o'n blaenau ni fel ffordd i gerdded ar hyd-ddi, rhan fach o daith ein bywydau a rhan lai fyth o'r 'ymdaith tua thragwyddoldeb', yng ngeiriau Ann Griffiths ar ddiwedd un o'i llythyron at John Hughes, lle mae'n cyfeirio ati hi ei hun fel 'cyd-bererin yn yr ymdaith tua thragwyddoldeb'.
Mae ffordd yn un o'r geiriau bach hynny sydd trwy dreigl amser wedi magu ystyron mawr, helaeth a dwfn.
Ar y lefel symlaf, llinell i droedio ar hyd-ddi i gyrraedd o'r naill le i'r llall yw ffordd, ac on'd yw hi'n rhyfeddod ein bod ni, bobl iach, drwy'r weithred syml o roi un o'n dwy droed o flaen y llall ar y llawr a hynny'n ddi-baid yn gallu cerdded yn bell iawn, boed ar hyd ffyrdd syth neu drofaus, llyfn neu garegog, serth neu wastad, gwlyb neu sych.
Mae ffordd wedi rhoi'r gair fforddio, neu fforio, i ni, sy'n golygu mentro i dir diffaith neu anial - agor ffordd newydd lle na bu ffordd o'r blaen - gwaith mentrus a blaengar.
'Ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist,' meddai Williams, Pantycelyn,
'I basio heibio i uffern drist;
Wedi ei phalmantu ganddo Ef,
O ganol byd i ganol nef.'
Fforddolion yw pobl y ffordd, p'un ai'n deithwyr neu'n gardotwyr teithiol. Mewn llythyr arall at John Hughes mae Ann Griffiths yn ei disgrifio ei hun fel 'un sydd yn chwenychu dymuno llwyddiant [i] fforddolion Seion'.
Mae ffordd hefyd yn golygu dull o wneud rhywbeth, sut mae cyflawni rhywbeth, fel yn 'Dyma'r ffordd i ferwi wy' neu 'Dyma'r ffordd orau i wella'r annwyd'.
Yr ystyr yma o'r gair sydd wedi rhoi'r gair hyfforddi i ni - dysgu'r ffordd o wneud rhywbeth. Mae rhywun sy'n cael ei hyfforddi, yn y broses o ddysgu crefft neu wyddor, ac ar ôl ei meistroli fe fydd yn hyfforddedig. 'Hyffordda dy blentyn ym mhen y ffordd,' meddai Llyfr y Diarhebion.
Pan ofynnodd Thomas y cwestiwn, 'Pa fodd y gallwn wybod y ffordd?' 'Myfi yw y ffordd' oedd ateb Iesu Grist. 'Myfi yw y ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd.'
Mae cyfeiriadau at ffordd yn digwydd yn yr Hen Destament a'r Newydd. Ganrifoedd cyn gweinidogaeth Iesu Grist roedd y Salmydd wedi gweddi"o, 'Dysg i mi dy ffordd, o Arglwydd, arwain fi ar hyd llwybr union.' (Salm 27).
Gofid Moses, yn ôl llyfr Deuteronomium, oedd y byddai'r bobl yn llaesu eu hegwyddorion ar ôl ei farwolaeth ef ac yn 'cilio o'r ffordd a orchmynnais i chi'.
Yn Eseia 30 ceir y geiriau: 'Pan fyddwch am droi i'r dde neu i'r chwith, fe glywch â'ch clustiau lais o'ch ôl yn dweud, "Dyma'r ffordd, rhodiwch ynddi'."
Mae'r Parch Elfed ap Nefydd Roberts yn ei lyfr Iesu Grist Ddoe, Heddiw ac am Byth yn cyfeirio at gyfrol o bregethau gan Walter P. John, lle mae'r awdur yn gwahaniaethu rhwng 'crefydd tŷ' a 'chrefydd ffordd'.
Mae crefydd tŷ, meddai, yn cynrychioli'r awydd am ddiogelwch, am le i guddio ynddo, i fod yn saff, i ganfod sicrwydd mewn credo, neu ddefod, neu draddodiad digyfnewid.
Mae crefydd ffordd, ar y llaw arall, yn cynrychioli'r parodrwydd i fentro ymlaen, i fynd allan i ganol bywyd, i ganfod ffyrdd newydd o genhadu a gwasanaethu, i fod yn agored i brofiadau a darganfyddiadau newydd, mewn gair, i fforio, a hynny, mi dybiaf i, yn ysbryd y cariad hollgynhwysol perffaith a phur sydd wedi ei idealeiddio yn Nuw.
Crefydd ffordd yw crefydd Iesu, meddai Elfed ap Nefydd. Nid yw ef yn caniata'u i ni lochesu'n ddiogel o fewn ein strwythurau traddodiadol.
Yn olaf, liciwn i droi fy sylw at y geiriau nodedig a chyfarwydd yn Llyfr Job: 'Y mae llwybr nid adnabu aderyn ac ni chanfu llygad barcud: yr hwn ni sathrodd cenawon llew ac nid aeth hen lew drwyddo'.
Ateb yw'r geiriau hyn i'r cwestiwn, 'Pa le y ceir doethineb a pha le y mae trigle deall?' Nid mewn gwybodaeth nac ym mhethau gweledol y byd, meddai Job, y mae chwilio am ddoethineb ac am gariad Duw. 'Duw sydd yn deall ei ffordd hi (h.y. ffordd doethineb); ac efe a edwyn ei lle hi.'
A dyna'r geiriau a ysbrydolodd angerdd y 'danbaid, fendigaid Ann' yn yr emyn canlynol, ac fe fyddaf yn dragwyddol ddiolchgar i'r diweddar Gwyn Jones, Llysmaelgwn, am agor fy llygaid i ryfeddod y geiriau yma gan Ann Griffiths:
Er mai cwbl groes i natur
yw fy llwybr yn y byd,
ei deithio wnaf, a hynny'n dawel
yng ngwerthfawr wedd dy ŵyneb-pryd;
wrth godi'r groes ei chyfri'n goron
mewn gorthrymderau llawen fyw,
ffordd yn union, er mor ddyrys,
i ddinas gyfaneddol yw.
Ffordd a'i henw yn 'Rhyfeddol',
hen, a heb heneiddio yw;
ffordd heb ddechrau, eto'n newydd,
ffordd yn gwneud y meirw'n fyw;
ffordd i ennill ei thrafaelwyr,
ffordd yn Briod, ffordd yn Ben,
ffordd gysegrwyd, af ar hyd-ddi
i orffwys ynddi draw i'r llen.
Ffordd na chenfydd llygad barcut
er ei bod fel hanner dydd,
ffordd ddisathar, anweledig,
i bawb ond perchenogion ffydd;
ffordd i gyfiawnhau'r annuwiol,
ffordd i gadw'r meirw'n fyw,
ffordd gyfreithlon i droseddwyr
i hedd a ffafor gyda Duw.
Ann Griffiths, 1776?1805
Gaf i ddymuno ffordd rwydd a chariadlon i bawb o fy nghyd-fforddolion i, gydol y flwyddyn sydd i ddod.
(Llinos Dafis)
Ar ddechrau blwyddyn
I Dduw y dechreuadau
rhown fawl am ddalen lân,
am hyder yn y galon
ac ar y wefus, gân:
awn rhagom i'r anwybod
a'n pwys ar ddwyfol fraich;
rho nerth am flwyddyn arall
i bobun ddwyn ei faich.
Ar sail ein doe a'n hechdoe
y codwn deml ffydd,
yn nosau ein gorffennol
ni fethodd toriad dydd;
a hithau'n ddyfnder gaeaf
disgwyliwn wanwyn Crist
a chlywed llais y durtur
uwch pob wylofain trist.
Boed blwyddyn gymeradwy
yr Arglwydd wrth ein dôr,
dirwyned drwy ein dyddiaudrugaredd hael yr Iôr:
a ni wrth borth y misoedd
yn ffyddiog am a ddaw,
ar drothwy'r daith anesgor
gafaelwn yn ei law.
(John Roderick Rees, Caneuon Ffydd, rhif 87)
Gweddi ar ddechrau blwyddyn a degawd newydd, 2010
A ninnau wedi cyrraedd blwyddyn newydd a degawd newydd rydym yn troi atat am arweiniad.
Cymysg iawn fu ein hanes yn ystod y degawd a aeth heibio ond mae gennym lawer o bethau i ddiolch amdanynt.
Diolch am y cerrig milltir a luniodd ein bywydau ar ddechrau'r ganrif hon - y dyfeisgarwch, y llwyddiannau, yr hwyl a'r chwerthin, y cyfle i deithio ac i flasu profiadau newydd a gwahanol, y gwmni"aeth ymhlith teulu a ffrindiau ac am yr oriau o fwynhad a gawsom yn sgil cefnogaeth ac anogaeth cyfeillion mewn gwaith a hamdden.
Diolch hefyd am ein cynnal yn ystod stormydd bywyd - y dyddiau blin, mewn profedigaeth a diflastod, adeg anhwylder iechyd a siomedigaethau mewn gyrfa ac uchelgais, ac am roi'r nerth i ni allu wynebu ergydion bywyd heb i hynny ein llethu.
Y da a'r drwg a'r tyndra rhwng y ddau yw drama bywyd.
Y mae gennym hefyd lawer rheswm i ddiolch am i ni dderbyn anghenrheidiau syml a sylfaenol bywyd, y pethau y byddwn yn aml, yn rhy aml o lawer, yn eu cymryd yn ganiataol. Diolch am gysgod, am wres, am fwyd a diod, am ddillad a chysur ein cartrefi ac am allu bod yn symudol.
Diolch am gyfleoedd i werthfawrogi rhyfeddodau'r Cread. Dysg ni i barchu a diogelu'r Cread ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Diolch am y cain a'r celfydd, yr hardd a'r ysbrydoledig mewn cerdd a chelf a chân. Diolch am bopeth sy'n ymestyn ein profiadau a'n gwerthfawrogiad o'r pethau gorau mewn bywyd.
Nawr, a ninnau yn wynebu blwyddyn newydd teimlwn yn ansicr heb wybod beth sydd o'n blaenau. Mae'n creu rhyw ofn a dychryn yn ein calonnau. Rydym yn sylweddoli nad ydym yn greaduriaid hunangynhaliol a'n bod yn dibynnu ar nerthoedd a galluoedd sydd yn fwy ac yn gryfach nag y byddwn ni byth. Y mae angen llaw arnom i gydio ynddo ac ysbrydoliaeth i'n cynnal er mwyn i ni allu ymdopi â hynt a helynt a sialensau'r byd.
Rydym yn gweddi"o heddiw dros bawb sy'n teimlo'n lluddedig a blin, yr hen, y methedig, y clwyfedig, yr unig a'r rhai sy'n byw yng nghysgod ofn. Gweddi"wn dros y rhai hynny sydd wedi eu siomi mewn bywyd. Cofiwn am y rhai sy'n poeni am eu hiechyd, y rhai sy'n gofidio am arian, am eu diogelwch personol a'u teuluoedd, a'r rhai sy'n ansicr am ddyfodol eu swyddi.
Gweddi"wn yn arbennig am y miloedd sy'n dioddef oherwydd trychinebau natur, a'u tir, eu cymunedau, eu cartrefi a'u teuluoedd wedi eu rhwygo. Cofion am y trueiniaid sy'n dioddef yn Haiti. Wrth weld y chwalfa ar ein setiau teledu a'n cyfrifiaduron ac yn y papurau newydd teimlwn yn ddiymadferth heb wybod beth i'w wneud a sut i'w helpu. Rydym yn gweddi"o dros bob unigolyn sydd wedi goroesi ac sydd wedi eu gadael yn unigrwydd y llanast. Cofiwn hefyd am y rhai sydd yno yn ceisio cynorthwyo'r dioddefwyr yn y drychineb. Diolch am eu dewrder a'u dyfalbarhad.
Gweddi"wn hefyd dros ein plant a'n pobol ifanc. Diolch am ddiniweidrwydd plentyn ac am asbri ieuenctid.
Sylweddolwn ein bod yn byw mewn cyfnod o newid mawr o ran ein cymdeithas a'n cenedl. Rydym yn dystion i newidiadau mawr mewn ffordd o fyw ac ansawdd bywyd, ac rydym yn derbyn nad oes dim i aros yn llonydd a bod newid yn anorfod. Mae datblygiadau technoleg wedi gweddnewid y ffordd rydym yn casglu gwybodaeth ac yn cyfathrebu â'n gilydd ac mae'r bendithion sy'n dod yn sgil y darganfyddiadau newydd yn cyfoethogi ac yn ehangu ein profiadau. Diolchwn am y cyfryngau gwyddonol a thechnolegol sy'n gwneud bywyd yn hwylusach i bawb ohonom, yn ein cartrefi, mewn ysgolion a cholegau, mewn swyddfeydd ac yn y gweithle, mewn ysbytai ac mewn canolfannau gofal.
Dysg i ni fel Cristnogion ac fel sefydliadau Cristnogol i sylweddoli bod newid yn hanfodol a rho'r awydd ynom i fod yn barod i addasu ac i newid i ateb sialens yr oes newydd ac i gyflwyno neges yr efengyl fel cyfrwng deinamig a pherthnasol yn y gymdeithas gyfoes. Tyn ni allan o'r hen rigolau traddodiadol unffurf, ac ar ddechrau blwyddyn newydd gofynnwn am i ti am arweiniad i ni allu gweld y cyfan ar ffurfafen ehangach, a rho'r hyder ynom i allu dweud wrth eraill sut y gall y gwerthoedd Cristnogol ein gwneud yn well pobl a sut y gall dilyn Crist arwain at greu cymdeithas a byd a fydd yn fwy heddychlon, cytûn a dedwydd.
Maddau i ni am ein difaterwch, ein digalondid a'n diffyg brwdfrydedd. Rydym ni'n aml yn gul ein gwelediad ac yn ddiog, yn amharod i ymateb, i godi'n llais ac i ysgwyddo'r baich. Rho fywyd newydd i ni a thipyn o dân yn ein boliau ar ddechrau'r flwyddyn hon:
Ehanga 'mryd a gwared fi
Rhag culni o bob rhyw,
Rho i mi weld pob mab i ti
Yn frawd i mi, O Dduw.
Amen
(Wynne Melville Jones)
Wedi i gân yr angylion ddistewi,
wedi i'r seren gilio o'r ffurfafen,
wedi i'r brenhinoedd a'r tywysogion
ddychwelyd adref,
wedi i'r bugeiliaid ddychwelyd
at eu praidd,
yna bydd gwaith y Nadolig yn dechrau:
canfod y colledig,
iacha'u'r clwyfedig,
bwydo'r newynog,
rhyddhau'r carcharor,
ailadeiladu'r cenhedloedd,
dwyn heddwch i blith y bobl,
creu cerddoriaeth yn y galon.
(Howard Thurman; dyfynnwyd yn Cristion, Nadolig 2009)
Trown at yr Arglwydd mewn eiliadau o ddistawrwydd
cyn myfyrio gyda'r emynydd:
'Distewch, cans mae presenoldeb Crist,
y sanctaidd Un gerllaw,
Dewch, plygwch ger ei fron
mewn dwfn, barchedig fraw,
Dibechod yw efe,
lle saif mae'n sanctaidd le,
Distewch, cans mae presenoldeb Crist,
y sanctaidd Un gerllaw.'
Diolch iti, Arglwydd, ein bod ni weithiau
yn medru encilio i ddistawrwydd
o sŵn y byd a'i boen,
o ruthr beunyddiol ein bywyd,
o sŵn cleber dynion,
o ddadlau dyddiol ein byd,
o floedd y dorf a'r doethinebu teledol a'r sgwrsio gwag.
Diolch am yr eiliadau gwâr, sanctaidd
pryd y medrwn synhwyro'r presenoldeb dwyfol.
Yn y dwys ddistawrwydd hwn,
torred dy leferydd ar ein clyw.
Bydd yn gymorth i ni wynebu'r flwyddyn sydd yn agor o'n blaen
megis dalen newydd lân.
Rho gymorth i ni werthfawrogi'r distawrwydd a'r dwyfol
yng nghanol galwadau seciwlar ein bywyd.
Gwrandawn eto ar eiriolaeth yr emynydd:
'Distewch, cans gogoniant Crist ei hun
o'n cylch lewyrcha'n gry.
Fe lysg â sanctaidd dân,
mawr ei ysblander fry.
Brawychus yw ei nerth,
Breswylydd mawr y berth.
Distewch, cans gogoniant Crist ei hun,
lewyrcha'n gry.'
Yn y distawrwydd, dysg ni i dderbyn y goleuni tragwyddol
a ddaw o'th ogoniant,
y golau a rydd i'n difaterwch materol
ias o obaith,
golau sy'n dangos i'r di-fai
edifeirwch,
y goleuni a lysg ymaith ein hunanoldeb megis sofl sych.
O Arglwydd, dysg ni i blygu
yn ostyngedig o flaen y goleuni,
fel yr agorwn ein calonnau
i wres yr ysbryd sanctaidd
a fydd yn ein cyfarwyddo drwy'r flwyddyn newydd.
A dyma'r emynydd eto yn erfyn arnom:
'Distewch, cans mae nerth yr Arglwydd Iôr
yn symud yn ein plith,
Daw i'n hiacha'u yn awr,
gweinydda'i ras fel gwlith.
Fe glyw ein hegwan lef,
drwy ffydd derbyniwch ef.
Distewch, cans gogoniant Crist ei hun,
lewyrcha'n gry.'
Yn y distawrwydd, Arglwydd, cryfha ein ffydd
fel y sylweddolwn y pŵer mawr
sydd yn dy gariad tuag atom.
Weinyddwr mawr grasusau bywyd,
cynheuwr y berth sy'n llosgi heb ei difa,
diolchwn iti am fendithion y flwyddyn a aeth heibio.
Erfyniwn am dy bresenoldeb,
am dy gwmni wrth rodio
ar ffyrdd troellog y flwyddyn hon eto,
a chael teimlo dy nerth yn ein cynnal
wrth ymgodymu â beunyddiol alwadau'r dydd.
Bydded i ni gerdded allan o ddistawrwydd ein hencil
yn gryfach a gloywach eneidiau
i wynebu rhuthr y byd
a phwys ei oruchwylion diderfyn,
yn eneidiau cytûn
a fydd yn deilwng o'th deyrnas di,
yn oleuni i'n cyd-fforddolion ar y troeon tywyll.
Ac yn y goleuni,
bydded i ni brofi'r iechyd ysbrydol
a'n gwna ni yn ddinasyddion cymwys
i gerdded llwybrau'r flwyddyn neweydd hon
i'w therfyn.
Mawrygwn y distawrwydd,
a'r eiliadau tawel i gymuno â thi,
a diolchwn am fendithion
yr awr dawel
yn dy gwmni. Amen.
Vernon a Dilys Jones
©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by
Technoleg Taliesin Cyf. -
Admin/Gweinyddu