Eglwys Bresbyteraidd Cymru / The Presbyterian Church of Wales
Capel y Garn, Bow Street
 Gweinidog: Y Parch. Ddr R. Watcyn James
 Ysgrifennydd: Mr Alan Wynne Jones
Y Capel
 

Er cof am Buddug James Jones


Buddug James Jones (BJ)

Fel ei thrafael a'i threfen

Hardd ei lliw ar ruddiau llên.

(Vernon Jones)

Teyrnged yr Arglwydd Elystan i Buddug James Jones


Mae'n fraint uchel i mi i gael dweud ychydig eiriau ar sail fy adnabyddiaeth o Fuddug dros agos i ddeg a thrigain mlynedd.

Yr oedd yn un o'r cymeriadau mwyaf gwreiddiol a mwyaf anghyffredin a welodd ein cymdeithas. Yr oedd hefyd yn ymgorfforiad o addfwynder, o haelioni ac o hiwmor.

Ni chafodd blant ei hunan ond yr oedd plant a phobl ieuanc ardaloedd ledled Cymru yn cael eu trin fel unedau o'i theulu.

Yr oedd iddi'r awydd ? nage ? yr obsesiwn ysol i'w hyfforddi i berfformiadau cyhoeddus, a dyna'n union a wnaeth dros gyfnod o hanner canrif a mwy. Nid yw'n ormodiaith i ddweud bod cyfanswm ei chyfraniad yn anfesuradwy ac yn amhrisiadwy.

Beth oedd ei chymhelliad? Yn sicr, nid elw, na chlod, na statws na dyrchafiad. Yr hyn a roddodd ynni i'w hymdrechion oedd serch diffuant tuag at ieuenctid a thrwyddynt hwy serch yn yr Iesu, ac yng ngorau ei gwlad a'i chenedl.

Dros ddegrifoedd lawer fe elwodd yr Eglwys hon o'i thalentau eang ac o'i hegnïon diwyd ? a hynny yn arbennig ar ôl iddi, mewn enw yn unig, ymddeol i Fryngwyn Canol.
Plant yr ysgol Sul yn cofio BJ
O'i hamrywiol ddiddordebau, mae'n debyg mai'r agosaf at ei chalon oedd ysgol Sul y Garn. Bu'n arolygwr amryw droeon. Nid oedd cyfnod Buddug yn cydredeg â dyddiau mwyaf toreithiog yr ysgol Sul. Yn nyddiau Buddug, yr oedd yr ysgol Sul yn wynebu cystadleuaeth amhosib o gyfeiriadau amrywiol atyniadau seciwlar. Wynebodd y rhwystredigaethau hyn yn eofn a digymrodedd.

Yr oedd maes ei hymdrechion yn cynnwys ystod eang o weithgareddau'r ardal hon ac ardaloedd eraill yng Nghymru, o ddramâu i eisteddfodau, o bartïon cydadrodd i wasanaethau crefyddol. Yr oedd beunydd yn creu, yn hyfforddi, ac yn ysgogi.

Meddai ar ddawn arbennig iawn ym myd y ddrama a gydnabyddwyd yn gyffredinol ? o'r perfformiad pentrefol symlaf i uchel lwyfan y Genedlaethol. Yr oedd yn feistres ei chrefft.

Fe ysgrifennodd gannoedd o sgriptiau ? oll yn tystiolaethu i'w doniau creadigol cynhenid ac i ddisgleirdeb ei hysgolheictod a'i diwylliant. Ond ymhlith ei holl ddoniau, y mwyaf mi gredaf oedd ei dawn i danio dychymyg a brwdfrydedd plentyn.

Ugeiniau o weithiau yn yr Eglwys hon fe welais i'r golau gwefreiddiol yn wynebau'r plant o dan ei hyfforddiant.

Er mai plant a phobl ieuainc oedd calon a chnewyllyn ei diddordeb, fe roddodd wasanaeth clodwiw yn ei phriod feysydd i'r rhai hŷn hefyd. Un o'i swyddogaethau blynyddol oedd rhedeg y stondin cynnyrch gardd a fferm yn y ffair flynyddol.

Hyd ei hwythnosau ofal yr oedd ei pharodrwydd i wasanaethu yn ddi-ball ac yn ddi-arbed.

Yng ngeiriau'r adnod: 'A allodd hon, hi a'i gwnaeth'.

Yr oedd i Fuddug ddoniau'r bardd hefyd. Bardd a welodd drasiedïau erchyll a di-rybudd a hynny heb chwerwi na gwrthgilio. Ymgodymodd ag amryfal ofidiau ? ond eto fe welai leufer gobaith y tu hwnt i'r cwmwl tywyllaf.

Dyma delyneg a ysgrifennodd i'r Tincer:

Yfory

Doedd dim goleuni
Dim, ond murllwch trwm yr hiraeth
Paid sôn am yfory

Troi a throsi o dan y garthen
Unigrwydd y tywyllwch yn hongian
Yn ceisio cau allan y llygedyn
o olau gan y wawr oer.
Fydd hi'n well yfory

Yfory ac yfory, chwilio amdano
Rhwng y llwythi o gymylau llwyd
Oedd yn arllwys y dagrau o anobaith!
A oes! Oes! Mae sgwâr bach o
lesni rhwng y cymylau.
A fydd hi'n yn well yfory?!

Cynhesrwydd, cyffyrddiad yn lapio,
Gwên yn goleuo'r tywyllwch,
Caredigrwydd, geiriau mewn llythyr,
a sgwrs,

A dyma'r cilcyn bach o lesni yn tyfu
a thyfu, yn heulwen haf.
Mae yfory wedi dod.

(O'r Tincer, Tachwedd 2003)

Mi fedrai dyn siarad cyfrolau am yr elfennau hynny a oedd yn gwneud Buddug yn wahanol i bawb arall.

Mewn byd lle mae'r mwyafrif llethol ohonom yn fodelau o gyffredinedd a chywirdeb ffurfiol safai Buddug allan fel eithriad hudol a beiddgar. Dyma'i gwir gyfaredd.

Roedd ei hosgo a'i hagwedd yn fythol ifanc mewn corff ac ysbryd, weithiau yn haerllug felly. Dri mis yn ôl, ar ddydd heulog o Hydref, yr oeddwn ar fuarth Bryngwyn Canol gyda'm wyrion bach a geisiai wneud olwynion cert ar y concrit. 'Dim fel'na ma' gwneud. Mae'n rhaid i chi gadw'ch coesau'n syth ? fel hyn,' meddai Buddug. Ar hyn trodd rhyw dair neu bedair 'cartwheel' perffaith. Yr oedd ar y pryd yn 75 oed! Buasai cwarter yr ymarfer hwn wedi malu ais llawer ohonom.

O bryd i'w gilydd, fe ddoi'r haerllugrwydd cyffredinol cynhenid hwn â hi i wrthdrawiad â chyfundrefnau awdurdodol. Nid anarchwraig mohoni ond fedrai hi ddim dioddef unrhyw strwythur o reolau a negyddiaeth oedd yn ei llesteirio rhag gwneud daioni.

Bydd ffordd y Dolau yn llawer tawelach, a dim mwy o gellwair am y Buddug wreiddiol ? Boudica, brenhines yr Iceni a'i cherbyd rhyfel taranllyd.

Bydd yr Eglwys hon, a'r fro hon, a llawer cymdogaeth arall yng Nghymru yn dlotach ac yn wacach o golli'r ferch unigryw hon.

Gallwn ddweud yng ngeiriau'r bardd,

Y mae archoll o golli
Bywyd na ŵyr ein byd ni.

14 Ionawr 2006



Teyrnged y Parchedig R W Jones i Buddug James Jones


Ganwyd Buddug 75 o flynyddoedd yn ôl ar Fawrth 18fed 1931. John James o deulu Ty'n 'Reithin, Llanilar, oedd ei thad ac Elizabeth Ann o Aberffrwd oedd ei mam. Symudodd y ddau i Fryngwyn Canol yn 1928. Ganwyd Buddug, a'i brawd Hywel rai blynyddoedd wedyn.

Cafodd Buddug blentyndod hapus, mynd i'r ysgol yn Rhydypennau, yna i Ardwyn ac yna i'r Coleg yn Aberystwyth i ddilyn cwrs Cymraeg. Gwrthododd athrawes Saesneg ddweud Buddug a bu'n rhaid iddi ddioddef y sarhad o gael ei galw'n 'Budding'.

Yn 1953 symudodd i'r Bala i ddysgu ymarfer corff, ac yn ddiweddarach drama. Ac yno y bu nes ymddeol yn 1994. Yn y Bala y dois innau ar ei thraws yn niwedd y 60au.

Yn ystod y cyfnod yma fe briododd John Griffith Jones, ac wedi ymddeol, bu i'r ddau symud yn ôl i Fryngwyn Canol at Hywel, ei brawd. Roedd ei mam wedi marw ym mis Hydref 1984 a thri mis wedyn, bu farw'i thad.
Blodau gan blant yr ysgol Sul a Chlwb Ffermwyr Ifanc Talybont er cof am BJ
Roedd hi i fod wedi ymddeol, ond yr oedd ynddi ormod o egni a brwdfrydedd a gofal am bobl ifanc a phlant i 'ymddeol'. Bu wrthi'n teithio i'r Bala, Machynlleth, Tywyn ac Aberystwyth yn dysgu drama i lefel TGAU a lefel A. Dyma gyfnod sefydlu cwmni drama 'Licris Alsorts' a chwmni drama pobl ifanc. Byddai'n cynnal dosbarthiadau gyda'r nos ac roedd hefyd yn arolygwr yr ysgol Sul yma yn y Garn.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion yn 1997 fe gafodd ei anrhydeddu ac fe gafwyd Rhaglen Deyrnged iddi ar sail ei chyfraniad enfawr i fyd y ddrama a pherfformio.

Ond fe ddaeth storm i'w rhan. Yn sydyn ym Mai 2002 bu farw John, a chwech wythnos wedyn, eto'n gwbl ddisymwth, bu farw'i brawd, Hywel. Fe effeithiodd y colledion a'r brofedigaeth hon yn ddyfnach ar Buddug nag yr oedd yn barod i'w ddangos. Ond chwerwodd hi ddim; yn wir, yn ystod y cyfnod yma fe barhaodd yn brysur gan fod arholiadau ar y gorwel, a doedd hi ddim am adael y bobl ifanc i lawr.

Wedi'r ddwy brofedigaeth roedd hi fel pe wedi dyblu ei gweithgarwch. Efallai fod dau reswm am hyn: yn gyntaf, fel hyn roedd hi'n 'côpio'; ac yn ail, wyddai hi ddim nawr faint o amser oedd ganddi ar ôl i gyflawni'r cwbl yr oedd arni eisiau ei wneud.

Enaid rhydd oedd Buddug ac nid oedd yn hoffi cyfyngiadau o unrhyw fath. A'r ddau beth oedd yn cyfyngu arni oedd: 1) Amser; a 2) Trefn o unrhyw fath.

Amser
Fyddai neb yn disgwyl i Buddug gyrraedd pwyllgor neu ymarferiadau ar amser. Dod â'i gwynt yn ei dwrn, rhyw hanner awr ar ôl pawb arall y byddai ? ar wahân i'r ysgol Sul. Os dywedai Buddug ei bod am alw bore Llun, os na fyddai acw cyn 9 o'r gloch y bore, yna gwyddwn mai tua diwedd yr wythnos y gwelwn hi ? cyn 9 y bore neu wedi 10.30 yr hwyr ? byth yn waglaw: 'specldis bach (sef yr ieir) yn rhoi'r rhain (sef wyau) i chi', ac yn llawn ymddiheuriadau.

Fe allai hyn fod yn anodd ar adegau 'ac yn dipyn o boendod i'r rhai sy'n credu mewn trefn'. Sawl gwaith y cyrhaeddodd sgript gwasanaeth bore Sul ryw dro ar ôl 11 o'r gloch nos Sadwrn? Cyrraedd y capel ar fore Sul, a hithau'n sgwennu, 'Dw i ddim wedi gorffen y sgript eto!' Yr hyn oedd yn anhygoel oedd fod y gwasanaethau more wreiddiol ac mor ysbrydoledig.

Fedrai Buddug ddim derbyn ei bod yn nhrefn amser yn heneiddio. Roedd popeth ynglŷn â hi yn wadiad o'i hoed.

Trefn
Roedd unrhyw beth oedd yn sawru o 'drefn' yn 'boring' i Buddug. Roedd hi'n anghonfensiynol ei gwisg, a hefyd yn ei char ? yn ei liw a'i gynnwys. Roedd yr anhrefn mwyaf yn y car. Byddai'n cwyno am golli sgriptiau, ond wedyn yn baglu ar draws bag du yn y tŷ yn y Bala, a hwnnw'n llawn sgriptiau.

Roedd llenwi ffurflenni o unrhyw fath neu roi trefn ar ddogfennau yn 'boring'. Symbol o'r awdurdod yma oedd yr heddlu, ac roedd wedi cael ei stopio ganddyn nhw ar y ffordd lawer gwaith. Fe gâi rhywun yr argraff weithiau ei bod yn mwynhau gwrthdaro ag awdurdod, a chicio yn erbyn y drefn.

Ond roedd yn arbennig o hael wrth natur. Sawl gwaith yr aeth hi â phobl ifanc i McDonalds am bryd neu blant yr ysgol Sul i Ynys-las i chwarae 'rounders', a mynd am bryd o 'tsips' wedyn i'r Vic?

Fe fydd y golled yn fawr ar ei hôl:

i Gymru ym myd y ddrama

i bob ifanc ardal eang heb ei harweiniad a'i chyngor

i'r Eglwys yma, ac i blant yr Eglwys, heb ei chyfraniad

i'w ffrindiau a fydd yn colli'r egni byw a'r sgwrsio diddorol.

A dyna ddrama BJ wedi dod i ben. Diolch mai felly y digwyddodd. Llaw garedig wnaeth dynnu'r llen. Nid i Buddug wely claf mewn ysbyty, na chornel mewn cadair. Rhoi aderyn gwyllt mewn caets bwji fyddai hynny.

Yn nrama bywyd Buddug yr oedd yna Gyfarwyddwr. Cwyno rydyn ni fod drama bywyd yn rhemp i gyd ? ond dydyn ni ddim yn cydnabod yr un cyfarwyddwr sydd am ein dysgu sut i actio. Gwneud yn ôl ein mympwy a'n hunanoldeb ein hunain ydyn ni, ac wedyn yn synnu at y gwrthdaro a'r llanast.

Bob Sul, roedd Buddug yn cydnabod y Cyfarwyddwr. Nid ei bod hi'n berffaith. 'Boring' fyddai Buddug yn ei ddwedu am beth felly.

Ond er bod y llenni wedi dod i lawr i ni, fe gludir yr actorion yn rhydd y tu hwnt i'r llen.

14 Ionawr 2006



Teyrnged y Parchedig W J Edwards


Buddug James, Bryngwyn Canol oedd hi i ni, ei chyd-ddisgyblion yn Ysgol Ramadeg Ardwyn (Penweddig heddiw), Aberystwyth, drigain mlynedd yn ôl ymron. Buddug James Jones wedi iddi briodi John Griffith, a B. J. i laweroedd drwy Gymru. A phrynhawn Sadwrn, 14 Ionawr, fe ddaeth pobol o bob cwr o Gymru i Gapel y Garn, Bow Street, i gynhebrwng Buddug ac i ddiolch am ei bywyd a'i llafur rhyfeddol.

Anaml y caed cymaint o wenu a chwerthin mewn angladd ag a gaed wrth ddathlu bywyd cymeriad lliwgar, unigryw y cafodd cenedlaethau o blant a phobl ifanc Ysgol y Berwyn (Ysgol y Merched cyn hynny) o'i gorau fel athrawes ymarfer corff ac yn arbennig fel un a roddodd gyfle iddynt berfformio ar lwyfan.

Drwy Hywel ei brawd, a oedd yn yr un dosbarth â mi, y deuthum i nabod Buddug pan euthum i Ardwyn, hi yn y chweched dosbarth ac ar fynd i'r coleg yn y dre, lle cafodd ei chyfle cyntaf i gynhyrchu drama, yn ogystal ag ennill ei gradd a'i hyfforddi i fod yn athrawes.

Cyrhaeddodd y Bala ym 1953, a bu yno hyd nes iddi ymddeol ym 1994, a hynny'n golygu ei bod wrthi'n gweithio mor galed â chynt, a mynd i ysgolion i hyrwyddo'r ddrama ac i hyfforddi.

Roedd y Bala'n lle dieithr i mi pan euthum yno i'r coleg ym Medi 1958, ond buan yr ymsefydlais, a hynny drwy gymorth Buddug a Menna Jones, oedd yn lletya yn Glenholm, Heol Ffrydan. Roedd y ddwy fel dwy chwaer ac fel dwy chwaer fawr i minnau, a'r fflat yn fythol agored imi fynd a dod fel y mynnwn. Buddug oedd y cyntaf i gydnabod na fyddai wedi gallu cyflawni cymaint oni bai am gymorth a chefnogaeth Menna, yr un hawddgar o Bandy Tudur a gollwyd yn Hydref 1979 yn 57 oed.

Addysg Gorfforol oedd cyfrifoldeb pennaf Buddug yn yr ysgol, ac anaml y deuai yn ail mewn gornestau pêl-rwyd ac athletau sirol. Cystadleuydd fu hi erioed, a symbylydd cystadleuwyr, yn ôl ei phrifathro, Iwan Bryn Williams, 'un oedd wrth ei bodd yn mynd â thîm neu gwmni i ornestau o bob math . . . Ni chafodd ei doniau ym myd y ddrama gyfle i ddatblygu yn Ysgol y Merched, ac o'r herwydd gweithiodd gyda chwmnïau drama Aelwyd y Bala a Gŵyl Ddrama Capel Tegid'.

Mae llawer ohonom yn cofio am y cyfnod byrlymus yma ac am lwyddiannau cwmnïau Buddug yn yr ysgol a'r capel. Fe gofiwn hefyd am basiantau'r Nadolig a'r Pasg yng nghyfnod fy nghyfaill a'm cyd-weithiwr Huw Jones. Byddai Buddug yn dweud pethau rhyfedd wrth Huw, fel wrth bawb ohonom ar dro!

Mae'n werth codi darn eto o'r hyn a sgrifennodd Iwan B. Williams yn nhaflen Rhaglen Deyrnged Buddug ym Mhrifwyl y Bala, 1997:
'Fel artist yn parhau bob amser i newid ei gynfas yn ei ymchwil am berffeithrwydd, neu'r bardd yn cael ei arwain gan yr awen i fannau nas dychmygodd amdanynt cynt, datblygai dramâu Buddug drwy gyfnod yr ymarferion. Gwylltiai pobl y set, y goleuadau a'r gwisgoedd am nad oedd digon o fanylion mewn digon o bryd, ac roedd yn ddigon anodd arnynt yn aml, ond proses greadigol oedd y cynhyrchiad i Buddug ac nid rysáit i'w chyflawni. Felly y cyrhaeddodd ei chwmnïau i dir mor uchel, mor aml.' O gofio'r cyfan, yna mae englyn Iwan i Buddug yn un cwbl berthnasol:

Ar lwyfan dy wasanaeth?dan fynych
Lewych cystadleuaeth,
Rhannem oll, actorion maeth,
Heulwen dy fuddugoliaeth.

Trefnydd y sgript a chyfarwyddwr y rhaglen deyrnged ym Mhrifwyl y Bala oedd Carys Edwards, un o blith cannoedd o blant Buddug sy'n parhau gwaith yr athrawes mewn llawer ardal yng Nghymru.

Ar gefn y rhaglen croniclodd Carys sylwadau difyr, a dyma ambell frawddeg: 'Ymarfer cynta'r ddrama, gofyn,' Pryd mae'r gystadleuaeth, Buddug?'. Ateb: 'Wel, mewn pythefnos ? dewch, bois, mae gynnoch chi waith dysgu!' Buddug yn pregethu am ddod i ymarferiadau ar amser. Pwy oedd yr ola i gyrraedd? I. B. Williams yn dweud fod pwysau gwaith yn drech nag o. Buddug yn dweud: 'Diolchwch wir nad ydych yn cynhyrchu drama.'

Yr un oedd ei chyfraniad wedi dychwelyd i'w chynefin i helpu Hywel ym Mryngwyn Canol, a hithau'n cychwyn cynhyrchu cwmnïau Licris Olsorts, a'r rheini'n dod i'r brig mewn gwyliau a phrifwyl. Bwrw iddi gyda phlant ac ieuenctid Capel y Garn a'r ardal, ac yn fam i bawb yn yr ysgol Sul, er nad oedd yr athrawon na'r gweinidog yn deall beth nesa a wnâi Buddug!

Roedd yn briodol mai yn y Garn yr oedd y cynhebrwng a hithau fel ei rhieni wedi bod yn selog a gweithgar yno o'i dyddiau cynnar hyd ddiwedd ei phererindod.

Byddai'n mynd i ysgol Sul y gangen ym Methlehem, Llanfihangel Genau'r Glyn, yn ei dyddiau cynnar ac yn mawrhau'r fraint o gael y wraig nodedig, y Dr Gwenan Jones, un o ferched mwyaf disglair Penllyn, cynnyrch Ysgol Maes y Waun ac Ysgol y Merched, yn athrawes ysbrydoledig.

Mae llun o'r dosbarth yn y llyfr sy'n adrodd hanes y Garn, a Buddug yn eistedd nesa at Dr Gwenan. Mae Dr Dafydd Huws y seiciatrydd, ei chwiorydd Gwen a Marian, a Gaenor Hall hefyd yn y llun.

Cyflwynwyd teyrngedau teilwng i Buddug yn yr angladd gan ei chyfaill oes Elystan Morgan, ei chyd-weithiwr yn Ysgol y Berwyn Huw Dylan ac R. W. Jones ei gweinidog, a chefais innau'r cyfle i arwain mewn gweddi a dyfynnu englyn godidog B. T. Hopkins i wraig tebyg i Buddug:

Ei llawenydd oedd llenwi?ei heinioes
Beunydd â daioni;
Mewn oes erwin, doed inni
Anniffodd her ei ffydd hi.

(o'r Cyfnod, 27 Ionawr 2006)





©Hawlfraint Ymddiriedolwyr Capel y Garn yw cynnwys gwreiddiol y safle. All original material on the site is copyright by the Trustees of Capel y Garn.
Crewyd y wefan/Website created by Technoleg Taliesin Cyf. - Admin/Gweinyddu